38Diwygio safonau cymwysadwyLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o'r canlynol—
(a)safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b)safonau llunio polisi;
(c)safonau gweithredu;
(d)safonau cadw cofnodion.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o unrhyw un neu ragor o'r cofnodion canlynol yn y tabl yn cynnwys cyfeiriad at safonau hybu—
(a)cofnod Gweinidogion Cymru;
(b)cofnod cyngor bwrdeistref sirol;
(c)cofnod cyngor sir;
(d)cofnod awdurdod Parc Cenedlaethol;
(e)cofnod unrhyw berson arall, ond dim ond os yw'r person wedi cydsynio y dylai safonau hybu fod yn gymwysadwy iddo.
(4)At ddibenion is-adran (3)—
(a)ystyr “cydsyniad” yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru;
(b)caniateir i berson dynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny;
(c)os yw person yn tynnu cydsyniad yn ôl ar ôl i gofnod y person hwnnw gael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at safonau hybu, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu'r cyfeiriad at safonau hybu yng nghofnod y person hwnnw.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (2) o gofnod sy'n ymwneud â pherson neu gategori o berson yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu gwasanaeth (y “gwasanaeth a bennir”), ond dim ond—
(a)os yw'r amod yn is-adran (7) wedi ei fodloni, a
(b)os yw'r amod yn is-adran (8) neu (9) wedi ei fodloni.
(7)Rhaid i'r gwasanaeth a bennir ddod o fewn categori o wasanaeth a bennir yng ngholofn (3) o'r tabl yn Atodlen 7 (“gwasanaeth sydd ar gael”)
(8)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â pherson yn Atodlen 8, rhaid i'r person hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
(9)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â chategori o bersonau yn Atodlen 8, rhaid i'r holl bersonau o fewn y categori hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).
(11)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (10), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad iddynt.