- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) ynghylch y modd y mae’n rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) mewn achosion fel a ganlyn—
(a)pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth) y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu
(b)pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y broses y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei dilyn wrth ymgymryd ag asesiad ariannol, a hefyd yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch asesiadau ariannol.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyflawni asesiad ariannol yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 7 yn pennu’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol yn gymwys, ac amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol gwblhau asesiad ariannol pan nad yw manylion ariannol A wedi eu datgelu’n llawn.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch pŵer yr awdurdod lleol i gynnal asesiad ariannol newydd mewn amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch y broses y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei mabwysiadu wrth gynnal asesiad o adnoddau ariannol A. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiystyru gwerth unig neu brif gartref A wrth gyfrifo adnoddau cyfalaf A pan fo A yn cael gofal a chymorth yn ei gartref ei hunan (yn hytrach na chael cymorth o’r fath ar ffurf darpariaeth o lety mewn cartref gofal).
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol preswylydd byrdymor (person y darperir llety iddo mewn cartref gofal am gyfnod o ddim mwy nag 8 wythnos) fel pe bai’n cael gofal a chymorth yn ei gartref ei hunan.
Mae rheoliad 11 yn cynnwys darpariaeth arbed sy’n parhau effaith unrhyw asesiad ariannol a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (er na chynhaliwyd yr asesiad o dan y Ddeddf nac yn unol â’r Rheoliadau hyn) hyd nes disodlir yr asesiad gan asesiad a gynhelir yn unol â’r Ddeddf a gofynion y Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 3 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin a chyfrifo incwm. Mae Atodlen 1 yn nodi’r incwm y mae’n rhaid, neu y caniateir, i awdurdod lleol ei ddiystyru.
Mae Rhan 4 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin a chyfrifo cyfalaf. Mae Atodlen 2 yn nodi’r symiau cyfalaf y mae’n rhaid, neu y caniateir, i awdurdod lleol eu diystyru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: