Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 201 (Cy. 56)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Gwnaed

23 Chwefror 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2017

Yn dod i rym

1 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1), 25(1) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.

2.  Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw’r addasiadau rhesymol hynny a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3);

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n ceisio cael ei gofrestru;

ystyr “cofrestriad” a “cofrestru” (“registration”) yw cofrestriad o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(4);

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel y person sy’n cynnal practis deintyddol preifat;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 5(1) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(5);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000 ac, mewn cysylltiad â Rhan 2 o’r Ddeddf honno, y Rhan honno fel y’i cymhwysir gydag addasiadau i bractisau deintyddol preifat gan Reoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 a chan reoliad 39 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;

ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;

ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw’r ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—

(a)

darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a

(b)

darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd(6) gan dechnegydd deintyddol clinigol;

ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf Deintyddion 1984;

mae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sy’n ddarparwr cofrestredig neu’n rheolwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw—

(a)

pan fo’r ceisydd yn unigolyn—

(i)

y ceisydd; ac

(ii)

os yw’r ceisydd yn cynnal y practis deintyddol preifat mewn partneriaeth ag eraill, neu’n bwriadu gwneud hynny, enw pob partner i’r ceisydd;

(b)

pan fo’r ceisydd yn bartneriaeth, pob aelod o’r bartneriaeth;

(c)

pan fo’r ceisydd yn sefydliad, yr unigolyn cyfrifol;

ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”)(7) yw ymgymeriad sy’n darparu neu’n cynnwys darparu—

(a)

gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu

(b)

gwasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(8);

ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—

(a)

hylenydd deintyddol;

(b)

therapydd deintyddol; neu

(c)

technegydd deintyddol clinigol;

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017(9);

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel rheolwr practis deintyddol preifat;

ystyr “rhestr perfformwyr deintyddol” (“dental performers list”) yw’r rhestr a luniwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004(10) neu reoliadau o dan adran 106 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(11) fel y bo’n briodol;

ystyr “rhif cofrestru proffesiynol” (“professional registration number”) yw’r rhif gyferbyn ag enw’r person yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984;

ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu unrhyw gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth;

ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) mewn perthynas â phractis deintyddol preifat yw—

(a)

os yw swyddfa wedi ei phennu o dan reoliad 3(2) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017, y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa’r awdurdod cofrestru;

mae “triniaethau a all arwain at gysylltiad” (“exposure-prone procedures”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cyfeirio at driniaethau mewnwthiol pan fo risg y gall anaf i’r deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol arwain at gysylltiad rhwng meinwe agored claf a gwaed y deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn sy’n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd, neu swyddog arall i sefydliad ac sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli practis deintyddol preifat;

ystyr “yswiriant” (“insurance”) yw—

(a)

contract yswiriant sy’n darparu sicrwydd o ran atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwaith fel deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol, neu

(b)

trefniant a wneir at ddibenion indemnio person rhag atebolrwyddau o’r fath.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at bractis deintyddol preifat i gael eu dehongli fel cyfeiriadau—

(a)yn achos ceisydd, at y practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef;

(b)yn achos person cofrestredig, at y practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef.

RHAN 2Ceisiadau i Gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf

Gwybodaeth a dogfennau sydd i gael eu darparu gan geisydd

4.—(1Rhaid i gais i gofrestru—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;

(c)cael ffotograff diweddar o’r person cyfrifol gyda’r cais, a rhaid i’r ffotograff ddangos tebygrwydd gwirioneddol ohono; a

(d)rhoi’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd ei darparu yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—

(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â materion a restrir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1; a

(b)y dogfennau a restrir yn Atodlen 2.

(3Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel rheolwr mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—

(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 3; a

(b)y dogfennau a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

(4Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth lawn i’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â’r materion a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 mewn perthynas ag unrhyw berson a bennir at y diben hwn gan yr awdurdod cofrestru, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat, neu sy’n bwriadu gweithio yno.

Euogfarnau

5.  Pan fo’r awdurdod cofrestru yn gofyn i’r person cyfrifol am fanylion unrhyw euogfarnau troseddol sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(12) ac yn rhoi gwybod iddo ar yr adeg y gofynnir y cwestiwn bod euogfarnau sydd wedi eu disbyddu i gael eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(13) (ac eithrio pan fônt yn euogfarnau gwarchodedig fel y disgrifir “protected conviction” yn erthygl 2A o’r Gorchymyn hwnnw), rhaid i’r person cyfrifol gyflenwi manylion ysgrifenedig unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu sydd ganddo i’r awdurdod cofrestru.

Cyfweliad

6.  Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r person cyfrifol fynd i gyfweliad at ddiben galluogi’r awdurdod cofrestru i benderfynu a yw’r ceisydd yn addas i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef(14).

Hysbysiad o newidiadau

7.  Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru o unrhyw newid a bennir isod sy’n digwydd ar ôl gwneud y cais i gofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu—

(a)unrhyw newid i enw neu gyfeiriad y ceisydd neu unrhyw berson cyfrifol;

(b)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, unrhyw newid i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r sefydliad.

Gwybodaeth am staff a gymerir ymlaen ar ôl gwneud cais

8.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cais i gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat, a chyn i’r cais gael ei benderfynu, yn cymryd ymlaen berson i weithio yn y practis deintyddol preifat, rhaid i’r ceisydd, mewn cysylltiad â phob person a gymerir ymlaen felly—

(a)cael yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 18 (gwybodaeth am staff) a 19 (gwybodaeth bellach am staff) o Atodlen 1 a’r dogfennau a bennir ym mharagraff 9 (tystysgrifau cofnod troseddol) o Atodlen 2, mewn perthynas â’r swydd y mae’r person i’w gwneud; a

(b)darparu i’r awdurdod cofrestru, os yw’n gofyn amdanynt, unrhyw un neu ragor o’r dogfennau neu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd eu cael o dan baragraff (a).

RHAN 3Tystysgrifau Cofrestru

Cynnwys tystysgrif

9.  Rhaid i dystysgrif gofrestru gynnwys y manylion a ganlyn—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;

(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig;

(c)pan fo’r person yn sefydliad, enw’r unigolyn cyfrifol;

(d)enw’r rheolwr cofrestredig;

(e)y disgrifiad o’r practis deintyddol preifat;

(f)pan fo’r cofrestriad yn ddarostyngedig i amodau, manylion yr amod;

(g)y dyddiad cofrestru;

(h)datganiad bod y cofrestriad yn agored i gael ei ganslo gan yr awdurdod cofrestru os nad yw practis deintyddol preifat yn cael ei gynnal yn unol â’r gofynion perthnasol ac ag unrhyw amodau;

(i)datganiad mai dim ond â’r person y’i dyroddir iddo gan yr awdurdod cofrestru y mae’r dystysgrif yn ymwneud ac na ellir ei throsglwyddo i berson arall.

Dychwelyd tystysgrif

10.  Os yw cofrestriad person mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat yn cael ei ganslo, rhaid i’r person hwnnw, heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y mae’r penderfyniad neu’r gorchymyn sy’n canslo’r cofrestriad yn cymryd effaith, ddychwelyd y dystysgrif gofrestru i’r awdurdod cofrestru—

(a)drwy ei danfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; neu

(b)drwy ei hanfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru drwy’r post cofrestredig neu ddanfoniad cofnodedig.

Trosedd

11.  Mae methu â chydymffurfio â rheoliad 10 yn drosedd.

RHAN 4Amodau ac Adroddiadau

Cais i amrywio neu ddileu amod

12.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o’r Ddeddf i amrywio neu ddileu amod mewn perthynas â chofrestriad y person hwnnw; ac

ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” (“proposed effective date”) yw’r dyddiad y mae’r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dileu y gwneir cais amdano i gymryd effaith.

(2Rhaid i gais—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i’r awdurdod cofrestru heb fod yn llai na chwe wythnos cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu unrhyw gyfnod byrrach (os oes un) cyn y dyddiad hwnnw y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru;

(c)cael ei anfon gyda’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3); a

(d)cael ei anfon gyda’r ffi a ragnodir yn Rheoliadau 2017.

(3Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei phennu—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)rhesymau’r person cofrestredig dros wneud y cais;

(c)manylion newidiadau y mae’r person cofrestredig yn bwriadu eu gwneud o ganlyniad i’r amrywio neu’r dileu y gwneir cais amdano, gan gynnwys manylion ynghylch—

(i)newidiadau strwythurol arfaethedig i’r fangre;

(ii)staff, cyfleusterau neu gyfarpar ychwanegol, newidiadau o ran rheoli neu unrhyw newidiadau eraill sy’n ofynnol i sicrhau bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith.

(4Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu i’r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth arall neu ddogfennau eraill y mae’r awdurdod cofrestru yn eu gwneud yn rhesymol ofynnol mewn perthynas â’r cais.

Adroddiad o ran hyfywedd ariannol

13.  Os yw’n ymddangos i’r person cofrestredig fod y practis deintyddol preifat yn debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol ar unrhyw adeg o fewn y 6 mis canlynol, rhaid i’r person cofrestredig gyflwyno adroddiad ynghylch yr amgylchiadau perthnasol i’r awdurdod cofrestru.

RHAN 5Canslo Cofrestriad

Canslo cofrestriad

14.—(1At ddibenion adran 14(1)(d) o’r Ddeddf, mae paragraff (2) yn pennu ar ba sail y caiff awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad person mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat.

(2Y sail y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw bod y practis deintyddol preifat wedi peidio â bod yn hyfyw yn ariannol neu’n debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol ar unrhyw adeg o fewn y 6 mis nesaf.

Cais i ganslo cofrestriad

15.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais i ganslo” (“application for cancellation”) yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(b) o’r Ddeddf i gofrestriad y person hwnnw gael ei ganslo;

ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” (“proposed effective date”) yw’r dyddiad y mae’r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad y mae’r canslo y gwneir cais amdano i gael effaith; ac

ystyr “hysbysiad o gais i ganslo” (“notice of application for cancellation”) yw hysbysiad gan y person cofrestredig sy’n datgan bod y person cofrestredig wedi gwneud cais i ganslo neu’n bwriadu gwneud cais o’r fath.

(2Rhaid i gais i ganslo—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i’r awdurdod cofrestru heb fod yn llai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu unrhyw gyfnod byrrach (os oes un) cyn y dyddiad hwnnw y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru; ac

(c)cael ei anfon gyda’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (4).

(3Os yw’r person cofrestredig yn gwneud cais i ganslo, rhaid i’r person cofrestredig, heb fod yn fwy na saith niwrnod ar ôl hynny, roi hysbysiad o’r cais i ganslo i bob un o’r personau a bennir ym mharagraff (4)(d), ac eithrio person y rhoddodd y person cofrestredig hysbysiad o’r fath iddo o fewn 3 mis cyn gwneud y cais i ganslo.

(4Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei phennu—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)datganiad ynghylch yr wybodaeth a ddarperir gan y person cofrestredig i gleifion ynghylch practisau deintyddol tebyg yn eu hardal;

(c)rhesymau’r person cofrestredig dros wneud y cais i ganslo;

(d)manylion unrhyw hysbysiad o gais i ganslo a roddwyd i unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn;

(i)cleifion; ac

(ii)personau yr ymddengys i’r person cofrestredig eu bod yn gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau;

(e)pan na fo’r person cofrestredig wedi rhoi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d), datganiad ynghylch a oedd unrhyw amgylchiadau a ataliodd y person cofrestredig rhag rhoi’r hysbysiad hwnnw cyn y dyddiad y gwnaeth y person cofrestredig gais i ganslo neu a’i gwnaeth yn anymarferol iddo ei roi.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2017

YR ATODLENNI

Rheoliadau 4 ac 8

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i gael ei Chyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Person sy’n Cynnal Practis Deintyddol Preifat

RHAN 1

Gwybodaeth am y ceisydd

1.  Pan fo’r ceisydd yn unigolyn—

(a)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os oes un) y person cyfrifol;

(b)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;

(c)manylion am hanes cyflogaeth y person cyfrifol, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(d)manylion am unrhyw fusnes y mae’r person cyfrifol yn ei gynnal neu wedi ei gynnal;

(e)manylion am unrhyw safle arall neu safleoedd eraill y mae’r person cyfrifol yn cynnal, neu wedi cynnal, practis deintyddol preifat mewn cysylltiad ag ef neu â hwy;

(f)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(i)nad ydynt yn berthnasau i’r person cyfrifol;

(ii)y mae’r ddau ohonynt yn gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y person cyfrifol i gynnal practis deintyddol preifat o’r un disgrifiad â’r practis deintyddol preifat; a

(iii)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf,

ond nid yw’r gofyniad am enw a chyfeiriad canolwr sydd wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf yn gymwys pan fo’n anymarferol cael geirda oddi wrth berson sy’n bodloni’r gofyniad hwnnw;

(g)os yw’r person cyfrifol yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—

(i)rhif cofrestru proffesiynol y person cyfrifol; a

(ii)manylion am unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad proffesiynol y person cyfrifol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol;

(h)os yw’r ceisydd yn bwriadu cynnal y practis deintyddol preifat mewn partneriaeth ag eraill, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (a) i (g) o’r paragraff hwn mewn perthynas â phob partner i’r ceisydd.

2.  Pan fo’r ceisydd yn bartneriaeth—

(a)enw a chyfeiriad y bartneriaeth;

(b)mewn perthynas â phob aelod o’r bartneriaeth, yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 1(a) i (g).

3.  Pan fo’r ceisydd yn sefydliad—

(a)enw’r sefydliad a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r sefydliad;

(b)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol a rhif ffôn y person cyfrifol;

(c)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;

(d)os yw’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.

4.  Ym mhob achos—

(a)datganiad ynghylch a yw’r person cyfrifol wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr, yn berson y gwnaed gorchymyn rhyddhau o ddyled mewn cysylltiad ag ef neu y gorchmynnwyd secwestru ei ystad, neu a yw’r person cyfrifol wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer;

(b)datganiad ynghylch gallu’r ceisydd i sicrhau hyfywedd ariannol y practis deintyddol preifat at ddiben cyflawni nodau ac amcanion y practis deintyddol preifat a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

RHAN 2

Gwybodaeth am y practis deintyddol preifat

5.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y practis deintyddol preifat.

6.  Pan fo’r practis deintyddol preifat yn cael ei weithredu o fwy nag un safle, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) pob safle.

7.  Y disgrifiad o’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef.

8.  Datganiad o ddiben y practis deintyddol preifat.

9.  Datganiad o ran y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd i gael eu darparu gan y practis deintyddol preifat gan gynnwys hyd a lled y cyfleusterau a gwasanaethau hynny.

10.  Y dyddiad y sefydlwyd y practis deintyddol preifat neu y bwriedir ei sefydlu.

11.  Manylion am y ffioedd dangosol sy’n daladwy gan y defnyddwyr gwasanaethau.

12.  Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio gan bractis deintyddol preifat, disgrifiad o’r fangre, gan gynnwys datganiad ynghylch a yw’r fangre wedi cael ei hadeiladu’n bwrpasol neu a yw wedi cael ei throsi i’w defnyddio fel practis deintyddol preifat.

13.  Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio fel practis deintyddol preifat, datganiad ynghylch a ellir defnyddio’r fangre, ar y dyddiad y gwneir y cais, at y dibenion ym mharagraff 14 heb fod angen caniatâd cynllunio, gwaith adeiladu, na throsi’r fangre ac, os na ellir defnyddio’r fangre yn y modd hwnnw ar y dyddiad y gwneir y cais, manylion am y caniatâd, y gwaith adeiladu neu’r gwaith trosi angenrheidiol.

14.  Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 13 yw—

(a)cyflawni’r nodau ac amcanion a nodir yn natganiad o ddiben y practis deintyddol preifat; a

(b)darparu cyfleusterau a gwasanaethau yn unol â’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff 9.

15.  Datganiad ynghylch y trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir gan y practis deintyddol preifat; a

(b)cyfyngu mynediad o fangreoedd cyfagos neu, pan fo’r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o’r adeilad.

16.  Enw a chyfeiriad unrhyw bractis deintyddol preifat arall, y mae gan y ceisydd fuddiant busnes neu ariannol ynddo, neu y bu ganddo fuddiant o’r fath ynddo, neu lle y cyflogir neu y cyflogwyd y ceisydd, a manylion am y buddiant hwnnw neu’r gyflogaeth honno.

17.  A oes, neu a fydd, unrhyw fusnes arall yn cael ei gynnal yn yr un fangre â mangre’r practis deintyddol preifat ac, os felly, manylion am y busnes hwnnw.

18.  Manylion am unrhyw gynhyrchion laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4(15) a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu triniaeth ddeintyddol i gleifion gan gynnwys a yw’r protocol proffesiynol gofynnol wedi cael ei lunio ac a ymgymerwyd â’r hyfforddiant priodol.

Gwybodaeth am swyddi staff

19.  Rhestr o swyddi staff yn y practis deintyddol preifat a’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth bob swydd.

RHAN 3

Gwybodaeth bellach am staff

20.  Mewn cysylltiad ag unrhyw berson, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio yno—

(a)os yw’n berthynas i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat, ei berthynas â’r person hwnnw;

(b)gwybodaeth ynghylch cymwysterau’r person, ei brofiad a’i sgiliau i’r graddau y maent yn berthnasol i’r gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(c)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi ei fodloni o ran dilysrwydd y cymwysterau, a’i fod wedi gwirio’r profiad a’r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c);

(d)datganiad ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau’r person ar gyfer y gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(ii)oes gan y person y sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw;

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ac i gael cyswllt rheolaidd â hwy;

(e)datganiad gan y person ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(f)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau a yw wedi ei fodloni ynghylch hunaniaeth y person, y dull a ddefnyddiodd y ceisydd i’w fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, ac a yw’r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni’r person;

(g)cadarnhad gan y ceisydd fod ganddo ffotograff diweddar o’r person;

(h)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi cael dau eirda sy’n ymwneud â’r person a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny;

(i)manylion am unrhyw droseddau y mae’r person wedi ei euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, ac, mewn perthynas â phob trosedd o’r fath, ddatganiad gan y person—

(i)ynghylch a yw ei drosedd yn berthnasol yn ei farn ef i’w addasrwydd i ofalu am unrhyw berson, i hyfforddi unrhyw berson, i oruchwylio unrhyw berson neu i fod â gofal ar ei ben ei hun am unrhyw berson ac, os felly,

(ii)ynghylch pam y mae’n ystyried ei fod yn addas i wneud y gwaith y mae i gael ei gyflogi i’w gyflawni;

(j)manylion am unrhyw droseddau y mae wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad â hwy, ac a gyfaddefodd ar yr adeg y rhoddwyd y rhybuddiad;

(k)cadarnhad gan y ceisydd bod y person wedi cael archwiliadau iechyd safonol ac archwiliadau iechyd ychwanegol pan fydd y person yn cynnal triniaethau a all arwain at gysylltiad;

(l)os yw’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol, datganiad—

(i)bod y person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a

(ii)bod gan y person dystysgrif sicrwydd indemniad sy’n darparu sicrwydd i’r person mewn cysylltiad ag atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwasanaethau’r person.

Rheoliadau 4 ac 8

ATODLEN 2Dogfennau sydd i Gael eu Cyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Person sy’n Cynnal Practis Deintyddol Preifat

Dogfennau sy’n ymwneud â’r ceisydd

1.  Tystysgrif geni’r person cyfrifol.

2.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.

3.  Datganiad gan y person cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

4.  Mewn perthynas â’r person cyfrifol, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(16) sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.

5.  Pan fo’r ceisydd yn gorff corfforaethol, copi o bob un o’i ddau adroddiad blynyddol diwethaf.

6.  Pan fo’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol a dau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.

7.  Cyfrifon blynyddol diwethaf (os oes rhai) y practis deintyddol preifat.

8.  Tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all ddod i ran y ceisydd mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Tystysgrifau cofnodion troseddol mewn cysylltiad â staff

9.—(1Datganiad sy’n cadarnhau—

(a)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu dyroddi—

(i)yn achos unrhyw geisydd, i bob person, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio at ddibenion y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio at ddibenion y practis deintyddol preifat; a

(ii)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, i’r unigolyn cyfrifol; a

(b)y bydd y ceisydd yn trefnu bod y dogfennau ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod cofrestru.

(2Mae’r dogfennau a ganlyn wedi eu pennu—

(a)pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A(a) o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi.

Rheoliad 4

ATODLEN 3Gwybodaeth a Dogfennau sydd i Gael eu Cyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Rheolwr Practis Deintyddol Preifat

RHAN 1

Gwybodaeth

1.  Enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os oes un) y ceisydd.

2.  Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a’i brofiad o reoli practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.

3.  Manylion am hyfforddiant proffesiynol y ceisydd sy’n berthnasol i gynnal neu reoli practis deintyddol preifat.

4.  Manylion am hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwyr blaenorol.

5.  Manylion am unrhyw fusnes y mae’r ceisydd yn ei gynnal neu’n ei reoli neu wedi ei gynnal neu ei reoli.

6.—(1Enw a chyfeiriad dau ganolwr—

(a)nad ydynt yn berthnasau i’r ceisydd;

(b)y mae’r ddau ohonynt yn gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y ceisydd i reoli practis deintyddol preifat o’r un disgrifiad â’r practis deintyddol preifat; ac

(c)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r ceisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf.

(2Ni chaniateir i’r gofyniad am enw a chyfeiriad canolwr sydd wedi cyflogi’r ceisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf fod yn gymwys pan fo’n anymarferol cael geirda oddi wrth berson sy’n bodloni’r gofyniad hwnnw.

7.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y practis deintyddol preifat.

8.  Os yw’r ceisydd yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—

(a)rhif cofrestru proffesiynol y person cyfrifol; a

(b)manylion unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad proffesiynol y person cyfrifol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol.

RHAN 2

Dogfennau

9.  Tystysgrif geni’r ceisydd.

10.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.

11.  Datganiad gan y ceisydd ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

12.  Tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf) ac maent yn gymwys i Gymru. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau gan yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru). Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hefyd yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.

Mae adran 42 o’r Ddeddf yn darparu, drwy reoliadau, ar gyfer cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf (gydag unrhyw addasiadau a bennir) mewn cysylltiad â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli’r ddarpariaeth o wasanaethau nas pennir yn y Ddeddf honno.

Gwnaed Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 o dan y pŵer yn adran 42 o’r Ddeddf i ddarparu bod y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys, gyda’r addasiadau a nodir yn y Rheoliadau hynny, mewn cysylltiad â phractisau deintyddol preifat.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofrestru practisau deintyddol preifat.

O dan Ran 2 o’r Ddeddf, mae gan Weinidogion Cymru y swyddogaeth o ganiatáu neu wrthod ceisiadau i gofrestru o dan y Ddeddf. Cânt ganiatáu cofrestru yn ddarostyngedig i amodau a chânt amrywio neu ddileu unrhyw amod neu osod amod ychwanegol. Maent hefyd yn meddu ar y pŵer i ganslo cofrestriad.

Mae rheoliadau 4 i 15 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Mae rheoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, ac Atodlenni 1 i 3 iddynt, yn pennu’r wybodaeth a’r dogfennau sydd i gael eu darparu gan geisydd sy’n gwneud cais i gofrestru.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person cyfrifol fynd i gyfweliad. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd roi hysbysiad o newidiadau penodol sy’n digwydd, neu fanylion staff a gymerir ymlaen, ar ôl gwneud y cais i gofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu.

Mae rheoliad 9 yn pennu’r manylion y mae unrhyw dystysgrif gofrestru i’w cynnwys.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â sefydliad ddychwelyd y dystysgrif i’r awdurdod cofrestru os yw’r cofrestriad yn cael ei ganslo. Mae methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw yn drosedd o dan reoliad 11.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chais gan y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddileu amod mewn perthynas â’i gofrestriad.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig roi gwybod i’r awdurdod cofrestru am yr amgylchiadau perthnasol os yw’n ymddangos bod y practis deintyddol preifat yn debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol.

Mae rheoliad 14 yn pennu sail y caiff awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad person arni. Mae seiliau eraill y caniateir canslo cofrestriad arnynt wedi eu pennu gan adran 14 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 15 yn darparu i’r person cofrestredig wneud cais i’w gofrestriad gael ei ganslo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2000 p. 14. Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/200 (W.55)) ar gyfer estyn cymhwysiad y pwerau perthnasol i wneud rheoliadau yn Rhan 2 o’r Ddeddf i bractisau deintyddol preifat.

(2)

Gweler adran 121(1) o’r Ddeddf am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(6)

Dim ond i gleifion diddannedd y caiff technegydd deintyddol clinigol ddarparu’r ystod lawn o wasanaethau drwy drefniadau mynediad uniongyrchol.

(7)

Gweler rheoliad 4 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 am ymgymeriadau nad ydynt yn bractisau deintyddol preifat.

(14)

Am y gofynion o ran addasrwydd, gweler rheoliadau 9 ac 11 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 (O.S. 2017/202 (W.57)).

(15)

I gael ystyr cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 gweler Rhan 1 Safon Prydeinig EN 60825 – 1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser). Gellir cael copïiau oddi wrth: BS1 Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill