Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2016.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(1).

Diwygio rheoliad 10 (cyflenwadau preifat eraill)

2.  Yn rheoliad 10(1)(dd) o Reoliadau 2010—

(a)o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;

(b)yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno”.

Rheoliadau newydd 10A (monitro sylweddau ymbelydrol: cyffredinol) a 10B (monitro sylweddau ymbelydrol: cyflenwadau i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol neu gyhoeddus)

3.  Ar ôl rheoliad 10 (cyflenwadau preifat eraill) o Reoliadau 2010 mewnosoder—

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyffredinol

10A.(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad preifat yn ei ardal (heblaw cyflenwad i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol neu gyhoeddus) ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 2A.

(2) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 2A, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.

(3) Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad o ddŵr yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am unrhyw gyfnod amser fel y gwêl yn briodol, benderfynu hepgor y paramedr o dan sylw o’r ddyletswydd i fonitro ym mharagraff (1).

(4) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—

(a)ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wneir yn unol â rheoliad 6); a

(b)gan gymryd unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion i ystyriaeth.

(5) Rhaid i’r awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru y seiliau dros ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a wnaed yn unol â pharagraff (4)(a)).

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu’r seiliau dros benderfyniad o dan baragraff (3) i’r Comisiwn Ewropeaidd gyda’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad a roddir o dan baragraff (5).

(7) Pan—

(a)bo penderfyniad wedi ei wneud o’r blaen o dan baragraff (3); a

(b)nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni mwyach fod y sail dros y penderfyniad yn bodoli,

ni fydd yr hepgoriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach, a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru felly mewn ysgrifen.

(8) Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod crynodiad y radioniwclidau yng nghyflenwad o fewn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol y samplu a’r dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru, gan gymryd y risg i iechyd pobl i ystyriaeth.

(9) Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 3 o Atodlen 3 yn gymwys i waith monitro ar gyfer cydymffurfio â pharamedr y dos dynodol.

Monitro sylweddau ymbelydrol: cyflenwadau i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol neu gyhoeddus

10B.  Yn achos cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol neu gyhoeddus, caiff awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 2A a Rhan 3 o Atodlen 3, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu’r meddiannydd.

Diwygio Tabl C (crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig) yn Rhan 2 o Atodlen 1

4.  Yn Nhabl C (crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig) yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, hepgorer—

(a)y cofnod mewn perthynas â chyfanswm dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd);

(b)y cofnod mewn perthynas â thritiwm (ar gyfer ymbelydredd); ac

(c)nodyn (ii).

Mewnosod Rhan 3 newydd (paramedrau sylweddau ymbelydrol) o Atodlen 1

5.  Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2

6.  Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010—

(a)ym mharagraff 3(2)—

(i)o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;

(ii)yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y naill Ran neu’r llall o’r Atodlen honno”; a

(b)ym mharagraff 3(3)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”.

Mewnosod Atodlen 2A newydd (monitro sylweddau ymbelydrol)

7.  Ar ôl Atodlen 2 i Reoliadau 2010 mewnosoder yr atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Mewnosod Rhan 3 newydd o Atodlen 3 (monitro ar gyfer dos dynodol a nodweddion perfformiad dadansoddol)

8.  Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 2010 mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

21 Mawrth 2016

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill