- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
19.—(1) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth incwm a ddidynnwyd o elw neu enillion trethadwy i dreth incwm o dan Atodlen D neu E i Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1998(1).
(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw dâl gwyliau nad yw’n enillion.
(3) Ac eithrio incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 1, 4, 8, 14, 22 a 24 o Atodlen 2, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw incwm A sy’n deillio o gyfalaf, ond hynny yn unig ar y dyddiad pan fo taliad arferol ohono yn ddyledus i A.
(4) Pan fo A yn enillydd cyflogedig, rhaid trin fel cyfalaf unrhyw flaendal o enillion neu unrhyw fenthyciad a roddir gan gyflogwr A.
(5) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw daliad elusennol neu wirfoddol nad yw’n cael ei dalu neu’n daladwy ar adegau rheolaidd, ac eithrio taliad a wneir o dan y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig), Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2), y Gronfa Byw’n Annibynnol neu Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru(2).
(6) Rhaid trin fel cyfalaf A unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir i A gan drydydd parti at y diben o gynorthwyo A i dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan y person am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “y Gronfa”, “Ymddiriedolaeth Eileen”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig)”, “Ymddiriedolaeth Macfarlane (Taliadau Arbennig) (Rhif 2)” ac “y Gronfa Byw’n Annibynnol” yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “the Fund”, “the Eileen Trust”, “the Macfarlane Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) Trust”, “the Macfarlane (Special Payments) (No. 2) Trust” a “the Independent Living Fund” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.
Bydd cyn-dderbynwyr taliadau o’r Gronfa Byw’n Annibynnol (sydd wedi cau bellach) yn cael taliadau o Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru a hynny’n effeithiol o fis Gorffennaf 2015.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: