Search Legislation

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2705 (Cy.225) (C.90)

ADDYSG, CYMRU

CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

17 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1):

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben.

Y darpariaethau sy'n dod i rym

2.—(1Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorfennaf 2001

Erthygl 2

YR ATODLEN

RHAN IDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2002

  • Adran 36.

  • Adran 113.

  • Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

  • Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.

  • Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

  • Atodlen 7.

  • Yn Atodlen 9 —

    • paragraff 1 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,

    • paragraff 67(3),

    • paragraff 82,

    • paragraff 84,

    • paragraff 90(5) a (6),

    • paragraff 91.

  • Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru —

    • yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 7, ym mharagraff 13(4) y gair “and” yn union ar ôl paragraff (b) ac ym mharagraff 13(7) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a) ac yn Atodlen 22, ym mharagraff 5(1) y gair “or” yn union ar ôl paragraff (a)(i).

RHAN IIDarpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2002

  • Adran 97.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002.

Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.

Mae adran 36 yn rhoi pŵ er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor Cenedlaethol”) roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi pŵ er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.

Mae adran 140 ((1)—(2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol.

Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.

Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif yr O.S.
Adrannau 104, 105, 107 a 1083 Awst 20002000/2114(C.56)

Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9.

Yn atodlen 9, paragraff 87.

1 Medi 20002000/2114(C.56

Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod.

Atodlen 4.

Yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93.

19 Medi 20002000/2540 (Cy.163)(C.70)

Adrannau 134—136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.

Yn Atodlen 9, paragraff 14.

1 Hydref 20002000/2559(C.73)

Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.

Atodlen 5.

Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86 a 92.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —

  • Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 18 a 60A, ac Atodlen 5A,

  • Deddf Addysg 1996, paragraff 113 o Atodlen 37, Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 19 a 22,

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 125 a 126, ac Atodlen 27, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, adran 104(4).

1 Ionawr 20012000/3230 (Cy.213) (C.103)

Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod.

Adran 151 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth yn Atodlen 10 a bennir isod.

Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.

Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37, 38, 39, 41— 43, 47—50, 52(3), 83 ac 88.

Yn Atodlen 10, Rhan IV.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —

  • Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 91(2),

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 142(1).

1 Ebrill 20012001/654(C.25)

Adrannau 31—35, 37— 41, 45, 50, 74—86, 88, 91, 99. Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b).

Adrannau 103(4), 110—112, 123—129, 137, 138, 140(3). Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3). Adrannau 142—144.

Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

Yn Atodlen 9, paragraffau 5—10, 12, 13, 15— 17, 20, 21(a), 22—30, 32, 33, 40, 44(1) a (2), 46, 51, 52(1) a (2), 53—56, 59, 65, 66, 67 (5), 68, 72—74. Paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000. Paragraffau 76—80 a 94.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —

  • Deddf Blwydd-dâl 1972, Atodlen 1,

  • Deddf Anghymhwyso o Dyŷ'r Cyffredin 1975, Rhan III o Atodlen I ,

  • Deddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975, adran 25(6)(d),

  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, adran 19(6)(d),

  • Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 124(2)(b),

  • Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 1—9, 28(2)(b), 32(2A), 44(6), 45(6), 52(1), 55(1)—(3) a (7), 56, ac Atodlen 2,

  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adrannau 19(6)(f) a 30(2)—(4),

  • Deddf Addysg 1996, adrannau 15, 509(1) a pharagraffau 70 a 112 o Atodlen 37,

  • Deddf Addysg 1997, adran 30(1) a (3),

  • Deddf y Comisiwn Archwilio 1998, adran 36(1) a (2),

  • Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 26(1) a (2), 28(1)(a) a 34,

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 41 a 42 o Atodlen 30.

1 Ebrill 20012001/ 1274 (Cy.73) (C. 46)

Adrannau 96, 100(2), 102, 103(5) a 148. 1Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9.

Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

Yn Atodlen 9, paragraff 57.

Yn Atodlen 11, y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol —

  • Deddf Addysg 1996, adran 403(1),

  • Deddf Addysg 1997, adran 37(1)—(4), a 37(5).

1 Medi 20012001/ 1274 (Cy.73) (C.46 )

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources