Newidiadau dros amser i: Adran 11A
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 27/02/2021
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/02/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.
Statws
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol]LL+C
11A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yng Nghymru am [4.00 a.m. ar [22 Ionawr] 2021] ,
(b)wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn [4.00 a.m. ar [22 Ionawr] 2021], ac
(c)wedi bod [yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania] o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Oni bai fod rheoliad 11B yn gymwys ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle maent yn byw, neu fod y tu allan iddo, tan ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod [yr oedd P [yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania] ddiwethaf] .
(3) Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i P hysbysu’r swyddog—
(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b)am gyfeiriad y man hwnnw.”
(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Yn ôl i’r brig