Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn, rhychwant a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

(3Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran—

(i)Cymru;

(ii)parth Cymru;

(iii)cychod pysgota Cymreig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a bennir” (“specified”) yw a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys mewn unrhyw ddogfennaeth a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu a ddarperir ganddynt fel arall;

ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

(a)

sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1), a

(b)

y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru sydd i’w drin fel yr un y mae’r cwch yn perthyn iddo;

ystyr “hysbysedig” (“notified”) yw hysbysedig yn ysgrifenedig;

mae “ysgrifenedig” (“writing”) yn cynnwys cyfathrebiadau electronig o fewn ystyr adran 15(1) (dehongli cyffredinol) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2), a gofnodwyd ac y gellir felly eu hatgynhyrchu.

RHAN 2Sefydlu’r Cynllun

Sefydlu’r Cynllun

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu Cynllun i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol o dan baragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

(2Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cyfansoddi’r Cynllun.

RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru

Talu grantiau a gwneud benthyciadau

4.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â’r Cynllun hwn, dalu grantiau neu wneud benthyciadau, mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan baragraff (1) i unrhyw berson—

(a)sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad, a

(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo ei gais.

Hysbysebu a chanllawiau

5.  Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysebu’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael o dan y Cynllun hwn, a

(b)darparu canllawiau ar gwblhau ceisiadau.

Cais am grant neu fenthyciad

6.—(1Rhaid i gais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf a bennir, cael ei gyflwyno yn y ffordd a bennir a chynnwys yr wybodaeth a bennir.

(2Rhaid i gais gael ei wneud o fewn unrhyw derfyn amser a bennir.

(3Rhaid i geisydd ddarparu unrhyw ddogfennau eraill neu unrhyw wybodaeth arall a bennir pan ddaw’r cais i law neu ar ôl hynny.

Penderfyniad a hysbysiad

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gwrthod cais neu wrthod cymeradwyo cais, neu

(b)cymeradwyo cais yn llawn neu’n rhannol, yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau a nodir ganddynt.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

Tystiolaeth o wariant etc.

8.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson o dan y Cynllun hwn oni bai eu bod yn fodlon bod y person wedi mynd i wariant, neu yr aiff i wariant, yn briodol a bod y gwariant hwnnw yn wariant y telir y grant neu’r benthyciad yn ei gylch a’i fod wedi cydymffurfio, neu y gwnaiff gydymffurfio, ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyo’r grant neu’r benthyciad.

(2At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu gwybodaeth yn dangos tystiolaeth o wariant neu unrhyw gamau angenrheidiol yn ymwneud â’r grant neu’r benthyciad.

Dull o dalu

9.  Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan y Cynllun hwn yn unol â’r rhandaliadau ac ar yr adeg a nodir ganddynt.

Cofnodion, edrych ar gofnod a hysbysiad am newidiadau

10.  Un o amodau talu unrhyw grant a gwneud benthyciadau yw bod rhaid i’r person y gwneir y taliad iddo—

(a)gwneud cofnod o’r holl daliadau grant neu fenthyciad a wneir a’r holl wariant y gwneir taliadau o’r fath yn ei gylch,

(b)cadw unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) am chwe blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y gwnaed y taliad olaf,

(c)yn dilyn hysbysiad rhesymol gan Weinidogion Cymru, sicrhau bod unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ar gael i edrych arno, a

(d)hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau sy’n berthnasol i dalu’r grant neu’r benthyciad.

Amrywio, atal dros dro a dirymu cymeradwyaeth

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i’r grant neu’r benthyciad gael ei dalu’n llawn, atal dros dro neu ddirymu’r gymeradwyaeth, yn llawn neu’n rhannol, neu amrywio amod sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth (gan gynnwys ychwanegu neu ddileu amodau).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

Y weithdrefn ar gyfer gwneud sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniad hysbysedig

12.—(1Caiff y ceisydd wneud sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad hysbysedig o dan reoliad 7(2) neu 11(2).

(2Caniateir pennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae rhaid gwneud sylwadau, gan gynnwys y dogfennau neu’r wybodaeth arall sy’n ofynnol, a’r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau a wneir o dan baragraff (1).

Hysbysiad am adennill taliad

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu unrhyw ran o grant neu fenthyciad a dalwyd i berson o dan y Cynllun hwn.

(2Cyn rhoi hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni—

(a)bod y cais a gymeradwywyd y gwnaed y taliad yn ei gylch, neu unrhyw wybodaeth ategol a ddarparwyd gan y ceisydd mewn perthynas ag ef, yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol,

(b)bod unrhyw swm a dalwyd ar ffurf grant neu fenthyciad wedi cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw y diben y’i talwyd ar ei gyfer, neu

(c)na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r amodau y cymeradwywyd y cais yn unol â hwy, neu y talwyd y grant neu’r benthyciad yn unol â hwy, neu na ellir cydymffurfio â hwy.

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i’r person ad-dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod a bennir, nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.

(4Pan na chaiff unrhyw ran o’r swm a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) ei had-dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru adennill y swm hwnnw sydd heb ei ad-dalu yn ddiannod fel dyled sifil.

Gorfodi

14.—(1Mae gan swyddog gorfodi morol swyddogaeth orfodi mewn perthynas ag unrhyw drosedd neu drosedd a amheuir (er enghraifft, trosedd o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006(3)) gan unrhyw berson mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad a wneir o dan y Cynllun hwn.

(2Mae adran 238 (gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(4) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth a roddir gan baragraff (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “y ddeddfwriaeth pysgodfeydd” yr un ystyr ag a roddir i “the fisheries legislation” yn adran 238(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;

mae i “swyddog gorfodi morol” yr un ystyr ag a roddir i “marine enforcement officer” yn adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources