- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “A” (“A”) yw oedolyn—
y mae ei adnoddau ariannol i’w hasesu yn unol â rheoliad 6 neu reoliad 8, neu
sy’n dod o fewn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7;
mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” o dan Ddeddf >1992;
mae i “credyd cynilion” yr ystyr a roddir i “savings credit” o dan >Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;
mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan Ddeddf Credydau Treth 2002;
mae i “credyd treth plant” yr ystyr a roddir i “child tax credit” >o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(1);
ystyr “cyfleuster ymweld â’r cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) a wneir gan swyddog priodol awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol person neu pa bynnag fan cyfarfod arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan y person, at y diben o gasglu gwybodaeth i’w defnyddio yn yr asesiad ariannol ar gyfer y person hwnnw, a darparu gwybodaeth a chynnig cynhorthwy mewn perthynas â’r broses honno;
mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” o dan Ddeddf 1992;
mae i “cynllun pensiwn personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal pension scheme” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
ystyr “darpar breswylydd” (“prospective resident”) yw person y bwriedir darparu llety mewn cartref gofal(2) iddo o dan y Ddeddf;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—
dydd Sadwrn neu ddydd Sul,
dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu
gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf 1992(5);
mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” yn adran 2(1)(b) o Ddeddf 1992;
ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu am—
gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu
gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) o’r Ddeddf;
ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—
a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu
a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac
sydd—
yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,
am gyfnod penodedig(6) o amser (“y cyfnod penodedig”), a
â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;
mae i “lwfans byw i’r anabl” yr ystyr a roddir i “disability living allowance” >o dan Ddeddf 1992;
mae i “lwfans galwedigaethol anabledd difrifol” yr ystyr a roddir i “severe disablement occupational allowance” a delir o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006(7) neu o dan erthygl 16 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(8);
mae i “lwfans gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian’s allowance” o dan Ddeddf 1992;
mae i “lwfans gweini” yr un ystyr ag a roddir i “attendance allowance” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
ystyr “oedran credyd pensiwn” (“pension credit age”) yw’r oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth yn yr ystyr a roddir i “the qualifying age” yn adran 1(6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(9);
mae i “partner” yr un ystyr ag a roddir i “partner” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;
ystyr “preswylydd” (“resident”) >yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf;
ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;
ystyr “preswylydd dros dro” (“temporary resident”) >yw preswylydd y mae ei arhosiad—
yn annhebygol o fod yn hwy na 52 o wythnosau; neu
mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw;
ystyr “preswylydd parhaol” (“permanent resident”) yw preswylydd nad yw’n breswylydd dros dro nac yn breswylydd byrdymor;
ystyr “y Rheoliadau Credyd Pensiwn” (“the Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(10);
ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(11);
ystyr “y Rheoliadau Gosod Ffioedd” (“the Charging Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(12);
ystyr “swm safonol” (“standard amount”) yw’r swm y byddai’n ofynnol i berson ei dalu yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf tuag at sicrhau y ddarpariaeth o ofal a chymorth yr ystyrir neu y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hi, pe na bai asesiad ariannol yn cael ei gynnal yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu swm yn cael ei wneud yn unol â’r Rheoliadau Gosod Ffioedd;
mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(13);
ystyr “taliad annibyniaeth y lluoedd arfog” (“armed forces independence payment”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(14);
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;
mae “treth gyngor” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “council tax” yn adran 1(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(15);
mae i “unig riant” yr un ystyr ag a roddir i “lone parent” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.
(2) Pan gyfeirir yn y Rheoliadau hyn at gymhwyso darpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm at “claimant” fel pe bai’n gyfeiriad at A.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at lety preswylydd mewn cartref gofal, neu at lety a ddarperir ar gyfer preswylydd mewn cartref gofal, yn achos preswylydd sy’n ddarpar breswylydd, fel cyfeiriad at lety sydd i’w ddarparu ar gyfer y preswylydd hwnnw o dan adran 35, 36, 40 neu 45 o’r Ddeddf, neu pan fo’r darpar breswylydd yn cael taliadau uniongyrchol, fel cyfeiriad at lety a sicrheir yn rhinwedd adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau cymorth.
3. Cyn bod awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol yn unol â’r Rheoliadau hyn, rhaid iddo roi’r canlynol i A—
(a)manylion y gofal a’r cymorth ar gyfer diwallu anghenion A, a gynigir neu a ddarperir i A ac y tybia’r awdurdod lleol y byddai’n gosod ffi mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(b)manylion y gofal a’r cymorth yr aseswyd bod eu hangen ar A ac yr ystyrir, neu y gwneir, taliadau uniongyrchol(16) ar eu cyfer yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf;
(c)pan fo paragraff (a) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd am ddarparu gofal a chymorth, gan gynnwys—
(i)pa elfennau, os oes rhai, y caniateir codi ffi amdanynt,
(ii)y ffi safonol(17) y caniateir ei gosod mewn perthynas ag unrhyw rai ohonynt,
(iii)unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,
(iv)y ffi wythnosol uchaf(18) y caniateir ei gosod, neu’r ffi wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol pan fo’r ffi honno’n llai;
(d)pan fo paragraff (b) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar daliadau uniongyrchol, a rhaid cynnwys y canlynol—
(i)manylion y gofal a chymorth, os oes gofal a chymorth, y caniateir darparu, neu y darperir, taliadau uniongyrchol ar eu cyfer, ac mewn cysylltiad â hwy y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o’u sicrhau,
(ii)manylion y swm safonol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth o’r fath,
(iii)unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,
(iv)swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf(19) y caniateir ei osod neu swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol, pan fo’r swm hwnnw’n llai;
(e)manylion proses asesu ariannol yr awdurdod lleol;
(f)manylion yr wybodaeth ac unrhyw ddogfennau y mae’n ofynnol bod A yn eu darparu i’r awdurdod lleol at ddibenion yr asesiad ariannol, a’r terfyn amser a’r fformat ar gyfer eu darparu;
(g)gwybodaeth am ganlyniadau methiant i ddarparu’r wybodaeth a’r dogfennau o fewn y terfyn amser ac mewn fformat priodol;
(h)gwybodaeth am ganlyniadau peidio â darparu’r wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol at ddibenion yr asesiad, neu wrthod caniatáu i’r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol;
(i)gwybodaeth am y datganiad o ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu ffi am ofal a chymorth A, neu i dalu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth A, y bydd yr awdurdod lleol yn ei ddarparu ar ôl cwblhau’r broses asesu ariannol(20);
(j)manylion y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 11 neu reoliad 26 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd a gwybodaeth am ganlyniadau(21) asesu bod A yn meddu ar gyfalaf sy’n fwy na’r terfyn hwnnw;
(k)manylion unrhyw gyfleuster ymweld â’r cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;
(l)enwau unigolyn neu unigolion o fewn yr awdurdod y caniateir cysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth neu gynhorthwy ar A mewn cysylltiad â’r broses asesu ariannol; ac
(m)gwybodaeth am hawl A i benodi trydydd parti i gynorthwyo neu weithredu ar ran A mewn cysylltiad â’r cyfan neu ran o’r broses asesu ariannol a manylion cyswllt unrhyw sefydliad yn ardal yr awdurdod sy’n darparu’r math hwnnw o gymorth neu gynhorthwy.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol ganiatáu 15 diwrnod gwaith neu pa bynnag gyfnod hwy y tybia sy’n rhesymol i A, ar gyfer darparu’r wybodaeth a’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 3(f).
(2) Os yw A yn gwneud cais rhesymol am estyn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (1), gan roi rhesymau pam y mae angen yr estyniad, rhaid i’r awdurdod lleol gytuno â’r cais a hysbysu A o gyfnod yr estyniad.
(3) Os bydd awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyn y terfyn amser, rhaid iddo hysbysu A ynghylch y gwrthodiad a rhaid iddo roi’r rhesymau pam y mae’n gwrthod.
5.—(1) Caiff yr wybodaeth a ddarperir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 3 fod mewn fformat electronig neu ar bapur, a rhaid iddi fod mewn fformat sy’n addas ar gyfer anghenion cyfathrebu A.
(2) Rhaid i’r wybodaeth a’r dogfennau sydd i’w darparu gan A o dan reoliad 3(f) fod mewn fformat electronig neu ar bapur, neu pa bynnag fformat arall y mae’r awdurdod lleol wedi cytuno i’w derbyn ynddo.
6.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn tybio—
(a)y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd), pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth;
(b)pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf(22), y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu drwy wneud ad-daliad(23) (yn achos taliad gros) neu gyfraniad (yn achos taliad net) tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth,
rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol A yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo A yn dod o fewn unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7.
7.—(1) Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o adnoddau ariannol A mewn amgylchiadau pan fo A—
(a)wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth, neu unrhyw gyfuniad o’r cyfryw, y codir ffi unffurf amdano gan yr awdurdod lleol;
(b)yn gwrthod cael asesiad ariannol;
(c)yn methu â darparu i’r awdurdod lleol yr wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 3(f), o fewn amser rhesymol neu o gwbl;
(d)yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, ac wedi cael diagnosis o’r clefyd hwnnw gan ymarferydd meddygol cofrestredig;
(e)wedi cael cynnig, neu yn cael, gofal a chymorth, cyngor neu wasanaeth, neu wedi cael cynnig taliad uniongyrchol, neu wedi cael ei ddarparu â thaliadau uniongyrchol, i sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)(24);
(f)wedi cael cynnig neu yn cael gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, os yw’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(g)wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gwasanaethau eiriolaeth yn unig(25).
(2) Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, caiff awdurdod lleol, os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol, wneud asesiad o adnoddau ariannol A ar sail yr wybodaeth rannol neu’r ddogfennaeth rannol (neu’r ddau) sydd yn ei feddiant.
8. Caiff awdurdod lleol gynnal asesiad newydd o adnoddau ariannol A yn unol â’r Rheoliadau hyn os yw unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 15 (dyfarniad diwygiedig) neu reoliad 30 (dyfarniad diwygiedig) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn gymwys yn achos A.
9.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol yn unol â rheoliad 6 (dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) neu reoliad 8 (pŵer i gynnal asesiad ariannol), rhaid iddo sicrhau bod y broses asesu a ddefnyddir ganddo yn rhoi effaith i ofynion y rheoliad hwn.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn diwallu neu’n bwriadu diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu pan fo’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, taliadau uniongyrchol tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i ddiwallu anghenion A rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid iddo—
(a)cyfrifo cyfalaf A yn unol â darpariaethau Rhan 4;
(b)diystyru gwerth unig neu brif gartref A yn y cyfrifiad hwnnw.
(3) Pan fo awdurdod lleol yn diwallu neu’n bwriadu diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu pan fo’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, taliadau uniongyrchol tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion A drwy ddarparu llety mewn cartref gofal, rhaid iddo gyfrifo cyfalaf A yn unol â darpariaethau Rhan 4.
(4) Nid yw’r ddarpariaeth a wneir ym mharagraffau (2) a (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gymhwyso meini prawf mwy haelionus i A na’r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.
10. Pan fo A yn breswylydd byrdymor, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol A fel pe bai A yn cael gofal a chymorth, neu’n cael taliadau uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.
11.—(1) Pan fo asesiad o adnoddau ariannol A sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y cyfryw asesiad yn parhau i gael effaith er nad oedd wedi ei wneud yn unol â’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn.
(2) Bydd asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith hyd nes disodlir yr asesiad hwnnw gan asesiad o adnoddau ariannol A a gynhelir yn unol â’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn.
12. Pan fo unrhyw asesiad o adnoddau ariannol A yn cynhyrchu ffracsiwn o geiniog, rhaid trin y ffracsiwn hwnnw fel pe bai’n geiniog os yw hynny’n fanteisiol i A; fel arall, rhaid ei anwybyddu.
13.—(1) Rhaid cyfrifo incwm A ar sail wythnosol drwy benderfynu, yn unol â’r Rhan hon, swm wythnosol cyfanswm incwm A.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae incwm yn cynnwys cyfalaf a drinnir fel incwm o dan reoliad 16 ac incwm tybiannol o dan reoliad 17.
14.—(1) Wrth gyfrifo incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru enillion sy’n deillio o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu enillydd hunangyflogedig.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae i enillion mewn perthynas ag enillydd cyflogedig yr un ystyr ag—
(i)yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(26);
(ii)yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (enillion enillwyr cyflogedig)(27), pan fo’r enillydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a
(b)mae i enillion mewn perthynas ag enillydd hunangyflogedig yr un ystyr ag yn rheoliad 37 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (enillion enillwyr hunangyflogedig).
15. Wrth gyfrifo cyfanswm incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n briodol, a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen honno.
16.—(1) Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy i A mewn rhandaliadau sydd heb eu casglu ar y dyddiad y daw A yn atebol gyntaf i dalu am y gofal a chymorth (neu pan fo, neu pan fydd, A yn cael taliadau uniongyrchol, yn atebol gyntaf i gyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gofal a chymorth), os yw agregiad y rhandaliadau sydd heb eu casglu a swm cyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â Rhan 4 yn fwy na’r swm a bennir yn rheoliad 41(1) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf a drinnir fel incwm).
(2) Rhaid trin unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal fel incwm.
(3) Rhaid trin unrhyw enillion, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel incwm.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.
(5) Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o gyfalaf a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd o dan y Ddeddf.
(6) Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod taliadau i’w gwneud i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol a achoswyd i A, a bod y cyfryw daliadau i’w gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff A, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, gael eu trin fel incwm.
17.—(1) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, neu y gallai fod yn atebol i’w dalu tuag at y gost o ddiwallu, neu sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer diwallu, anghenion A.
(2) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y byddid yn ei drin fel incwm a feddid gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 42(2) i (4A) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm tybiannol).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.
(4) Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.
18.—(1) Cyfalaf A sydd i’w gymryd i ystyriaeth mewn asesiad ariannol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw’r cyfan o gyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â’r Rhan hon ac unrhyw incwm a drinnir fel cyfalaf o dan reoliad 19.
(2) Wrth gyfrifo cyfalaf person o dan baragraff (1), rhaid diystyru unrhyw gyfalaf, pan fo’n gymwys, a bennir yn Atodlen 2.
19.—(1) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elw neu enillion trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E i Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1998(28).
(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion.
(3) Ac eithrio incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 1, 4, 8, 14, 22 a 24 o Atodlen 2, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm A sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny yn unig ar y dyddiad pan fo taliad arferol ohono yn ddyledus i A.
(4) Pan fo A yn enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaendal o enillion neu unrhyw fenthyciad a roddir gan gyflogwr A.
(5) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nad yw’n cael ei dalu neu’n daladwy ar adegau rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig), Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2), y Gronfa Byw’n Annibynnol neu Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru(29).
(6) Rhaid trin fel cyfalaf A unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir i A gan drydydd parti at y diben o gynorthwyo A i dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan y person am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “y Gronfa”, “Ymddiriedolaeth Eileen”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” ac “y Gronfa Byw’n Annibynnol” yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “the Fund”, “the Eileen Trust”, “the Macfarlane Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) (No. 2) Trust” a “the Independent Living Fund” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.
20. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A yn y Deyrnas Unedig yn ôl naill ai ei werth cyfredol ar y farchnad neu ei werth ildio (pa un bynnag yw’r uchaf), llai—
(a)os byddai treuliau a briodolid i’r gwerthiant, 10%; a
(b)swm unrhyw lyffethair a sicrhawyd ar y cyfalaf.
21. Rhaid cyfrifo’r cyfalaf a feddir gan A y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r dull a nodir yn rheoliad 50 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
22.—(1) Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, ei ad-dalu neu ei gyfrannu tuag at gost gofal a chymorth i ddiwallu ei anghenion, ac eithrio—
(a)pan fo’r cyfalaf hwnnw’n deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol a’r cyfalaf wedi ei osod ar ymddiried er budd A;
(b)i’r graddau y mae’r cyfalaf a drinnir fel pe bai A yn ei feddu wedi ei leihau yn unol â rheoliad 23 (y rheol cyfalaf tybiannol lleihaol); neu
(c)unrhyw swm y cyfeirir ato ym mharagraff 44(1) neu 45(a) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (diystyru digolledu am anafiadau personol neu farwolaeth, a weinyddir gan y Llys).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caniateir trin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad o gyfalaf y byddid yn ei drin fel cyfalaf a feddir gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 51(2) neu (3) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf tybiannol).
(3) At ddibenion paragraff (2), mae rheoliad 51(2)(c) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at Atodlen 2 (cyfrifo cyfalaf) yn lle’r cyfeiriad at Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.
(4) Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan baragraff (1) neu (2), mae darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys at ddibenion cyfrifo swm y cyfalaf fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol a feddir gan A.
23.—(1) Pan drinnir A fel pe bai’n meddu cyfalaf o dan reoliad 22 (“cyfalaf tybiannol”), yna, am bob wythnos neu ran o wythnos y dyfarnodd yr awdurdod lleol fod A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost ei ofal a chymorth ar gyfradd uwch na’r gyfradd y byddid wedi asesu A yn atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau pe na bai gan A gyfalaf tybiannol, rhaid lleihau swm cyfalaf tybiannol A gan ddefnyddio’r dull a nodir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol leihau swm cyfalaf tybiannol A o’r gwahaniaeth rhwng—
(a)y gyfradd uchaf y cyfeirir ati ym mharagraff (1); a
(b)y gyfradd y byddai A, yn unol â hi, wedi ei asesu’n atebol i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at gost y cyfryw ofal a chymorth am yr wythnos honno neu’r rhan honno o wythnos, pe bai A wedi ei asesu yn rhywun sy’n meddu dim cyfalaf tybiannol.
24.—(1) Pan fo gan A ac un neu ragor o bersonau eraill hawl lesiannol mewn meddiant i unrhyw ased cyfalaf ac eithrio buddiant mewn tir—
(a)onid yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid trin pob person fel pe bai gan bob un ohonynt hawl mewn meddiant i gyfran gyfartal o’r buddiant llesiannol cyfan; a
(b)rhaid trin yr ased hwnnw fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan A hawl lesiannol mewn meddiant i gyfran sy’n llai neu, yn ôl y digwydd, yn fwy, na chyfran gyfartal o’r ystad lesiannol gyfan.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, cyfran A o’r buddiant llesiannol cyfan fydd y gyfran wirioneddol (fel y’i penderfynir gan yr awdurdod lleol) a rhaid ei thrin fel pe bai’n gyfalaf gwirioneddol.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Hydref 2015
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: