- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.
(2) Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yw corff y darperir adnoddau ariannol iddo yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(1) mewn cysylltiad â darparu dysgu seiliedig ar waith;
ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;
ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —
awdurdod lleol yng Nghymru;
corff llywodraethu ysgol;
sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(2).
3.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
4.—(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
5.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
6.—(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
7.—(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
8.—(1) Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—
“Gweithiwr ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd— (a) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (b) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd– (c) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (d) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.” |
(3) Yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
syʼn hybu—
datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;
ystyr “ysgol” (“school”) yw—
ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.”
Julie James
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2016
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: