Search Legislation

Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2961 (Cy.267)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006

Wedi'u gwneud

7 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

16 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2).

Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo y bydd y Rheoliadau canlynol yn ymwneud â hwy:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Tachwedd 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ffioedd

2.—(1Rhaid i geisydd —

(a)am ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(3), neu

(b)am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny,

dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r cyfryw swyddogaethau ar ei ran y ffioedd a restrir yn yr Atodlen ynglŷn â'r cyfryw swyddogaethau.

(2Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir ar gyfer y swyddogaeth honno.

Dirymu

3.  Dirymir Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Rheoliad 2

YR ATODLEN

Y SwyddogaethFfi(1)(Ffi flaenorol)Lleiafswm y ffi(Lleiafswm blaenorol y ffi)
(1)

O'r cyfraddau a restrir yn y golofn hon, mae'r rheini a nodir â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr ac mae'r rheini heb seren yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.

(1)

Y ffi sy'n daladwy o dan y cynllun blaenorol ar gyfer amrywogaethau sydd heb eu rhestru (o dan baragraff 4(c)(ii) o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd 1991(6)).

Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu seliau a labeli o ran ceisiadau —
am ardystiad fel tatws hadyd cyn-sylfaenol£81.00*(£81.00)N/A(N/A)
am ardystiad fel tatws hadyd sylfaenol, a ddosbarthir yn—
Super Elite 1, Super Elite 2 neu Super Elite 3£40.50(£40.50)£81.00(£81.00)
Elite 1, Elite 2 neu Elite 3£40.50(£40.50)£81.00(£81.00)
A£38.50(£38.50)£77.00(£77.00)
am ardystiad fel tatws hadyd ardystiedig£35.00(£35.00)£70.00(£70.00)
am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006£81.00*(£81.00)(1)N/A(N/A)
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad£12.00(£12.00)£24.00(£24.00)
Y trydydd arolygiad a phob arolygiad wedyn£81.00*(£81.00)N/A(N/A)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 (OS 2006/519 (Cy. 63), er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (OS 2006/2929 (Cy.264) yn yr agwedd a gymerir at ardystio swyddogol o datws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig ac ynghylch arolygu a darparu seliau a labeli ar gyfer tatws hadyd sy'n perthyn i amrywogaethau y cyflwynwyd cais i'w cofnodi ar Restr Genedlaethol ond na phenderfynwyd arno hyd yma (a chaniateir marchnata'r cyfryw datws at ddibenion cynnal profion ac arbrofion arnynt). Mae'r newidiadau yn bennaf yn adlewyrchu newidiadau mewn terminoleg ac ni fu newidiadau yn swm y ffioedd sy'n daladwy ar hyn o bryd.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ynglŷn â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) ar gyfer diffiniad o “the Minister”.

(2)

O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 cafodd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, a oedd wedi cael eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)

O.S. 1991/2206, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources