- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 4 Medi 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”)—
mewn perthynas â safle niwclear yw’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd,
fel arall, yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;
mae i “cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
[F1ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—
datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—
y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o DCSP(1); neu
y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 21 o DCSP; a
copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;]
ystyr “DCGTh” (“TCPA”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1);
ystyr “y DCSP” (“the PHSA”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus(2);
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992(3); ac
mae i “safle niwclear” yr un ystyr ag sydd i “nuclear site” yn adran 112(1) o Ddeddf Ynni 2013(4).
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ffurflen â rhif yn gyfeiriad at y ffurflen sydd â’r rhif cyfatebol yn Atodlen 3.
(3) Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) i’w dehongli yn unol â’r nodiadau i’r Atodlen honno ac mae cyfeiriad yn yr Atodlen honno at nodyn yn gyfeiriad at nodyn yn Rhan 4 o’r Atodlen honno.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 (“Rheoliad DLPh”) ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau yn gyfeiriadau at y rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 3 (ynghyd â rhl. 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
3. At ddiben y DCSP—
(a)mae sylweddau peryglus yn sylweddau, cymysgeddau neu baratoadau—
(i)sy’n dod o fewn categori yng ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth),
(ii)sydd wedi eu pennu yng ngholofn 1 o Ran 2 o’r Atodlen honno, neu
(iii)sy’n bodloni’r disgrifiad yng ngholofn 1 o Ran 3 o’r Atodlen honno,
ac sy’n bresennol fel deunyddiau crai, cynhyrchion, sgil-gynhyrchion, gweddillion neu ryng-gynhyrchion; a
(b)y maintioli o sylwedd peryglus sydd dan reolaeth yw’r maintioli a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i’r sylwedd hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
4. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais am gydsyniad sylweddau peryglus—
(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;
(c)cynnwys map safle a phlan lleoliad sylwedd;
(d)cynnwys manylion am—
(i)lleoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(ii)y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(iii)pob sylwedd peryglus y ceisir cydsyniad ar ei gyfer (“sylwedd perthnasol”), gan gynnwys uchafswm maintioli pob sylwedd perthnasol y bwriedir iddo fod yn bresennol;
(iv)y prif weithgareddau a gyflawnir neu y bwriedir eu cyflawni ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(v)sut y mae cadw a defnyddio pob sylwedd perthnasol ac ym mhle;
(vi)sut y bwriedir cludo pob sylwedd perthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac oddi yno,
(vii)cyffiniau’r tir perthnasol, pan fo manylion o’r fath yn berthnasol i’r risgiau o ddamwain fawr neu i ganlyniadau damwain o’r fath; ac
(viii)y mesurau a gymerir neu y bwriedir eu cymryd i gyfyngu ar ganlyniadau damwain fawr; a
(e)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais y mae adran 13 o’r DCSP yn gymwys iddo (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo)—
(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;
(c)cynnwys plan newid lleoliad, os yw’r cais yn ymwneud ag amod sy’n cyfyngu ar leoliad sylwedd peryglus;
(d)mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, gynnwys copi o—
(i)y cydsyniad, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad a roddwyd ar gais o dan y DCSP;
(ii)yr hawliad perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 o’r DCSP; neu
(iii)y cyfarwyddwyd perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 12;
(e)nodi unrhyw amod a osodwyd yn flaenorol ar y cydsyniad perthnasol—
(i)y cynigir na ddylid ei osod mwyach ar y cydsyniad; neu
(ii)y cynigir mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;
(f)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(i), roi’r rhesymau pam na ddylid ei osod;
(g)ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(ii)—
(i)nodi’r addasiad arfaethedig; a
(ii)rhoi’r rhesymau pam mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;
(h)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers dyddiad y cydsyniad perthnasol; ac
(i)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.
(3) Rhaid i gais o dan adran 17 o’r DCSP (cais ar gyfer parhau â chydsyniad yn dilyn newid rheolaeth)—
(a)cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(b)cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;
(c)cynnwys plan newid rheolaeth;
(d)cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, ba bynnag rai o’r dogfennau a restrir ym mharagraff (2)(d) sy’n gymwys i’r cydsyniad perthnasol;
(e)nodi’r dyddiad y mae’r person sy’n rheoli rhan o’r tir yn newid, pan fo’n hysbys;
(f)disgrifio defnydd pob ardal o’r safle a nodwyd yn y plan newid rheolaeth;
(g)disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers rhoi’r cydsyniad perthnasol; a
(h)cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.
(4) Rhaid cyflwyno tri chopi o unrhyw gais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw beth y mae’n ofynnol ei gyflwyno ynghyd ag ef, os gofynna’r awdurdod sylweddau peryglus amdanynt.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus presennol y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
“map safle” (“site map”) yw map, sydd wedi ei atgynhyrchu o un o fapiau’r Arolwg Ordnans, neu sydd wedi ei seilio ar fap o’r fath gyda graddfa heb fod yn llai na 1:10,000, sy’n nodi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac sy’n dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol;
“plan lleoliad sylwedd” (“substance location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi—
unrhyw ardal o’r tir y bwriedir ei defnyddio ar gyfer storio’r sylwedd;
pan fo’r sylwedd i’w ddefnyddio mewn proses weithgynhyrchu, proses drin neu broses ddiwydiannol arall, leoliad prif eitemau’r offer sy’n ymwneud â’r broses honno y bydd y sylwedd yn bresennol ynddi;
mannau mynediad i’r tir ac oddi yno;
“plan newid lleoliad” (“change of location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi lleoliad y sylwedd peryglus ar ddyddiad y cais a’r lleoliad arfaethedig y mae’r cais yn ofynnol ar ei gyfer; a
“plan newid rheolaeth” (“change of control plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi pob ardal o’r safle sydd o dan reolaeth ar wahân ar ôl y newid rheolaeth arfaethedig.
(6) Mae rheoliadau 6 i 13 yn gymwys i geisiadau a wnaed o dan adran 17 o’r DCSP (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus wrth newid rheolaeth o dir) fel y maent yn gymwys i geisiadau ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Cyn gwneud cais am gydsyniad sylweddau peryglus i’r awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r ceisydd, yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn union cyn y cais—
(a)hysbysu’r cyhoedd drwy hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd lleol sy’n cael ei ddosbarthu yng nghyffiniau’r tir y mae’r cais sy’n ymwneud ag ef wedi ei leoli, neu drwy gyfrwng priodol arall, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig, o’r materion a ganlyn—
(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;
(iii)bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu pa amodau i’w rhoi;
(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y cais o dan reoliad 5 i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw’n llai na 7 niwrnod gan ei osod a’i arddangos yn y fath fodd fel y gellir ei ddarllen yn hawdd heb fynd ar y tir.
(2) Nid yw’n ofynnol i geisydd gydymffurfio â pharagraff (1)(b)—
(a)os nad oes gan y ceisydd hawl mynediad neu hawliau eraill mewn cysylltiad â thir a fyddai’n galluogi’r ceisydd i arddangos yr hysbysiad fel sy’n ofynnol; a
(b)os yw’r ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gaffael yr hawliau ond ei fod wedi methu.
(3) Nid yw’r ceisydd i’w drin fel petai wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1)(b) os yw’r hysbysiad, heb unrhyw fai neu fwriad y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, cyhyd â bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei ailosod.
(4) Ni chaiff yr awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai y cyflwynir ynghyd ag ef—
(a)copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a ardystiwyd gan, neu ar ran, y ceisydd fel un sydd wedi ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(a);
(b)pan fo’n cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol, fanylion am enw’r papur newydd a dyddiad ei gyhoeddi;
(c)pan fo’n cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng arall, fanylion y cyfryngau eraill hynny; a
(d)y dystysgrif briodol ar Ffurflen 1, wedi ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D a nodir yn Ffurflen 2 sy’n briodol, wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r cais.
(2) Yn achos cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C o Ffurflen 2 fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 3 a rhaid i gopi o’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 6(1)(a) fynd ynghyd ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
8. Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Pan fo’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus neu gais am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi cydsyniad sylweddau peryglus, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)cydnabod yn ysgrifenedig bod y cais wedi dod i law; a
(b)anfon copi o’r cais i’r awdurdod COMAH cymwys.
(2) Pan fo cais sy’n dod i law yn un annilys, ym marn yr awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd am ei farn, gan roi ei resymau.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11—
(a)mae cais yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 5 a bod unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 yn cael eu cyflwyno ynghyd ag ef; a
(b)ystyrir bod cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus wedi dod i law—
(i)pan fo yn nwylo’r awdurdod sylweddau peryglus; a
(ii)pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol i’w thalu mewn cysylltiad â’r cais wedi ei thalu i’r awdurdod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Ac eithrio pan fo’r corff neu’r person dan sylw wedi hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus nad yw’n dymuno i’r awdurdod ymgynghori ag ef, rhaid i’r awdurdod, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori â’r canlynol—
(a)awdurdod COMAH cymwys;
(b)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;
(c)y cyngor cymuned neu’r cyngor tref dan sylw;
(d)yr awdurdod tân ac achub dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;
(e)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986 (trwyddedu cludwyr nwy)(5);
(f)y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) ac (c) o Ddeddf Trydan 1989 (trwyddedau sy’n awdurdodi cyflenwi etc.)(6);
(g)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn 2 cilometr o balas, parc neu breswylfa frenhinol, yr Ysgrifennydd Gwladol;
(h)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef mewn ardal sydd wedi ei dynodi’n dref newydd, corfforaeth datblygu’r dref newydd;
(i)pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef wedi ei leoli o fewn 2 cilometr o—
(i)sir, bwrdeistref sirol, neu ddosbarth cyfagos, y cyngor ar gyfer y sir honno, y fwrdeistref sirol honno neu’r dosbarth hwnnw;
(ii)ardal awdurdod tân ac achub cyfagos, yr awdurdod hwnnw; neu
(iii)tref newydd gyfagos, corfforaeth datblygu’r dref newydd;
(j)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw awdurdod sylweddau peryglus arall, yr awdurdod hwnnw;
(k)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7) yn gymwys iddi (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) neu pan ymddengys i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol, yng Nghymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu yn Lloegr, Natural England;
(l)pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal gwaith glo a hysbyswyd i’r awdurdod sylweddau peryglus gan yr Awdurdod Glo, yr Awdurdod Glo; ac
(m)pan fo’r cais yn ymwneud â thir a ddefnyddir ar gyfer gwaredu neu storio gwastraff a reolir, yr awdurdod gwaredu gwastraff dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd.
(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cais yn effeithio arnynt neu y mae’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo, ac sydd ym marn yr awdurdod yn annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r cais drwy’r hysbysiadau o dan reoliad 6.
(3) Pan fo’n ymgynghori o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael y cais—
(a)hysbysu’r corff neu’r person dan sylw yn ysgrifenedig ei fod wedi cael cais am gydsyniad sylweddau peryglus a rhoi gwybod iddo am y materion a ganlyn—
(i)disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;
(iii)y bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu ar ba amodau i’w roi;
(iv)y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;
(v)manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr hysbysir y person neu’r corff fod cais dilys wedi dod i law’r awdurdod sylweddau peryglus;
(vi)awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a
(b)sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau.
(4) Pan fo’n ofynnol i awdurdod sylweddau peryglus ymgynghori â chorff o dan—
(a)paragraff (1)(a), neu
(b)paragraff (1)(k), pan ymddengys i’r awdurdod y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol,
nid yw’r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol” yr un ystyr ag “area of particular natural sensitivity or interest” at ddibenion y Gyfarwyddeb;
(b)mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(8) ac mae “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) i’w ddehongli yn unol ag adran 30(2)(9) o’r Ddeddf honno; ac
(c)mae i “sir”, “bwrdeistref sirol” a “dosbarth” yr un ystyron ag sydd i “county”, “county borough” a “district”, yn eu trefn, yn Neddf Llywodraeth Leol 1972(10).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
11.—(1) Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus cyn y daw’r cyfnod neu’r cyfnodau i ben a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1) a 10(3).
(2) Wrth benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â’r cais hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhaid i awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad neu hysbysiad bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.
(4) Y cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (3) yw—
(a)cyfnod o 8 wythnos o’r dyddiad y mae’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael y cais; neu
(b)ac eithrio pan fo’r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r awdurdod sylweddau peryglus gytuno arno yn ysgrifenedig.
(5) Pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais rhaid i’r hysbysiad, pan fo cydsyniad sylweddau peryglus yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau—
(a)nodi, yn glir ac yn fanwl, ei resymau llawn am ei wrthod neu am unrhyw amod a osodir; a
(b)os yw’r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(6) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r personau a ganlyn am delerau ei benderfyniad—
(a)yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch;
(b)pan fo’r tir y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn safle niwclear, neu ar safle o’r fath, y Swyddfa dros Reoli Niwclear;
(c)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus dan sylw hefyd;
(d)unrhyw ymgyngoreion eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais; ac
(e)unrhyw berchnogion sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais.
(7) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod y canlynol ar gael i edrych arnynt yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus—
(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau dilynol a gafwyd gan yr awdurdod COMAH cymwys yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2; a
(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
12.—(1) Wrth gyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o gyfeirio; a
(b)anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus anfon copi o’r hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—
(a)y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno;
(b)copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n ymwneud â’r cais; a
(b)ystyr “hysbysiad o gyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—
(i)sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;
(ii)sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a
(iii)sy’n hysbysu’r ceisydd—
(aa)y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;
(bb)os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o gyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac
(cc)bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 12 wedi ei amnewid (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 4 (ynghyd â rhl. 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
13.—(1) Rhaid i unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 21(1) o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus) gael ei wneud o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad sy’n arwain at yr apêl, neu o fewn y cyfryw gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(2) Rhaid i apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus)—
(a)cael ei gwneud i Weinidogion Cymru ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru;
(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen; ac
(c)cael ei chyflwyno ynghyd â’r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) a’r dystysgrif sy’n ofynnol gan baragraff (4).
(3) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) yw—
(a)y cais a wnaed i’r awdurdod sylweddau peryglus sydd wedi achosi’r apêl;
(b)unrhyw hysbysiadau a thystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 a gyflwynwyd ynghyd â’r cais;
(c)unrhyw ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais; F3...
(d)yr hysbysiad o benderfyniad, os oes un [F4; ac]
[F5(e)datganiad achos llawn]
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ystyried apêl o dan adran 21 o’r DCSP oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D sy’n briodol yn Ffurflen 2, wedi eu llofnodi gan neu ar ran yr apelydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â hi.
(5) Rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C, yn achos apêl o dan adran 21 o’r DCSP, fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 4.
(6) Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r [F6ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi, y dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi a datganiad achos llawn] i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y gwneir yr apêl i Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn rhl. 13(3)(c) wedi ei hepgor (C.) (5.5.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 5(1)(a) (ynghyd â rhl. 8)
F4Gair yn rhl. 13(3)(d) wedi ei amnewid (C.) (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 5(1)(b) (ynghyd â rhl. 8)
F5Rhl. 13(3)(e) wedi ei fewnosod (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 5(1)(c) (ynghyd â rhl. 8)
F6Geiriau yn rhl. 13(6) wedi eu hamnewid (C.) (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 5(2) (ynghyd â rhl. 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
13A.—(1) At ddibenion adran 21(3E) o DCSP yr amgylchiad a ragnodir yw bod y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwall cywiradwy.
(2) Mae cais sydd wedi ei amrywio o dan yr amgylchiad a ragnodir ym mharagraff (1) yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwall cywiradwy” (“correctable error”) yw gwall—
(a)sydd wedi ei gywiro er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais a’r dogfennau atodol yn gyson; a
(b)nad yw’n addasu hanfod y cais.]
Diwygiadau Testunol
F7Rhl. 13A wedi ei fewnosod (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 6 (ynghyd â rhl. 8)
F8 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F8Rhl. 14 wedi ei dirymu (5.5.2017) gan Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/544), rhl. 2(1), Atod. 4 (ynghyd â rhlau. 52, 53(2)(3))
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
15.—(1) Yn ogystal â’r materion sy’n ofynnol gan adran 24 o’r DCSP i’w cynnwys mewn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i hysbysiad hefyd nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pa un ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall.
(2) Yn ogystal â chyflwyno hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’r personau a grybwyllir yn adran 24(4)(a) a (b) o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno copi o’r hysbysiad i bob person arall sydd â buddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(3) Rhaid i bob copi o hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a gyflwynir yn unol ag adran 24(4) o’r DCSP gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad sy’n nodi—
(a)rhesymau’r awdurdod sylweddau peryglus am ddyroddi’r hysbysiad; a
(b)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad, a’r personau a gaiff ddwyn apêl o’r fath, y seiliau y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud arnynt ac o fewn pa gyfnod y caniateir hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
16. Mae adran 174(1), (2) a (3) i (6) ac adrannau 175(3) a (6), 176 a 177 o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
F917. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F9Rhl. 17(1) wedi ei hepgor (5.5.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/547), rhlau. 1(1), 7(1) (ynghyd â rhl. 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
18. Mae adrannau 178 i 181 o’r DCGTh yn cael effaith mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) Rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gadw cofrestr sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn cysylltiad â phob hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a ddyroddir ganddynt—
(a)cyfeiriad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)y dyddiad y cyflwynir copïau o’r hysbysiad;
(c)datganiad o’r tramgwydd honedig yn erbyn y rheolaeth o sylweddau peryglus, y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i unioni’r tramgwydd, ac o fewn pa gyfnod y mae’r camau hynny i’w cymryd;
(d)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith;
(e)dyddiad ac effaith unrhyw amrywiad i’r hysbysiad;
(f)dyddiad unrhyw apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad a dyddiad penderfynu’r apêl yn derfynol.
(2) Rhaid dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a phopeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei ddiddymu gan Weinidogion Cymru neu ei dynnu yn ôl.
(3) Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.
(4) Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.
(5) Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.
(6) Rhaid sicrhau bod pob cofrestr a gedwir o dan y rheoliad hwn ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
20.—(1) Mae adrannau 285 a 289(1), (3) i (4A) a (5) i (7) o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 4.
(2) Mae adran 25(2) o’r DCSP yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 289(4A) o’r DCGTh, fel y’i cymhwysir gan baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
21.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion dehongli’r DCGTh wrth ei chymhwyso, yn rhinwedd y Rhan hon, i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus.
(2) Pan fo adran o’r DCGTh yn cyfeirio at adran arall o’r DCGTh a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adran fel y’i haddaswyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
22.—(1) Rhaid i’r gofrestr sy’n ofynnol gan adran 28(1) o’r DCSP gael ei chadw mewn 6 rhan—
(a)rhaid i Ran 1 gynnwys manylion pob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus ac sydd heb ei benderfynu’n derfynol;
(b)rhaid i Ran 2 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus—
(i)manylion y cais;
(ii)manylion unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan adran 20 o’r DCSP;
(iii)manylion am benderfyniad (os oes un) yr awdurdod, gan gynnwys manylion unrhyw amodau y rhoddwyd cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad; a
(iv)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, pa un ai ar gais sydd wedi ei gyfeirio o dan adran 20 o’r DCSP neu apêl o dan adran 21 o’r DCSP;
(c)rhaid i Ran 3 gynnwys manylion pob gorchymyn sy’n dirymu neu’n addasu cydsyniad sylweddau peryglus a wnaed gan yr awdurdod sylweddau peryglus a dyddiad ac effaith unrhyw gadarnhad gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 15 o’r DCSP;
(d)rhaid i Ran 4 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi o dan adran 11(3) o’r DCSP, fanylion yr hawliad;
(e)rhaid i Ran 5 gynnwys manylion pob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan adran 12 o’r DCSP; a
(f)rhaid i Ran 6 gynnwys manylion unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 27 o’r DCSP a anfonwyd i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177 o’r DCGTh ar benderfynu apêl yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer y tir y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef nodi dyddiad ac effaith y penderfyniad hwnnw yn Rhan 2 o’r gofrestr.
(3) Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.
(4) Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.
(5) Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.
(6) At ddibenion paragraff (1)(a), ni chaiff cais ei drin fel petai wedi ei benderfynu yn derfynol oni bai—
(a)bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi penderfynu yn ei gylch a bod y cyfnod a bennir yn rheoliad 13(1) wedi dod i ben heb fod unrhyw apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru;
(b)y’i cyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP neu fod apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP, bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi a bod y cyfnod o 6 wythnos a bennir yn adran 22(1) o’r DCSP wedi dod i ben heb fod unrhyw gais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan yr adran honno;
(c)bod cais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan adran 22 o’r DCSP a bod y mater wedi ei benderfynu, naill ai wrth i’r Llys wrthod y cais yn derfynol neu wrth ddiddymu penderfyniad Gweinidogion Cymru a dyroddi penderfyniad newydd (heb fod cais pellach o dan adran 22 o’r DCSP yn cael ei wneud yn y ffordd briodol); neu
(d)bod y ceisydd wedi ei dynnu’n ôl cyn iddo gael ei benderfynu; neu
(e)bod y ceisydd wedi tynnu apêl o dan adran 21 neu gais o dan adran 22 yn ôl cyn bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi.
(7) Pan fo’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol darparu manylion cais, cyfarwyddyd, cydsyniad, ffurflen hawlio neu hysbysiad yn y gofrestr, rhaid darparu’r canlynol—
(a)manylion y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pan fo’n gymwys; a
(b)y categori yng Ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn y mae unrhyw sylwedd sy’n destun y cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn perthyn iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi i awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus fel a ganlyn—
(a)os yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys (cydsyniad newydd heb amodau blaenorol), £200;
(b)os nad yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys a bod y maintioli a bennir yn y cais fel yr uchafswm maintioli y bwriedir iddo fod yn bresennol yn fwy na dwywaith y maintioli sydd dan reolaeth, £400; ac
(c)ym mhob achos arall, £250.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi o £200 i awdurdod sylweddau peryglus wrth wneud cais i barhau cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 17(1) o’r DCSP.
(3) Pan fo ceisiadau sy’n ymwneud â’r un safle yn cael eu gwneud i ddau awdurdod sylweddau peryglus neu ragor, dim ond i awdurdod yr ardal y mae’r rhan fwyaf o’r safle wedi ei lleoli ynddi y telir y ffi a’r swm sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy pe byddai’r cais yn un a oedd i’w wneud i un awdurdod mewn perthynas â’r safle cyfan.
(4) Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chais fynd ynghyd â’r cais pan gaiff ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus.
(5) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi yn unol â’r rheoliad hwn os yw’r cais yn cael ei wrthod fel un annilys.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru ym mhob achos pan dybir bod cais am gydsyniad sylweddau peryglus wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o DCGTh (o ganlyniad i apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf honno yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus).
(2) Mae’r ffi a grybwyllir ym mharagraff (1) yn daladwy gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), y ffi sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy o dan reoliad 23 pe byddai’r cais yn gais yr oedd y rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.
(4) Rhaid talu’r ffi sy’n ddyledus ar yr adeg y caiff Gweinidogion Cymru yn yr achos penodol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—
(a)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, wedi gwneud cais i’r awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb maintioli’r sylwedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu’r ffi daladwy i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, neu
(b)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yn cael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y ffaith fod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi gwrthod rhoi cydsyniad,
ac ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad perthnasol nid oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, nid oedd yr apêl honno wedi ei phenderfynu.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais tybiedig i’r apelydd—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod awdurdodaeth ynghylch yr apêl berthnasol ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o adran 174 o’r DCGTh;
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr apêl berthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(a) o’r DCGTh (ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o’r Ddeddf honno);
(c)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(b) o’r DCGTh (ar y sail bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17(2) o’r Rheoliadau hyn);
(d)os yw’r apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl ac o ganlyniad bod o leiaf 21 o ddiwrnodau rhwng y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig am y tynnu’n ôl ac—
(i)y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad neu wrandawiad ar gyfer yr apêl honno; neu
(ii)yn achos apêl sy’n cael ei thrin drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(e)os yw’r awdurdod sylweddau peryglus yn tynnu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes grym i’r hysbysiad;
(f)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (e) o’r DCGTh; neu
(g)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar y sail bod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys nam, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro o dan adran 176(1)(a) o’r DCGTh.
(7) Pan fo hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn cael ei amrywio o dan adran 176(1) o’r DCGTh ac eithrio er mwyn ystyried rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1) o’r DCGTh, a byddai’r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod ar delerau’r hysbysiad sydd wedi ei amrywio, y ffi sy’n daladwy yw’r swm llai hwnnw a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.
(8) Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (7) ni chaniateir ystyried unrhyw newid i’r ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
25.—(1) Rhaid i unrhyw gais gan awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus gael ei wneud i Weinidogion Cymru.
(2) Mae rheoliadau 5 i 8, 10 ac 11(2) yn gymwys i wneud cais o’r fath fel y maent yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.
(3) At ddiben rheoliad 22, mae cais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel cais a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus a’i gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP.
(4) Mae adran 9 (ac eithrio is-adran (2)(e)) o’r DCSP yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chais a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.
(5) At ddiben adran 22 o’r DCSP, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch cais a wneir iddynt gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel penderfyniad o dan adran 20 o’r DCSP.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
26.—(1) Wrth baratoi, adolygu neu addasu unrhyw bolisi perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y materion a ganlyn yn cael eu hystyried—
(a)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd; a
(b)y materion y cyfeirir atynt yn Erthygl 13(2) o’r Gyfarwyddeb.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “polisi perthnasol” (“relevant policy”) yw Cynllun Gofodol Cymru; ac unrhyw bolisi cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa cenedlaethol cyfredol pan fo’r polisi hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar risgiau neu ganlyniadau damwain fawr.
(3) Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn y rheoliad hwn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion y rheoliad hwn ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol yn bwriadu paratoi, adolygu neu addasu cynllun neu raglen berthnasol.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yng ngwaith paratoi, addasu neu adolygu’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol; a
(b)wrth wneud hynny, gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—
(i)bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael gwybod am unrhyw gynigion i baratoi, addasu neu adolygu cynllun neu raglen berthnasol;
(ii)bod gwybodaeth berthnasol am gynigion o’r fath ar gael i ymgyngoreion cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am yr awdurdod y caniateir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;
(iii)bod hawl gan ymgyngoreion cyhoeddus i fynegi sylwadaethau a barn pan fo’r holl opsiynau yn agored cyn y gwneir penderfyniadau ynghylch y cynllun a’r rhaglen berthnasol; a
(iv)bod unrhyw gyfnodau a ddarperir ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd o dan y rheoliad hwn yn caniatáu amser digonol i ymgyngoreion cyhoeddus baratoi a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol;
(c)ystyried canlyniadau cyfranogiad y cyhoedd o ran gwneud y penderfyniadau hynny; a
(d)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i roi gwybod i’r ymgyngoreion cyhoeddus am y penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses gyfranogiad y cyhoedd.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol y mae gweithdrefn cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei weithredu mewn perthynas ag ef o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(11).
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—
yr awdurdod y mae cynllun neu raglen berthnasol yn cael ei baratoi neu ei pharatoi ganddo neu ar ei ran; a
pan fo’r awdurdod hwnnw, ar unrhyw adeg benodol, yn peidio â bod yn gyfrifol, neu’n gwbl gyfrifol, am gymryd camau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen, y person sy’n gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â’r awdurdod), ar yr adeg honno, am gymryd y camau hynny;
ystyr “cynllun neu raglen berthnasol” (“relevant plan or programme”) yw cynllun neu raglen gyffredinol sy’n ymwneud ag—
cynllunio ar gyfer sefydliadau newydd yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb, neu
datblygiadau newydd o amgylch sefydliadau pan allai’r lleoliad neu’r datblygiadau gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb; ac
ystyr “ymgyngoreion cyhoeddus” (“public consultees”) yw personau y mae’r awdurdod cyfrifol yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol dan sylw yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y cynllun neu’r rhaglen honno.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i Weinidog y Goron (fel y diffinnir “Minister of the Crown” yn adran 8(1) o Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975(12)) nac adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
(6) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol sy’n ymwneud â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).
(7) Caiff unrhyw gamau a gymerir cyn 4 Medi 2015 mewn perthynas â chynllun neu raglen berthnasol eu trin fel camau a gymerir at ddibenion y rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
28.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan geisir am gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol oddi wrth awdurdod cymwys.
(2) Cyn penderfynu rhoi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol i gynllunio defnydd tir, llwybr trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa, rhaid i awdurdod cymwys gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—
(a)yr hysbysir y cyhoedd gan hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig os ydynt ar gael, o’r materion a ganlyn yn gynnar yn y weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad neu, fan bellaf, gyn gynted ag y gellir yn rhesymol ddarparu’r wybodaeth—
(i)pwnc y prosiect perthnasol;
(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect yn ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;
(iii)manylion yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, y gellir cael gwybodaeth berthnasol oddi wrtho ac y gellir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;
(iv)awgrym o’r amserau a’r mannau lle y bydd yr wybodaeth berthnasol ar gael, neu’r dulliau y bydd ar gael;
(v)manylion y cyfnod ar gyfer trosglwyddo sylwadaethau neu gwestiynau; a
(vi)natur penderfyniadau posibl neu, os oes un, y penderfyniad drafft;
(b)yr ymgynghorir â’r awdurdod COMAH cymwys ynghylch y prosiect;
(c)bod y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddir i’r awdurdod cymwys ar yr adeg pan hysbyswyd y cyhoedd dan sylw yn unol â pharagraff (2)(a) ar gael i’r cyhoedd dan sylw ar yr adeg honno;
(d)bod hawl gan y cyhoedd dan sylw i fynegi sylwadaethau a barn i’r awdurdod cymwys cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud; ac
(e)bod canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhelir yn unol â’r rheoliad hwn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.
(3) Ar ôl penderfynu pa un ai i roi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol, rhaid i’r awdurdod cymwys sicrhau bod y canlynol ar gael i’r cyhoedd—
(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau sy’n sail iddo, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol;
(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
(4) I’r graddau y mae eisoes yn ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’r awdurdod cymwys gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a nodir ym mharagraffau (2) neu (3) o’r rheoliad hwn, nid yw’r paragraffau hynny yn gymwys.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb am benderfynu pa un ai i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1);
ystyr “y cyhoedd dan sylw” (“the public concerned”) yw personau, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae gwneud penderfyniad i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo; ac
ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw—
datblygiad sy’n dod o fewn paragraffau (c), (ca) neu (s) o Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(13);
gwaith y tu hwnt i’r marc distyll cymedrig a fwriedir mewn perthynas â harbwr pysgodfa yng Nghymru naill ai—
mewn ardal y mae’r awdurdod COMAH cymwys wedi hysbysu’r awdurdod cymwys amdani at ddibenion y paragraff hwn ac sy’n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd amdani neu sy’n ymweld â hi; neu
pan allai’r lleoliad neu’r gwaith fel arall gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr; neu
sefydliad newydd.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr cyfeiriad at roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall yw—
(a)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan Ran 3 o’r DCGTh(14) (rheolaeth dros ddatblygu);
(b)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan adran 293A o’r Ddeddf honno(15) (datblygiad brys y Goron)(16);
(c)rhoi caniatâd cynllunio, neu gadarnhau penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd cynllunio (pa un ai yn ddarostyngedig i’r un amodau a therfynau â’r rheini a osodir gan yr awdurdod cynllunio lleol ai peidio), ynghylch penderfynu apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf honno (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio)(17) mewn cysylltiad â chais o’r fath;
(d)rhoi caniatâd cynllunio o dan—
(i)adran 141(2)(a) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu
(ii)adran 177(1)(a) o’r Ddeddf honno (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);
(e)cyfarwyddo o dan is-adran (1) neu (2A) o adran 90 o’r Ddeddf honno (datblygiad gydag awdurdodiad y llywodraeth) y tybir bod caniatâd cynllunio wedi ei roi;
(f)gwneud—
(i)gorchymyn datblygu lleol o dan adran 61A o’r DCGTh(18);
(ii)parth cynllunio syml o dan adran 82 o’r Ddeddf honno;
(iii)gorchymyn sy’n dynodi ardal fenter o dan Atodlen 32 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(19);
(iv)gorchymyn o dan adran 102 o’r DCGTh (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu)(20), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan yr adran honno yn rhinwedd adran 104 o’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion adran 102) sy’n rhoi caniatâd cynllunio neu sy’n cadarnhau unrhyw orchymyn o’r fath o dan adran 103 o’r Ddeddf honno (cadarnhau gorchmynion adran 102);
(v)gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno (gorchymyn sy’n ei gwneud hi’n ofynnol peidio â pharhau i weithio mwynau)(21), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion o dan Atodlen 9) sy’n rhoi caniatâd cynllunio;
(vi)gorchymyn o dan adran 14 (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau awdurdodau harbyrau, neu eraill, i wneud gorchmynion ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd harbyrau, etc.) neu adran 16(1) neu (2) (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau darpar ymgymerwyr, neu eraill, i wneud gorchmynion sy’n rhoi pwerau i wella, adeiladu, etc. harbyrau) o Ddeddf Harbyrau 1964(22);
(g)awdurdodi gwaith mewn harbwr pysgodfa yn unol â phwerau sydd wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o dan adran 14(1) neu 16(1) neu (2) o Ddeddf Harbyrau 1964;
(h)cyfarwyddo o dan y darpariaethau a ganlyn os gwneir cais am ganiatâd cynllunio, rhaid iddo gael ei roi o dan—
(i)adran 141(3) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu
(ii)adran 35(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu adeilad rhestredig)(23);
(i)gwneud gorchymyn o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Priffyrdd 1980(24) mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru—
(i)adran 10 (darpariaeth gyffredinol o ran cefnffyrdd);
(ii)adran 14 (pwerau o ran ffyrdd sy’n croesi cefnffyrdd neu ffyrdd dosbarthiadol neu sy’n ymuno â hwy);
(iii)adran 18 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);
(j)llunio cynllun o dan adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru;
(k)cyfarwyddo o dan adran 12 o’r DCSP y tybir bod cydsyniad sylweddau peryglus wedi ei roi;
(l)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 20 o’r DCSP; a
(m)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1)(a) o’r DCGTh (fel y’i cymhwysir i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus ac y’i haddaswyd gan reoliad 16 ac Atodlen 4).
(7) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad i ymgymryd â gwaith o dan adran 24(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (adeiladu priffyrdd newydd), nad yw’n ymwneud ag arfer unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau paragraff 6(i) neu (j) fel petai’n “gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall” y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(8) Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall sy’n dod o fewn paragraff (6) neu (7) sy’n gallu cael ei amrywio neu ei addasu, rhaid i’r awdurdod cymwys ymdrin â’r addasiad neu’r amrywiad fel petai’n gydsyniad, yn ganiatâd neu’n awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn pan fo’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw yn awdurdodi datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (s) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “sefydliad newydd” yr un ystyr ag sydd i “new establishment” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
29. Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
30.—(1) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir, yn ddarostyngedig i’r arbedion a’r darpariaethau trosiannol a nodir yn y Rhan hon—
(1)Y Rheoliadau a ddirymir | (2) Cyfeiriadau | (3) Graddau’r dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 | O.S. 1992/656 | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 | O.S. 1999/981 | Y Rheoliadau cyfan |
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006 | O.S. 2006/1282 | Erthygl 10 |
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010 | O.S. 2010/450 (Cy. 48) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 | O.S. 2014/375 (Cy. 43) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014 | O.S. 2014/2777 (Cy. 283) | Y Rheoliadau cyfan |
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
31.—(1) Os nad yw cais neu apêl yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus a wnaed yn unol â Rheoliadau 1992 wedi ei benderfynu neu ei phenderfynu erbyn y dyddiad cychwyn, ystyrir bod y cais neu’r apêl wedi ei wneud neu ei gwneud o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Ystyrir bod unrhyw beth a wnaed o dan Reoliadau 1992 mewn perthynas â’r cais hwnnw neu’r apêl honno cyn y dyddiad cychwyn wedi ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
32.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o dan Reoliadau 1992 neu gydsyniad tybiedig a hawliwyd cyn y dyddiad cychwyn y mae’r canlynol wedi eu hawdurdodi’n bendant oddi tano—
(a)presenoldeb categori o sylwedd a restrir yng ngholofn 1 o Ran B o Atodlen 1 i Reoliadau 1992; neu
(b)presenoldeb sylwedd a enwir yng ngholofn 1 o Ran A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gydsyniad perthnasol—
(a)pan na fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn; neu
(b)pan fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei enwi neu ei ddiffinio yn wahanol o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys mae cyfeiriadau mewn cydsyniad perthnasol at gategori neu sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i’w dehongli fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
33.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 neu 30B o’r DCSP cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—
(a)mae’r amodau a nodir yn Atodlen 3 o Reoliadau 1992 yn parhau i fod yn gymwys (oni bai y dilëwyd unrhyw amod yn dilyn cais o dan adran 13 o’r DCSP); a
(b)mae’r amodau hynny yn parhau i gael eu dehongli yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
34.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol oni bai am yr esemptiad ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn(25); a
(b)pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth y person sy’n rheoli’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—
(i)manylion lleoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a’r person sy’n rheoli’r tir;
(ii)manylion y sylweddau peryglus a gedwir ar y safle, gan gynnwys y maintioli; a
(iii)esboniad ynghylch pam bod paragraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael yr hysbysiad, anfon copi o’r hysbysiad i’r awdurdod COMAH cymwys.
(3) Rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys, o fewn 8 wythnos o gael yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod sylweddau peryglus o dan baragraff (2), benderfynu a yw’r hysbysiad yn ymwneud â sefydliad sy’n dod o fewn ystyr y Gyfarwyddeb ac, os ydyw, hysbysu awdurdod cynllunio lleol yr ardal y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
35. Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
36. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron fel petai’r canlynol wedi ei fewnosod, yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, ar ôl paragraff 1—
(1A) Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus mewn, ar, uwchben neu oddi tan dir sefydliadau, gosodiadau neu gyfleusterau storio milwrol.”
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
3 Awst 2015
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: