- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(1) ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan—
(i)Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC(2) a 91/692/EEC(3);
(ii)Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC(4); a
(iii)Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003(5);
(b)ystyr “Cyfarwyddeb 67/548/EEC” (“Directive 67/548/EEC”) (y Gyfarwyddeb Sylweddau Peryglus, y cyfeirir ati yn y Cyflwyniad i'r Rhestr) yw Cyfarwyddeb 67/548/EEC(6) ar gyd-ddynesiad y cyfreithiau, y rheoliadau a'r darpariaethau gweinyddol o ran dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/73/EC(7); ac
(c)ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC(8) 31 Rhagfyr 1991 ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/31/EC(9), ac mae cyfeiriad at—
(i)atodiad o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn gyfeiriad at yr atodiad hwnnw fel y'i nodir am y tro yn yr atodlen berthnasol i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; a
(ii)nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a nodir yn Atodiad III.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC(10) 3 Mai 2000 sy'n disodli Penderfyniad 94/3/EC(11) sy'n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC(12) sy'n sefydlu rhestr o wastraff peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan—
(i)Penderfyniad y Comisiwn 2001/118/EC(13);
(ii)Penderfyniad y Comisiwn 2001/119/EC(14); a
(iii)Penderfyniad y Cyngor 2001/573/EC(15));
(b)ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd sydd yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, sef rhestr a lunnir—
(i)o ran gwastraffoedd sy'n perthyn i'r categorïau a restrir yn Atodiad I (Categorïau o Wastraff) o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, gan y Comisiwn, ac yntau'n gweithredu'n unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb honno;
(ii)o ran gwastraff peryglus, yn unol â'r weithdrefn a osodwyd yn Erthygl 18 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ar sail—
(aa)Atodiad I (Categorïau neu fathau generig o wastraff peryglus a restrir yn unol â'u natur neu'r gweithgaredd a'u cynhyrchodd) i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus; a
(bb)Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad 1.B. sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd iddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III) i Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus,
ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at y Cyflwyniad iddi (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “y Rheoliadau Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(16);
(b)mae i “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus;
(c)mae i “gwastraff” (“waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1)(b) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus; ac
(ch)ystyr “sylwedd peryglus” (“dangerous substance”), er gwaethaf paragraff 5 o'r Cyflwyniad i'r Rhestr, yw sylwedd sydd am y tro yn sylwedd peryglus o fewn yr ystyr a roddir i “dangerous substance” yn rheoliad 2 o Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002(17).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(ch) ac yn sgil darpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn benodol at ddibenion —
(a)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd;
(b)dosbarthu a chodio gwastraffoedd a gwastraff peryglus,
ac yn unol â hynny y mae'r Rhestr Wastraffoedd a'r codau a'r penawdau penodau i'w cydnabod a'u defnyddio at y dibenion hynny.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith rheoliadau a wneir o dan adran 62A(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(18) neu unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 8 neu 9 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(c), mae'r nodiadau yn y Cyflwyniad i'r Rhestr yn effeithiol at ddibenion—
(a)dehongli'r Rhestr Wastraffoedd;
(b)penderfynu a yw deunydd neu sylwedd yn wastraff neu'n wastraff peryglus, yn ôl y digwydd; ac
(c)adnabod gwastraff neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd.
(4) Diffinnir yn llawn y gwahanol fathau o wastraff yn y Rhestr Wastraffoedd gan y cod chwe digid ar gyfer y gwastraff a chan benawdau pennod dau ddigid a phedwar digid yn eu trefn, ac yn unol â hynny, at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff neu wastraff peryglus—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at wastraff drwy ei god chwe digid fel a bennir yn y Rhestr Wastraffoedd i'w drin fel cyfeiriad at y gwastraff hwnnw; a
(b)mae cyfeiriad at wastraffoedd gan bennawd pennod dau ddigid neu pedwar digid yn gyfeiriad at y deunyddiau gwastraff a restrir yn y Rhestr Wastraffoedd o dan bennawd y bennod honno.
(5) Pan fo unrhyw ddarpariaeth (sut bynnag y caiff ei mynegi) o ddeddfiad yn gosod gofyniad bod cod chwe digid i'w roi, neu pan fo'n awdurdodi cyflawni unrhyw weithred neu'n awdurdodi hepgor unrhyw ofyniad ar yr amod y rhoddir y cod chwe digid, bernir na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwnnw neu â'r amod hwnnw onid y cod a roddir yw'r cod ar gyfer y gwastraff, neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bernir bod gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd wedi ei restru yn y Rhestr Wastraffoedd fel gwastraff peryglus at ddibenion rheoliad 6(a) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.
(7) Pan fo gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd yn un neu ragor o sylweddau peryglus neu'n cynnwys un neu ragor o sylweddau peryglus, bernir ei fod yn wastraff peryglus—
(a)oni bo'r disgrifiad yn y Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylwedd peryglus, ni waeth beth fo gwir grynodiad unrhyw sylwedd peryglus a fo'n bresennol neu beth fo nodweddion y gwastraff neu'r sylwedd hwnnw;
(b)os adnabyddir gwastraff yn beryglus gan gyfeiriad penodol neu gyffredinol (sut bynnag y caiff ei fynegi) yn sylweddau peryglus, os yw crynodiadau'r sylweddau hynny o'r fath (hynny yw, canran yn ôl pwysau) fel bod y gwastraff-—
(i)yn dangos un neu ragor o nodweddion peryglus; a
(ii)yn achos unrhyw un o'r nodweddion peryglus H3 i H8, H10 neu H11, yn bodloni gofynion rheoliad 4.
4. Mae gwastraff yn bodloni gofynion y rheoliad hwn o ran unrhyw un o'r priodoloeddau H3 i H8, H10(19) ac H11 o Atodiad III, pan fo'n arddangos un neu ragor o'r priodoleddau canlynol—
(a)fflachbwynt ≤ 55 °C,
(b)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd(20) yn wenwynig iawn mewn cyfanswm crynodiad ≥ 0,1 %,
(c)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn wenwynig mewn cyfanswm crynodiad ≥ 3 %,
(ch)un neu ragor o sylweddau a ddosbarthwyd yn niweidiol mewn cyfanswm crynodiad ≥ 25 %,
(d)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R35 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 1 %,
(dd)un neu ragor o sylweddau cyrydol a ddosbarthwyd yn R34 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 5 %,
(e)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R41 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 10 %,
(f)un neu ragor o sylweddau llidiol a ddosbarthwyd yn R36, R37, R38 mewn cyfanswm crynodiad ≥ 20 %,
(ff)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 1 neu 2 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,
(g)un sylwedd y gwyddys ei fod yn garsinogenig o gategori 3 mewn crynodiad ≥ 1 %
(ng)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R60, R61 mewn crynodiad ≥ 0,5 %,
(h)un sylwedd gwenwynig ar gyfer atgynhyrchu categori 3 a ddosbarthwyd yn R62, R63 mewn crynodiad ≥ 5 %,
(i)un sylwedd mwtagenig o gategori 1 neu 2 a ddosbarthwyd yn R46 mewn crynodiad ≥ 0,1 %,
(j)un sylwedd mwtagenig o gategori 3 a ddosbarthwyd yn R68 mewn crynodiad ≥ 1 %.
5. Mae Atodlen 2 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth) yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
5 Gorffennaf 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: