1Y ComisiynyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [Senedd].
(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn [Aelod o’r Senedd],
(b)wedi bod yn [Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(c)yn aelod o staff y [Senedd],
(d)wedi bod yn aelod o staff y [Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(e)yn aelod o staff Llywodraeth ... Cymru, neu
(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth ... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [Senedd], neu
(b)cael ei ddiswyddo gan y [Senedd].
(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
(a)bod y [Senedd] yn penderfynu felly, a
(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [Senedd] neu o staff Llywodraeth ... Cymru.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn