- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
53.—(1) Pan—
(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu
(b)bod Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,
rhaid i Weinidogion Cymru—
(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn The London Gazette y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) isod;
(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (i) uchod mewn hysbysiad a roddir yn The London Gazette yn dangos y cyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a
(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.
(2) Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—
(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Aelod-wladwriaeth arall; a
(b)gwybodaeth ar natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.
(3) Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—
(a)copi o’r cais dan sylw;
(b)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;
(c)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a
(d)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,
ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a)trefnu bod y manylion a’r wybodaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) ac unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ar gael, o fewn amser rhesymol, i’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb a’r cyhoedd dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol; a
(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarperir at Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio i’r datblygiad.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—
(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.
(6) Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE o’r penderfyniad ac anfon ati ddatganiad o—
(a)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig ag ef;
(b)y prif resymau ac ystyriaethau y seilir y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd; a
(c)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau er mwyn osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys