Search Legislation

Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo y bydd y Rheoliadau canlynol yn ymwneud â hwy:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Tachwedd 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ffioedd

2.—(1Rhaid i geisydd —

(a)am ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(1), neu

(b)am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny,

dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r cyfryw swyddogaethau ar ei ran y ffioedd a restrir yn yr Atodlen ynglŷn â'r cyfryw swyddogaethau.

(2Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir ar gyfer y swyddogaeth honno.

Dirymu

3.  Dirymir Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006(2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources