Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mehefin 2020.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2010(1) wedi eu dirymu.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “aelwyd” yr ystyr a roddir i “household” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

mae i “amlen radbost” (“prepaid envelope”) fel y mae’n ymddangos yn holiadur I2(paper) ac I2W(papur) yr un ystyr ag “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw”;

ystyr “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i’r anfonwr dalu i’w hanfon;

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “ardal cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

ystyr “ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw’r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

ystyr “cod mynediad unigryw” (“unique access code”) yw cod sy’n rhoi mynediad unigryw drwy’r rhyngrwyd i holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein), a holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein). Mae’r cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’r holiadur y mae’r person rhagnodedig yn ei lenwi;

ystyr “cod mynediad unigryw newydd” (“replacement unique access code”) yw cod mynediad unigryw sy’n wahanol i god mynediad unigryw a ddarparwyd eisoes ac sy’n disodli’r cod hwnnw;

ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

ystyr “cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw’r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(2);

mae i “deiliad aelwyd” yr ystyr a roddir i “householder” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “diwrnod y cyfrifiad” (“census day”) yw 21 Mawrth 2021;

ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “dyfais gyfrifiad electronig” (“census electronic device”) yw unrhyw ddyfais electronig y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(3);

ystyr “etholwr” (“elector”) yw person rhagnodedig sy’n ethol llenwi ffurflen unigolyn o dan erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad;

mae i “ffurflen unigolyn” yr ystyr a roddir i “individual return” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw’r gofrestr ac unrhyw is-set o’r gofrestr a ddefnyddir gan yr Awdurdod, sy’n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae’r Awdurdod yn ymwybodol ohonynt;

ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020(3);

mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw unrhyw holiadur ar-lein neu holiadur papur;

ystyr “holiadur ar-lein” (“online questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(online), H2W(ar-lein), I2(online), I2W(ar-lein), CE2(online) neu CE2W(ar-lein);

ystyr “holiadur papur” (“paper questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(paper), I2W(papur), CE2(paper) neu CE2W(papur);

ystyr “holiadur wedi ei lenwi” (“completed questionnaire”) yw holiadur sydd wedi ei lenwi gyda’r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu ac a oedd yn gywir am hanner nos ar ddiwrnod y cyfrifiad;

ystyr “offeryn rheoli gwaith maes” (“fieldwork management tool”) yw’r system electronig honno y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(2);

ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn ar-lein i aelwydydd neu becyn papur i aelwydydd;

ystyr “pecyn aelwyd (parhad)” (“household continuation pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(5);

ystyr “pecyn ar-lein i aelwydydd” (“online household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol” (“online communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn ar-lein i unigolion” (“online individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn i sefydliadau cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol neu becyn papur i sefydliadau cymunedol;

ystyr “pecyn papur i aelwydydd” (“paper household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn papur i sefydliadau cymunedol” (“paper communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn papur i unigolion” (“paper individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn unigolyn” (“individual pack”) yw pecyn ar-lein i unigolion neu becyn papur i unigolion;

ystyr “pecynnau cyfrifiad” (“census packs”) yw unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a ddisgrifir yn rheoliad 8(3) i (5);

ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen, neu unrhyw berson sy’n llenwi ffurflen ar ran person o’r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;

mae i “preswylydd arferol” yr ystyr a roddir i “usual resident” gan erthygl 2(3)(a) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “rheolwr gweithrediadau ardal” (“area operations manager”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(a);

ystyr “rhif adnabod holiadur” (“questionnaire identification number”) yw marc adnabod rhifol y gall peiriant ei ddarllen sy’n unigryw i bob holiadur;

ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F o golofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “swyddog sefydliadau cymunedol” (“communal establishment officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “system olrhain holiaduron” (“questionnaire tracking system”) yw unrhyw system neu systemau electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 7(1);

ystyr “yn electronig” (“electronically”) yw drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae’r byrfoddau a ganlyn yn gymwys—

Byrfodd (pan y’i defnyddir gyda’r term “holiadur”)Ystyr
H2(online)“Household Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
H2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
I2(online)“Individual Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
I2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2(online)“Communal Establishment Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
H2(paper)“Household Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
H2W(papur)“Holiadur (papur) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
HC2(paper)“Household Continuation Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
HC2W(papur)“Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
I2(paper)“Individual Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
I2W(papur)“Holiadur (papur) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2(paper)“Communal Establishment Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2W(papur)“Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

(3Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau hyn—

(a)y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “aelwyd”, a

(b)y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.

(4Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—

(a)y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o’r cartref” (yn ôl y digwydd), a

(b)y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad y cartref”.

(5Nid yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.

Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau

4.—(1At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i’r Awdurdod—

(a)rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr gweithrediadau ardal i bob ardal gyfrifiad;

(b)rhannu pob ardal gyfrifiad yn—

(i)ardaloedd cydgysylltwyr cyfrifiad a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd cyfrifiad;

(ii)ardaloedd cydgysylltwyr sefydliadau cymunedol a phenodi cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i bob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol;

(c)rhannu pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad a phob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol â Deddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad.

(3Rhaid i’r personau a benodir o dan baragraffau (1) a (2) gyflawni’r dyletswyddau a neilltuir iddynt o dan Ddeddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.

Holiaduron i’w defnyddio wrth gynnal y cyfrifiad

5.—(1At ddibenion y cyfrifiad rhaid i’r Awdurdod sicrhau—

(a)bod holiaduron ar-lein ar gael yn electronig ac yn ddwyieithog drwy godau mynediad unigryw ac yn cynnwys y cwestiynau a’r opsiynau ymateb a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 1, 2 a 3 o Atodlen 2 a’r swyddogaethau a’r nodweddion a ddisgrifir yn Rhan 8 o Atodlen 2;

(b)bod holiaduron papur dwyieithog yn cael eu llunio ar y ffurf a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 4, 5, 6 a 7 o Atodlen 2.

(2Rhaid i bob holiadur i’w ddefnyddio yn y cyfrifiad gynnwys rhif adnabod holiadur.

Dyletswyddau mewn perthynas â llenwi ffurflenni

6.—(1Rhaid i berson rhagnodedig, wrth lenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

(a)llenwi’r holiadur perthnasol a nodir ym mharagraff (3), yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar gyfer yr holiadur hwnnw;

(b)cyflwyno’r holiadur sydd wedi ei lenwi i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Mae holiadur wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)mewn cysylltiad â holiadur ar-lein, pan yw’r Awdurdod wedi ei gael yn electronig, neu

(b)mewn cysylltiad â holiadur papur, pan yw wedi dod i law penodai yn bersonol, neu pan yw wedi ei gael drwy’r post gan yr Awdurdod neu benodai.

(3Yr holiadur i’w llenwi a’i gyflwyno yn unol â’r Rheoliadau hyn gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 1 yw’r holiadur ar-lein neu’r holiadur papur y cyfeirir ato yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) neu (3).

(4Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person rhagnodedig sy’n ddeiliad aelwyd, neu unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd hwnnw yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad, rhag llenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.

(5Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person sy’n llenwi ffurflen o dan erthygl 5(9)(a)(i) neu (b) o Orchymyn y Cyfrifiad ar ran person arall rhag llenwi’r ffurflen honno—

(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.

Y system olrhain holiaduron, yr offeryn rheoli gwaith maes a dyfeisiau electronig y cyfrifiad

7.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddarparu system olrhain holiaduron ar gyfer rheoli’r cyfrifiad ac ar gyfer cadw cofnodion ynghylch—

(a)rhifau adnabod holiaduron,

(b)codau mynediad unigryw sy’n rhoi mynediad i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r holiadur fel a ddewisir gan y person rhagnodedig,

(c)codau mynediad unigryw newydd,

(d)cyfeiriadau aelwydydd a sefydliadau cymunedol,

(e)yr aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae pecynnau cyfrifiad wedi eu hanfon iddynt drwy’r post neu wedi eu danfon iddynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu’r aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae ymweliadau i’w cynnal â hwy,

(f)amgylchiadau’r danfoniad ar gyfer pob pecyn cyfrifiad a ddanfonwyd gan swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol,

(g)y dyddiad pan ddaeth pob holiadur wedi ei lenwi a gafwyd gan yr Awdurdod i law, a’r modd y’i cafwyd,

(h)amlgeisiadau am becynnau cyfrifiad neu godau mynediad unigryw newydd gan yr un person rhagnodedig,

(i)dychwelyd mwy nag un holiadur wedi ei lenwi mewn perthynas â’r un person rhagnodedig,

(j)y dyddiad pan wneir unrhyw gofnod yn unol â rheoliad 11(8)(a), 13(11)(b) neu 16(5)(b) a’r person rhagnodedig y’i gwnaed mewn cysylltiad ag ef, a

(k)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran cynnal y cyfrifiad.

(2Rhaid i’r Awdurdod ddarparu offeryn rheoli gwaith maes i’w ddefnyddio wrth gynnal y cyfrifiad, gan gynnwys er mwyn—

(a)creu camau gweithredu y mae’n ofynnol i benodeion eu cymryd;

(b)nodi cyfeiriadau eiddo i benodeion ymweld â hwy;

(c)galluogi cofnodi gwybodaeth ar gyfer y system olrhain holiaduron.

(3Rhaid i’r Awdurdod ddarparu dyfeisiau electronig digonol (a elwir yn “dyfeisiau electronig y cyfrifiad” yn y Rheoliadau hyn) y gall pob penodai y mae angen iddo gael mynediad i’r offeryn rheoli gwaith maes eu defnyddio i wneud hynny a chael cyfarwyddiadau yn electronig.

Paratoi pecynnau cyfrifiad

8.—(1Rhaid i’r Awdurdod baratoi cynifer o becynnau cyfrifiad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) i (5) y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i gynnwys pob pecyn cyfrifiad gael ei roi mewn amlen wedi ei selio y gall unrhyw gyfeiriad wedi ei argraffu gael ei weld drwyddi.

(3Rhaid i bob un o’r pecynnau ar-lein i aelwydydd, y pecynnau ar-lein i unigolion a’r pecynnau ar-lein i sefydliadau cymunedol gynnwys—

(a)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein), a

(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur y mae’r pecyn hwnnw yn ymwneud ag ef.

(4Rhaid i bob un o’r pecynnau papur i aelwydydd, y pecynnau papur i unigolion a’r pecynnau papur i sefydliadau cymunedol gynnwys—

(a)yn eu trefn, copi o holiadur H2(paper) ac H2W (papur), copi o holiadur I2(paper) ac I2W(papur) a chopi o holiadur CE2(paper) ac CE2W(papur),

(b)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein),

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiaduron y mae’r pecynnau hynny yn ymwneud â hwy, a

(d)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.

(5Rhaid i’r pecynnau aelwyd (parhad) gynnwys—

(a)copi o holiadur HC2(paper) a chopi o holiadur HC2W(papur),

(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur, ac

(c)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.

Anfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr drwy’r post

9.—(1Caiff yr Awdurdod anfon pecyn aelwyd drwy’r post i’r aelwydydd hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, a phecyn unigolyn at yr etholwyr hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, y mae’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad cyn diwrnod y cyfrifiad.

(2Os nad yw’r Awdurdod yn anfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn drwy’r post o dan baragraff (1) rhaid iddo, yn lle hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r cydgysylltydd cyfrifiad perthnasol drefnu danfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn â llaw i’r aelwyd honno neu at yr etholwr hwnnw (yn ôl y digwydd) yn unol â rheoliad 10.

(3Mewn cysylltiad â phob pecyn cyfrifiad a anfonir drwy’r post yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r Awdurdod sicrhau y gwneir cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos y cyfeiriad yr anfonwyd y pecyn cyfrifiad iddo.

Danfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr â llaw

10.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)dyfais gyfrifiad electronig i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw;

(b)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;

(c)rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob aelwyd a phob etholwr yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw y mae pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i’w danfon â llaw iddynt yn unol â rheoliad 9(2);

(d)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)dynodi swyddog cyfrifiad i ddanfon pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;

(b)rhoi i’r swyddog cyfrifiad hwnnw yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog cyfrifiad er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog cyfrifiad hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2)(a) wedyn ddanfon—

(a)pecyn aelwyd neu becyn unigolyn i bob aelwyd neu etholwr (yn ôl y digwydd) y mae ei chyfeiriad neu ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw;

(b)pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i unrhyw aelwydydd eraill neu at unrhyw etholwyr eraill sydd wedi eu nodi gan y swyddog cyfrifiad yn nosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw.

(4Mae dyletswydd swyddog cyfrifiad i ddanfon pecyn cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob aelwyd os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn aelwyd i’r deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliad aelwyd, ac mewn perthynas â phob etholwr, os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn unigolyn i’r etholwr neu, yn y naill achos neu’r llall, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog cyfrifiad—

(a)yn gadael y pecyn cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu’r etholwr (yn ôl y digwydd), neu

(b)pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecyn cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, neu’n ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad hwnnw neu, os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y cydgysylltydd cyfrifiad, i gyfeiriad arall a ddarperir gan y cydgysylltydd cyfrifiad.

(5Rhaid i bob swyddog cyfrifiad—

(a)gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—

(i)pob pecyn aelwyd a phecyn unigolyn a ddanfonwyd yn unol â pharagraff (3)(a) neu (b), a

(ii)unrhyw aelwyd ychwanegol neu etholwr ychwanegol y mae’r swyddog cyfrifiad wedi danfon pecyn cyfrifiad iddi neu ato o dan baragraff (3)(b);

(b)galluogi’r cydgysylltydd cyfrifiad i gael mynediad i’r wybodaeth a gofnodir yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog cyfrifiad neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

Danfon pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw

11.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi’r canlynol i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

(a)dyfeisiau electronig digonol i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

(b)unrhyw becynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;

(c)rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob sefydliad cymunedol yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

(d)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

(a)dynodi swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;

(b)cyflenwi i bob swyddog sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog sefydliadau cymunedol er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) ddanfon—

(a)pecyn sefydliadau cymunedol i bob sefydliad cymunedol y mae ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw,

(b)nifer digonol o becynnau unigolyn i bob un o’r sefydliadau cymunedol hynny at ddiben y cyfrifiad, ac

(c)pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill a nodir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn nosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol.

(4Mae dyletswydd swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol yn danfon y pecynnau cyfrifiad at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol—

(a)yn gadael y pecynnau cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol, neu

(b)pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecynnau cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes.

(5Caiff y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol gyfarwyddo’r swyddog sefydliadau cymunedol i ddosbarthu cynifer o’r pecynnau unigolyn ag a ddanfonir o dan baragraff (3) i’r personau hynny sy’n breswylwyr arferol yn y sefydliad cymunedol ac y mae’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol eu bod yn alluog i lenwi’r holiadur sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn.

(6Os yw’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol nad yw preswylydd arferol yn alluog i lenwi’r holiadur hwnnw, caiff y swyddog sefydliadau cymunedol draddodi’r pecyn unigolyn i berthynas i’r preswylydd arferol, neu i berson arall, sydd wedi cytuno i lenwi’r holiadur ar ran y preswylydd arferol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

(7Caiff swyddog sefydliadau cymunedol ofyn i’r person a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol ddosbarthu pecynnau unigolyn mewn perthynas â’r sefydliad cymunedol hwnnw, yn yr un modd ag a nodir ym mharagraffau (5) a (6).

(8Rhaid i bob swyddog sefydliadau cymunedol—

(a)gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—

(i)pob pecyn sefydliadau cymunedol a phob pecyn unigolyn sydd wedi eu danfon yn unol â pharagraff (3)(a), (b) neu (c),

(ii)unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y mae’r swyddog sefydliadau cymunedol wedi danfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn iddynt o dan baragraff (3)(c), a

(iii)casglu holiaduron papur;

(b)galluogi’r cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i gael mynediad i’r wybodaeth yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog sefydliadau cymunedol rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

Cais i gael pecynnau cyfrifiad a chodau mynediad unigryw newydd

12.—(1Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd i unrhyw berson rhagnodedig sy’n gofyn amdano.

(2Yr amodau hynny yw fel a ganlyn—

(a)ym marn yr Awdurdod, mae’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd yn berthnasol i’r person rhagnodedig hwnnw, a

(b)mae’r person sy’n gwneud y cais yn darparu i’r Awdurdod y cyfeiriad y mae’r person (neu’r personau) rhagnodedig y mae’r holiadur i’w lenwi mewn cysylltiad ag ef (neu â hwy) yn breswylydd arferol ynddo (ac yn y ddarpariaeth hon, ystyr “yr holiadur” yw’r holiadur sy’n ymwneud â’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd y gofynnwyd amdano).

(3Rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (1) i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a chaiff anfon pecynnau cyfrifiad o’r fath drwy’r post neu eu danfon â llaw i’r cyfeiriad hwnnw.

(4Caiff yr Awdurdod ddarparu cod mynediad unigryw newydd o dan baragraff (1) drwy—

(a)anfon y cod drwy’r post, neu ei ddanfon â llaw (ac yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r Awdurdod anfon neu ddanfon y cod mynediad unigryw newydd i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)), neu

(b)anfon y cod yn uniongyrchol i rif ffôn symudol a ddarparwyd gan y person sy’n gwneud y cais i gael y cod mynediad unigryw newydd.

Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr

13.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd ar-lein wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i aelwydydd neu becyn aelwyd (parhad) wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi, fel y bo’n briodol, gopi o’r holiadur H2(paper), H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn a’i roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post. Caniateir i holiaduron o’r fath gael eu hanfon i’r Awdurdod drwy’r post yn yr un amlen wedi ei thalu ymlaen llaw, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i’r holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn electronig yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(3Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i aelwydydd ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i aelwydydd.

(4Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn ar-lein i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(5Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn papur i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i’r holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(6Rhaid i bob etholwr sicrhau bod un o’r holiaduron a ganlyn: H2(online) neu H2W(ar-lein), H2(paper) neu H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur), I2(online) neu I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur), wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag ef ei hunan.

(7Pan fo holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur) wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag etholwr, caiff yr etholwr hwnnw ddewis cydymffurfio â pharagraff (4) neu (5) (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).

(8Mae holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) a gyflwynir gan etholwr yn drech na holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur), mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth am yr etholwr hwnnw.

(9Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur H2(online), H2W(ar-lein), H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(online), I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi ddod i law’r Awdurdod, rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi ei ddychwelyd.

(10Pan fo penodai wedi ei fodloni, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthygl 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw’r person rhagnodedig—

(a)yn alluog i lenwi a dychwelyd holiadur, na

(b)yn gallu awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ran y person rhagnodedig, wedyn mae paragraff (11) yn gymwys.

(11O ran y penodai—

(a)caiff, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig y cyfeirir ato ym mharagraff (10) eu darparu, a

(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.

(12Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (11)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.

Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol

14.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi’r copi o holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir, a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein) a llenwi’r holiadur a’i gyflwyno wedi ei lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(3Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i sefydliadau cymunedol.

(4Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn unigolyn wedi ei draddodi iddo o dan reoliad 11(5), (6) neu (7), drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein,

(b)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(c)os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddog sefydliadau cymunedol, ddanfon yr holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn ac sydd wedi ei lenwi at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu at y swyddog sefydliadau cymunedol.

(5Rhaid i’r person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol y traddodir holiadur I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi iddo gan berson rhagnodedig (pa un ai o dan baragraff (4)(c) neu fel arall)—

(a)sicrhau bod yr holiadur wedi ei roi mewn amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a heb oedi, ei anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)danfon yr holiadur at y swyddog sefydliadau cymunedol.

(6Mewn cysylltiad â phob holiadur papur wedi ei lenwi a gesglir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r swyddog sefydliadau cymunedol wneud cofnod yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol.

Cynnal y cyfrifiad ar gyfer personau yng Ngrŵp G

15.  Rhaid i gydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw—

(a)i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), neu holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) gael ei lenwi a’i gyflwyno mewn cysylltiad ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig sy’n llenwi holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) yn unigol o dan baragraff (b);

(b)i becyn papur i unigolion gael ei draddodi i’r personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad ac i bob person rhagnodedig naill ai—

(i)defnyddio’r cod mynediad unigryw sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein, neu

(ii)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post; neu ei draddodi i’r person sy’n llenwi holiadur o dan baragraff (a).

Y weithdrefn pan na fo’r Awdurdod yn cael holiadur neu pan fo’n cael holiadur anghyflawn

16.—(1Rhaid i’r Awdurdod—

(a)gwirio’r cofnodion yn y system olrhain holiaduron a chynhyrchu rhestr o gyfeiriadau ar gyfer pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad ac ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y mae’r Awdurdod wedi anfon neu wedi danfon pecyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd iddynt ond nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur wedi ei lenwi mewn cysylltiad â hwy yn unol â’r Rheoliadau hyn;

(b)darparu i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) sy’n berthnasol iddynt.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol drefnu yn eu tro i swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) i wneud unrhyw ymholiadau y mae’r swyddogion hynny yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu.

(3Pan fo swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (2) i berson rhagnodedig nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur mewn cysylltiad ag ef, caiff y swyddog—

(a)casglu holiadur wedi ei lenwi,

(b)annog y person hwnnw i lenwi holiadur a’i gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn,

(c)cytuno y caniateir i’r holiadur wedi ei lenwi gael ei gyflwyno drwy’r post gan ddefnyddio’r amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir,

(d)gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer casglu’r holiadur papur y mae’r swyddog yn meddwl eu bod yn addas, neu

(e)darparu cod mynediad unigryw newydd neu holiadur papur arall.

(4Rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron pa bryd bynnag y daw holiadur wedi ei lenwi i’w law ar ôl i’r camau o dan baragraffau (2) a (3) gael eu cymryd.

(5Pan fo holiadur yn dod i law’r Awdurdod ond nad yw’r holiadur yn cynnwys rhai o’r manylion neu’r holl fanylion yr oedd Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig eu darparu, wedyn o ran penodai—

(a)caiff wneud, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, unrhyw ymholiadau y mae’r penodai yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion coll, a

(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.

(6Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (5)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.

Rhoi gwybodaeth

17.—(1Rhaid i bob person y mae ffurflen i’w llenwi mewn cysylltiad ag ef o dan Orchymyn y Cyfrifiad, i’r graddau y mae’r person hwnnw yn gallu gwneud hynny, roi i’r person rhagnodedig sy’n atebol am lenwi’r ffurflen unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y person rhagnodedig at ddiben cyflawni rhwymedigaethau’r person rhagnodedig hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig roi i unrhyw benodai yr wybodaeth honno, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y penodai er mwyn cyflawni dyletswyddau’r penodai o dan y Rheoliadau hyn.

(3Ni chaiff person, y rhoddir gwybodaeth bersonol iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, heb awdurdod cyfreithlon—

(a)defnyddio’r wybodaeth honno (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn), na

(b)ei chyhoeddi na’i chyfathrebu i unrhyw berson arall (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn).

Cadw holiaduron, cofnodion a dogfennau’n ddiogel

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd, pa un ai ar ran y person hwnnw ei hunan neu ar ran unrhyw berson arall, â holiaduron neu â chofnodion a dogfennau eraill o dan ei ofal (gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig) sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, gadw’r holiaduron, y cofnodion a’r dogfennau hynny yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad iddynt.

(2Pan fo unrhyw benodai yn cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr Awdurdod, rhaid iddo anfon i’r Awdurdod pob holiadur, cofnod a dogfen sydd ym meddiant y penodai hwnnw, gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig.

(3Rhaid i’r Awdurdod drefnu i’r canlynol gael eu storio’n ddiogel—

(a)holiaduron wedi eu llenwi,

(b)unrhyw gofnodion a dogfennau papur neu electronig eraill sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, ac

(c)unrhyw ddyfeisiau electronig y cyfrifiad tra bo’r dyfeisiau hynny yn cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad neu y mae modd cael mynediad i wybodaeth bersonol o’r fath o hyd drwyddynt.

Cadw dyfeisiau electronig y cyfrifiad yn ddiogel

19.  Rhaid i unrhyw berson sy’n cael dyfais gyfrifiad electronig—

(a)defnyddio’r ddyfais gyfrifiad electronig yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais,

(b)sicrhau bod y ddyfais yn cael ei storio’n ddiogel ar bob adeg pan nad yw’n cael ei defnyddio yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais, ac

(c)gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau gan yr Awdurdod ynghylch pryd neu at bwy i ddychwelyd y ddyfais.

Datganiadau statudol ac ymgymeriadau

20.—(1Rhaid i bob penodai y rhoddir caniatâd iddo gan yr Awdurdod i gael mynediad i’r storfeydd data electronig wneud datganiad statudol sy’n cynnwys y geiriau a nodir yn Atodlen 3, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai gan yr Awdurdod neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(2Caiff unrhyw gyflogai i’r Awdurdod (os yw’n cael ei gyfarwyddo’n addas gan yr Awdurdod i wneud hynny) gymryd y datganiad statudol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob penodai nad yw’n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) gwblhau ffurflen yr ymgymeriad a nodir yn Atodlen 4, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4Nid yw’n ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a gwblhaodd ffurflen ymgymeriad a chanddi’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r ffurflen yn Atodlen 4, gwblhau ymgymeriad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.

(5At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” yw’r systemau electronig hynny y mae’r Awdurdod yn eu defnyddio i storio’r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron y mae’r Awdurdod yn eu cael.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

28 Mai 2020

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill