Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 977 (Cy. 47 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 iddi a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989

2.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989(2) (cyfrifo ffioedd), ym mharagraff (5), yn lle “£348” yn y ddau fan lle mae'n digwydd rhoddir “£354”.

Diddymu

3.  Diddymir drwy hyn Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) Diwygio 1999(3).

Darpariaethau Trosiannol

4.  Pan gyflenwir offer ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, neu pan ddarperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol eraill, yn unol â chontract neu drefniant i ddarparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, bydd rheoliad 4(5) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 yn cael effaith mewn perthynas â'r cyflenwad hwnnw neu'r ddarpariaeth arall honno fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 i godi o £348 i £354 yr uchafswm sy'n daladwy gan y claf am driniaeth neu offer deintyddol, pan fydd y contract neu'r trefniant sy'n arwain at ddarparu triniaeth neu offer o'r fath yn cael ei wneud ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

(1)

1977 p.49; gweler a.128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), a.26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), a.11(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 79A, a pharagraff 3(2) a 3(3) o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

1989/394; O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 1999/544 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources