Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 555 (Cy. 128)

Y Cyfrifiad, Cymru

Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020

Gwnaed

28 Mai 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Mehefin 2020

Yn dod i rym

26 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 3(1) o Ddeddf y Cyfrifiad 1920(1), ac ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau yn unol ag adran 3(1A)(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mehefin 2020.

(3Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2010(3) wedi eu dirymu.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “aelwyd” yr ystyr a roddir i “household” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

mae i “amlen radbost” (“prepaid envelope”) fel y mae’n ymddangos yn holiadur I2(paper) ac I2W(papur) yr un ystyr ag “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw”;

ystyr “amlen wedi ei thalu ymlaen llaw” (“reply-paid envelope”) yw amlen sydd wedi ei chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i’r anfonwr dalu i’w hanfon;

mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “ardal cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

ystyr “ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator area”) yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw’r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;

ystyr “cod mynediad unigryw” (“unique access code”) yw cod sy’n rhoi mynediad unigryw drwy’r rhyngrwyd i holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein), a holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein). Mae’r cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o’r holiadur y mae’r person rhagnodedig yn ei lenwi;

ystyr “cod mynediad unigryw newydd” (“replacement unique access code”) yw cod mynediad unigryw sy’n wahanol i god mynediad unigryw a ddarparwyd eisoes ac sy’n disodli’r cod hwnnw;

ystyr “cydgysylltydd cyfrifiad” (“census co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(i);

ystyr “cydgysylltydd sefydliadau cymunedol” (“communal establishment co-ordinator”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b)(ii);

ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw’r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;

ystyr “Deddf 1920” (“the 1920 Act”) yw Deddf y Cyfrifiad 1920;

ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(4);

mae i “deiliad aelwyd” yr ystyr a roddir i “householder” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “diwrnod y cyfrifiad” (“census day”) yw 21 Mawrth 2021;

ystyr “dosbarth cyfrifo” (“enumeration district”) yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “dyfais gyfrifiad electronig” (“census electronic device”) yw unrhyw ddyfais electronig y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(3);

ystyr “etholwr” (“elector”) yw person rhagnodedig sy’n ethol llenwi ffurflen unigolyn o dan erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad;

mae i “ffurflen unigolyn” yr ystyr a roddir i “individual return” gan erthygl 2(1) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “y gofrestr cyfeiriadau” (“the address register”) yw’r gofrestr ac unrhyw is-set o’r gofrestr a ddefnyddir gan yr Awdurdod, sy’n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae’r Awdurdod yn ymwybodol ohonynt;

ystyr “Gorchymyn y Cyfrifiad” (“the Census Order”) yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020(5);

mae i “gwybodaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal information” gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw unrhyw holiadur ar-lein neu holiadur papur;

ystyr “holiadur ar-lein” (“online questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(online), H2W(ar-lein), I2(online), I2W(ar-lein), CE2(online) neu CE2W(ar-lein);

ystyr “holiadur papur” (“paper questionnaire”) yw unrhyw un neu ragor o’r holiaduron a ganlyn: H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(paper), I2W(papur), CE2(paper) neu CE2W(papur);

ystyr “holiadur wedi ei lenwi” (“completed questionnaire”) yw holiadur sydd wedi ei lenwi gyda’r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu ac a oedd yn gywir am hanner nos ar ddiwrnod y cyfrifiad;

ystyr “offeryn rheoli gwaith maes” (“fieldwork management tool”) yw’r system electronig honno y mae rhaid i’r Awdurdod ei darparu o dan reoliad 7(2);

ystyr “pecyn aelwyd” (“household pack”) yw pecyn ar-lein i aelwydydd neu becyn papur i aelwydydd;

ystyr “pecyn aelwyd (parhad)” (“household continuation pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(5);

ystyr “pecyn ar-lein i aelwydydd” (“online household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol” (“online communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn ar-lein i unigolion” (“online individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(3);

ystyr “pecyn i sefydliadau cymunedol” (“communal establishment pack”) yw pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol neu becyn papur i sefydliadau cymunedol;

ystyr “pecyn papur i aelwydydd” (“paper household pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn papur i sefydliadau cymunedol” (“paper communal establishment pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn papur i unigolion” (“paper individual pack”) yw pecyn fel y’i disgrifir yn rheoliad 8(4);

ystyr “pecyn unigolyn” (“individual pack”) yw pecyn ar-lein i unigolion neu becyn papur i unigolion;

ystyr “pecynnau cyfrifiad” (“census packs”) yw unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a ddisgrifir yn rheoliad 8(3) i (5);

ystyr “penodai” (“appointee”) yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;

ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen, neu unrhyw berson sy’n llenwi ffurflen ar ran person o’r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;

mae i “preswylydd arferol” yr ystyr a roddir i “usual resident” gan erthygl 2(3)(a) o Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “rheolwr gweithrediadau ardal” (“area operations manager”) yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(a);

ystyr “rhif adnabod holiadur” (“questionnaire identification number”) yw marc adnabod rhifol y gall peiriant ei ddarllen sy’n unigryw i bob holiadur;

ystyr “sefydliad cymunedol” (“communal establishment”) yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F o golofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;

ystyr “swyddog cyfrifiad” (“census officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “swyddog sefydliadau cymunedol” (“communal establishment officer”) yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c);

ystyr “system olrhain holiaduron” (“questionnaire tracking system”) yw unrhyw system neu systemau electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 7(1);

ystyr “yn electronig” (“electronically”) yw drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae’r byrfoddau a ganlyn yn gymwys—

Byrfodd (pan y’i defnyddir gyda’r term “holiadur”)Ystyr
H2(online)“Household Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
H2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
I2(online)“Individual Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
I2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2(online)“Communal Establishment Questionnaire (online)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2W(ar-lein)“Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
H2(paper)“Household Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
H2W(papur)“Holiadur (papur) y Cartref” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
HC2(paper)“Household Continuation Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
HC2W(papur)“Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
I2(paper)“Individual Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
I2W(papur)“Holiadur (papur) i Unigolion” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2(paper)“Communal Establishment Questionnaire (paper)” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (2) o’r tabl yn Atodlen 1
CE2W(papur)“Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” fel y cyfeirir ato yng ngholofn (3) o’r tabl yn Atodlen 1

(3Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau hyn—

(a)y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “aelwyd”, a

(b)y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad aelwyd”.

(4Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron—

(a)y geiriau Cymraeg sy’n cyfateb i “household” yw “cartref” ac “aelodau o’r cartref” (yn ôl y digwydd), a

(b)y gair Cymraeg sy’n cyfateb i “householder” yw “deiliad y cartref”.

(5Nid yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.

Rhaniadau gweinyddol a phenodiadau

4.—(1At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i’r Awdurdod—

(a)rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr gweithrediadau ardal i bob ardal gyfrifiad;

(b)rhannu pob ardal gyfrifiad yn—

(i)ardaloedd cydgysylltwyr cyfrifiad a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd cyfrifiad;

(ii)ardaloedd cydgysylltwyr sefydliadau cymunedol a phenodi cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i bob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol;

(c)rhannu pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad a phob ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol â Deddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad.

(3Rhaid i’r personau a benodir o dan baragraffau (1) a (2) gyflawni’r dyletswyddau a neilltuir iddynt o dan Ddeddf 1920 a’r Rheoliadau hyn.

Holiaduron i’w defnyddio wrth gynnal y cyfrifiad

5.—(1At ddibenion y cyfrifiad rhaid i’r Awdurdod sicrhau—

(a)bod holiaduron ar-lein ar gael yn electronig ac yn ddwyieithog drwy godau mynediad unigryw ac yn cynnwys y cwestiynau a’r opsiynau ymateb a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 1, 2 a 3 o Atodlen 2 a’r swyddogaethau a’r nodweddion a ddisgrifir yn Rhan 8 o Atodlen 2;

(b)bod holiaduron papur dwyieithog yn cael eu llunio ar y ffurf a nodir (fel y bo’n briodol) yn Rhannau 4, 5, 6 a 7 o Atodlen 2.

(2Rhaid i bob holiadur i’w ddefnyddio yn y cyfrifiad gynnwys rhif adnabod holiadur.

Dyletswyddau mewn perthynas â llenwi ffurflenni

6.—(1Rhaid i berson rhagnodedig, wrth lenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

(a)llenwi’r holiadur perthnasol a nodir ym mharagraff (3), yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar gyfer yr holiadur hwnnw;

(b)cyflwyno’r holiadur sydd wedi ei lenwi i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Mae holiadur wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)mewn cysylltiad â holiadur ar-lein, pan yw’r Awdurdod wedi ei gael yn electronig, neu

(b)mewn cysylltiad â holiadur papur, pan yw wedi dod i law penodai yn bersonol, neu pan yw wedi ei gael drwy’r post gan yr Awdurdod neu benodai.

(3Yr holiadur i’w llenwi a’i gyflwyno yn unol â’r Rheoliadau hyn gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o’r tabl yn Atodlen 1 yw’r holiadur ar-lein neu’r holiadur papur y cyfeirir ato yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) neu (3).

(4Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person rhagnodedig sy’n ddeiliad aelwyd, neu unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd hwnnw yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad, rhag llenwi ffurflen fel sy’n ofynnol gan Orchymyn y Cyfrifiad—

(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad ag aelodau ychwanegol o aelwyd y deiliad aelwyd hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.

(5Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n atal person sy’n llenwi ffurflen o dan erthygl 5(9)(a)(i) neu (b) o Orchymyn y Cyfrifiad ar ran person arall rhag llenwi’r ffurflen honno—

(a)drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein, neu

(b)drwy lenwi a chyflwyno holiadur ar-lein a hefyd, mewn cysylltiad â’r person arall hwnnw, drwy lenwi a chyflwyno holiadur papur.

Y system olrhain holiaduron, yr offeryn rheoli gwaith maes a dyfeisiau electronig y cyfrifiad

7.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddarparu system olrhain holiaduron ar gyfer rheoli’r cyfrifiad ac ar gyfer cadw cofnodion ynghylch—

(a)rhifau adnabod holiaduron,

(b)codau mynediad unigryw sy’n rhoi mynediad i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r holiadur fel a ddewisir gan y person rhagnodedig,

(c)codau mynediad unigryw newydd,

(d)cyfeiriadau aelwydydd a sefydliadau cymunedol,

(e)yr aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae pecynnau cyfrifiad wedi eu hanfon iddynt drwy’r post neu wedi eu danfon iddynt yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu’r aelwydydd neu’r sefydliadau cymunedol y mae ymweliadau i’w cynnal â hwy,

(f)amgylchiadau’r danfoniad ar gyfer pob pecyn cyfrifiad a ddanfonwyd gan swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol,

(g)y dyddiad pan ddaeth pob holiadur wedi ei lenwi a gafwyd gan yr Awdurdod i law, a’r modd y’i cafwyd,

(h)amlgeisiadau am becynnau cyfrifiad neu godau mynediad unigryw newydd gan yr un person rhagnodedig,

(i)dychwelyd mwy nag un holiadur wedi ei lenwi mewn perthynas â’r un person rhagnodedig,

(j)y dyddiad pan wneir unrhyw gofnod yn unol â rheoliad 11(8)(a), 13(11)(b) neu 16(5)(b) a’r person rhagnodedig y’i gwnaed mewn cysylltiad ag ef, a

(k)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran cynnal y cyfrifiad.

(2Rhaid i’r Awdurdod ddarparu offeryn rheoli gwaith maes i’w ddefnyddio wrth gynnal y cyfrifiad, gan gynnwys er mwyn—

(a)creu camau gweithredu y mae’n ofynnol i benodeion eu cymryd;

(b)nodi cyfeiriadau eiddo i benodeion ymweld â hwy;

(c)galluogi cofnodi gwybodaeth ar gyfer y system olrhain holiaduron.

(3Rhaid i’r Awdurdod ddarparu dyfeisiau electronig digonol (a elwir yn “dyfeisiau electronig y cyfrifiad” yn y Rheoliadau hyn) y gall pob penodai y mae angen iddo gael mynediad i’r offeryn rheoli gwaith maes eu defnyddio i wneud hynny a chael cyfarwyddiadau yn electronig.

Paratoi pecynnau cyfrifiad

8.—(1Rhaid i’r Awdurdod baratoi cynifer o becynnau cyfrifiad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) i (5) y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i gynnwys pob pecyn cyfrifiad gael ei roi mewn amlen wedi ei selio y gall unrhyw gyfeiriad wedi ei argraffu gael ei weld drwyddi.

(3Rhaid i bob un o’r pecynnau ar-lein i aelwydydd, y pecynnau ar-lein i unigolion a’r pecynnau ar-lein i sefydliadau cymunedol gynnwys—

(a)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein), a

(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur y mae’r pecyn hwnnw yn ymwneud ag ef.

(4Rhaid i bob un o’r pecynnau papur i aelwydydd, y pecynnau papur i unigolion a’r pecynnau papur i sefydliadau cymunedol gynnwys—

(a)yn eu trefn, copi o holiadur H2(paper) ac H2W (papur), copi o holiadur I2(paper) ac I2W(papur) a chopi o holiadur CE2(paper) ac CE2W(papur),

(b)yn eu trefn, cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur H2(online) ac H2W(ar-lein), cod mynediad unigryw ar gyfer holiadur I2(online) ac I2W(ar-lein) a chod mynediad unigryw ar gyfer holiadur CE2(online) ac CE2W(ar-lein),

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiaduron y mae’r pecynnau hynny yn ymwneud â hwy, a

(d)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.

(5Rhaid i’r pecynnau aelwyd (parhad) gynnwys—

(a)copi o holiadur HC2(paper) a chopi o holiadur HC2W(papur),

(b)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r Awdurdod yn ystyried y gall gynorthwyo o ran llenwi a chyflwyno’r holiadur, ac

(c)amlen wedi ei thalu ymlaen llaw.

Anfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr drwy’r post

9.—(1Caiff yr Awdurdod anfon pecyn aelwyd drwy’r post i’r aelwydydd hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, a phecyn unigolyn at yr etholwyr hynny yn y gofrestr cyfeiriadau, y mae’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad cyn diwrnod y cyfrifiad.

(2Os nad yw’r Awdurdod yn anfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn drwy’r post o dan baragraff (1) rhaid iddo, yn lle hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r cydgysylltydd cyfrifiad perthnasol drefnu danfon pecyn aelwyd neu becyn unigolyn â llaw i’r aelwyd honno neu at yr etholwr hwnnw (yn ôl y digwydd) yn unol â rheoliad 10.

(3Mewn cysylltiad â phob pecyn cyfrifiad a anfonir drwy’r post yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r Awdurdod sicrhau y gwneir cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos y cyfeiriad yr anfonwyd y pecyn cyfrifiad iddo.

Danfon pecynnau i aelwydydd ac at etholwyr â llaw

10.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)dyfais gyfrifiad electronig i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw;

(b)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;

(c)rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob aelwyd a phob etholwr yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw y mae pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i’w danfon â llaw iddynt yn unol â rheoliad 9(2);

(d)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)dynodi swyddog cyfrifiad i ddanfon pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;

(b)rhoi i’r swyddog cyfrifiad hwnnw yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog cyfrifiad er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog cyfrifiad hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2)(a) wedyn ddanfon—

(a)pecyn aelwyd neu becyn unigolyn i bob aelwyd neu etholwr (yn ôl y digwydd) y mae ei chyfeiriad neu ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw;

(b)pecynnau aelwyd a phecynnau unigolyn (fel y bo’n briodol) i unrhyw aelwydydd eraill neu at unrhyw etholwyr eraill sydd wedi eu nodi gan y swyddog cyfrifiad yn nosbarth cyfrifo’r swyddog cyfrifiad hwnnw.

(4Mae dyletswydd swyddog cyfrifiad i ddanfon pecyn cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob aelwyd os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn aelwyd i’r deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliad aelwyd, ac mewn perthynas â phob etholwr, os yw’r swyddog cyfrifiad yn traddodi pecyn unigolyn i’r etholwr neu, yn y naill achos neu’r llall, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog cyfrifiad—

(a)yn gadael y pecyn cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu’r etholwr (yn ôl y digwydd), neu

(b)pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecyn cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, neu’n ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad hwnnw neu, os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y cydgysylltydd cyfrifiad, i gyfeiriad arall a ddarperir gan y cydgysylltydd cyfrifiad.

(5Rhaid i bob swyddog cyfrifiad—

(a)gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—

(i)pob pecyn aelwyd a phecyn unigolyn a ddanfonwyd yn unol â pharagraff (3)(a) neu (b), a

(ii)unrhyw aelwyd ychwanegol neu etholwr ychwanegol y mae’r swyddog cyfrifiad wedi danfon pecyn cyfrifiad iddi neu ato o dan baragraff (3)(b);

(b)galluogi’r cydgysylltydd cyfrifiad i gael mynediad i’r wybodaeth a gofnodir yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog cyfrifiad neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

Danfon pecynnau i sefydliadau cymunedol â llaw

11.—(1Rhaid i’r Awdurdod ddyroddi’r canlynol i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

(a)dyfeisiau electronig digonol i’w defnyddio ym mhob dosbarth cyfrifo o fewn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

(b)unrhyw becynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad;

(c)rhestr, sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes, o gyfeiriadau pob sefydliad cymunedol yn y gofrestr cyfeiriadau sydd yn ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol hwnnw;

(d)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae’n ystyried eu bod neu ei bod yn angenrheidiol at ddiben y cyfrifiad.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol—

(a)dynodi swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i bob dosbarth cyfrifo;

(b)cyflenwi i bob swyddog sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) yr eitemau hynny ym mharagraff (1)(a) i (d), a niferoedd digonol ohonynt, y mae eu hangen ar y swyddog sefydliadau cymunedol er mwyn cyflawni dyletswyddau’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i bob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol a ddynodir o dan baragraff (2)(a) ddanfon—

(a)pecyn sefydliadau cymunedol i bob sefydliad cymunedol y mae ei gyfeiriad wedi ei gynnwys yn y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c) ac sydd o fewn dosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol hwnnw,

(b)nifer digonol o becynnau unigolyn i bob un o’r sefydliadau cymunedol hynny at ddiben y cyfrifiad, ac

(c)pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill a nodir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn nosbarth cyfrifo’r swyddog sefydliadau cymunedol.

(4Mae dyletswydd swyddog sefydliadau cymunedol i ddanfon pecynnau cyfrifiad o dan baragraff (3) wedi ei bodloni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol yn danfon y pecynnau cyfrifiad at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu, pan na fo person o’r fath ar gael, os yw’r swyddog sefydliadau cymunedol—

(a)yn gadael y pecynnau cyfrifiad gyda pherson cyfrifol sy’n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol, neu

(b)pan na fo unigolyn cyfrifol o’r fath ar gael, yn gadael y pecynnau cyfrifiad yn y cyfeiriad perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn yr offeryn rheoli gwaith maes.

(5Caiff y cydgysylltydd sefydliadau cymunedol gyfarwyddo’r swyddog sefydliadau cymunedol i ddosbarthu cynifer o’r pecynnau unigolyn ag a ddanfonir o dan baragraff (3) i’r personau hynny sy’n breswylwyr arferol yn y sefydliad cymunedol ac y mae’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol eu bod yn alluog i lenwi’r holiadur sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn.

(6Os yw’n ymddangos i’r swyddog sefydliadau cymunedol nad yw preswylydd arferol yn alluog i lenwi’r holiadur hwnnw, caiff y swyddog sefydliadau cymunedol draddodi’r pecyn unigolyn i berthynas i’r preswylydd arferol, neu i berson arall, sydd wedi cytuno i lenwi’r holiadur ar ran y preswylydd arferol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

(7Caiff swyddog sefydliadau cymunedol ofyn i’r person a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol ddosbarthu pecynnau unigolyn mewn perthynas â’r sefydliad cymunedol hwnnw, yn yr un modd ag a nodir ym mharagraffau (5) a (6).

(8Rhaid i bob swyddog sefydliadau cymunedol—

(a)gwneud cofnod yn y ddyfais gyfrifiad electronig o’r canlynol—

(i)pob pecyn sefydliadau cymunedol a phob pecyn unigolyn sydd wedi eu danfon yn unol â pharagraff (3)(a), (b) neu (c),

(ii)unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y mae’r swyddog sefydliadau cymunedol wedi danfon pecynnau sefydliadau cymunedol a phecynnau unigolyn iddynt o dan baragraff (3)(c), a

(iii)casglu holiaduron papur;

(b)galluogi’r cydgysylltydd sefydliadau cymunedol i gael mynediad i’r wybodaeth yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol neu’r wybodaeth sydd ar gael drwy’r ddyfais honno.

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal swyddog sefydliadau cymunedol rhag cael ei ddynodi i ddanfon pecynnau i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

Cais i gael pecynnau cyfrifiad a chodau mynediad unigryw newydd

12.—(1Os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd i unrhyw berson rhagnodedig sy’n gofyn amdano.

(2Yr amodau hynny yw fel a ganlyn—

(a)ym marn yr Awdurdod, mae’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd yn berthnasol i’r person rhagnodedig hwnnw, a

(b)mae’r person sy’n gwneud y cais yn darparu i’r Awdurdod y cyfeiriad y mae’r person (neu’r personau) rhagnodedig y mae’r holiadur i’w lenwi mewn cysylltiad ag ef (neu â hwy) yn breswylydd arferol ynddo (ac yn y ddarpariaeth hon, ystyr “yr holiadur” yw’r holiadur sy’n ymwneud â’r pecyn cyfrifiad neu’r cod mynediad unigryw newydd y gofynnwyd amdano).

(3Rhaid i’r Awdurdod ddarparu unrhyw becyn cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (1) i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) a chaiff anfon pecynnau cyfrifiad o’r fath drwy’r post neu eu danfon â llaw i’r cyfeiriad hwnnw.

(4Caiff yr Awdurdod ddarparu cod mynediad unigryw newydd o dan baragraff (1) drwy—

(a)anfon y cod drwy’r post, neu ei ddanfon â llaw (ac yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r Awdurdod anfon neu ddanfon y cod mynediad unigryw newydd i’r cyfeiriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b)), neu

(b)anfon y cod yn uniongyrchol i rif ffôn symudol a ddarparwyd gan y person sy’n gwneud y cais i gael y cod mynediad unigryw newydd.

Dychwelyd holiaduron aelwydydd ac etholwyr

13.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd ar-lein wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i aelwydydd neu becyn aelwyd (parhad) wedi ei anfon neu ei ddanfon ato, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi, fel y bo’n briodol, gopi o’r holiadur H2(paper), H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn a’i roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post. Caniateir i holiaduron o’r fath gael eu hanfon i’r Awdurdod drwy’r post yn yr un amlen wedi ei thalu ymlaen llaw, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i’r holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn electronig yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(3Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i aelwydydd ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i aelwydydd.

(4Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn ar-lein i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(5Rhaid i bob etholwr sydd wedi gofyn am becyn papur i unigolion ac wedi ei gael, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i’r holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), a llenwi a chyflwyno holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(6Rhaid i bob etholwr sicrhau bod un o’r holiaduron a ganlyn: H2(online) neu H2W(ar-lein), H2(paper) neu H2W(papur), HC2(paper) neu HC2W(papur), I2(online) neu I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur), wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag ef ei hunan.

(7Pan fo holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur) wedi ei lenwi mewn cysylltiad ag etholwr, caiff yr etholwr hwnnw ddewis cydymffurfio â pharagraff (4) neu (5) (ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny).

(8Mae holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) a gyflwynir gan etholwr yn drech na holiadur H2(online) neu H2W(ar-lein), holiadur H2(paper) neu H2W(papur), neu holiadur HC2(paper) neu HC2W(papur), mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth am yr etholwr hwnnw.

(9Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur H2(online), H2W(ar-lein), H2(paper), H2W(papur), HC2(paper), HC2W(papur), I2(online), I2W(ar-lein), I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi ddod i law’r Awdurdod, rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi ei ddychwelyd.

(10Pan fo penodai wedi ei fodloni, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthygl 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw’r person rhagnodedig—

(a)yn alluog i lenwi a dychwelyd holiadur, na

(b)yn gallu awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ran y person rhagnodedig, wedyn mae paragraff (11) yn gymwys.

(11O ran y penodai—

(a)caiff, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig y cyfeirir ato ym mharagraff (10) eu darparu, a

(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.

(12Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (11)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.

Dychwelyd holiaduron sefydliadau cymunedol

14.—(1Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), a

(b)llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn papur i sefydliadau cymunedol wedi ei anfon neu ei ddanfon ato mewn sefydliad cymunedol, neu y derbyniwyd danfoniad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)llenwi’r copi o holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir, a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir i gael mynediad i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein) a llenwi’r holiadur a’i gyflwyno wedi ei lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein.

(3Mae paragraff (2) (ac nid paragraff (1)) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd wedi cael pecyn ar-lein i sefydliadau cymunedol ond sydd hefyd wedi gofyn am becyn papur i sefydliadau cymunedol.

(4Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn unigolyn wedi ei draddodi iddo o dan reoliad 11(5), (6) neu (7), drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny—

(a)defnyddio’r cod mynediad unigryw a ddarperir yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein,

(b)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(c)os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddog sefydliadau cymunedol, ddanfon yr holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn ac sydd wedi ei lenwi at y person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol neu at y swyddog sefydliadau cymunedol.

(5Rhaid i’r person a chanddo ofal am y tro dros y sefydliad cymunedol y traddodir holiadur I2(paper) neu I2W(papur) wedi ei lenwi iddo gan berson rhagnodedig (pa un ai o dan baragraff (4)(c) neu fel arall)—

(a)sicrhau bod yr holiadur wedi ei roi mewn amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a heb oedi, ei anfon i’r Awdurdod drwy’r post, neu

(b)danfon yr holiadur at y swyddog sefydliadau cymunedol.

(6Mewn cysylltiad â phob holiadur papur wedi ei lenwi a gesglir gan y swyddog sefydliadau cymunedol yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r swyddog sefydliadau cymunedol wneud cofnod yn nyfais gyfrifiad electronig y swyddog sefydliadau cymunedol.

Cynnal y cyfrifiad ar gyfer personau yng Ngrŵp G

15.  Rhaid i gydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ardal cydgysylltydd cyfrifiad y cydgysylltydd cyfrifiad hwnnw—

(a)i holiadur CE2(online) neu CE2W(ar-lein), neu holiadur CE2(paper) neu CE2W(papur) gael ei lenwi a’i gyflwyno mewn cysylltiad ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig sy’n llenwi holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein), neu holiadur I2(paper) neu I2W(papur) yn unigol o dan baragraff (b);

(b)i becyn papur i unigolion gael ei draddodi i’r personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad ac i bob person rhagnodedig naill ai—

(i)defnyddio’r cod mynediad unigryw sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn i gael mynediad i holiadur I2(online) neu I2W(ar-lein) a llenwi a chyflwyno’r holiadur hwnnw yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir ar-lein, neu

(ii)llenwi’r copi o holiadur I2(paper) neu I2W(papur) sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn, ei roi yn yr amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir a’i anfon i’r Awdurdod drwy’r post; neu ei draddodi i’r person sy’n llenwi holiadur o dan baragraff (a).

Y weithdrefn pan na fo’r Awdurdod yn cael holiadur neu pan fo’n cael holiadur anghyflawn

16.—(1Rhaid i’r Awdurdod—

(a)gwirio’r cofnodion yn y system olrhain holiaduron a chynhyrchu rhestr o gyfeiriadau ar gyfer pob ardal cydgysylltydd cyfrifiad ac ardal cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y mae’r Awdurdod wedi anfon neu wedi danfon pecyn cyfrifiad neu god mynediad unigryw newydd iddynt ond nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur wedi ei lenwi mewn cysylltiad â hwy yn unol â’r Rheoliadau hyn;

(b)darparu i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol y rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) sy’n berthnasol iddynt.

(2Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad a phob cydgysylltydd sefydliadau cymunedol drefnu yn eu tro i swyddogion cyfrifiad a swyddogion sefydliadau cymunedol ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) i wneud unrhyw ymholiadau y mae’r swyddogion hynny yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson rhagnodedig eu darparu.

(3Pan fo swyddog cyfrifiad neu swyddog sefydliadau cymunedol wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (2) i berson rhagnodedig nad yw’r Awdurdod wedi cael holiadur mewn cysylltiad ag ef, caiff y swyddog—

(a)casglu holiadur wedi ei lenwi,

(b)annog y person hwnnw i lenwi holiadur a’i gyflwyno i’r Awdurdod yn unol â’r Rheoliadau hyn,

(c)cytuno y caniateir i’r holiadur wedi ei lenwi gael ei gyflwyno drwy’r post gan ddefnyddio’r amlen wedi ei thalu ymlaen llaw a ddarperir,

(d)gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer casglu’r holiadur papur y mae’r swyddog yn meddwl eu bod yn addas, neu

(e)darparu cod mynediad unigryw newydd neu holiadur papur arall.

(4Rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron pa bryd bynnag y daw holiadur wedi ei lenwi i’w law ar ôl i’r camau o dan baragraffau (2) a (3) gael eu cymryd.

(5Pan fo holiadur yn dod i law’r Awdurdod ond nad yw’r holiadur yn cynnwys rhai o’r manylion neu’r holl fanylion yr oedd Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r person rhagnodedig eu darparu, wedyn o ran penodai—

(a)caiff wneud, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, unrhyw ymholiadau y mae’r penodai yn meddwl eu bod yn rhesymol i unrhyw berson er mwyn cael y manylion coll, a

(b)rhaid iddo gofnodi’r atebion i’r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddiben y cyfrifiad.

(6Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai gofnodi’r atebion yn unol â pharagraff (5)(b), rhaid i’r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o’r fath wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r person rhagnodedig hwnnw.

Rhoi gwybodaeth

17.—(1Rhaid i bob person y mae ffurflen i’w llenwi mewn cysylltiad ag ef o dan Orchymyn y Cyfrifiad, i’r graddau y mae’r person hwnnw yn gallu gwneud hynny, roi i’r person rhagnodedig sy’n atebol am lenwi’r ffurflen unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y person rhagnodedig at ddiben cyflawni rhwymedigaethau’r person rhagnodedig hwnnw o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i bob person rhagnodedig roi i unrhyw benodai yr wybodaeth honno, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y penodai er mwyn cyflawni dyletswyddau’r penodai o dan y Rheoliadau hyn.

(3Ni chaiff person, y rhoddir gwybodaeth bersonol iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, heb awdurdod cyfreithlon—

(a)defnyddio’r wybodaeth honno (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn), na

(b)ei chyhoeddi na’i chyfathrebu i unrhyw berson arall (ac eithrio at ddiben cyflawni rhwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn).

Cadw holiaduron, cofnodion a dogfennau’n ddiogel

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd, pa un ai ar ran y person hwnnw ei hunan neu ar ran unrhyw berson arall, â holiaduron neu â chofnodion a dogfennau eraill o dan ei ofal (gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig) sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, gadw’r holiaduron, y cofnodion a’r dogfennau hynny yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad iddynt.

(2Pan fo unrhyw benodai yn cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan yr Awdurdod, rhaid iddo anfon i’r Awdurdod pob holiadur, cofnod a dogfen sydd ym meddiant y penodai hwnnw, gan gynnwys unrhyw gofnodion a dogfennau a gaiff eu storio ar ddyfais gyfrifiad electronig neu unrhyw gofnodion a dogfennau y ceir mynediad iddynt drwy ddyfais gyfrifiad electronig.

(3Rhaid i’r Awdurdod drefnu i’r canlynol gael eu storio’n ddiogel—

(a)holiaduron wedi eu llenwi,

(b)unrhyw gofnodion a dogfennau papur neu electronig eraill sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad, ac

(c)unrhyw ddyfeisiau electronig y cyfrifiad tra bo’r dyfeisiau hynny yn cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad neu y mae modd cael mynediad i wybodaeth bersonol o’r fath o hyd drwyddynt.

Cadw dyfeisiau electronig y cyfrifiad yn ddiogel

19.  Rhaid i unrhyw berson sy’n cael dyfais gyfrifiad electronig—

(a)defnyddio’r ddyfais gyfrifiad electronig yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais,

(b)sicrhau bod y ddyfais yn cael ei storio’n ddiogel ar bob adeg pan nad yw’n cael ei defnyddio yn y modd hwnnw sy’n atal unrhyw berson nad yw wedi ei awdurdodi rhag cael mynediad i’r ddyfais, ac

(c)gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau gan yr Awdurdod ynghylch pryd neu at bwy i ddychwelyd y ddyfais.

Datganiadau statudol ac ymgymeriadau

20.—(1Rhaid i bob penodai y rhoddir caniatâd iddo gan yr Awdurdod i gael mynediad i’r storfeydd data electronig wneud datganiad statudol sy’n cynnwys y geiriau a nodir yn Atodlen 3, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai gan yr Awdurdod neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(2Caiff unrhyw gyflogai i’r Awdurdod (os yw’n cael ei gyfarwyddo’n addas gan yr Awdurdod i wneud hynny) gymryd y datganiad statudol y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob penodai nad yw’n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) gwblhau ffurflen yr ymgymeriad a nodir yn Atodlen 4, yn unol â’r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodiad y penodai neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4Nid yw’n ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd gan yr Awdurdod cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a gwblhaodd ffurflen ymgymeriad a chanddi’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r ffurflen yn Atodlen 4, gwblhau ymgymeriad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.

(5At ddibenion paragraff (1), ystyr “storfeydd data electronig” yw’r systemau electronig hynny y mae’r Awdurdod yn eu defnyddio i storio’r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron y mae’r Awdurdod yn eu cael.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

28 Mai 2020

Rheoliadau 3(2) a 6(3)

ATODLEN 1

Tabl

(1) Personau Rhagnodedig(2) Enw fersiwn Saesneg yr holiadur(3) Enw fersiwn Gymraeg yr holiadur
Y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, neu yn absenoldeb unrhyw berson o’r fath sy’n alluog i lenwi ffurflen, unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, ar bob aelwyd yng Nghymru.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (online)” yn Rhan 1 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) y Cartref” yn Rhan 1 o Atodlen 2.
Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (paper)” yn Rhan 4 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref” yn Rhan 4 o Atodlen 2.
Pan fo erthygl 5(11) o Orchymyn y Cyfrifiad yn gymwys, y person sy’n gyfrifol o dan yr erthygl honno am lenwi ffurflen yng Nghymru.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Continuation Questionnaire (paper)” yn Rhan 5 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” yn Rhan 5 o Atodlen 2.
Pob preswylydd arferol a bennir yng ngholofn (2) yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y person hwnnw, yng Nghymru.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (online)” yn Rhan 2 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Unigolion” yn Rhan 2 o Atodlen 2.

Pob person a bennir yng ngholofn (2) o Grŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ei ran, yng Nghymru.

Unrhyw etholwr yng Nghymru sy’n llenwi ffurflen unigolyn yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.

Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (paper)” yn Rhan 6 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Unigolion” yn Rhan 6 o Atodlen 2.
Y person a chanddo ofal am y tro dros unrhyw fangre neu lestr a grybwyllir yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad, yng Nghymru.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (online)” yn Rhan 3 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 3 o Atodlen 2.
Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (paper)” yn Rhan 7 o Atodlen 2.Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 7 o Atodlen 2.

Rheoliad 5(1)(a) a (b) ac Atodlen 1

ATODLEN 2Holiaduron: disgrifiad

RHAN 1

Holiadur (ar-lein) y Cartref

(1) Cwestiwn(2) Opsiynau Ymateb
Gwybodaeth am y cartref
Ydych chi’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw, rwy’n byw yma fel arfer

—Nac ydw, nid wyf yn byw yma fel arfer

Os dewisir yr opsiwn ymateb “Ydw, rwy’n byw yma fel arfer”, ni ofynnir y cwestiynau isod yng ngholofn (1) sydd â (†). Os dewisir yr opsiwn ymateb “Nac ydw, nid wyf yn byw yma fel arfer”, ni ofynnir y cwestiynau cyn y rhai sydd â (†).

Beth yw eich enw?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol hefyd yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) ddydd Sul 21 Mawrth 2021?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Aelodau o’r teulu a phartneriaid (dylech gynnwys babanod a anwyd ar neu cyn 21 Mawrth 2021, plant, myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o’r cartref yn ystod y tymor)

—Tenantiaid, lojers neu bobl sy’n rhannu cartref

—Pobl sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel arfer, ond sy’n aros yn y Deyrnas Unedig am 3 mis neu fwy

—Pobl sydd i ffwrdd o’r cartref dros dro (er enghraifft, yn gweithio i ffwrdd, ar wyliau, yn y lluoedd arfog, yn byw mewn sefydliad fel cartref gofal am hyd at 6 mis, dramor am hyd at flwyddyn)

—Pobl sy’n aros dros dro, sy’n byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer, ond sydd heb gyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig (er enghraifft, preswylwyr y Deyrnas Unedig sydd rhwng cyfeiriadau neu heb gartref ar hyn o bryd)

  Neu

—Dim un o’r rhain yn berthnasol, fi yw’r unig berson sy’n byw yma fel arfer

Pwy arall sy’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

Oes unrhyw un arall yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oes, mae angen i mi ychwanegu (ail, trydydd ac ati) unigolyn (Os caiff ei ddewis, caiff y cwestiwn union uchod yng ngholofn (1) ei ailadrodd.)

—Nac oes, nid oes angen i mi ychwanegu unrhyw un

(†) Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) ddydd Sul 21 Mawrth 2021?

—Dim un o’r rhain yn berthnasol, nid oes neb yn byw yma fel arfer (er enghraifft, ail gyfeiriad neu dŷ gwyliau yw hwn)

(†) Pwy sy’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

(†) Oes unrhyw un arall yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

Oes, mae angen i mi ychwanegu (ail, trydydd ac ati) unigolyn (Os caiff ei ddewis, caiff y cwestiwn union uchod yng ngholofn (1) ei ailadrodd, ond gofynnir: “Pwy arall sy’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?”)

Nac oes, nid oes angen i mi ychwanegu unrhyw un

Ar wahân i bawb a gafodd eu cynnwys eisoes, pwy arall sy’n aros dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021 yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Pobl sydd fel arfer yn byw yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, cariadon, ffrindiau, perthnasau

—Pobl sy’n aros yma gan mai dyma eu hail gyfeiriad, er enghraifft, oherwydd gwaith. Mae eu cyfeiriad parhaol neu gyfeiriad y teulu yn rhywle arall

—Pobl sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel arfer, ac sy’n aros yn y Deyrnas Unedig am lai na 3 mis

—Pobl sydd ar wyliau yma

  Neu

—Nid oes unrhyw ymwelwyr yn aros yma dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021 (Os caiff ei ddewis, ni ofynnir y cwestiwn nesaf yng ngholofn (1).)

Beth yw enw’r ymwelydd (ail ymwelydd, trydydd ymwelydd ac ati) sy’n aros dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021 yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Cyfenw

Gwybodaeth am berthynas aelodau o’r cartref â’i gilydd

Disgrifir y berthynas rhwng yr ymatebydd a phob preswylydd arall yn y cartref:

(Enw’r preswylydd arall hwnnw) yw eich (gwahoddiad i ddewis un o’r opsiynau ymateb gyferbyn, a ddangosir wedyn i gwblhau’r datganiad hwn).

Dewisir un o’r canlynol:

—Gŵr neu wraig

—Partner sifil cofrestredig cyfreithiol

—Partner

—Mab neu ferch

—Llysblentyn

—Brawd neu chwaer (gan gynnwys hanner brawd neu hanner chwaer)

—Llysfrawd neu lyschwaer

—Mam neu dad

—Llysfam neu lysdad

—Ŵyr neu wyres

—Taid/tad-cu neu nain/mam-gu

—Perthynas arall

—Ddim yn perthyn (gan gynnwys plentyn maeth)

Disgrifir y berthynas rhwng pob preswylydd arall yn y cartref (os yw’r ymatebydd yn breswylydd), neu’r berthynas rhwng y preswylwyr yn y cartref (lle nad yw’r ymatebydd yn breswylydd):

Gan feddwl am (enw preswylydd dau ac ati), mae (enw preswylydd tri ac ati) yn (gwahoddiad i ddewis un o’r opsiynau ymateb gyferbyn, a ddangosir wedyn i gwblhau’r datganiad hwn) i (enw preswylydd dau ac ati).

Dewisir un o’r opsiynau ymateb a ddangosir mewn perthynas â’r cwestiwn union uchod yng ngholofn (1).
Gwybodaeth am lety’r cartref
Pa fath o gartref yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Tŷ neu fyngalo cyfan

—Fflat neu maisonette

—Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Os mai “Tŷ neu fyngalo cyfan” yw’r ymateb yna:

Pa un o’r canlynol yw eich tŷ neu eich byngalo?

Dewisir un o’r canlynol:

—Adeilad ar wahân

—Tŷ neu fyngalo semi

—Tŷ neu fyngalo mewn teras (gan gynnwys ar y pen)

Os mai “Fflat neu maisonette” yw’r ymateb yna:

Ble mae eich fflat neu maisonette?

Dewisir un o’r canlynol:

—Mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol

—Yn rhan o dŷ wedi’i addasu neu dŷ sy’n cael ei rannu (gan gynnwys fflatiau un ystafell)

—Rhan o adeilad arall wedi’i addasu (er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws)

—Mewn adeilad masnachol (er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop)

Ydy pob ystafell yn y cartref, gan gynnwys y gegin, yr ystafell ymolchi a’r toiled, y tu ôl i ddrws sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o’r cartref hwn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydy

—Nac ydy, mae o leiaf un o’r ystafelloedd yn cael ei rhannu ag aelodau o gartref arall

Sawl ystafell wely sydd at ddefnydd aelodau o’r cartref hwn yn unig?Nodir nifer yr ystafelloedd gwely
Pa fath o wres canolog sydd yn (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Dim gwres canolog

—Prif gyflenwad nwy

—Nwy tanc neu botel

—Trydan (gan gynnwys gwresogyddion stôr)

—Olew

—Coed (er enghraifft boncyffion, pren gwastraff neu belenni)

—Tanwydd solet (er enghraifft, glo)

—Ynni adnewyddadwy (er enghraifft, pympiau gwres neu solar thermol)

—Rhwydweithiau gwres rhanbarthol neu gymunedol

—Arall

Os oes un neu fwy o breswylwyr arferol yng nghyfeiriad y cyfrifiad, yna:

Oes aelod neu aelodau o’ch cartref yn berchen ar (cyfeiriad y cyfrifiad) neu’n ei rentu?

Dewisir un o’r canlynol:

—Yn berchen arno’n gyfan gwbl

—Yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad

—Yn berchen arno’n rhannol ac yn ei rentu’n rhannol (cynllun rhan-berchenogaeth)

—Yn ei rentu (gyda chymorth budd-dal tai neu hebddo)

—Yn byw yma heb dalu rhent

Os mai “Yn berchen arno’n rhannol ac yn ei rentu’n rhannol (cynllun rhan-berchenogaeth)”, neu “Yn ei rentu (gyda chymorth budd-dal tai neu hebddo)” neu “Yn byw yma heb dalu rhent” yw’r ymateb yna:

Pwy yw eich landlord?

Dewisir un o’r canlynol:

—Cymdeithas dai, cwmni tai cydweithredol, ymddiriedolaeth elusennol, landlord cymdeithasol cofrestredig

—Y cyngor neu’r awdurdod lleol

—Landlord preifat neu asiantaeth gosod tai

—Cyflogwr aelod o’r cartref

—Perthynas neu ffrind i aelod o’r cartref

—Arall

Os oes un neu fwy o breswylwyr arferol yng nghyfeiriad y cyfrifiad, yna:

Sawl car neu fan sy’n eiddo i aelodau o’r cartref hwn, neu sydd ar gael i’w defnyddio ganddynt?

Dewisir un o’r canlynol:

—Dim un

—1

—2

—3

—4

—5 neu fwy (os felly nodir union nifer y ceir neu faniau)

Gwybodaeth am breswylwyr unigol
Ai chi yw (enw’r preswylydd)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ie

—Na, rwy’n ateb ar ran yr unigolyn hwn

Beth yw eich dyddiad geni?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Diwrnod-Mis-Blwyddyn

Rydych chi’n (oedran wedi’i gyfrifo’n awtomatig) oed (neu ‘mis oed’ neu ‘diwrnod oed’ yn dibynnu ar oedran y preswylydd). Ydy hyn yn gywir?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydy, rwy’n (oedran wedi’i gyfrifo’n awtomatig) oed (mis neu ddiwrnod)

—Nac ydy, mae angen i mi gywiro fy nyddiad geni

Beth yw eich rhyw?

Dewisir un o’r canlynol:

—Benyw

—Gwryw

Yn gyfreithiol, beth yw eich statws priodasol neu statws eich partneriaeth sifil gofrestredig ar 21 Mawrth 2021?

Dewisir un o’r canlynol:

—Erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil

—Priod

—Mewn partneriaeth sifil gofrestredig

—Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod

—Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod mewn partneriaeth sifil

—Wedi ysgaru

—Wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol

—Person gweddw

—Wedi colli partner sifil cofrestredig drwy farwolaeth

Os mai “Priod” neu “Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod” yw’r ymateb yna:

Pwy yw eich priod cyfreithiol?

Dewisir un o’r canlynol:

—Person o’r rhyw arall

—Person o’r un rhyw

Os mai “Wedi ysgaru” neu “Person gweddw” yw’r ymateb yna:

Pwy oedd eich priod cyfreithiol?

Dewisir un o’r canlynol:

—Person o’r rhyw arall

—Person o’r un rhyw

Os mai “Mewn partneriaeth sifil gofrestredig” neu “Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod mewn partneriaeth sifil” yw’r ymateb yna:

Pwy yw eich partner sifil cofrestredig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Person o’r rhyw arall

—Person o’r un rhyw

Os mai “Wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol” neu “Wedi colli partner sifil cofrestredig drwy farwolaeth” yw’r ymateb yna:

Pwy oedd eich partner sifil cofrestredig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Person o’r rhyw arall

—Person o’r un rhyw

Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nac ydw

—Ydw, mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

—Ydw, mewn cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig (os felly nodir enw presennol y wlad)

Os mai “Ydw, mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig” neu “Ydw, mewn cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig” yw’r ymateb yna:

Pa fath o gyfeiriad yw (cyfeiriad yn y DU)?

Neu

Pa fath o gyfeiriad yw eich cyfeiriad yn (enw’r wlad)?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Cyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog

—Cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref

—Cyfeiriad cartref myfyriwr

—Cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor

—Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall

—Cyfeiriad partner

—Cyfeiriad tŷ gwyliau

—Arall

Os yw’r unigolyn yn 18 oed neu’n iau:

Ydych chi’n blentyn ysgol neu’n fyfyriwr mewn addysg amser llawn?

Os yw’r unigolyn yn 19 oed neu drosodd:

Ydych chi’n fyfyriwr mewn addysg amser llawn?

Ar gyfer y naill gwestiwn neu’r llall, dewisir un o’r canlynol:

—Ydw

—Nac ydw

Os mai “Ydw” yw’r ymateb yna:

Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—(cyfeiriad y cyfrifiad)

—(unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig neu enw presennol y wlad a roddir mewn ymateb i’r cwestiwn cynharach yng ngholofn (1): “Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?”) (Os dewisir hwn, yna dim ond y cwestiynau isod yng ngholofn (1) sydd â (‡) a ofynnir (lle y bo’n berthnasol), ac ni ofynnir y cwestiynau eraill sy’n gysylltiedig.)

—Cyfeiriad arall (Os dewisir hwn, yna dim ond y cwestiynau isod yng ngholofn (1) sydd â (‡) a ofynnir (lle y bo’n berthnasol), ac ni ofynnir y cwestiynau eraill sy’n gysylltiedig. Yr eithriad yw’r cwestiwn union isod yng ngholofn (1) sydd hefyd yn cael ei ofyn, os yw’n codi.)

Os mai “Cyfeiriad arall” yw’r ymateb (ac os nodwyd “Nac ydw” mewn ymateb i’r cwestiwn cynharach: “Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?”) yna:

Ydy’r cyfeiriad hwn yn y Deyrnas Unedig?

Ar ôl y cwestiwn hwn, dim ond y cwestiynau isod sydd â (‡) a ofynnir (lle y bo’n berthnasol), ac ni ofynnir y cwestiynau eraill sy’n gysylltiedig.

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydy (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

—Nac ydy (os felly nodir enw presennol y wlad)

Ym mha wlad y cawsoch chi eich geni?

Dewisir un o’r canlynol:

—Cymru

—Lloegr

—Yr Alban

—Gogledd Iwerddon

—Gweriniaeth Iwerddon

—Rhywle arall (os felly nodir enw presennol y wlad)

Os mai “Gweriniaeth Iwerddon” neu “Rhywle arall” yw’r ymateb yna:

Pryd ddaethoch chi i fyw yn y Deyrnas Unedig ddiwethaf?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Mis-Blwyddyn

Os mai “Mawrth-2020” yw’r ymateb yna:

Wnaethoch chi ddod i’r Deyrnas Unedig ar 21 Mawrth 2020 neu ar ôl hynny?

Dewisir un o’r canlynol:

—Do

—Naddo

Os mai “Do” yw’r ymateb, neu os mai’r ymateb i’r cwestiwn cynharach yw “Ebrill-2020” neu unrhyw ddyddiad diweddarach, yn hytrach na “Mawrth-2020”, yna:

Gan gynnwys yr amser rydych chi wedi’i dreulio yma’n barod, am faint ydych chi’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Llai na 12 mis

—12 mis neu fwy

Flwyddyn yn ôl, beth oedd eich cyfeiriad arferol?

Dewisir un o’r canlynol:

—(lle mae mwy nag un ymatebydd mewn cartref, caiff yr ail, trydydd ymatebydd ac ati yr opsiwn ymateb ychwanegol o fabwysiadu’r opsiwn ymateb sydd wedi’i ddewis gan yr ymatebydd cyntaf)

—(Cyfeiriad y cyfrifiad)

—Cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

—Cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

—Cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig (os felly nodir enw presennol y wlad)

Sut fyddech chi’n disgrifio eich hunaniaeth genedlaethol?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Cymro/Cymraes

—Sais/Saesnes

—Albanwr/Albanes

—Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon

—Prydeiniwr/Prydeinwraig

—Arall (os felly disgrifir yr hunaniaeth genedlaethol)

Beth yw eich grŵp ethnig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gwyn

—Grwpiau Cymysg neu Amlethnig

—Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig

—Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd

—Grŵp ethnig arall

Os mai “Gwyn” yw’r ymateb yna:

Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Gwyn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig

—Gwyddelig

—Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

—Roma

—Unrhyw gefndir Gwyn arall (os felly nodir y cefndir Gwyn arall)

Os mai “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” yw’r ymateb yna:

Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu gefndir Cymysg neu Amlethnig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gwyn a Du Caribïaidd

—Gwyn a Du Affricanaidd

—Gwyn ac Asiaidd

—Unrhyw gefndir Cymysg neu Amlethnig arall (os felly nodir y cefndir Cymysg neu Amlethnig arall)

Os mai “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” yw’r ymateb yna:

Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig?

Dewisir un o’r canlynol:

—Indiaidd

—Pacistanaidd

—Bangladeshaidd

—Tsieineaidd

—Unrhyw gefndir Asiaidd arall (os felly nodir y cefndir Asiaidd arall)

Os mai “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” yw’r ymateb yna:

Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Caribïaidd

—Affricanaidd (os felly nodir y cefndir Affricanaidd)

—Unrhyw gefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall (os felly nodir y cefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall)

Os mai “Grŵp ethnig arall” yw’r ymateb yna:

Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir arall?

Dewisir un o’r canlynol:

—Arabaidd

—Unrhyw grŵp ethnig arall (os felly nodir y grŵp ethnig arall)

Beth yw eich crefydd?

Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol

Dewisir un o’r canlynol:

—Dim crefydd

—Cristnogaeth (pob enwad)

—Bwdhaeth

—Hindŵaeth

—Iddewiaeth

—Islam

—Siciaeth

—Unrhyw grefydd arall (os felly nodir y grefydd)

Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Deall Cymraeg llafar

—Siarad Cymraeg

—Darllen Cymraeg

—Ysgrifennu Cymraeg

Neu

—Dim un o’r rhain

Beth yw eich prif iaith?

Dewisir un o’r canlynol:

—Cymraeg neu Saesneg

—Arall, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (os felly nodir yr iaith arall)

Os mai “Arall, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain” yw’r ymateb yna:

Pa mor dda ydych chi’n gallu siarad Saesneg?

Dewisir un o’r canlynol:

—Da iawn

—Da

—Ddim yn dda

—Ddim o gwbl

Pa basbortau sydd gennych chi?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Y Deyrnas Unedig

—Iwerddon

—Arall (os felly nodir y pasbortau sydd gan yr unigolyn)

  Neu

—Dim un

Sut mae eich iechyd yn gyffredinol?

Dewisir un o’r canlynol:

—Da iawn

—Da

—Gweddol

—Gwael

—Gwael iawn

Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oes

—Nac oes

Os mai “Oes” yw’r ymateb yna:

Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydy, yn fawr

—Ydy, ychydig

—Ddim o gwbl

Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nac ydw

—Ydw, 9 awr neu lai yr wythnos

—Ydw, 10 i 19 awr yr wythnos

—Ydw, 20 i 34 awr yr wythnos

—Ydw, 35 i 49 awr yr wythnos

—Ydw, 50 awr neu fwy yr wythnos

Mae’r holl gwestiynau isod yng ngholofn (1) ar gyfer ymatebwyr 16 oed a throsodd yn unig, heblaw am y cwestiynau sydd â (‡). Os yw’n berthnasol, gellir gofyn y cwestiynau hyn i unrhyw ymatebydd

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?

Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol

Dewisir un o’r canlynol:

—Heterorywiol/Strêt

—Hoyw neu Lesbiaidd

—Deurywiol/Bi

—Cyfeiriadedd rhywiol arall (os felly nodir y cyfeiriadedd rhywiol)

A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’ch rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?

Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydy

—Nac ydy (os felly nodir yr hunaniaeth o ran rhywedd)

Gwybodaeth am gymwysterau
Ydych chi wedi cwblhau prentisiaeth?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw (er enghraifft, crefft, uwch, sylfaen neu fodern)

—Nac ydw

Oes gennych chi gymhwyster ar lefel gradd neu uwch?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oes (er enghraifft, gradd, gradd sylfaen, HND neu HNC, NVQ lefel 4 ac uwch, addysgu neu nyrsio)

—Nac oes

Oes gennych chi NVQ neu gymhwyster cyfatebol?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol (er enghraifft BTEC Cenedlaethol, OND neu ONC, Crefft Uwch City and Guilds)

—NVQ lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol (er enghraifft, BTEC Cyffredinol, Crefft City and Guilds)

—NVQ lefel 1 neu gymhwyster cyfatebol

  Neu

—Dim un o’r rhain

Oes gennych chi Lefel AS (Safon UG), Lefel A (Safon Uwch) neu gymhwyster cyfatebol?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—2 neu fwy o gymwysterau Lefel A (Safon Uwch) (gan gynnwys 4 Lefel AS (Safon UG) neu fwy)

—1 Lefel A (Safon Uwch) (gan gynnwys 2-3 Lefel AS (Safon UG))

—1 Lefel AS (Safon UG)

—Bagloriaeth Cymru – Uwch

  Neu

—Dim un o’r rhain

Oes gennych chi gymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—5 neu fwy o gymwysterau TGAU A* i C neu 9 i 4 (gan gynnwys 5 neu fwy Lefel O (marc llwyddo) neu TAUau graddau 1)

—Unrhyw gymwysterau TGAU eraill (gan gynnwys unrhyw Lefel O neu TAU arall ar unrhyw radd)

—Cwrs Sgiliau Sylfaenol (Sgiliau bywyd, llythrennedd, rhifedd ac iaith)

—Bagloriaeth Cymru – Canolradd neu Genedlaethol

—Bagloriaeth Cymru – Sylfaen

  Neu

—Dim un o’r rhain

Os mai “Nac ydw”, “Nac oes” neu “Dim un o’r rhain” yw’r ymateb i’r holl gwestiynau uchod am gymwysterau, yna:

Oes gennych chi unrhyw gymwysterau eraill?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Oes, o Gymru neu o Loegr

—Oes, o unrhyw le y tu allan i Gymru a Lloegr

  Neu

—Dim cymwysterau

Gwybodaeth am swyddi blaenorol a phresennol
Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (er enghraifft, y fyddin)?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Rheolaidd yn y gorffennol

—Ydw, wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Wrth Gefn yn y gorffennol

  Neu

—Nac ydw

Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n gwneud unrhyw un o’r canlynol?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Gwaith cyflogedig

—Gwaith hunangyflogedig neu ar eich liwt eich hun

—I ffwrdd o’ch gwaith dros dro yn sâl, ar wyliau, neu wedi’ch cadw dros dro o’ch gwaith am na all eich cyflogwr gynnig gwaith ar hyn o bryd

—Ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth

—Unrhyw fath arall o waith am dâl

  Neu

—Dim un o’r rhain

Os dewisir yr opsiwn ymateb “Dim un o’r rhain”, gofynnir y cwestiynau sydd â (⸸) yng ngholofn (1) (fel y bo’n briodol) ac ni ofynnir y cwestiynau sy’n gysylltiedig. Os dewisir unrhyw opsiwn neu opsiynau ymateb eraill, gofynnir y cwestiynau cysylltiedig ac ni ofynnir y cwestiynau sydd â (⸸).

Yn eich prif swydd, beth yw eich statws cyflogaeth?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithiwr cyflogedig

—Hunangyflogedig neu’n gweithio ar eich liwt eich hun heb gyflogi gweithwyr eraill

—Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill

Beth yw enw’r sefydliad neu’r busnes rydych chi’n gweithio iddo?

Dewisir un o’r canlynol:

Nodir enw’r sefydliad neu’r busnes

Neu

—Dim sefydliad neu’n gweithio i unigolyn preifat

Beth yw teitl llawn eich swydd?Nodir teitl llawn y swydd
Beth ydych chi’n ei wneud yn eich prif swydd?Disgrifir y swydd
Beth yw prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun?Nodir y prif weithgarwch
Ydych chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw

—Nac ydw

Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—0 i 15 awr

—16 i 30 awr

—31 i 48 awr

—49 awr neu fwy

Sut ydych chi’n teithio i’r gwaith fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf

—Trên tanddaearol, metro, tram neu reilffordd ysgafn

—Trên

—Bws neu fws mini

—Tacsi

—Beic modur, moped neu sgwter

—Gyrru car neu fan

—Teithiwr mewn car neu fan

—Beic

—Cerdded

—Arall

Ble ydych chi’n gweithio’n bennaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Mewn gweithle

—Adrodd i ddepo

—Gartref neu o’r cartref

—Ar safle ar y môr

—Dim man penodol

Os mai “Mewn gweithle” neu “Adrodd i ddepo” yw’r ymateb yna:

Ydych chi’n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn bennaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw (os felly nodir cyfeiriad a chod post y gweithle neu’r depo)

—Nac ydw (os felly nodir y wlad)

(⸸) Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r hyn roeddech chi’n ei wneud yn ystod y 7 diwrnod diwethaf?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Wedi ymddeol (gan dderbyn pensiwn neu beidio)

—Astudio

—Gofalu am y cartref neu am y teulu

—Anabl neu yn sâl am gyfnod hir

—Arall

(⸸) Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, oeddech chi wrthi’n chwilio am unrhyw fath o waith am dâl?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

(⸸) Os mai “Oeddwn” yw’r ymateb yna:

Ydych chi ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw

—Nac ydw

(⸸) Os mai “Nac oeddwn” yw’r ymateb, ddim wrthi’n chwilio am waith am dâl, neu “Nac ydw”, ddim ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, yna:

Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n aros i ddechrau swydd roeddech chi eisoes wedi’i derbyn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

(⸸) Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw, yn ystod y 12 mis diwethaf

—Ydw, ond nid yn ystod y 12 mis diwethaf

—Nac ydw, erioed wedi gweithio (Os caiff ei ddewis, hepgorir y cwestiynau sy’n weddill yng ngholofn (1) sydd â (⸸).)

(⸸) Yn eich prif swydd, beth oedd eich statws cyflogaeth?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithiwr cyflogedig

—Hunangyflogedig neu’n gweithio ar eich liwt eich hun heb gyflogi gweithwyr eraill

—Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill

(⸸) Beth oedd enw’r sefydliad neu’r busnes roeddech chi’n gweithio iddo?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nodir enw’r sefydliad neu’r busnes

  Neu

— Dim sefydliad neu’n gweithio i unigolyn preifat

(⸸) Beth oedd teitl llawn eich swydd?Nodir teitl y swydd
(⸸) Beth oeddech chi’n ei wneud yn eich prif swydd?Disgrifir y swydd
(⸸) Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun?Nodir y prif weithgarwch
(⸸) Oeddech chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

Gwybodaeth am ymwelwyr
(‡) Beth yw dyddiad geni (enw’r ymwelydd)?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Diwrnod-Mis-Blwyddyn

(‡) Beth yw rhyw (enw’r ymwelydd)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Benyw

—Gwryw

(‡) Beth yw cyfeiriad arferol (enw’r ymwelydd)?

Dewisir un o’r canlynol:

—(lle mae mwy nag un ymwelydd mewn cartref, caiff yr ail, trydydd ymwelydd ac ati yr opsiwn ymateb ychwanegol o fabwysiadu’r opsiwn ymateb sydd wedi’i ddewis gan yr ymwelydd cyntaf)

Cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

Cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig (os felly nodir enw presennol y wlad)

Rheoliad 5(1)(a) a (b) ac Atodlen 1

ATODLEN 3Holiaduron: disgrifiad

Os dewisir yr opsiwn ymateb “Dim un o’r rhain”, gofynnir y cwestiynau sydd â (⸸) yng ngholofn (1) (fel y bo’n briodol) ac ni ofynnir y cwestiynau sy’n gysylltiedig. Os dewisir unrhyw opsiwn neu opsiynau ymateb eraill, gofynnir y cwestiwn cysylltiedig ac ni ofynnir y cwestiynau sydd â (⸸).

Yn eich prif swydd, beth yw eich statws cyflogaeth?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithiwr cyflogedig

—Hunangyflogedig neu’n gweithio ar eich liwt ei hun heb gyflogi gweithwyr eraill

—Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill

Beth yw enw’r sefydliad neu’r busnes rydych chi’n gweithio iddo?

Dewisir un o’r canlynol:

Nodir enw’r sefydliad neu’r busnes

Neu

—Dim sefydliad neu’n gweithio i unigolyn preifat

Beth yw teitl llawn eich swydd?Nodir teitl llawn y swydd
Beth ydych chi’n ei wneud yn eich prif swydd?Disgrifir y swydd
Beth yw prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun?Nodir y prif weithgarwch
Ydych chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw

—Nac ydw

Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—0 i 15 awr

—16 i 30 awr

—31 i 48 awr

—49 awr neu fwy

Sut ydych chi’n teithio i’r gwaith fel arfer?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf

—Trên tanddaearol, metro, tram neu reilffordd ysgafn

—Trên

—Bws neu fws mini

—Tacsi

—Beic modur, moped neu sgwter

—Gyrru car neu fan

—Teithiwr mewn car neu fan

—Beic

—Cerdded

—Arall

Ble ydych chi’n gweithio’n bennaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Mewn gweithle

—Adrodd i ddepo

—Gartref neu o’r cartref

—Ar safle ar y môr

—Dim man penodol

Os mai “Mewn gweithle” neu “Adrodd i ddepo” yw’r ymateb yna:

Ydych chi’n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn bennaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw (os felly nodir cyfeiriad a chod post y gweithle neu’r depo)

—Nac ydw (os felly nodir y wlad)

(⸸) Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r hyn roeddech chi’n ei wneud yn ystod y 7 diwrnod diwethaf?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Wedi ymddeol (gan dderbyn pensiwn neu beidio)

—Astudio

—Gofalu am y cartref neu am y teulu

—Anabl neu yn sâl am gyfnod hir

—Arall

(⸸) Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, oeddech chi wrthi’n chwilio am unrhyw fath o waith am dâl?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

(⸸) Os mai “Oeddwn” yw’r ymateb yna:

Ydych chi ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw

—Nac ydw

(⸸) Os mai “Nac oeddwn” yw’r ymateb, ddim wrthi’n chwilio am waith am dâl, neu “Nac ydw”, ddim ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, yna:

Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n aros i ddechrau swydd roeddech chi eisoes wedi’i derbyn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

(⸸) Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ydw, yn ystod y 12 mis diwethaf

—Ydw, ond nid yn ystod y 12 mis diwethaf

—Nac ydw, erioed wedi gweithio (Os caiff ei ddewis, hepgorir y cwestiynau sy’n weddill yng ngholofn (1) sydd â (⸸).)

(⸸) Yn eich prif swydd, beth oedd eich statws cyflogaeth?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gweithiwr cyflogedig

—Hunangyflogedig neu’n gweithio ar eich liwt ei hun heb gyflogi gweithwyr eraill

—Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill

(⸸) Beth oedd enw’r sefydliad neu’r busnes roeddech chi’n gweithio iddo?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nodir enw’r sefydliad neu’r busnes

  Neu

— Dim sefydliad neu’n gweithio i unigolyn preifat

(⸸) Beth oedd teitl llawn eich swydd?Nodir teitl y swydd
(⸸) Beth oeddech chi’n ei wneud yn eich prif swydd?Disgrifir y swydd
(⸸) Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun?Nodir y prif weithgarwch
(⸸) Oeddech chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Oeddwn

—Nac oeddwn

Gwybodaeth am ymwelwyr
(‡) Beth yw dyddiad geni (enw’r ymwelydd)?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Diwrnod-Mis-Blwyddyn

(‡) Beth yw rhyw (enw’r ymwelydd)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Benyw

—Gwryw

(‡) Beth yw cyfeiriad arferol (enw’r ymwelydd)?

Dewisir un o’r canlynol:

—(lle mae mwy nag un ymwelydd mewn cartref, caiff yr ail, trydydd ymwelydd ac ati yr opsiwn ymateb ychwanegol o fabwysiadu’r opsiwn ymateb sydd wedi’i ddewis gan yr ymwelydd cyntaf)

Cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig (os felly nodir y cyfeiriad a’r cod post)

Cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig (os felly nodir enw presennol y wlad)

RHAN 2

Holiadur (ar-lein) i Unigolion

(1) Cwestiwn(2) Opsiynau Ymateb
Pa fath o gartref yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

Sefydliad cymunedol (er enghraifft, neuadd breswyl i fyfyrwyr, ysgol breswyl, un o ganolfannau’r lluoedd arfog, ysbyty, cartref gofal, carchar) (Os dewisir yr opsiwn ymateb hwn, gofynnir y cwestiwn isod yng ngholofn (1) sydd â (⁑).)

—Cartref preifat neu gartref teulu

Ydych chi’n ateb y cwestiynau hyn drosoch chi eich hun neu ar ran rhywun arall?

Dewisir un o’r canlynol:

—Drosof fi fy hun

—Ar ran rhywun arall

Os mai “Drosof fi fy hun” yw’r ymateb yna:

Beth yw eich enw?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

Os mai “Ar ran rhywun arall” yw’r ymateb yna:

Beth yw enw’r unigolyn?

Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:

Enw cyntaf

Enw(au) canol

Cyfenw

(⁑) Pa un o’r rhain sy’n eich disgrifio orau yn y sefydliad hwn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Preswylydd (er enghraifft, myfyriwr, aelod o’r lluoedd arfog, claf, carcharor)

—Aelod o staff neu berchennog y sefydliad

—Perthynas neu bartner i’r perchennog neu i aelod o’r staff

—Aros dros dro (heb gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig)

Mae’r cwestiynau dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r cwestiynau yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys y cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys y cwestiynau sydd â (‡).

Mae’r opsiynau ymateb dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r opsiynau ymateb yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys yr opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys yr opsiynau ymateb i’r cwestiynau sydd â (‡).

Nid yw’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn yr ail opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer?”, na’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn y cwestiwn “Ydy’r cyfeiriad hwn yn y Deyrnas Unedig?” (y mae’r ddau ohonynt yn cyfeirio ymatebwyr i’r cwestiynau sydd â (‡)) yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen hon yn gymwys yn y tabl hwn. Yn hytrach, ym mhob achos, y cyfarwyddyd cyfeirio yw: “Os caiff ei ddewis/Ar ôl y cwestiwn hwn (fel y bo’n briodol), ni ofynnir unrhyw gwestiynau pellach.”

RHAN 3

Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol

(1) Cwestiwn(2) Opsiynau Ymateb
Pa fath o sefydliad yw hwn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Meddygol neu ofal

—Addysg

—Lluoedd arfog

—Sefydliad cadw

—Llety dros dro neu wrth deithio

—Sefydliad crefyddol

—Llety i staff neu weithwyr yn unig

—Sefydliad arall

Os mai “Meddygol neu ofal” yw’r ymateb yna:

Pa fath o sefydliad meddygol neu ofal yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Cartref gofal heb nyrsio

—Cartref gofal â nyrsio

—Cartref plant (gan gynnwys unedau diogel)

—Ysbyty cyffredinol

—Ysbyty neu uned iechyd meddwl (gan gynnwys unedau diogel)

—Ysbyty arall

—Math arall o sefydliad meddygol neu ofal

Os mai “Addysg” yw’r ymateb yna:

Pa fath o sefydliad addysg yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Ysgol

—Prifysgol (er enghraifft, neuadd breswyl)

—Math arall o sefydliad addysg

Os mai “Sefydliad cadw” yw’r ymateb yna:

Pa fath o sefydliad cadw yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Sefydliad gwasanaeth carchardai (gan gynnwys sefydliadau troseddwyr ifanc)

—Safle a gymeradwywyd (hostel prawf neu fechnïaeth)

—Canolfan gadw

—Math arall o sefydliad cadw

Os mai “Llety dros dro neu wrth deithio” yw’r ymateb yna:

Pa fath o sefydliad llety dros dro neu wrth deithio yw (cyfeiriad y cyfrifiad)?

Dewisir un o’r canlynol:

—Gwesty, tŷ llety, gwely a brecwast, hostel ieuenctid (gan gynnwys tafarndai)

—Llety gwyliau (er enghraifft, parc gwyliau)

—Hostel neu loches dros dro i bobl ddigartref

—Math arall o lety dros dro neu wrth deithio

Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad hwn?

Dewisir un o’r canlynol:

—Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

—Awdurdod lleol

—Un o adrannau neu asiantaethau’r llywodraeth

—Landlord cymdeithasol cofrestredig neu gymdeithas dai

—Elusen neu gorff gwirfoddol

—Cwmni neu berchennog preifat

—Sefydliad addysg uwch neu addysg bellach

—Arall

Oes unrhyw un o’r canlynol yn byw yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Unrhyw un sydd eisoes wedi treulio, neu sy’n disgwyl treulio, 6 mis neu fwy yn y sefydliad hwn, hyd yn oed os bydd i ffwrdd ar 21 Mawrth 2021

—Preswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n aros yn y sefydliad hwn ar 21 Mawrth 2021 ac sydd heb gyfeiriad arferol arall yn y Deyrnas Unedig

—Pobl sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel arfer, sydd wedi aros, neu sy’n bwriadu aros, yn y Deyrnas Unedig am 3 mis neu fwy ac sydd heb gyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig

—Myfyrwyr neu blant ysgol sy’n aros yn y sefydliad hwn yn ystod y tymor

—Chi’ch hun, eich teulu, staff ac unrhyw un arall sy’n byw yn y sefydliad hwn

  Neu

—Dim un o’r rhain

Faint o bobl sy’n byw yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nodir nifer y preswylwyr

Nid oes neb yn byw yn y sefydliad hwn (Bydd yr opsiwn ymateb ychwanegol hwn ond yn ymddangos os mai’r opsiwn ymateb a ddewiswyd ar gyfer y cwestiwn blaenorol yng ngholofn (1) oedd “Dim un o’r rhain”.)

Oes unrhyw un o’r ymwelwyr canlynol yn aros dros nos yn y sefydliad hwn ar 21 Mawrth 2021?

Dewisir pob un sy’n berthnasol:

—Unrhyw un â chyfeiriad arferol arall yn y Deyrnas Unedig sydd wedi treulio, neu sy’n disgwyl treulio, llai na 6 mis yn y sefydliad hwn

—Unrhyw un o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am lai na 3 mis

  Neu

—Dim un o’r rhain

Faint o ymwelwyr sy’n aros dros nos yn y sefydliad hwn ar 21 Mawrth 2021?

Dewisir un o’r canlynol:

—Nodir nifer yr ymwelwyr

Nid oes unrhyw ymwelwyr yn aros dros nos (Bydd yr opsiwn ymateb ychwanegol hwn ond yn ymddangos os mai’r opsiwn ymateb a ddewiswyd ar gyfer y cwestiwn blaenorol yng ngholofn (1) oedd “Dim un o’r rhain”.)

RHAN 4Holiadur (papur) y Cartref

RHAN 5Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)

RHAN 6Holiadur (papur) i Unigolion

RHAN 7Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol

RHAN 8Swyddogaethau a Nodweddion Holiaduron Ar-lein

1.  Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r cyfrifiad ac o ran llenwi a chyflwyno holiaduron ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)dechrau holiadur ar-lein,

(b)y personau y mae rhaid iddynt lenwi ffurflen y cyfrifiad,

(c)aelodau o’r aelwyd yn ateb y rhannau o holiadur sy’n berthnasol iddynt hwy,

(d)pryd y dylid llenwi ffurflen y cyfrifiad,

(e)sut y bydd yr Awdurdod yn defnyddio ac yn diogelu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherson rhagnodedig,

(f)ble a sut y gellir dod o hyd i gymorth er mwyn llenwi holiadur ar-lein, ac

(g)natur fandadol y cyfrifiad yn ei gyfanrwydd, ond natur wirfoddol cwestiynau penodol o fewn y cyfrifiad.

2.  Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys swyddogaethau a nodweddion er mwyn galluogi—

(a)person rhagnodedig i gael mynediad i’r holiadur ar-lein perthnasol drwy fewnbynnu cod mynediad unigryw ar-lein,

(b)i god mynediad unigryw gysylltu’n awtomatig â chyfeiriad aelwyd neu sefydliad cymunedol,

(c)i gyfeiriad person rhagnodedig gael ei arddangos yn awtomatig pan fo’n berthnasol mewn rhannau gwahanol o holiadur ar-lein,

(d)pan fo holiadur ar-lein yn cael ei lenwi gan berson ar ran person arall yn unol â’r Rholiadau hyn, i unrhyw eiriau, llythrennau neu atalnodi gael eu haddasu’n awtomatig i sicrhau bod y cyfarwyddiadau neu’r cwestiynau yn gwneud synnwyr yn ramadegol, gan gynnwys rhoi enw’r person y mae’r holiadur ar-lein yn cael ei lenwi ar ei ran yn lle’r geiriau ‘chi’ ac ‘eich’ yn awtomatig mewn unrhyw gwestiwn,

(e)i ymatebion ynghylch y berthynas rhwng un person a’r personau eraill mewn aelwyd o bump neu ragor o bersonau gael eu defnyddio er mwyn casglu perthynas y personau eraill hynny â’i gilydd, gan gynnwys, at y diben hwn, y swyddogaeth i ofyn cwestiwn yn y canol, sef “A yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hyn yn perthyn i chi?” neu amrywiadau trydydd person ar y cwestiwn hwnnw,

(f)i destun gael ei arddangos sy’n cynnwys cyfarwyddiadau neu wybodaeth sy’n ymwneud â llenwi cwestiynau penodol, neu’n ymwneud yn gyffredinol â llenwi’r holiadur ar-lein,

(g)i wybodaeth gael ei arddangos o ran pam y mae cwestiwn penodol yn bwysig,

(h)i gwestiynau gael eu hateb mewn trefn wahanol,

(i)i ystod o opsiynau ymateb rhagbenodedig gael eu cynnig mewn perthynas â chwestiwn,

(j)i ymatebion sy’n cael eu teipio gael cymorth drwy destun rhagfynegol (pan fo’n briodol),

(k)i lwybr gael ei bennu drwy’r holiadur ar-lein drwy ddefnyddio cwestiynau i bennu’r llwybr hwnnw,

(l)i arwydd gael ei roi nad yw cwestiwn sy’n pennu’r llwybr wedi cael ei ateb,

(m)y gofyniad bod cwestiwn sy’n pennu’r llwybr yn cael ei ateb cyn y caniateir i gwestiynau pellach gael eu hateb,

(n)atal atebion sy’n anghyson â’i gilydd rhag cael eu dewis mewn ymateb i gwestiwn,

(o)i awgrym gael ei arddangos pan fo’n briodol i annog adolygu’r ymateb,

(p)i ymateb gael ei ddiwygio cyn iddo gael ei gyflwyno, a

(q)i holiadur ar-lein sydd wedi ei lenwi’n rhannol gael ei arbed a’i barhau yn nes ymlaen.

Rheoliad 20(1)

ATODLEN 3Cynnwys y datganiad statudol

Byddaf fi, [A.B. etc], sef person a benodwyd at ddiben cynnal Cyfrifiad 2021 (“y cyfrifiad”), yn cyflawni’r dyletswyddau a neilltuir imi o dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920 a Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 (“dyletswyddau yn y cyfrifiad”) yn llawn ac yn onest.

Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad gan gydymffurfio â darpariaethau adran 39 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a phob rhwymedigaeth gyfreithiol berthnasol arall. Yr wyf yn deall y gall methu â chydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny arwain at euogfarn droseddol a dirwy neu garchariad.

Ac eithrio wrth gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad, ni fyddaf yn datgelu nac yn mynegi, ar unrhyw bryd, unrhyw fater y caf wybod amdano ynglŷn ag unrhyw berson, teulu neu aelwyd.

Dim ond i gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad y byddaf yn defnyddio unrhyw ddeunyddiau mynediad a roddir imi, gan gynnwys unrhyw bàs diogelwch, cyfryngau electronig, deunydd adnabod personol neu gyfrineiriau. Ni fyddaf yn rhoi benthyg, yn trosglwyddo nac yn datgelu fel arall ddeunyddiau o’r fath i unrhyw berson arall, oni bai fy mod yn cael fy nghyfarwyddo’n benodol i wneud hynny gan y Bwrdd Ystadegau.

Byddaf yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennyf ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’m dyletswyddau yn y cyfrifiad, neu o ran unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r cyfrifiad pa un a ydynt yn deillio o’m gweithredoedd i neu weithredoedd pobl eraill, yn uniongyrchol i’r Bwrdd Ystadegau.

Rheoliad 20(3) a (4)

ATODLEN 4Ffurflen ymgymeriad

Yr wyf fi, [A.B. etc], sef person a benodwyd at ddiben cynnal Cyfrifiad 2021 (“y cyfrifiad”), yn ymrwymo y byddaf yn cyflawni’r dyletswyddau a neilltuir imi o dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920 a Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 (“dyletswyddau yn y cyfrifiad”) yn llawn ac yn onest.

Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad gan gydymffurfio â darpariaethau adran 39 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a phob rhwymedigaeth gyfreithiol berthnasol arall. Yr wyf yn deall y gall methu â chydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny arwain at euogfarn droseddol a dirwy neu garchariad.

Ac eithrio wrth gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad, ni fyddaf yn datgelu nac yn mynegi, ar unrhyw bryd, unrhyw fater y caf wybod amdano ynglŷn ag unrhyw berson, teulu neu aelwyd.

Dim ond i gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad y byddaf yn defnyddio unrhyw ddeunyddiau mynediad a roddir imi, gan gynnwys unrhyw bàs diogelwch, cyfryngau electronig, deunydd adnabod personol neu gyfrineiriau. Ni fyddaf yn rhoi benthyg, yn trosglwyddo nac yn datgelu fel arall ddeunyddiau o’r fath i unrhyw berson arall, oni bai fy mod yn cael fy nghyfarwyddo’n benodol i wneud hynny gan y Bwrdd Ystadegau.

Byddaf yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennyf ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’m dyletswyddau yn y cyfrifiad, neu o ran unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r cyfrifiad pa un a ydynt yn deillio o’m gweithredoedd i neu weithredoedd pobl eraill, yn uniongyrchol i’r Bwrdd Ystadegau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r trefniadau manwl sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru y cyfarwyddwyd ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 gan Orchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020 (O.S. 2020/532) (“Gorchymyn y Cyfrifiad”). Maent hefyd yn dirymu Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1361 (Cy. 116)).

Mae rheoliad 3 yn darparu diffiniadau ar gyfer dehongli’r Rheoliadau hyn ynghyd â byrfoddau i ddehongli’r holiaduron a ddefnyddir yn y cyfrifiad. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu nad yw person rhagnodedig yn torri’r Rheoliadau hyn drwy ddychwelyd fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o holiadur gyda’r ddwy fersiwn wedi eu llenwi’n rhannol, ar yr amod bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiaduron yn gyfystyr â ffurflen gyfan.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer rhannu Cymru yn ardaloedd cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltu cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltu sefydliadau cymunedol a dosbarthau cyfrifo. Mae hefyd yn darparu ar gyfer penodi personau i gyflawni’r dyletswyddau a neilltuir iddynt o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn cyflwyno’r gofynion ar gyfer yr holiaduron i’w defnyddio yn ystod y cyfrifiad. Rhaid bod gan yr holiaduron ar-lein y cwestiynau a’r opsiynau ymateb a’r swyddogaethau a’r nodweddion a nodir yn Rhannau 1, 2, 3 ac 8 o Atodlen 2. Rhaid i’r holiaduron papur fod ar y ffurf a ddangosir yn Rhannau 4, 5, 6 a 7 o Atodlen 2.

Mae rheoliad 6 yn darparu y bydd person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen yn y cyfrifiad yn cyflawni ei gyfrifoldeb pan fydd yr holiadur papur neu’r holiadur ar-lein perthnasol a bennir yn Atodlen 1 wedi dod i law’r Bwrdd Ystadegau (“yr Awdurdod”). Mae rheoliad 6 hefyd yn darparu y caiff deiliad aelwyd neu gyd-ddeiliad aelwyd, neu berson a chanddo ofal am y tro dros sefydliad cymunedol, gyflwyno ffurflen bapur mewn perthynas â’r aelwyd neu’r sefydliad cymunedol a ffurflenni ar-lein mewn perthynas â phersonau unigol ar yr aelwyd honno neu yn y sefydliad cymunedol hwnnw, neu yn y drefn arall.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu systemau electronig digonol (system olrhain holiaduron ac offeryn rheoli gwaith maes) a dyfeisiau electronig digonol (dyfeisiau electronig y cyfrifiad) i gefnogi cynnal y cyfrifiad.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r gofynion ar gyfer cynnwys y mathau gwahanol o becynnau cyfrifiad.

Mae rheoliadau 9 i 15 yn darparu trefniadau manwl ar gyfer darparu’r holiaduron dwyieithog, eu danfon, eu llenwi a’u dychwelyd. Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael o bob holiadur. Bydd mynediad i bob categori o holiadur ar-lein drwy ddefnyddio cod mynediad unigryw, er enghraifft, bydd un cod mynediad unigryw yn rhoi mynediad i fersiynau Cymraeg a Saesneg Holiaduron y Cartref.

Mae rheoliad 16 yn darparu i gamau gweithredu dilynol gael eu cymryd os na fydd holiadur a anfonwyd neu a ddanfonwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn yn cael ei ddychwelyd, neu os bydd yn cael ei ddychwelyd yn anghyflawn.

Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gael ei rhoi gan berson rhagnodedig i berson sy’n llenwi ffurflen ar ei ran, neu i berson sydd wedi ei benodi i gyflawni dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i atal gwybodaeth a geir at ddiben y cyfrifiad rhag cael ei defnyddio, ei chyhoeddi a’i chyfathrebu heb awdurdod.

Mae rheoliadau 18 a 19 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chadw holiaduron a dyfeisiau electronig y cyfrifiad yn ddiogel yn ogystal â storio a diogelu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r cyfrifiad.

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer rhoi naill ai datganiad statudol neu ymgymeriad ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth a geir o ganlyniad i’r cyfrifiad gan bersonau a fydd yn cael mynediad at yr wybodaeth honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1920 p. 41. Diwygiwyd adran 3(1) gan Ran 16 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50), a chan adran 25 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (p. 18) ac Atodlen 1 iddi.

(2)

Mewnosodwyd adran 3(1A) gan adran 25 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac Atodlen 1 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys