Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 15

ATODLEN >1Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm

RHAN >1Symiau sydd i’w diystyru

1.  Unrhyw swm a delir fel treth ar incwm a gymerir i ystyriaeth o dan reoliad 13 (cyfrifo incwm).

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo gan A anghenion am ofal a chymorth ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal, neu pan fo A yn breswylydd dros dro, unrhyw gostau cysylltiedig â thai y mae A’n atebol am eu talu mewn cysylltiad ag unig neu brif gartref A.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r graddau fod y costau cysylltiedig â thai y mae A yn atebol am eu talu yn daliad, cyfraniad neu ad-daliad neu’n swm a ddiystyrir o dan baragraff 3.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “costau cysylltiedig â thai” (“housing-related costs”) yw unrhyw ad-daliadau morgais, taliadau o rent neu rent tir, treth gyngor neu ffioedd gwasanaeth (ac eithrio ffioedd gwasanaeth sy’n anghymwys o dan Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (ffioedd anghymwys)).

3.—(1Unrhyw daliad y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (budd-dal tai).

(2Unrhyw daliad o gymhorthdal incwm tuag at gostau tai a ddyfernir yn unol ag Atodlen 3 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (costau tai) neu unrhyw swm y tybia’r awdurdod lleol a ddyfernid fel taliad tuag at gostau tai pe bai A yn cael cymhorthdal incwm.

(3Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 46 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (lleihau atebolrwydd am dreth gyngor).

4.  Unrhyw daliadau uniongyrchol a geir gan A neu ar ran A yn unol ag adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.

5.  Unrhyw daliad mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau a dynnwyd gan A, pan fo A—

(a)wedi ei gymryd ymlaen gan gorff elusennol neu wirfoddol; neu

(b)yn wirfoddolwr,

os nad yw A yn cael unrhyw gydnabyddiaeth neu elw o’i waith.

6.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 3 neu 4A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (treuliau enillwyr cyflogedig a thâl salwch statudol yng Ngogledd Iwerddon).

7.  Yr elfen symudedd mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl neu’r elfen symudedd mewn taliad annibyniaeth bersonol.

8.  Unrhyw daliad annibyniaeth y lluoedd arfog.

9.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 8 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (atodiad symudedd).

10.  Os yw A yn breswylydd dros dro—

(a)unrhyw lwfans gweini;

(b)yr elfen gofal mewn unrhyw lwfans byw i’r anabl; neu

(c)yr elfen byw dyddiol mewn unrhyw daliad annibyniaeth bersonol.

11.  Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu—

(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 7 neu 10; neu

(b)unrhyw gymhorthdal incwm.

12.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 10 neu 11 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau i dderbynwyr medalau a dyfarniadau addysgol).

13.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 13 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfranogwyr mewn cynlluniau hyfforddi).

14.—(1Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i baragraffau 45 a 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd ac eithrio unrhyw daliad sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 30.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 46, unrhyw daliad perthnasol a wneir neu sy’n daladwy ar adegau rheolaidd a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer unrhyw eitem nas cymerwyd i ystyriaeth wrth asesu cost resymol diwallu neu sicrhau angen A am ofal a chymorth.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw—

(a)taliad elusennol;

(b)taliad gwirfoddol;

(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) oddi wrth ymddiriedolaeth y mae ei chronfeydd yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;

(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A; neu

(ii)o gronfeydd sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A;

(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a gafwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol i A.

15.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3)—

(a)pan nad yw A yn preswylio gyda’i briod neu ei bartner sifil; a

(b)o leiaf 50% o unrhyw bensiwn galwedigaethol A, neu o unrhyw incwm o gynllun pensiwn personol A, yn cael ei dalu i’w briod neu mewn cysylltiad â’i briod ar gyfer cynnal y priod hwnnw, neu i’w bartner sifil ar gyfer cynnal y partner sifil hwnnw,

swm sy’n hafal i 50% o’r pensiwn, pensiynau neu incwm sydd dan sylw.

(2Pan fo gan A hawl i bensiynau neu incwm y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) o fwy nag un ffynhonnell, rhaid agregu’r holl bensiynau ac incwm y mae hawl gan A i’w cael at ddibenion yr is-baragraff hwnnw.

(3Nid yw’r paragraff hwn yn cael effaith mewn cysylltiad â’r rhan o unrhyw bensiwn neu incwm y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) y mae hawl gyfreithiol gan briod neu bartner sifil A i’w chael, pa un a yw hynny o dan orchymyn llys ai peidio.

16.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon ac fel pe bai, mewn perthynas â pharagraff 16(a) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, y cyfeiriad yng ngeiriau agoriadol paragraff 16 o’r Atodlen honno at £10 yn gyfeiriad at £25 ac fel bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16(a) at baragraff 8 neu 9 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 9 neu 10 o’r Atodlen hon.

17.  Unrhyw daliad incwm gwarantedig y cyfeirir ato yn erthygl 15(1)(c) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011.

18.  Yn ddarostyngedig i baragraff 46, £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, cymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, wedi ei agregu â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr a ddiystyrir, yn fwy na £10.

19.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 17 i 20 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (blwydd-daliadau, taliadau gan drydydd partïon tuag at gostau byw, taliadau contractiol mewn cysylltiad â meddiannu annedd a thaliadau gan letywyr).

20.  Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau.

21.—(1Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan A hawl lesiannol iddo, neu y trinnir A o dan reoliad 24 fel pe bai gan A hawl lesiannol iddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 1, 4, 8, 14 neu 22 o Atodlen 2.

(2Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraff 4, 22 neu 24 o Atodlen 2, ond yn unig i’r graddau o unrhyw ad-daliadau morgais a thaliadau treth gyngor neu daliadau dŵr y mae A yn atebol i’w gwneud mewn cysylltiad â’r annedd neu’r fangre yn ystod y cyfnod pan fo’r incwm hwnnw yn cronni.

22.  Unrhyw incwm a ddiystyrid o dan baragraff 23 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

23.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 24 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi incwm i sterling).

24.—(1Unrhyw daliad a wneir i A mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu A—

(a)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) neu 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)yn unol â chynllun lwfans mabwysiadu a wnaed o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (cynlluniau lwfansau mabwysiadu)(1);

(c)sydd yn daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol i gynhaliaeth plentyn pan fo plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn trefniadau plentyn)(2).

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

25.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 26 neu 28 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plant mewn gofal, a dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cynhorthwy ariannol i bersonau sydd neu a fu yn eu gofal).

26.  Unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a godwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i barhau ad-daliadau ar fenthyciad i gaffael neu gadw buddiant mewn annedd a feddiennir gan A fel ei brif neu unig gartref, neu ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau i’r cartref hwnnw, ac a ddefnyddir ar gyfer ad-daliadau o’r fath, i’r graddau nad yw’n fwy nag agregiad y canlynol—

(a)swm taladwy, a gyfrifir ar sail wythnosol, unrhyw log ar y benthyciad;

(b)swm unrhyw daliad, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n daladwy ar y benthyciad ac a briodolir i ad-dalu’r cyfalaf; ac

(c)swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, y premiwm sy’n daladwy ar y polisi hwnnw.

27.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 31 neu 31A o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau cronfa gymdeithasol a darpariaeth lles lleol).

28.  Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad o incwm o dan reoliad 19 (incwm a drinnir fel cyfalaf).

29.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 33 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (bonws Nadolig pensiynwr).

30.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).

31.  Unrhyw daliad a wneir o dan neu gan Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru.

32.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 40, 43 a 48 i 51 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (digollediad budd-dal tai, taliadau rheithwyr a thystion, treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd, taliadau bwyd lles, taliadau cynllun ymweliadau carchar a thaliadau cyflogaeth personau anabl).

33.—(1Unrhyw fudd-dal plant, ac eithrio mewn amgylchiadau pan fo’r plentyn neu’r person ifanc cymwys y mae’r budd-dal plant yn daladwy mewn cysylltiad ag ef gydag A, a llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc cymwys hwnnw yn unol â’r Ddeddf.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “plentyn” a “person ifanc cymwys”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “child” a “qualifying young person” yn adran 142 o Ddeddf 1992.

34.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 53 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (codiadau mewn cyfraddau budd-daliadau etc.).

35.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraffau 54 i 56 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau atodol etc.).

36.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol i A, neu ar ran A, mewn perthynas â gwasanaethau lles y talwyd grant i’r awdurdod lleol mewn cysylltiad â hwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, pan fo A yn gymwys i gael y taliad hwnnw.

37.  Unrhyw lwfans gwarcheidwad.

38.  Unrhyw gredyd treth plant.

39.  Unrhyw gredyd treth gwaith.

40.—(1Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person heb bartner a chydag incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—

(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £5.75 neu’n llai; neu

(b)£5.75 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy na £5.75.

(2Pan fo A—

(a)heb bartner;

(b)wedi cyrraedd 65 oed; ac

(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,

swm o £5.75.

(3Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person sydd â phartner ac incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—

(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £8.60 neu’n llai; neu

(b)£8.60 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy nag £8.60.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), pan fo A—

(a)gyda phartner;

(b)wedi—

(i)cyrraedd 65 oed; neu

(ii)wedi cyrraedd oedran credyd pensiwn a phartner A wedi cyrraedd 65 oed; ac

(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,

swm o £8.60.

(5Pan fo—

(a)y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) wedi ei ddiystyru wrth asesu incwm partner A o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)partner A yn derbyn credyd cynilion,

nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i A.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

(a)mae gan A bartner os ystyrid bod gan A bartner at ddibenion y Rheoliadau Credyd Pensiwn;

(b)mae “incwm cymhwyso” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “qualifying income” yn rheoliad 9 o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn, ac at ddibenion is-baragraffau (3) a (4) mae incwm cymhwyso A yn cynnwys unrhyw incwm cymhwyso sydd gan bartner A;

(c)ystyr “gwarant isafswm safonol” (“standard minimum guarantee”) yw, at ddibenion—

(i)is-baragraffau (1) a (2), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn; a

(ii)is-baragraffau (3) a (4), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn.

41.  Unrhyw daliad i breswylydd dros dro a wneir yn lle glo consesiynol yn unol ag adran 19(1)(b) neu (c) o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994(3).

42.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(4) (“Deddf 1968”) (lwfansau teithio a lwfansau eraill i bersonau sy’n manteisio ar hyfforddiant) at y diben o dalu costau gofal plant pan ddarperir yr hyfforddiant yn unol ag—

(a)adran 63(1)(a) o Ddeddf 1968; neu

(b)adran 63(1)(b) o Ddeddf 1968 a phan fo A yn cael ei gyflogi mewn gweithgaredd, neu’n ystyried cael ei gyflogi mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â, neu sy’n gysylltiedig â, gwasanaeth y mae’n rhaid, neu y caniateir, ei ddarparu neu ei sicrhau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

43.  Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidwaid arbennig)(5) pan fo A yn ddarpar warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad arbennig.

44.—(1Pan fo A yn fyfyriwr, unrhyw grant neu ddyfarniad arall, benthyciad myfyriwr, incwm a ddefnyddir i wneud ad-daliadau ar fenthyciad myfyriwr neu daliad arall a gafwyd gan A at ddibenion ei gwrs o astudiaeth mewn sefydliad addysgol.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “cwrs o astudiaeth”, “myfyriwr” a “benthyciad myfyriwr”, yn eu trefn, yr un ystyron ag a roddir i “course of study”, “student” a “student loan” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

RHAN >2Darpariaethau arbennig sy’n ymwneud â thaliadau elusennol neu wirfoddol a phensiynau penodol

45.  Nid yw paragraff 14 yn gymwys i unrhyw daliad a wneir neu sy’n daladwy—

(a)gan A ar gyfer cynnal unrhyw aelod o deulu A neu gynnal partner blaenorol A neu gynnal plant A; neu

(b)gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol am lety A, neu mewn cysylltiad â llety A.

46.  Ni chaiff cyfanswm yr incwm a ddiystyrir yn unol â pharagraffau 14(2) ac 16, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na’r swm wythnosol a bennir ym mharagraff 36 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (nenfwd o £20 yr wythnos ar agregiadau a ddiystyrir).

(2)

1989 p. 41 (“Deddf 1989”). Diwygiwyd adran 15(1) o Ddeddf 1989 gan baragraff 10(1) o Atodlen 16 i Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41). Diwygiwyd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1989 gan adran 78(3) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 40(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).

(5)

Mewnosodwyd adran 14F gan adran 115(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources