Aelwydydd estynedigLL+C
3.—(1) Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd [anghenion llesiant] hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid [i holl aelodau’r aelwydydd] gytuno.
(4) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [ar unrhyw un adeg] .
[(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.]
(6) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
(a)paragraff 3 o Atodlen 3, neu
[(aa)paragraff 4 o Atodlen 3A,]
(b)paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(7) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd ... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
[(7A) Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—
(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
(7B) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).]
(8) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .
(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
[(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
(a)aelwyd un oedolyn;
(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn