- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 4 ac 8
1. Pan fo’r ceisydd yn unigolyn—
(a)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os oes un) y person cyfrifol;
(b)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;
(c)manylion am hanes cyflogaeth y person cyfrifol, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(d)manylion am unrhyw fusnes y mae’r person cyfrifol yn ei gynnal neu wedi ei gynnal;
(e)manylion am unrhyw safle arall neu safleoedd eraill y mae’r person cyfrifol yn cynnal, neu wedi cynnal, practis deintyddol preifat mewn cysylltiad ag ef neu â hwy;
(f)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i’r person cyfrifol;
(ii)y mae’r ddau ohonynt yn gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y person cyfrifol i gynnal practis deintyddol preifat o’r un disgrifiad â’r practis deintyddol preifat; a
(iii)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf,
ond nid yw’r gofyniad am enw a chyfeiriad canolwr sydd wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf yn gymwys pan fo’n anymarferol cael geirda oddi wrth berson sy’n bodloni’r gofyniad hwnnw;
(g)os yw’r person cyfrifol yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—
(i)rhif cofrestru proffesiynol y person cyfrifol; a
(ii)manylion am unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad proffesiynol y person cyfrifol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol;
(h)os yw’r ceisydd yn bwriadu cynnal y practis deintyddol preifat mewn partneriaeth ag eraill, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (a) i (g) o’r paragraff hwn mewn perthynas â phob partner i’r ceisydd.
2. Pan fo’r ceisydd yn bartneriaeth—
(a)enw a chyfeiriad y bartneriaeth;
(b)mewn perthynas â phob aelod o’r bartneriaeth, yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 1(a) i (g).
3. Pan fo’r ceisydd yn sefydliad—
(a)enw’r sefydliad a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r sefydliad;
(b)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol a rhif ffôn y person cyfrifol;
(c)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;
(d)os yw’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.
4. Ym mhob achos—
(a)datganiad ynghylch a yw’r person cyfrifol wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr, yn berson y gwnaed gorchymyn rhyddhau o ddyled mewn cysylltiad ag ef neu y gorchmynnwyd secwestru ei ystad, neu a yw’r person cyfrifol wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer;
(b)datganiad ynghylch gallu’r ceisydd i sicrhau hyfywedd ariannol y practis deintyddol preifat at ddiben cyflawni nodau ac amcanion y practis deintyddol preifat a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.
5. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y practis deintyddol preifat.
6. Pan fo’r practis deintyddol preifat yn cael ei weithredu o fwy nag un safle, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) pob safle.
7. Y disgrifiad o’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef.
8. Datganiad o ddiben y practis deintyddol preifat.
9. Datganiad o ran y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd i gael eu darparu gan y practis deintyddol preifat gan gynnwys hyd a lled y cyfleusterau a gwasanaethau hynny.
10. Y dyddiad y sefydlwyd y practis deintyddol preifat neu y bwriedir ei sefydlu.
11. Manylion am y ffioedd dangosol sy’n daladwy gan y defnyddwyr gwasanaethau.
12. Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio gan bractis deintyddol preifat, disgrifiad o’r fangre, gan gynnwys datganiad ynghylch a yw’r fangre wedi cael ei hadeiladu’n bwrpasol neu a yw wedi cael ei throsi i’w defnyddio fel practis deintyddol preifat.
13. Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio fel practis deintyddol preifat, datganiad ynghylch a ellir defnyddio’r fangre, ar y dyddiad y gwneir y cais, at y dibenion ym mharagraff 14 heb fod angen caniatâd cynllunio, gwaith adeiladu, na throsi’r fangre ac, os na ellir defnyddio’r fangre yn y modd hwnnw ar y dyddiad y gwneir y cais, manylion am y caniatâd, y gwaith adeiladu neu’r gwaith trosi angenrheidiol.
14. Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 13 yw—
(a)cyflawni’r nodau ac amcanion a nodir yn natganiad o ddiben y practis deintyddol preifat; a
(b)darparu cyfleusterau a gwasanaethau yn unol â’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff 9.
15. Datganiad ynghylch y trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir gan y practis deintyddol preifat; a
(b)cyfyngu mynediad o fangreoedd cyfagos neu, pan fo’r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o’r adeilad.
16. Enw a chyfeiriad unrhyw bractis deintyddol preifat arall, y mae gan y ceisydd fuddiant busnes neu ariannol ynddo, neu y bu ganddo fuddiant o’r fath ynddo, neu lle y cyflogir neu y cyflogwyd y ceisydd, a manylion am y buddiant hwnnw neu’r gyflogaeth honno.
17. A oes, neu a fydd, unrhyw fusnes arall yn cael ei gynnal yn yr un fangre â mangre’r practis deintyddol preifat ac, os felly, manylion am y busnes hwnnw.
18. Manylion am unrhyw gynhyrchion laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4(1) a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu triniaeth ddeintyddol i gleifion gan gynnwys a yw’r protocol proffesiynol gofynnol wedi cael ei lunio ac a ymgymerwyd â’r hyfforddiant priodol.
19. Rhestr o swyddi staff yn y practis deintyddol preifat a’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth bob swydd.
20. Mewn cysylltiad ag unrhyw berson, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio yno—
(a)os yw’n berthynas i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat, ei berthynas â’r person hwnnw;
(b)gwybodaeth ynghylch cymwysterau’r person, ei brofiad a’i sgiliau i’r graddau y maent yn berthnasol i’r gwaith y mae’r person i’w gyflawni;
(c)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi ei fodloni o ran dilysrwydd y cymwysterau, a’i fod wedi gwirio’r profiad a’r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c);
(d)datganiad ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau’r person ar gyfer y gwaith y mae’r person i’w gyflawni;
(ii)oes gan y person y sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw;
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ac i gael cyswllt rheolaidd â hwy;
(e)datganiad gan y person ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(f)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau a yw wedi ei fodloni ynghylch hunaniaeth y person, y dull a ddefnyddiodd y ceisydd i’w fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, ac a yw’r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni’r person;
(g)cadarnhad gan y ceisydd fod ganddo ffotograff diweddar o’r person;
(h)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi cael dau eirda sy’n ymwneud â’r person a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny;
(i)manylion am unrhyw droseddau y mae’r person wedi ei euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, ac, mewn perthynas â phob trosedd o’r fath, ddatganiad gan y person—
(i)ynghylch a yw ei drosedd yn berthnasol yn ei farn ef i’w addasrwydd i ofalu am unrhyw berson, i hyfforddi unrhyw berson, i oruchwylio unrhyw berson neu i fod â gofal ar ei ben ei hun am unrhyw berson ac, os felly,
(ii)ynghylch pam y mae’n ystyried ei fod yn addas i wneud y gwaith y mae i gael ei gyflogi i’w gyflawni;
(j)manylion am unrhyw droseddau y mae wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad â hwy, ac a gyfaddefodd ar yr adeg y rhoddwyd y rhybuddiad;
(k)cadarnhad gan y ceisydd bod y person wedi cael archwiliadau iechyd safonol ac archwiliadau iechyd ychwanegol pan fydd y person yn cynnal triniaethau a all arwain at gysylltiad;
(l)os yw’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol, datganiad—
(i)bod y person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a
(ii)bod gan y person dystysgrif sicrwydd indemniad sy’n darparu sicrwydd i’r person mewn cysylltiad ag atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwasanaethau’r person.
Rheoliadau 4 ac 8
1. Tystysgrif geni’r person cyfrifol.
2. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.
3. Datganiad gan y person cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
4. Mewn perthynas â’r person cyfrifol, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(2) sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.
5. Pan fo’r ceisydd yn gorff corfforaethol, copi o bob un o’i ddau adroddiad blynyddol diwethaf.
6. Pan fo’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol a dau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.
7. Cyfrifon blynyddol diwethaf (os oes rhai) y practis deintyddol preifat.
8. Tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all ddod i ran y ceisydd mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
9.—(1) Datganiad sy’n cadarnhau—
(a)bod y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu dyroddi—
(i)yn achos unrhyw geisydd, i bob person, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio at ddibenion y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio at ddibenion y practis deintyddol preifat; a
(ii)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, i’r unigolyn cyfrifol; a
(b)y bydd y ceisydd yn trefnu bod y dogfennau ar gael i’r awdurdod cofrestru edrych arnynt os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod cofrestru.
(2) Mae’r dogfennau a ganlyn wedi eu pennu—
(a)pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A(a) o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi.
Rheoliad 4
1. Enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os oes un) y ceisydd.
2. Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a’i brofiad o reoli practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.
3. Manylion am hyfforddiant proffesiynol y ceisydd sy’n berthnasol i gynnal neu reoli practis deintyddol preifat.
4. Manylion am hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwyr blaenorol.
5. Manylion am unrhyw fusnes y mae’r ceisydd yn ei gynnal neu’n ei reoli neu wedi ei gynnal neu ei reoli.
6.—(1) Enw a chyfeiriad dau ganolwr—
(a)nad ydynt yn berthnasau i’r ceisydd;
(b)y mae’r ddau ohonynt yn gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y ceisydd i reoli practis deintyddol preifat o’r un disgrifiad â’r practis deintyddol preifat; ac
(c)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r ceisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf.
(2) Ni chaniateir i’r gofyniad am enw a chyfeiriad canolwr sydd wedi cyflogi’r ceisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf fod yn gymwys pan fo’n anymarferol cael geirda oddi wrth berson sy’n bodloni’r gofyniad hwnnw.
7. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y practis deintyddol preifat.
8. Os yw’r ceisydd yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—
(a)rhif cofrestru proffesiynol y person cyfrifol; a
(b)manylion unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad proffesiynol y person cyfrifol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol.
9. Tystysgrif geni’r ceisydd.
10. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat.
11. Datganiad gan y ceisydd ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
12. Tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac, fel y bo’n gymwys, wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (fel y diffinnir “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (fel y diffinnir “suitability information relating to children” yn adran 113BA o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy, a bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â’r wybodaeth addasrwydd.
I gael ystyr cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 gweler Rhan 1 Safon Prydeinig EN 60825 – 1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser). Gellir cael copïiau oddi wrth: BS1 Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys