- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Dyframaethu, Cymru
Pysgodfeydd, Cymru
Amgylchedd Morol, Cymru
Gwnaed
30 Tachwedd 2022
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020(1).
Yn unol ag adran 51(4)(c) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran—
(i)Cymru;
(ii)parth Cymru;
(iii)cychod pysgota Cymreig.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a bennir” (“specified”) yw a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys mewn unrhyw ddogfennaeth a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu a ddarperir ganddynt fel arall;
ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(2), a
y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru sydd i’w drin fel yr un y mae’r cwch yn perthyn iddo;
ystyr “hysbysedig” (“notified”) yw hysbysedig yn ysgrifenedig;
mae “ysgrifenedig” (“writing”) yn cynnwys cyfathrebiadau electronig o fewn ystyr adran 15(1) (dehongli cyffredinol) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3), a gofnodwyd ac y gellir felly eu hatgynhyrchu.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu Cynllun i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol o dan baragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
(2) Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cyfansoddi’r Cynllun.
4.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â’r Cynllun hwn, dalu grantiau neu wneud benthyciadau, mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan baragraff (1) i unrhyw berson—
(a)sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad, a
(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo ei gais.
5. Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysebu’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael o dan y Cynllun hwn, a
(b)darparu canllawiau ar gwblhau ceisiadau.
6.—(1) Rhaid i gais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf a bennir, cael ei gyflwyno yn y ffordd a bennir a chynnwys yr wybodaeth a bennir.
(2) Rhaid i gais gael ei wneud o fewn unrhyw derfyn amser a bennir.
(3) Rhaid i geisydd ddarparu unrhyw ddogfennau eraill neu unrhyw wybodaeth arall a bennir pan ddaw’r cais i law neu ar ôl hynny.
7.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)gwrthod cais neu wrthod cymeradwyo cais, neu
(b)cymeradwyo cais yn llawn neu’n rhannol, yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau a nodir ganddynt.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
8.—(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson o dan y Cynllun hwn oni bai eu bod yn fodlon bod y person wedi mynd i wariant, neu yr aiff i wariant, yn briodol a bod y gwariant hwnnw yn wariant y telir y grant neu’r benthyciad yn ei gylch a’i fod wedi cydymffurfio, neu y gwnaiff gydymffurfio, ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyo’r grant neu’r benthyciad.
(2) At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu gwybodaeth yn dangos tystiolaeth o wariant neu unrhyw gamau angenrheidiol yn ymwneud â’r grant neu’r benthyciad.
9. Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan y Cynllun hwn yn unol â’r rhandaliadau ac ar yr adeg a nodir ganddynt.
10. Un o amodau talu unrhyw grant a gwneud benthyciadau yw bod rhaid i’r person y gwneir y taliad iddo—
(a)gwneud cofnod o’r holl daliadau grant neu fenthyciad a wneir a’r holl wariant y gwneir taliadau o’r fath yn ei gylch,
(b)cadw unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) am chwe blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y gwnaed y taliad olaf,
(c)yn dilyn hysbysiad rhesymol gan Weinidogion Cymru, sicrhau bod unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ar gael i edrych arno, a
(d)hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau sy’n berthnasol i dalu’r grant neu’r benthyciad.
11.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i’r grant neu’r benthyciad gael ei dalu’n llawn, atal dros dro neu ddirymu’r gymeradwyaeth, yn llawn neu’n rhannol, neu amrywio amod sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth (gan gynnwys ychwanegu neu ddileu amodau).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
12.—(1) Caiff y ceisydd wneud sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad hysbysedig o dan reoliad 7(2) neu 11(2).
(2) Caniateir pennu ar ba ffurf ac ym mha fodd y mae rhaid gwneud sylwadau, gan gynnwys y dogfennau neu’r wybodaeth arall sy’n ofynnol, a’r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau a wneir o dan baragraff (1).
13.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu unrhyw ran o grant neu fenthyciad a dalwyd i berson o dan y Cynllun hwn.
(2) Cyn rhoi hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni—
(a)bod y cais a gymeradwywyd y gwnaed y taliad yn ei gylch, neu unrhyw wybodaeth ategol a ddarparwyd gan y ceisydd mewn perthynas ag ef, yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol,
(b)bod unrhyw swm a dalwyd ar ffurf grant neu fenthyciad wedi cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw y diben y’i talwyd ar ei gyfer, neu
(c)na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r amodau y cymeradwywyd y cais yn unol â hwy, neu y talwyd y grant neu’r benthyciad yn unol â hwy, neu na ellir cydymffurfio â hwy.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i’r person ad-dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod a bennir, nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Pan na chaiff unrhyw ran o’r swm a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) ei had-dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru adennill y swm hwnnw sydd heb ei ad-dalu yn ddiannod fel dyled sifil.
14.—(1) Mae gan swyddog gorfodi morol swyddogaeth orfodi mewn perthynas ag unrhyw drosedd neu drosedd a amheuir (er enghraifft, trosedd o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006(4)) gan unrhyw berson mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad a wneir o dan y Cynllun hwn.
(2) Mae adran 238 (gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(5) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth a roddir gan baragraff (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae i “y ddeddfwriaeth pysgodfeydd” yr un ystyr ag a roddir i “the fisheries legislation” yn adran 238(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
mae i “swyddog gorfodi morol” yr un ystyr ag a roddir i “marine enforcement officer” yn adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2022
Rheoliad 4(1)
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
5. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
6. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
7. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
8. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
9. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
10. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
11. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
12. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.

6. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
7. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
8. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
10. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
11. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
12. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
13. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
15. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
6. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau i gefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
7. Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
8. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
10. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
11. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
12. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
13. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
15. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
4. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
5. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
6. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
7. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
8. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
9. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
10. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
11. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
10. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
11. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
12. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
13. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
14. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu’r Cynllun i Weinidogion Cymru roi grantiau a gwneud benthyciadau o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22).
Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 yn pennu’r dibenion y caniateir rhoi cymorth ariannol ar eu cyfer.
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol cyffredinol. Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer sefydlu’r Cynllun. Mae Rhan 3 yn cyfansoddi’r Cynllun ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau. Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau neu wneud benthyciadau mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi ar ba sail y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau ac maent yn gosod gweithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau. Cyn talu grant neu fenthyciad rhaid bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ar y gwariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, ac y cydymffurfir ag unrhyw amodau cymeradwyo.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod talu grant neu fenthyciad yn amodol ar y ceisydd yn cadw cofnodion perthnasol ac yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gall Gweinidogion Cymru amrywio, atal dros dro a dirymu’r penderfyniad i gymeradwyo cais am grant neu fenthyciad a chânt, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu grant neu fenthyciad os na chaiff rhai amodau penodol eu bodloni (gydag unrhyw symiau sydd heb eu had-dalu yn cael eu hadennill yn y pen draw fel dyled sifil).
Caniateir cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau’n ymwneud â cheisiadau am grantiau a benthyciadau a hysbysiadau am amrywiadau, ataliadau dros dro a dirymiadau. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaeth orfodi i swyddogion gorfodi morol a benodir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Mae a wnelo’r swyddogaeth â gorfodi unrhyw droseddau posibl a gyflawnir mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun (er enghraifft, trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006 (p. 35)). Caiff pwerau gorfodi perthnasol ar gyfer swyddogion gorfodi morol o dan Ran 8 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 eu cymhwyso hefyd at ddibenion y swyddogaeth hon.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.
1995 p. 21. Mae Rhan 2 wedi ei diwygio gan O.S. 2002/794 ac O.S. 2015/664.
2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15 gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.
2009 p. 23. Diwygiwyd adran 238 gan O.S. 2013/755 (Cy. 90), O.S. 2019/746 a chan adran 48 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) a pharagraffau 6 a 30 o Atodlen 10 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: