- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(1).
2. Yn rheoliad 10(1)(dd) o Reoliadau 2010—
(a)o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;
(b)yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno”.
3. Ar ôl rheoliad 10 (cyflenwadau preifat eraill) o Reoliadau 2010 mewnosoder—
10A.—(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad preifat yn ei ardal (heblaw cyflenwad i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol neu gyhoeddus) ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 2A.
(2) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 2A, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.
(3) Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad o ddŵr yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am unrhyw gyfnod amser fel y gwêl yn briodol, benderfynu hepgor y paramedr o dan sylw o’r ddyletswydd i fonitro ym mharagraff (1).
(4) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—
(a)ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wneir yn unol â rheoliad 6); a
(b)gan gymryd unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion i ystyriaeth.
(5) Rhaid i’r awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru y seiliau dros ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a wnaed yn unol â pharagraff (4)(a)).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu’r seiliau dros benderfyniad o dan baragraff (3) i’r Comisiwn Ewropeaidd gyda’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad a roddir o dan baragraff (5).
(7) Pan—
(a)bo penderfyniad wedi ei wneud o’r blaen o dan baragraff (3); a
(b)nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni mwyach fod y sail dros y penderfyniad yn bodoli,
ni fydd yr hepgoriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach, a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru felly mewn ysgrifen.
(8) Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod crynodiad y radioniwclidau yng nghyflenwad o fewn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol y samplu a’r dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru, gan gymryd y risg i iechyd pobl i ystyriaeth.
(9) Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 3 o Atodlen 3 yn gymwys i waith monitro ar gyfer cydymffurfio â pharamedr y dos dynodol.
10B. Yn achos cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol neu gyhoeddus, caiff awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 2A a Rhan 3 o Atodlen 3, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu’r meddiannydd.”
4. Yn Nhabl C (crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig) yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, hepgorer—
(a)y cofnod mewn perthynas â chyfanswm dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd);
(b)y cofnod mewn perthynas â thritiwm (ar gyfer ymbelydredd); ac
(c)nodyn (ii).
5. Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
6. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010—
(a)ym mharagraff 3(2)—
(i)o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;
(ii)yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y naill Ran neu’r llall o’r Atodlen honno”; a
(b)ym mharagraff 3(3)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”.
7. Ar ôl Atodlen 2 i Reoliadau 2010 mewnosoder yr atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
8. Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 2010 mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2016
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: