Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 4 Medi 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”)—

(a)

mewn perthynas â safle niwclear yw’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd,

(b)

fel arall, yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

mae i “cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;

ystyr “DCGTh” (“TCPA”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1);

ystyr “y DCSP” (“the PHSA”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus(2);

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992(3); ac

mae i “safle niwclear” yr un ystyr ag sydd i “nuclear site” yn adran 112(1) o Ddeddf Ynni 2013(4).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ffurflen â rhif yn gyfeiriad at y ffurflen sydd â’r rhif cyfatebol yn Atodlen 3.

(3Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) i’w dehongli yn unol â’r nodiadau i’r Atodlen honno ac mae cyfeiriad yn yr Atodlen honno at nodyn yn gyfeiriad at nodyn yn Rhan 4 o’r Atodlen honno.

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 (“Rheoliad DLPh”) ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau yn gyfeiriadau at y rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CSylweddau peryglus, maintioli sydd dan reolaeth ac esemptiadau

Sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaethLL+C

3.  At ddiben y DCSP—

(a)mae sylweddau peryglus yn sylweddau, cymysgeddau neu baratoadau—

(i)sy’n dod o fewn categori yng ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth),

(ii)sydd wedi eu pennu yng ngholofn 1 o Ran 2 o’r Atodlen honno, neu

(iii)sy’n bodloni’r disgrifiad yng ngholofn 1 o Ran 3 o’r Atodlen honno,

ac sy’n bresennol fel deunyddiau crai, cynhyrchion, sgil-gynhyrchion, gweddillion neu ryng-gynhyrchion; a

(b)y maintioli o sylwedd peryglus sydd dan reolaeth yw’r maintioli a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i’r sylwedd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

EsemptiadauLL+C

4.  Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+CGweithdrefnau cydsyniad sylweddau peryglus

Ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglusLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais am gydsyniad sylweddau peryglus—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys map safle a phlan lleoliad sylwedd;

(d)cynnwys manylion am—

(i)lleoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(iii)pob sylwedd peryglus y ceisir cydsyniad ar ei gyfer (“sylwedd perthnasol”), gan gynnwys uchafswm maintioli pob sylwedd perthnasol y bwriedir iddo fod yn bresennol;

(iv)y prif weithgareddau a gyflawnir neu y bwriedir eu cyflawni ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(v)sut y mae cadw a defnyddio pob sylwedd perthnasol ac ym mhle;

(vi)sut y bwriedir cludo pob sylwedd perthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac oddi yno,

(vii)cyffiniau’r tir perthnasol, pan fo manylion o’r fath yn berthnasol i’r risgiau o ddamwain fawr neu i ganlyniadau damwain o’r fath; ac

(viii)y mesurau a gymerir neu y bwriedir eu cymryd i gyfyngu ar ganlyniadau damwain fawr; a

(e)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais y mae adran 13 o’r DCSP yn gymwys iddo (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo)—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys plan newid lleoliad, os yw’r cais yn ymwneud ag amod sy’n cyfyngu ar leoliad sylwedd peryglus;

(d)mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, gynnwys copi o—

(i)y cydsyniad, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad a roddwyd ar gais o dan y DCSP;

(ii)yr hawliad perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 o’r DCSP; neu

(iii)y cyfarwyddwyd perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 12;

(e)nodi unrhyw amod a osodwyd yn flaenorol ar y cydsyniad perthnasol—

(i)y cynigir na ddylid ei osod mwyach ar y cydsyniad; neu

(ii)y cynigir mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(f)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(i), roi’r rhesymau pam na ddylid ei osod;

(g)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(ii)—

(i)nodi’r addasiad arfaethedig; a

(ii)rhoi’r rhesymau pam mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(h)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers dyddiad y cydsyniad perthnasol; ac

(i)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(3Rhaid i gais o dan adran 17 o’r DCSP (cais ar gyfer parhau â chydsyniad yn dilyn newid rheolaeth)—

(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)cynnwys plan newid rheolaeth;

(d)cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, ba bynnag rai o’r dogfennau a restrir ym mharagraff (2)(d) sy’n gymwys i’r cydsyniad perthnasol;

(e)nodi’r dyddiad y mae’r person sy’n rheoli rhan o’r tir yn newid, pan fo’n hysbys;

(f)disgrifio defnydd pob ardal o’r safle a nodwyd yn y plan newid rheolaeth;

(g)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers rhoi’r cydsyniad perthnasol; a

(h)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(4Rhaid cyflwyno tri chopi o unrhyw gais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw beth y mae’n ofynnol ei gyflwyno ynghyd ag ef, os gofynna’r awdurdod sylweddau peryglus amdanynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus presennol y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

“map safle” (“site map”) yw map, sydd wedi ei atgynhyrchu o un o fapiau’r Arolwg Ordnans, neu sydd wedi ei seilio ar fap o’r fath gyda graddfa heb fod yn llai na 1:10,000, sy’n nodi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac sy’n dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol;

“plan lleoliad sylwedd” (“substance location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi—

(a)

unrhyw ardal o’r tir y bwriedir ei defnyddio ar gyfer storio’r sylwedd;

(b)

pan fo’r sylwedd i’w ddefnyddio mewn proses weithgynhyrchu, proses drin neu broses ddiwydiannol arall, leoliad prif eitemau’r offer sy’n ymwneud â’r broses honno y bydd y sylwedd yn bresennol ynddi;

(c)

mannau mynediad i’r tir ac oddi yno;

“plan newid lleoliad” (“change of location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi lleoliad y sylwedd peryglus ar ddyddiad y cais a’r lleoliad arfaethedig y mae’r cais yn ofynnol ar ei gyfer; a

“plan newid rheolaeth” (“change of control plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi pob ardal o’r safle sydd o dan reolaeth ar wahân ar ôl y newid rheolaeth arfaethedig.

(6Mae rheoliadau 6 i 13 yn gymwys i geisiadau a wnaed o dan adran 17 o’r DCSP (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus wrth newid rheolaeth o dir) fel y maent yn gymwys i geisiadau ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cyhoeddi hysbysiadau o geisiadauLL+C

6.—(1Cyn gwneud cais am gydsyniad sylweddau peryglus i’r awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r ceisydd, yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn union cyn y cais—

(a)hysbysu’r cyhoedd drwy hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd lleol sy’n cael ei ddosbarthu yng nghyffiniau’r tir y mae’r cais sy’n ymwneud ag ef wedi ei leoli, neu drwy gyfrwng priodol arall, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig, o’r materion a ganlyn—

(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu pa amodau i’w rhoi;

(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y cais o dan reoliad 5 i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw’n llai na 7 niwrnod gan ei osod a’i arddangos yn y fath fodd fel y gellir ei ddarllen yn hawdd heb fynd ar y tir.

(2Nid yw’n ofynnol i geisydd gydymffurfio â pharagraff (1)(b)—

(a)os nad oes gan y ceisydd hawl mynediad neu hawliau eraill mewn cysylltiad â thir a fyddai’n galluogi’r ceisydd i arddangos yr hysbysiad fel sy’n ofynnol; a

(b)os yw’r ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gaffael yr hawliau ond ei fod wedi methu.

(3Nid yw’r ceisydd i’w drin fel petai wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1)(b) os yw’r hysbysiad, heb unrhyw fai neu fwriad y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, cyhyd â bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei ailosod.

(4Ni chaiff yr awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai y cyflwynir ynghyd ag ef—

(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a ardystiwyd gan, neu ar ran, y ceisydd fel un sydd wedi ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(a);

(b)pan fo’n cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol, fanylion am enw’r papur newydd a dyddiad ei gyhoeddi;

(c)pan fo’n cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng arall, fanylion y cyfryngau eraill hynny; a

(d)y dystysgrif briodol ar Ffurflen 1, wedi ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Hysbysiadau o geisiadau i berchnogionLL+C

7.—(1Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D a nodir yn Ffurflen 2 sy’n briodol, wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r cais.

(2Yn achos cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C o Ffurflen 2 fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 3 a rhaid i gopi o’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 6(1)(a) fynd ynghyd ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Edrych ar geisiadauLL+C

8.  Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglusLL+C

9.—(1Pan fo’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus neu gais am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi cydsyniad sylweddau peryglus, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)cydnabod yn ysgrifenedig bod y cais wedi dod i law; a

(b)anfon copi o’r cais i’r awdurdod COMAH cymwys.

(2Pan fo cais sy’n dod i law yn un annilys, ym marn yr awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd am ei farn, gan roi ei resymau.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11—

(a)mae cais yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 5 a bod unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 yn cael eu cyflwyno ynghyd ag ef; a

(b)ystyrir bod cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus wedi dod i law—

(i)pan fo yn nwylo’r awdurdod sylweddau peryglus; a

(ii)pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol i’w thalu mewn cysylltiad â’r cais wedi ei thalu i’r awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglusLL+C

10.—(1Ac eithrio pan fo’r corff neu’r person dan sylw wedi hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus nad yw’n dymuno i’r awdurdod ymgynghori ag ef, rhaid i’r awdurdod, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori â’r canlynol—

(a)awdurdod COMAH cymwys;

(b)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(c)y cyngor cymuned neu’r cyngor tref dan sylw;

(d)yr awdurdod tân ac achub dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(e)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986 (trwyddedu cludwyr nwy)(5);

(f)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) ac (c) o Ddeddf Trydan 1989 (trwyddedau sy’n awdurdodi cyflenwi etc.)(6);

(g)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn 2 cilometr o balas, parc neu breswylfa frenhinol, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(h)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef mewn ardal sydd wedi ei dynodi’n dref newydd, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(i)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef wedi ei leoli o fewn 2 cilometr o—

(i)sir, bwrdeistref sirol, neu ddosbarth cyfagos, y cyngor ar gyfer y sir honno, y fwrdeistref sirol honno neu’r dosbarth hwnnw;

(ii)ardal awdurdod tân ac achub cyfagos, yr awdurdod hwnnw; neu

(iii)tref newydd gyfagos, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(j)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw awdurdod sylweddau peryglus arall, yr awdurdod hwnnw;

(k)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7) yn gymwys iddi (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) neu pan ymddengys i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol, yng Nghymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu yn Lloegr, Natural England;

(l)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal gwaith glo a hysbyswyd i’r awdurdod sylweddau peryglus gan yr Awdurdod Glo, yr Awdurdod Glo; ac

(m)pan fo’r cais yn ymwneud â thir a ddefnyddir ar gyfer gwaredu neu storio gwastraff a reolir, yr awdurdod gwaredu gwastraff dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd.

(2Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cais yn effeithio arnynt neu y mae’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo, ac sydd ym marn yr awdurdod yn annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r cais drwy’r hysbysiadau o dan reoliad 6.

(3Pan fo’n ymgynghori o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael y cais—

(a)hysbysu’r corff neu’r person dan sylw yn ysgrifenedig ei fod wedi cael cais am gydsyniad sylweddau peryglus a rhoi gwybod iddo am y materion a ganlyn—

(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)y bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu ar ba amodau i’w roi;

(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr hysbysir y person neu’r corff fod cais dilys wedi dod i law’r awdurdod sylweddau peryglus;

(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(4Pan fo’n ofynnol i awdurdod sylweddau peryglus ymgynghori â chorff o dan—

(a)paragraff (1)(a), neu

(b)paragraff (1)(k), pan ymddengys i’r awdurdod y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol,

nid yw’r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol” yr un ystyr ag “area of particular natural sensitivity or interest” at ddibenion y Gyfarwyddeb;

(b)mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(8) ac mae “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) i’w ddehongli yn unol ag adran 30(2)(9) o’r Ddeddf honno; ac

(c)mae i “sir”, “bwrdeistref sirol” a “dosbarth” yr un ystyron ag sydd i “county”, “county borough” a “district”, yn eu trefn, yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglusLL+C

11.—(1Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus cyn y daw’r cyfnod neu’r cyfnodau i ben a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1) a 10(3).

(2Wrth benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â’r cais hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhaid i awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad neu hysbysiad bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.

(4Y cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (3) yw—

(a)cyfnod o 8 wythnos o’r dyddiad y mae’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael y cais; neu

(b)ac eithrio pan fo’r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r awdurdod sylweddau peryglus gytuno arno yn ysgrifenedig.

(5Pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais rhaid i’r hysbysiad, pan fo cydsyniad sylweddau peryglus yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau—

(a)nodi, yn glir ac yn fanwl, ei resymau llawn am ei wrthod neu am unrhyw amod a osodir; a

(b)os yw’r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(6Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r personau a ganlyn am delerau ei benderfyniad—

(a)yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch;

(b)pan fo’r tir y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn safle niwclear, neu ar safle o’r fath, y Swyddfa dros Reoli Niwclear;

(c)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus dan sylw hefyd;

(d)unrhyw ymgyngoreion eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais; ac

(e)unrhyw berchnogion sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais.

(7Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod y canlynol ar gael i edrych arnynt yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus—

(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau dilynol a gafwyd gan yr awdurdod COMAH cymwys yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2; a

(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Hysbysiad o gyfeirio ceisiadau at Weinidogion CymruLL+C

12.  Wrth gyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd—

(a)yn hysbysu’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;

(b)yn nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddyroddi’r cyfarwyddyd; ac

(c)yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfle i’r ceisydd ymddangos gerbron person a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, os yw’r ceisydd yn dymuno hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

ApelauLL+C

13.—(1Rhaid i unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 21(1) o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus) gael ei wneud o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad sy’n arwain at yr apêl, neu o fewn y cyfryw gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(2Rhaid i apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus)—

(a)cael ei gwneud i Weinidogion Cymru ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen; ac

(c)cael ei chyflwyno ynghyd â’r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) a’r dystysgrif sy’n ofynnol gan baragraff (4).

(3Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) yw—

(a)y cais a wnaed i’r awdurdod sylweddau peryglus sydd wedi achosi’r apêl;

(b)unrhyw hysbysiadau a thystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 a gyflwynwyd ynghyd â’r cais;

(c)unrhyw ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais; a

(d)yr hysbysiad o benderfyniad, os oes un.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ystyried apêl o dan adran 21 o’r DCSP oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D sy’n briodol yn Ffurflen 2, wedi eu llofnodi gan neu ar ran yr apelydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â hi.

(5Rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C, yn achos apêl o dan adran 21 o’r DCSP, fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 4.

(6Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi a’r dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y gwneir yr apêl i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Y cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o’r DCSPLL+C

14.—(1At ddibenion adran 21B(3) o’r DCSP (penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan adran 20 o’r DCSP ac apelau o dan adran 21) y cyfnod rhagnodedig yw saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”)—

(a)

mewn perthynas â chyfeiriadau o dan adran 20(11) o’r DCSP (cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod sylweddau peryglus bod y cais yn cael ei gyfeirio; a

(b)

mewn perthynas ag apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl ynghyd ag unrhyw wybodaeth y caniateir ei rhagnodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4LL+CGorfodi (hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus – apelau, effaith a chofrestr)

Hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus: darpariaethau atodolLL+C

15.—(1Yn ogystal â’r materion sy’n ofynnol gan adran 24 o’r DCSP i’w cynnwys mewn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i hysbysiad hefyd nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pa un ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall.

(2Yn ogystal â chyflwyno hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’r personau a grybwyllir yn adran 24(4)(a) a (b) o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno copi o’r hysbysiad i bob person arall sydd â buddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(3Rhaid i bob copi o hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a gyflwynir yn unol ag adran 24(4) o’r DCSP gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad sy’n nodi—

(a)rhesymau’r awdurdod sylweddau peryglus am ddyroddi’r hysbysiad; a

(b)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad, a’r personau a gaiff ddwyn apêl o’r fath, y seiliau y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud arnynt ac o fewn pa gyfnod y caniateir hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglusLL+C

16.  Mae adran 174(1), (2) a (3) i (6) ac adrannau 175(3) a (6), 176 a 177 o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Apelau: materion atodolLL+C

17.—(1Rhaid i berson sy’n apelio o dan adran 174(1) o’r DCGTh yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, ar yr un pryd ag y mae hysbysiad o’r apêl yn cael ei roi i Weinidogion Cymru neu ei anfon atynt o dan adran 174(3) o’r DCGTh, gyflwyno copi o’r hysbysiad o apêl a’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno ynghyd ag ef sy’n ofynnol gan adran 174(4) o’r Ddeddf honno i’r awdurdod sylweddau peryglus a ddyroddodd yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r hysbysiad o apêl yn cael ei gyflwyno iddo, gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r apelydd ddatganiad—

(a)sy’n nodi cyflwyniadau’r awdurdod mewn perthynas â phob sail dros apelio; a

(b)sy’n nodi pa un ai y byddai’r awdurdod yn barod i roi cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faintioli o’r sylwedd peryglus y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef ar, uwchben neu oddi tan y tir ac os felly, fanylion yr amodau, os oes rhai, y dymunent eu gosod ar y cydsyniad.

(3Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau hwnnw, roi hysbysiad o’r apêl i feddiannwyr eiddo yng nghyffiniau’r safle y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Effaith peidio â chydymffurfio â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.LL+C

18.  Mae adrannau 178 i 181 o’r DCGTh yn cael effaith mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Y gofrestr hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglusLL+C

19.—(1Rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gadw cofrestr sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn cysylltiad â phob hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a ddyroddir ganddynt—

(a)cyfeiriad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)y dyddiad y cyflwynir copïau o’r hysbysiad;

(c)datganiad o’r tramgwydd honedig yn erbyn y rheolaeth o sylweddau peryglus, y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i unioni’r tramgwydd, ac o fewn pa gyfnod y mae’r camau hynny i’w cymryd;

(d)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith;

(e)dyddiad ac effaith unrhyw amrywiad i’r hysbysiad;

(f)dyddiad unrhyw apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad a dyddiad penderfynu’r apêl yn derfynol.

(2Rhaid dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a phopeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei ddiddymu gan Weinidogion Cymru neu ei dynnu yn ôl.

(3Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.

(4Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.

(6Rhaid sicrhau bod pob cofrestr a gedwir o dan y rheoliad hwn ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dilysrwydd, etc.LL+C

20.—(1Mae adrannau 285 a 289(1), (3) i (4A) a (5) i (7) o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 4.

(2Mae adran 25(2) o’r DCSP yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 289(4A) o’r DCGTh, fel y’i cymhwysir gan baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dehongli’r DCGTh at ddibenion y Rhan honLL+C

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion dehongli’r DCGTh wrth ei chymhwyso, yn rhinwedd y Rhan hon, i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus.

(2Pan fo adran o’r DCGTh yn cyfeirio at adran arall o’r DCGTh a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adran fel y’i haddaswyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 5LL+CMaterion eraill yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus (y gofrestr cydsyniadau, ffioedd, cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus a hysbysu sefydliadau eraill)

Y gofrestr cydsyniadauLL+C

22.—(1Rhaid i’r gofrestr sy’n ofynnol gan adran 28(1) o’r DCSP gael ei chadw mewn 6 rhan—

(a)rhaid i Ran 1 gynnwys manylion pob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus ac sydd heb ei benderfynu’n derfynol;

(b)rhaid i Ran 2 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus—

(i)manylion y cais;

(ii)manylion unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan adran 20 o’r DCSP;

(iii)manylion am benderfyniad (os oes un) yr awdurdod, gan gynnwys manylion unrhyw amodau y rhoddwyd cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad; a

(iv)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, pa un ai ar gais sydd wedi ei gyfeirio o dan adran 20 o’r DCSP neu apêl o dan adran 21 o’r DCSP;

(c)rhaid i Ran 3 gynnwys manylion pob gorchymyn sy’n dirymu neu’n addasu cydsyniad sylweddau peryglus a wnaed gan yr awdurdod sylweddau peryglus a dyddiad ac effaith unrhyw gadarnhad gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 15 o’r DCSP;

(d)rhaid i Ran 4 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi o dan adran 11(3) o’r DCSP, fanylion yr hawliad;

(e)rhaid i Ran 5 gynnwys manylion pob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan adran 12 o’r DCSP; a

(f)rhaid i Ran 6 gynnwys manylion unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 27 o’r DCSP a anfonwyd i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177 o’r DCGTh ar benderfynu apêl yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer y tir y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef nodi dyddiad ac effaith y penderfyniad hwnnw yn Rhan 2 o’r gofrestr.

(3Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.

(4Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.

(6At ddibenion paragraff (1)(a), ni chaiff cais ei drin fel petai wedi ei benderfynu yn derfynol oni bai—

(a)bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi penderfynu yn ei gylch a bod y cyfnod a bennir yn rheoliad 13(1) wedi dod i ben heb fod unrhyw apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru;

(b)y’i cyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP neu fod apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP, bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi a bod y cyfnod o 6 wythnos a bennir yn adran 22(1) o’r DCSP wedi dod i ben heb fod unrhyw gais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan yr adran honno;

(c)bod cais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan adran 22 o’r DCSP a bod y mater wedi ei benderfynu, naill ai wrth i’r Llys wrthod y cais yn derfynol neu wrth ddiddymu penderfyniad Gweinidogion Cymru a dyroddi penderfyniad newydd (heb fod cais pellach o dan adran 22 o’r DCSP yn cael ei wneud yn y ffordd briodol); neu

(d)bod y ceisydd wedi ei dynnu’n ôl cyn iddo gael ei benderfynu; neu

(e)bod y ceisydd wedi tynnu apêl o dan adran 21 neu gais o dan adran 22 yn ôl cyn bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi.

(7Pan fo’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol darparu manylion cais, cyfarwyddyd, cydsyniad, ffurflen hawlio neu hysbysiad yn y gofrestr, rhaid darparu’r canlynol—

(a)manylion y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pan fo’n gymwys; a

(b)y categori yng Ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn y mae unrhyw sylwedd sy’n destun y cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn perthyn iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ffioedd ar gyfer ceisiadauLL+C

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi i awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus fel a ganlyn—

(a)os yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys (cydsyniad newydd heb amodau blaenorol), £200;

(b)os nad yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys a bod y maintioli a bennir yn y cais fel yr uchafswm maintioli y bwriedir iddo fod yn bresennol yn fwy na dwywaith y maintioli sydd dan reolaeth, £400; ac

(c)ym mhob achos arall, £250.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi o £200 i awdurdod sylweddau peryglus wrth wneud cais i barhau cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 17(1) o’r DCSP.

(3Pan fo ceisiadau sy’n ymwneud â’r un safle yn cael eu gwneud i ddau awdurdod sylweddau peryglus neu ragor, dim ond i awdurdod yr ardal y mae’r rhan fwyaf o’r safle wedi ei lleoli ynddi y telir y ffi a’r swm sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy pe byddai’r cais yn un a oedd i’w wneud i un awdurdod mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chais fynd ynghyd â’r cais pan gaiff ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5Rhaid ad-dalu unrhyw ffi yn unol â’r rheoliad hwn os yw’r cais yn cael ei wrthod fel un annilys.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ffioedd ar gyfer ceisiadau tybiedigLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru ym mhob achos pan dybir bod cais am gydsyniad sylweddau peryglus wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o DCGTh (o ganlyniad i apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf honno yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus).

(2Mae’r ffi a grybwyllir ym mharagraff (1) yn daladwy gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), y ffi sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy o dan reoliad 23 pe byddai’r cais yn gais yr oedd y rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

(4Rhaid talu’r ffi sy’n ddyledus ar yr adeg y caiff Gweinidogion Cymru yn yr achos penodol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—

(a)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, wedi gwneud cais i’r awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb maintioli’r sylwedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu’r ffi daladwy i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, neu

(b)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yn cael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y ffaith fod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi gwrthod rhoi cydsyniad,

ac ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad perthnasol nid oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, nid oedd yr apêl honno wedi ei phenderfynu.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais tybiedig i’r apelydd—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod awdurdodaeth ynghylch yr apêl berthnasol ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o adran 174 o’r DCGTh;

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr apêl berthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(a) o’r DCGTh (ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o’r Ddeddf honno);

(c)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(b) o’r DCGTh (ar y sail bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17(2) o’r Rheoliadau hyn);

(d)os yw’r apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl ac o ganlyniad bod o leiaf 21 o ddiwrnodau rhwng y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig am y tynnu’n ôl ac—

(i)y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad neu wrandawiad ar gyfer yr apêl honno; neu

(ii)yn achos apêl sy’n cael ei thrin drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(e)os yw’r awdurdod sylweddau peryglus yn tynnu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes grym i’r hysbysiad;

(f)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (e) o’r DCGTh; neu

(g)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar y sail bod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys nam, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro o dan adran 176(1)(a) o’r DCGTh.

(7Pan fo hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn cael ei amrywio o dan adran 176(1) o’r DCGTh ac eithrio er mwyn ystyried rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1) o’r DCGTh, a byddai’r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod ar delerau’r hysbysiad sydd wedi ei amrywio, y ffi sy’n daladwy yw’r swm llai hwnnw a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.

(8Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (7) ni chaniateir ystyried unrhyw newid i’r ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglusLL+C

25.—(1Rhaid i unrhyw gais gan awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2Mae rheoliadau 5 i 8, 10 ac 11(2) yn gymwys i wneud cais o’r fath fel y maent yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.

(3At ddiben rheoliad 22, mae cais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel cais a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus a’i gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP.

(4Mae adran 9 (ac eithrio is-adran (2)(e)) o’r DCSP yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chais a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.

(5At ddiben adran 22 o’r DCSP, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch cais a wneir iddynt gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel penderfyniad o dan adran 20 o’r DCSP.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 6LL+CPolisïau ac ymgynghoriad a chyfranogiad cyhoeddus

PolisïauLL+C

26.—(1Wrth baratoi, adolygu neu addasu unrhyw bolisi perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y materion a ganlyn yn cael eu hystyried—

(a)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn Erthygl 13(2) o’r Gyfarwyddeb.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “polisi perthnasol” (“relevant policy”) yw Cynllun Gofodol Cymru; ac unrhyw bolisi cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa cenedlaethol cyfredol pan fo’r polisi hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar risgiau neu ganlyniadau damwain fawr.

(3Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn y rheoliad hwn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion y rheoliad hwn ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cynlluniau a rhaglenniLL+C

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol yn bwriadu paratoi, adolygu neu addasu cynllun neu raglen berthnasol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yng ngwaith paratoi, addasu neu adolygu’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol; a

(b)wrth wneud hynny, gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

(i)bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael gwybod am unrhyw gynigion i baratoi, addasu neu adolygu cynllun neu raglen berthnasol;

(ii)bod gwybodaeth berthnasol am gynigion o’r fath ar gael i ymgyngoreion cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am yr awdurdod y caniateir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;

(iii)bod hawl gan ymgyngoreion cyhoeddus i fynegi sylwadaethau a barn pan fo’r holl opsiynau yn agored cyn y gwneir penderfyniadau ynghylch y cynllun a’r rhaglen berthnasol; a

(iv)bod unrhyw gyfnodau a ddarperir ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd o dan y rheoliad hwn yn caniatáu amser digonol i ymgyngoreion cyhoeddus baratoi a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol;

(c)ystyried canlyniadau cyfranogiad y cyhoedd o ran gwneud y penderfyniadau hynny; a

(d)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i roi gwybod i’r ymgyngoreion cyhoeddus am y penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses gyfranogiad y cyhoedd.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol y mae gweithdrefn cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei weithredu mewn perthynas ag ef o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(12).

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—

(a)

yr awdurdod y mae cynllun neu raglen berthnasol yn cael ei baratoi neu ei pharatoi ganddo neu ar ei ran; a

(b)

pan fo’r awdurdod hwnnw, ar unrhyw adeg benodol, yn peidio â bod yn gyfrifol, neu’n gwbl gyfrifol, am gymryd camau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen, y person sy’n gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â’r awdurdod), ar yr adeg honno, am gymryd y camau hynny;

ystyr “cynllun neu raglen berthnasol” (“relevant plan or programme”) yw cynllun neu raglen gyffredinol sy’n ymwneud ag—

(a)

cynllunio ar gyfer sefydliadau newydd yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb, neu

(b)

datblygiadau newydd o amgylch sefydliadau pan allai’r lleoliad neu’r datblygiadau gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb; ac

ystyr “ymgyngoreion cyhoeddus” (“public consultees”) yw personau y mae’r awdurdod cyfrifol yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol dan sylw yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y cynllun neu’r rhaglen honno.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i Weinidog y Goron (fel y diffinnir “Minister of the Crown” yn adran 8(1) o Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975(13)) nac adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

(6Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol sy’n ymwneud â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).

(7Caiff unrhyw gamau a gymerir cyn 4 Medi 2015 mewn perthynas â chynllun neu raglen berthnasol eu trin fel camau a gymerir at ddibenion y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cymeradwyaethau cynllunio eraill ar gyfer prosiectauLL+C

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan geisir am gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol oddi wrth awdurdod cymwys.

(2Cyn penderfynu rhoi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol i gynllunio defnydd tir, llwybr trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa, rhaid i awdurdod cymwys gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

(a)yr hysbysir y cyhoedd gan hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig os ydynt ar gael, o’r materion a ganlyn yn gynnar yn y weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad neu, fan bellaf, gyn gynted ag y gellir yn rhesymol ddarparu’r wybodaeth—

(i)pwnc y prosiect perthnasol;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect yn ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)manylion yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, y gellir cael gwybodaeth berthnasol oddi wrtho ac y gellir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;

(iv)awgrym o’r amserau a’r mannau lle y bydd yr wybodaeth berthnasol ar gael, neu’r dulliau y bydd ar gael;

(v)manylion y cyfnod ar gyfer trosglwyddo sylwadaethau neu gwestiynau; a

(vi)natur penderfyniadau posibl neu, os oes un, y penderfyniad drafft;

(b)yr ymgynghorir â’r awdurdod COMAH cymwys ynghylch y prosiect;

(c)bod y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddir i’r awdurdod cymwys ar yr adeg pan hysbyswyd y cyhoedd dan sylw yn unol â pharagraff (2)(a) ar gael i’r cyhoedd dan sylw ar yr adeg honno;

(d)bod hawl gan y cyhoedd dan sylw i fynegi sylwadaethau a barn i’r awdurdod cymwys cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud; ac

(e)bod canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhelir yn unol â’r rheoliad hwn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.

(3Ar ôl penderfynu pa un ai i roi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol, rhaid i’r awdurdod cymwys sicrhau bod y canlynol ar gael i’r cyhoedd—

(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau sy’n sail iddo, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol;

(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

(4I’r graddau y mae eisoes yn ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’r awdurdod cymwys gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a nodir ym mharagraffau (2) neu (3) o’r rheoliad hwn, nid yw’r paragraffau hynny yn gymwys.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb am benderfynu pa un ai i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1);

ystyr “y cyhoedd dan sylw” (“the public concerned”) yw personau, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae gwneud penderfyniad i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo; ac

ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw—

(a)

datblygiad sy’n dod o fewn paragraffau (c), (ca) neu (s) o Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(14);

(b)

gwaith y tu hwnt i’r marc distyll cymedrig a fwriedir mewn perthynas â harbwr pysgodfa yng Nghymru naill ai—

(i)

mewn ardal y mae’r awdurdod COMAH cymwys wedi hysbysu’r awdurdod cymwys amdani at ddibenion y paragraff hwn ac sy’n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd amdani neu sy’n ymweld â hi; neu

(ii)

pan allai’r lleoliad neu’r gwaith fel arall gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr; neu

(c)

sefydliad newydd.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr cyfeiriad at roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall yw—

(a)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan Ran 3 o’r DCGTh(15) (rheolaeth dros ddatblygu);

(b)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan adran 293A o’r Ddeddf honno(16) (datblygiad brys y Goron)(17);

(c)rhoi caniatâd cynllunio, neu gadarnhau penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd cynllunio (pa un ai yn ddarostyngedig i’r un amodau a therfynau â’r rheini a osodir gan yr awdurdod cynllunio lleol ai peidio), ynghylch penderfynu apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf honno (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio)(18) mewn cysylltiad â chais o’r fath;

(d)rhoi caniatâd cynllunio o dan—

(i)adran 141(2)(a) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

(ii)adran 177(1)(a) o’r Ddeddf honno (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);

(e)cyfarwyddo o dan is-adran (1) neu (2A) o adran 90 o’r Ddeddf honno (datblygiad gydag awdurdodiad y llywodraeth) y tybir bod caniatâd cynllunio wedi ei roi;

(f)gwneud—

(i)gorchymyn datblygu lleol o dan adran 61A o’r DCGTh(19);

(ii)parth cynllunio syml o dan adran 82 o’r Ddeddf honno;

(iii)gorchymyn sy’n dynodi ardal fenter o dan Atodlen 32 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(20);

(iv)gorchymyn o dan adran 102 o’r DCGTh (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu)(21), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan yr adran honno yn rhinwedd adran 104 o’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion adran 102) sy’n rhoi caniatâd cynllunio neu sy’n cadarnhau unrhyw orchymyn o’r fath o dan adran 103 o’r Ddeddf honno (cadarnhau gorchmynion adran 102);

(v)gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno (gorchymyn sy’n ei gwneud hi’n ofynnol peidio â pharhau i weithio mwynau)(22), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion o dan Atodlen 9) sy’n rhoi caniatâd cynllunio;

(vi)gorchymyn o dan adran 14 (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau awdurdodau harbyrau, neu eraill, i wneud gorchmynion ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd harbyrau, etc.) neu adran 16(1) neu (2) (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau darpar ymgymerwyr, neu eraill, i wneud gorchmynion sy’n rhoi pwerau i wella, adeiladu, etc. harbyrau) o Ddeddf Harbyrau 1964(23);

(g)awdurdodi gwaith mewn harbwr pysgodfa yn unol â phwerau sydd wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o dan adran 14(1) neu 16(1) neu (2) o Ddeddf Harbyrau 1964;

(h)cyfarwyddo o dan y darpariaethau a ganlyn os gwneir cais am ganiatâd cynllunio, rhaid iddo gael ei roi o dan—

(i)adran 141(3) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

(ii)adran 35(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu adeilad rhestredig)(24);

(i)gwneud gorchymyn o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Priffyrdd 1980(25) mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru—

(i)adran 10 (darpariaeth gyffredinol o ran cefnffyrdd);

(ii)adran 14 (pwerau o ran ffyrdd sy’n croesi cefnffyrdd neu ffyrdd dosbarthiadol neu sy’n ymuno â hwy);

(iii)adran 18 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);

(j)llunio cynllun o dan adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru;

(k)cyfarwyddo o dan adran 12 o’r DCSP y tybir bod cydsyniad sylweddau peryglus wedi ei roi;

(l)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 20 o’r DCSP; a

(m)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1)(a) o’r DCGTh (fel y’i cymhwysir i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus ac y’i haddaswyd gan reoliad 16 ac Atodlen 4).

(7Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad i ymgymryd â gwaith o dan adran 24(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (adeiladu priffyrdd newydd), nad yw’n ymwneud ag arfer unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau paragraff 6(i) neu (j) fel petai’n “gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall” y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(8Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall sy’n dod o fewn paragraff (6) neu (7) sy’n gallu cael ei amrywio neu ei addasu, rhaid i’r awdurdod cymwys ymdrin â’r addasiad neu’r amrywiad fel petai’n gydsyniad, yn ganiatâd neu’n awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn pan fo’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw yn awdurdodi datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (s) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

(9Yn y rheoliad hwn, mae i “sefydliad newydd” yr un ystyr ag sydd i “new establishment” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 7LL+CDirymiadau, diwygiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron

Dehongli’r Rhan honLL+C

29.  Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

DirymiadauLL+C

30.—(1Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir, yn ddarostyngedig i’r arbedion a’r darpariaethau trosiannol a nodir yn y Rhan hon—

(1)Y Rheoliadau a ddirymir(2) Cyfeiriadau(3) Graddau’r dirymu
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992O.S. 1992/656Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999O.S. 1999/981Y Rheoliadau cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006O.S. 2006/1282Erthygl 10
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010O.S. 2010/450 (Cy. 48)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014O.S. 2014/375 (Cy. 43)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014O.S. 2014/2777 (Cy. 283)Y Rheoliadau cyfan

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau trosiannol ac apelauLL+C

31.—(1Os nad yw cais neu apêl yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus a wnaed yn unol â Rheoliadau 1992 wedi ei benderfynu neu ei phenderfynu erbyn y dyddiad cychwyn, ystyrir bod y cais neu’r apêl wedi ei wneud neu ei gwneud o dan y Rheoliadau hyn.

(2Ystyrir bod unrhyw beth a wnaed o dan Reoliadau 1992 mewn perthynas â’r cais hwnnw neu’r apêl honno cyn y dyddiad cychwyn wedi ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dehongli cydsyniadau presennolLL+C

32.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o dan Reoliadau 1992 neu gydsyniad tybiedig a hawliwyd cyn y dyddiad cychwyn y mae’r canlynol wedi eu hawdurdodi’n bendant oddi tano—

(a)presenoldeb categori o sylwedd a restrir yng ngholofn 1 o Ran B o Atodlen 1 i Reoliadau 1992; neu

(b)presenoldeb sylwedd a enwir yng ngholofn 1 o Ran A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992.

(2Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gydsyniad perthnasol—

(a)pan na fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn; neu

(b)pan fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei enwi neu ei ddiffinio yn wahanol o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

(3Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys mae cyfeiriadau mewn cydsyniad perthnasol at gategori neu sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i’w dehongli fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Arbed ar gyfer amodau cydsyniad tybiedigLL+C

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 neu 30B o’r DCSP cyn y dyddiad cychwyn.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)mae’r amodau a nodir yn Atodlen 3 o Reoliadau 1992 yn parhau i fod yn gymwys (oni bai y dilëwyd unrhyw amod yn dilyn cais o dan adran 13 o’r DCSP); a

(b)mae’r amodau hynny yn parhau i gael eu dehongli yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 1992.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Hysbysu sefydliadau eraillLL+C

34.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol oni bai am yr esemptiad ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn(26); a

(b)pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth y person sy’n rheoli’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—

(i)manylion lleoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a’r person sy’n rheoli’r tir;

(ii)manylion y sylweddau peryglus a gedwir ar y safle, gan gynnwys y maintioli; a

(iii)esboniad ynghylch pam bod paragraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(2Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael yr hysbysiad, anfon copi o’r hysbysiad i’r awdurdod COMAH cymwys.

(3Rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys, o fewn 8 wythnos o gael yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod sylweddau peryglus o dan baragraff (2), benderfynu a yw’r hysbysiad yn ymwneud â sefydliad sy’n dod o fewn ystyr y Gyfarwyddeb ac, os ydyw, hysbysu awdurdod cynllunio lleol yr ardal y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

DiwygiadauLL+C

35.  Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cymhwyso i’r GoronLL+C

36.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron fel petai’r canlynol wedi ei fewnosod, yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, ar ôl paragraff 1—

Tir milwrol

(1A) Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus mewn, ar, uwchben neu oddi tan dir sefydliadau, gosodiadau neu gyfleusterau storio milwrol.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

3 Awst 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill