- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 10
Rheoliadau 6 a 38
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) | Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|---|
(a) Gwryw wedi'i sbaddu. | |||
(b) Yn achos mamog, mae'r ffigur hwn yn cynnwys un neu fwy o ŵyn sugno nes bod yr ŵyn yn chwe mis oed. | |||
Gwartheg | |||
Llo (pob categori ac eithrio ar gyfer cig llo) hyd at 3 mis: | 7 | 23 | 12.7 |
Buwch odro— | |||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 95 | 34 |
O 13 mis tan ei llo cyntaf: | 40 | 167 | 69 |
Ar ôl ei llo cyntaf ac y mae— | |||
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 o litrau: | 64 | 315 | 142 |
ei chynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 o litrau: | 53 | 276 | 121 |
ei chynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 o litrau: | 42 | 211 | 93 |
Buchod neu fustych cig eidion(a)— | |||
O 3 mis a llai na 13 mis: | 20 | 91 | 33 |
O 13 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
O 25 mis— | |||
gwartheg benyw neu fustych i'w cigydda: | 32 | 137 | 60 |
gwartheg benyw ar gyfer bridio— | |||
sy'n pwyso 500kg neu lai: | 32 | 167 | 65 |
sy'n pwyso'n fwy na 500kg: | 45 | 227 | 86 |
Teirw | |||
Nad ydynt yn bridio, 3 mis a throsodd: | 26 | 148 | 24 |
Bridio— | |||
o 3 mis a llai na 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
o 25 mis: | 26 | 132 | 60 |
Defaid | |||
O 6 mis hyd at 9 mis oed: | 1.8 | 5.5 | 0.76 |
O 9 mis oed hyd at ŵyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: | 1.8 | 3.9 | 2.1 |
Ar ôl ŵyna neu hwrdda(b)— | |||
yn pwyso llai na 60 kg: | 3.3 | 21 | 8.8 |
yn pwyso dros 60kg: | 5 | 33 | 10.0 |
Geifr, ceirw a cheffylau | |||
Geifr: | 3.5 | 41 | 18.8 |
Ceirw— | |||
bridio: | 542 | 17.6 | |
arall: | 3.5 | 33 | 11.7 |
Ceffyl: | 24 | 58 | 56 |
Categori | Y tail a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (litrau) | Y nitrogen a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) | Y ffosffad a gynhyrchir bob dydd gan bob anifail (gramau) |
---|---|---|---|
(a) Nodyn: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn. | |||
Gwartheg | |||
Llo ar gyfer cig llo: | 7 | 23 | 12.7 |
Dofednod(a) | |||
Iâr a ddefnyddir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl— | |||
llai na 17 wythnos: | 0.04 | 0.64 | 0.47 |
o 17 wythnos (mewn caets): | 0.12 | 1.13 | 1.0 |
o 17 wythnos (heb fod mewn caets): | 0.12 | 1.5 | 1.1 |
Ieir a fegir am eu cig: | 0.06 | 1.06 | 0.72 |
Ieir a fegir ar gyfer bridio— | |||
llai na 25 wythnos: | 0.04 | 0.86 | 0.78 |
o 25 wythnos: | 0.12 | 2.02 | 1.5 |
Twrci— | |||
gwryw: | 0.16 | 3.74 | 3.1 |
benyw: | 0.12 | 2.83 | 2.3 |
Hwyaden: | 0.10 | 2.48 | 2.4 |
Estrys: | 1.6 | 3.83 | 18.5 |
Moch | |||
Pwysau o 7kg ac yn llai na 13kg: | 1.3 | 4.1 | 1.3 |
Pwysau o 13kg ac yn llai na 31kg: | 2 | 14.2 | 6.0 |
Pwysau o 31kg ac yn llai na 66kg— | |||
bwydo sych: | 3.7 | 24 | 12.1 |
bwydo hylif: | 7.1 | 24 | 12.1 |
Pwysau o 66kg ac— | |||
a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda— | |||
bwydo sych: | 5.1 | 33 | 17.9 |
bwydo hylif: | 10 | 33 | 17.9 |
hwch a fwriadwyd ar gyfer bridio na chafodd ei thorraid gyntaf hyd yn hyn: | 5.6 | 38 | 20 |
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet gydag atchwanegiadau asidau amino synthetig: | 10.9 | 44 | 37 |
hwch (gan gynnwys torraid hyd at 7kg) wedi'i bwydo ar ddeiet heb asidau amino synthetig: | 10.9 | 49 | 37 |
baedd bridio o 66kg hyd at 150kg: | 5.1 | 33 | 17.9 |
baedd bridio o 150kg: | 8.7 | 48 | 28 |
Rheoliad 17
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
---|---|
Tail ac eithrio slyri o'r anifeiliaid a ganlyn— | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 7 |
hwyaid: | 6.5 |
ceffylau: | 7 |
geifr: | 6 |
Tail o ieir dodwy: | 19 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | 30 |
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) | |
---|---|---|
Gwartheg: | 2.6 | |
Moch: | 3.6 | |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol)— | ||
blwch hidlo: | 1.5 | |
wal hidlo: | 2 | |
hidl fecanyddol: | 3 | |
Slyri gwartheg wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 4 | |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn hylifol): | 3.6 | |
Slyri moch wedi'i wahanu (ffracsiwn solet): | 5 | |
Dŵr budr: | 0.5 |
1.—(1) O ran slyri, rhaid cymryd o leiaf bum sampl a phob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Rhaid i'r sampl gael ei chymryd o lestr dal slyri, ac—
(a)os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r slyri fod wedi'i gymysgu'n drylwyr cyn i'r samplau gael eu cymryd, a
(b)rhaid i bob sampl gael ei chymryd o le gwahanol.
(3) Ond os oes falf addas wedi'i gosod ar dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer taenu, caniateir i'r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid i bob sampl gael ei chymryd bob hyn a hyn yn ystod y broses daenu.
(4) Rhaid i'r samplau gael eu harllwys i gynhwysydd mwy ei faint, eu troi'n drylwyr a rhaid i sampl 2 litr gael ei chymryd o'r cynhwysydd hwnnw a'i harllwys i gynhwysydd glân llai.
(5) Rhaid i'r sampl honno gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
2.—(1) O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid i bob is-sampl gael ei chymryd o leiaf 0.5 metr o wyneb y domen.
(4) Os yw samplau yn cael eu casglu i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i'w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn fwy na 12 mis oed.
(5) Rhaid dodi'r is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy'n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri a rhaid cymysgu'r is-samplau â'i gilydd yn drylwyr.
(7) Rhaid i sampl nodweddiadol, sy'n pwyso o leiaf 2 kg, gael ei hanfon wedyn i gael ei dadansoddi.
Rheoliadau 27 a 29
Y cnwd | Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar) |
---|---|
(a) Rhaid peidio â thaenu nitrogen ar y cnydau hyn ar ôl 31 Hydref. | |
(b) Caniateir i 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar gael ei daenu bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddyddiad y cynhaeaf. | |
(c) Caniateir i uchafswm o 40kg o nitrogen yr hectar gael ei daenu ar unrhyw un adeg. | |
Rêp had olew, gaeaf(a) | 30 |
Merllys | 50 |
Bresych(b) | 100 |
Porfa(a) (c) | 80 |
Sgaliwns wedi'u gaeafu | 40 |
Perllys | 40 |
Bylbiau winwns | 40 |
Rheoliad 13D
1. Mae'r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.
2. Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—
lle—
A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno,
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy'n pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu, a
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p'un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.
3.—(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i'r meddiannydd—
(a)asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);
(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Rhaid i'r meddiannydd wneud hyn—
(a)yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a
(b)yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.
4. Yn ychwanegol at y gofynion o dan baragraff 3 rhaid i'r cynllun gwrteithio gofnodi—
(a)y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a'r dull a ddefnyddir i gadarnhau'r ffigur hwn;
(b)cyfrifo'r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o'r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c)faint o nitrogen sy'n debygol o fod ar gael i'w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i'w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;
(ch)faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;
(d)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac
(dd)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).
5.—(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i'r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a'r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.
(3) Os na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd cyn 2010, rhaid cyflawni'r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—
(a)75% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2011, a
(b)100% o'r ardal amaethyddol erbyn 1 Mawrth 2012.
6.—(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i'w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—
(a)cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a
(b)faint o ffosffad sy'n debygol o gael ei gyflenwi o'r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio'r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.
(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i'r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—
(a)faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i'r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).
7.—(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 18 (mapiau risg), rhaid i fap risg—
(a)dangos pob cae wedi'i farcio â Rhif cyfeirnod neu rif sy'n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;
(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac
(c)cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
(2) Rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r map risg o fewn mis o unrhyw newid mewn amgylchiadau.
8. Rhaid i'r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol sydd ar gael i ddodi tail arni yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn galendr honno.
9. O ran unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, ni chaiff neb—
(a)aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;
(b)aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac
(c)aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.
10. O ran hadu cnydau neu borfa ar unrhyw borfa a gafodd ei haredig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, rhaid bod y tir—
(a)wedi'i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu
(b)wedi'i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy'n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
11. Rhaid i gylchdro cnydau beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy'n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion a chodlysiau eraill gyda phorfa wedi'i hau oddi tanynt.
12.—(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a'r ardal o borfa o fewn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa yn newid rhaid i'r meddiannydd ddiweddaru'r cofnod o fewn mis sy'n dechrau drannoeth y newid.
13. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 36 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i'r meddiannydd wneud cofnod sy'n disgrifio'r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
14.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a'r categori (yn unol â'r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i'w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr honno.
(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i'r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i'r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
15.—(1) Rhaid i'r meddiannydd—
(a)gwneud cofnod o'r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i'r daliad a'i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr honno; a
(b)cyfrifo a chofnodi faint o nitrogen yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4).
(2) Rhaid i'r cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2011 a 1 Mawrth 2012 ar gyfer y blynyddoedd calendr hynny.
16. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 41 (cofnodion o'r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy'n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—
(a)y cnwd a heuwyd; a
(b)y dyddiad hau.
17. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i feddiannydd gofnodi—
(a)o fewn wythnos o daenu tail organig—
(i)cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a
(ii)faint o ffosffad a gyflenwyd i'w amsugno gan y cnwd; a
(b)o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)y dyddiad taenu; a
(ii)faint o ffosffad a daenwyd.
18. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o'r aredig, ddyddiad yr aredig hwnnw.
19.—(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i'r Asiantaeth erbyn 30 Ebrill o'r flwyddyn ganlynol.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.
(3) Rhaid i'r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;
(b)yr ardal o'r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—
(i)gwenith gaeaf,
(ii)gwenith gwanwyn,
(iii)haidd gaeaf,
(iv)haidd gwanwyn,
(v)rêp had olew gaeaf,
(vi)betys siwgr,
(vii)tatws,
(viii) indrawn porthi,
(ix)porfa, a
(x)cnydau eraill;
(c)nifer a chategori'r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â'r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(ch)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)faint o dail da byw a pha fath a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol;
(dd)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(d) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);
(e)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; a
(f)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i'r daliad a randdirymwyd a'i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: