Search Legislation

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2009.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Paragraff 4 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Deddf Addysg 1996 (p.56)LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

4(1)Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 509AA (darparu cludiant ar gyfer personau o oedran chweched dosbarth)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2)(d) hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(c)yn is-adran (9) yn lle “appropriate authority may, if it” rhodder “Secretary of State may, if he”;

(d)hepgorer is-adran (9A);

(e)yn is-adran (10) hepgorer y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”.

(3)Yn adran 509AB (darpariaeth bellach ynghylch datganiadau polisi cludiant)—

(a)hepgorer is-adran (4);

(b)yn is-adran (5), yn lle'r geiriau o “under this section” i'r diwedd rhodder “under this section by the Learning and Skills Council for England.”;

(c)yn is-adran (6)—

(i)ym mharagraff (c) hepgorer “(in the case of a local education authority in England)”;

(ii)ym mharagraff (d) hepgorer y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd y paragraff hwnnw y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos.

(4)Yn adran 509AC (dehongli adrannau 509AA a 509AB)—

(a)hepgorer is-adran (3);

(b)yn is-adran (6) hepgorer y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran honno;

(c)hepgorer is-adran (7).

(5)Yn adran 509A (trefniadau teithio i blant sy'n cael addysg blynyddoedd cynnar ac eithrio mewn ysgol)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (4A), ar ôl “Regulations” mewnosoder “made by the Secretary of State”;

(c)yn is-adran (5) (fel y mae wedi ei hamnewid gan baragraff 23 o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21)), hepgorer “in relation to England,” a pharagraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

Back to top

Options/Help