- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Gorffennaf 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru)(1);
Ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996.
2. Ac eithrio i'r graddau y datganwyd y byddant yn cael effaith yn Lloegr yn unig, bydd i'r diwygiadau i adrannau 354 a 580 o'r Ddeddf fel a nodwyd yng Ngorchymyn Pynciau Craidd (Diwygio) (Lloegr) 2000(2)h), effaith yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r diwygiadau pellach a nodir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
3. Mae'r diwygiadau pellach y cyfeirir atynt yn erthygl 2 fel a ganlyn —
(a)yn is-adran (4) fel y'i hamnewidwyd, yn lle paragraff (b) rhoddir –
“(b)in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales or, if the order so provides, any modern foreign language.”, a
(b)yn is-adran (5) fel y'i hamnewidwyd ar ôl “(4)(a)” mewnosoder “or (b)”.
4. Gwelir testun adran 354(1) i (5) o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn y cyfeirir ato yn erthygl 2 ac fel y'i diwygir ymhellach gan y Gorchymyn hwn, yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2000
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: