Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Close

Print Options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 86 (Cy. 40) (C. 8)

Llesiant, Cymru

Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 56(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Chwefror 2016

2.  1 Chwefror 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—

  • Adran 18 (dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd);

  • Adran 19 (swyddogaethau’r Comisiynydd);

  • Adran 20 (adolygiadau gan y Comisiynydd);

  • Adran 21 (argymhellion gan y Comisiynydd);

  • Adran 22(1) (dyletswydd i ddilyn argymhellion);

  • Adran 22(4) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: cyhoeddi’r ymateb);

  • Adran 23 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol);

  • Adran 24 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd);

  • Adran 25 (cydweithio).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016

3.  1 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym —

  • Adran 2 (datblygu cynaliadwy);

  • Adran 3 (dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus);

  • Adran 4 (y nodau llesiant);

  • Adran 5 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy);

  • Adran 7 (datganiadau ynghylch amcanion llesiant);

  • Adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru);

  • Adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 11 (adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol);

  • Adran 12 (adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru);

  • Adran 13 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol);

  • Adran 16 (hyrwyddo datblygu cynaliadwy);

  • Adran 29 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 30 (gwahoddiadau i gyfranogi);

  • Adran 31 (gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad);

  • Adran 32 (partneriaid eraill);

  • Adran 33 (newidiadau mewn cyfranogiad);

  • Adran 34 (cyfarfodydd a chylch gorchwyl);

  • Adran 35 (pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol);

  • Adran 36 (dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 37 (asesiadau llesiant lleol);

  • Adran 38 (paratoi asesiadau);

  • Adran 39 (cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 40(1) i (6) (cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned);

  • Adran 41 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill);

  • Adran 42 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd);

  • Adran 43 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth);

  • Adran 44 (adolygu cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 45 (adroddiadau cynnydd blynyddol);

  • Adran 46 (addasiadau i ddeddfiadau);

  • Adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 48 (cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 49 (cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio);

  • Adran 50 (dangosyddion perfformiad a safonau);

  • Atodlen 1 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Atodlen 3 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaeth bellach);

  • Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) ac eithrio paragraff 34 o’r Atodlen honno.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2016

4.  6 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 34 (cynlluniau’n dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 1 Chwefror 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • Adran 18 (dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd);

  • Adran 19 (swyddogaethau’r Comisiynydd);

  • Adran 20 (adolygiadau gan y Comisiynydd);

  • Adran 21 (argymhellion gan y Comisiynydd);

  • Adran 22(1) (dyletswydd i ddilyn argymhellion);

  • Adran 22(4) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: cyhoeddi’r ymateb);

  • Adran 23 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol);

  • Adran 24 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd);

  • Adran 25 (cydweithio).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn darparu mai 1 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym yr holl ddarpariaethau sy’n weddill (ac eithrio’r rhai hynny a bennir yn erthygl 4 o’r Gorchymyn) o’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • Adran 2 (datblygu cynaliadwy);

  • Adran 3 (dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus);

  • Adran 4 (y nodau llesiant);

  • Adran 5 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy);

  • Adran 7 (datganiadau ynghylch amcanion llesiant);

  • Adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru);

  • Adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 11 (adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol);

  • Adran 12 (adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru);

  • Adran 13 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol);

  • Adran 16 (hyrwyddo datblygu cynaliadwy);

  • Adran 29 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 30 (gwahoddiadau i gyfranogi);

  • Adran 31 (gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad);

  • Adran 32 (partneriaid eraill);

  • Adran 33 (newidiadau mewn cyfranogiad);

  • Adran 34 (cyfarfodydd a chylch gorchwyl);

  • Adran 35 (pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol);

  • Adran 36 (dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 37 (asesiadau llesiant lleol);

  • Adran 38 (paratoi asesiadau);

  • Adran 39 (cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 40(1) i (6) (cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned)

  • Adran 41 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill);

  • Adran 42 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd);

  • Adran 43 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth);

  • Adran 44 (adolygu cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 45 (adroddiadau cynnydd blynyddol);

  • Adran 46 (addasiadau i ddeddfiadau);

  • Adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 48 (cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 49 (cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio);

  • Adran 50 (dangosyddion perfformiad a safonau);

  • Atodlen 1 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Atodlen 3 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaeth bellach);

  • Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) ac eithrio paragraff 34 o’r Atodlen honno i’r Ddeddf.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn yn darparu mai 6 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym paragraff 34 o Atodlen 4 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn cysylltiad â chynlluniau’n dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14 o’r Ddeddf honno.

Daw’r Gorchymyn hwn â gweddill darpariaethau’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym i rym.

Yn ôl i’r brig

Options/Help