- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 12.00 p.m. ar 24 Mawrth 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) At ddiben y Rheoliadau hyn ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
2.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am redeg busnes a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen, yn ystod y cyfnod perthnasol, gau ei fangre a pheidio â rhedeg ei fusnes.
(2) Os yw busnes a restrir yn yr Atodlen (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy o faint (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am redeg busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) os yw’n cau busnes A.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan y rheoliad hwn bob 28 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.
(4) Cyn gynted ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen y cyfyngiadau a nodir yn y rheoliad hwn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd yn terfynu’r cyfnod perthnasol.
(5) Caiff cyfarwyddyd a gyhoeddir o dan baragraff (4) derfynu’r cyfnod perthnasol mewn perthynas â rhai o’r busnesau a restrir yn yr Atodlen, neu bob busnes a restrir yn yr Atodlen.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae “person sy’n gyfrifol am redeg busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(b)mae’r “cyfnod perthnasol” yn cychwyn pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar y diwrnod a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).
3.—(1) I’r graddau y mae rheoliad 2 (1) yn gymwys i safle gwyliau, mae’r oblygiad ar y person sy’n gyfrifol am gyflawni’r busnes (“P”) yn cynnwys oblygiad ar P i ddefnyddio ymdrechion gorau P i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol neu garafán ar y safle pan fo’r fangre yn cau i adael y fangre.
(2) Ond nid yw’r oblygiad ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol i bobl fyw ynddo ar y safle gwyliau o dan gytundeb a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
4.—(1) Os yw paragraff (1) yn gymwys i lwybr troed neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —
(a)gau y llwybr troed neu’r tir mynediad erbyn 12.00 y.h. ar 25 Mawrth 2020, a
(b)ei gadw ar gau nes ei fod o’r farn nad yw cau mwyach yn angenrheidiol i atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau troed a’r tir mynediad yn ei ardal mae awdurdod perthnasol yn ystyried—
(a)sydd â thuedd i niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu arnynt neu i fod yn agos at ei gilydd arnynt, neu
(b)mae’r defnydd ohono’n peri risg uchel fel arall i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.
(3) Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi rhestr o lwybrau troed neu dir mynediad sydd wedi ei gau yn ei ardal ar wefan.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a)mae cyfeiriadau at lwybr troed yn cynnwys llwybr ceffylau, a
(b)mae cyfeiriadau at lwybr troed neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr troed neu dir mynediad.
(5) Yn y rheoliad hwn —
(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —
(i)Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru,
(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,
(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu
(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
(b)mae i “llwybr troed” a “llwybr ceffylau” yr un ystyr â roddir i “footpath” a “bridleway” (yn eu trefn) yn adran 329 (1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;
(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad ato yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond heblaw hynny mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1 (1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
5.—(1) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri reoliad 2 yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w gosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.
(4) Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog o’r corff, neu
(b)y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael achos wedi’i ddwyn yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corf corfforaethol.
6.—(1) Caiff person a ddynodir gan Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i orfodi gofyniad i gau mangre neu gyfyngiad a osodir gan reoliad 2.
(2) Caniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 5 gan unrhyw berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru.
7.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau ar y diwrnod y deuant i rym.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 10.00 p.m. ar 23 Mawrth 2020
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys