Search Legislation

Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1882 (Cy.129)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

13 Gorffennaf 2000

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn Atodlen 1.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 354(6) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol y gosodwyd drafft ohono gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Gorffennaf 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • Ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru)(3);

  • Ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

  • Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996.

Diwygio

2.  Ac eithrio i'r graddau y datganwyd y byddant yn cael effaith yn Lloegr yn unig, bydd i'r diwygiadau i adrannau 354 a 580 o'r Ddeddf fel a nodwyd yng Ngorchymyn Pynciau Craidd (Diwygio) (Lloegr) 2000(4)h), effaith yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r diwygiadau pellach a nodir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

3.  Mae'r diwygiadau pellach y cyfeirir atynt yn erthygl 2 fel a ganlyn —

(a)yn is-adran (4) fel y'i hamnewidwyd, yn lle paragraff (b) rhoddir –

(b)in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales or, if the order so provides, any modern foreign language., a

(b)yn is-adran (5) fel y'i hamnewidwyd ar ôl “(4)(a)” mewnosoder “or (b)”.

4.  Gwelir testun adran 354(1) i (5) o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn y cyfeirir ato yn erthygl 2 ac fel y'i diwygir ymhellach gan y Gorchymyn hwn, yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2000

ATODLEN 1Gofynion o dan adran 368 o Ddeddf Addysg 1996(6)

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad(7).

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â marterion a oedd yn codi.

ERTHYGL 4

ATODLEN 2Testun adran 354(1) i (5) y Ddeddf fel y'i diwygiwyd

(1) The following are the core subjects —

(a)mathematics;

(b)English;

(c)science; and

(d)in relation to schools in Wales which are Welsh-speaking schools,Welsh.

(2) In relation to schools in England, the following are the other foundation subjects —

(a)technology;

(b)physical education;

(c)in relation to the first, second and third key stages —

(i)history;

(ii)geography;

(iii)art and design;

(iv)music;

(d)in relation to the third and fourth key stages —

(i)citizenship;

(ii)a modern foreign language.

(3) In relation to schools in Wales, the following are the other foundation subjects —

(a)physical education;

(b)Welsh, if the school is not a Welsh-speaking school;

(c)in relation to the first, second and third key stages —

(i)history;

(ii)geography;

(iii)art;

(iv)music;

(v)technology;

(d)in relation to the third key stage, a modern foreign language.

(4) “Modern foreign language” —

(a)in relation to schools in England, means a modern foreign language specified in an order of the Secretary of State, or, if the order so provides, any modern foreign language; and

(b)in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales, or, if the order so provides, any modern foreign language.

(5) An order under subsection (4)(a) or (b) may —

(a)specify circumstances in which a language is not to be treated as a foundation subject;

(b)provide for the determination under the order of any question arising as to whether a particular language is a modern foreign language..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 yn rhestru'r pynciau sy'n bynciau sylfaen at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9 yn fras), mae un o'r pynciau sylfaen a restrir yn yr adran yn iaith dramor fodern a bennir drwy Orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 354 fel nad oes angen bellach i ieithoedd tramor modern gael eu pennu mewn Gorchymyn o dan yr adran honno. Yn lle hynny, caiff y Gorchymyn ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Hefyd caiff Gorchymyn o dan yr adran fel y'i diwygiwyd —

(a)bennu'r amgylchiadau lle na ddylid trin iaith fel pwnc sylfaen, a

(b)darparu mecanwaith ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw iaith benodol yn iaith dramor fodern.

Gwelir testun adran 354(1) i (5) fel y'i diwygiwyd yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran354(6) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(6)

1996 p.56. Diwygir adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(7)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) gall y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a byddant yn cael effaith fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources