Search Legislation

Rheoliadau Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3461 (Cy.280)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

16 Hydref 2001

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), sydd bellach yn arferadwy yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r buddiannau o dan sylw, a chan ei fod wedi'i ddynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4)) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2)(5) a enwyd (i'r graddau na all y Rheoliadau hyn gael eu gwneud o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant I rym ar 3 Tachwedd 2001.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

2.  Caiff Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(6)) eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 16 isod.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli) —

(a)ym mharagraff (1) —

(i)yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosodir y diffiniadau canlynol—

  • ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthyg 2.2(d)” (“European Economic Area approved Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliada sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau, a gedwir gan awdurdod cymwys mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r deyrnas Unedig neu aelod-Wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhyrchu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;

  • ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“European Economic Area approved Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau wedi'u cymeradwyo, a gedwir gan awdurdod cymwys mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;

  • ystyr “sefydliad a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(d)” (“European Economic Area permitted Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliad gwladwriaeth yn Ardal Economaid Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaid Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(d) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn Ardal Economaid Ewrop wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —

    (a)

    yr oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhrychu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei weithgynhyrchu arno, gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad, ar 10 Mawrth 2000, a

    (b)

    y cafodd cais ei wneud mewn perthynas ag ef, cyn 10 Awst 2000, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn y wladwriaeth o dan sylw yn Ardal Economaidd Ewrop, yn unol ag unrhyw ofynion yn y wladwriaeth honno ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;

  • ystyr “sefydliad a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“European Economic Area permitted Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn y wladwriaeth honno wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —

    (a)

    yr oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei gynhyrchu arno, ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig, ar 10 Mawrth 2000, a

    (b)

    y cafodd cais ei wneud mewn perthynas ag ef, cyn 10 Awst 2000, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn y wladwriaeth o dan sylw yn Ardal Economaidd Ewrop, yn unol ag unrhyw ofynion yn y wladwriaeth honno ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;;

(ii)yn lle'r diffiniad o “rhoi mewn cylchrediad”, rhoddir y diffiniad canlynol —

  • ystyr “rhoi mewn cylchrediad” (“put into circulation”) yw gwerthu neu drosglwyddo mewn modd arall meddiannu gyda golwg ar werthu neu ar drosglwyddo fel arall, neu gynnig gwerthu, i drydydd parti, ond, yn rheoliad 14(3), (4) a (7), mae hefyd yn golygu mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nac yn rhan o un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop; a

(iii)yn lle'r diffiniad o “trydedd wlad” rhoddir y diffiniad canlynol –

  • ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad heblaw un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop;;

(b)hepgorir paragraff (2) ac

(c)ym mharagraff (8), yn lle'r geiriau “gwneud y Rheoliadau hyn” rhoddir y geiriau “gwneud Rheoliadau Porthiant a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001”.

4.—(1Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, ar ôl y geiriau “Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001” ychwanegir y geiriau “fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Diwygio Porthiant a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001”.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw rheoliadau 7(1), 24(1) a 25(b).

5.  Yn rheoliad 7 (cyfyngu amrywiadau), yn lle paragraff (3)(a) a (b) rhoddir y paragraffau canlynol —

(a)os cafodd y deunydd ei werthu gyntaf, neu ei roi mewn cylchrediad fel arall, mewn Aelod-wladwriaeth neu yn un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop (heblaw'r Deyrnas Unedig) nad yw'n Aelod-wladwriaeth,

(b)os nad oedd y cam-ddatganiad, adeg rhoi'r deunydd mewn cylchrediad, y tu hwnt i unrhyw gyfyngiadau ar amrywiadau a ragnodwyd mewn perthynas ag ef yn y wladwriaeth o dan sylw, ac.

6.  Yn rheoliad 9 (dull pacio a selio porthiant cyfansawdd, ychwanegion a rhag-gymysgeddau) —

(a)ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau “ni chaiff neb werthu porthiant cyfansawdd, nac unrhyw ychwanegyn neu rag-gymysgedd” rhoddir y geiriau “ni chaiff neb werthu porthiant cyfansawdd, na gwerthu unrhyw ychwanegyn neu rag-gymysgedd”;

(b)ym mhob un o baragraffau (2) a (3), yn lle'r geiriau “ei werthu” rhoddir y geiriau “ei roi mewn cylchrediad”; ac

(c)ym mharagraff 2(a), yn lle'r geiriau “neu werthwyr porthiant cyfansawdd” rhoddir y geiriau “porthiant cyfansawdd neu'r sawl sy'n ei roi mewn cylchrediad”.

7.—(1Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, yn lle'r geiriau “gwerthu unrhyw borthiant cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd porthiant o'r fath, na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu,” rhoddir y geiriau “rhoi unrhyw borthiant cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd porthiant o'r fath mewn cylchrediad”.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw rheoliadau 10(3)(b) a (4), 13(1), 15, 16(1) a 17(1).

8.  Yn rheoliad 10 (rheoli deunyddiau porthi) yn lle paragraff (6) rhoddir y paragraffau canlynol —

(6) Heb ragfarnu adrannau 73 a 73A, ni chaiff neb fewnforio unrhyw ddeunydd porthiant i Gymru o unrhyw wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth nac yn un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nad yw'n Aelod-wladwriaeth, nac yn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, ei gyflenwi (heblaw drwy werthu) na'i feddiannu gyda golwg ar ei gyflenwi, na'i ddefnyddio, a hwnnw'n andwyol neu'n beryglus i greaduriaid fferm, i anifeiliaid anwes neu, drwy yfed neu fwyta cynhyrchion unrhyw anifeiliaid a fwydwyd ar y deunydd porthiant, i fodau dynol.

(6A) Ni chaiff neb fewnforio unrhyw ddeunydd porthiant i Gymru o unrhyw wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth nac yn un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nad yw'n Aelod-wladwriaeth, nac yn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, ei werthu na'i feddiannu gyda golwg ar ei werthu, ei gyflenwi (heblaw drwy werthu) na'i feddiannu gyda golwg ar ei gyflenwi, na'i ddefnyddio, a hwnnw'n andwyol i'r amgylchedd.(7).

9.  Yn rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthi sy'n cynnwys sylweddau annymunol) —

(a)ym mharagraff (4) —

(i)yn is-baragraff (a)(iii) hepgorir y gair “neu”; a

(ii)ar ôl is-baragraff (a)(iv) ychwanegir y darpariaethau canlynol —

(v)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(d) neu;

(vi)sefydliad a gymeradwywyd neu a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f);; a

(b)ym mharagraff (5) —

(i)yn lle'r geiriau “unrhyw sefydliad yn y DU neu'r CE” rhoddir y geiriau “unrhyw un o sefydliadau'r DU neu'r CE neu Ardal Economaidd Ewrop”; a

(ii)yn lle is-baragraff (b) rhoddir yr is-baragraff canlynol —

(b)yn achos sefydliad yn y CE neu yn Ardal Economaidd Ewrop, ei fod wedi'i gynnwys yn y rhestr ddiweddaraf (os oes un) sydd wedi'i chyhoeddi ac sy'n cyfateb i'r rhestr genedlaethol yn yr Aelod- wladwriaeth o dan sylw, neu yn ôl fel y digwydd, yn y wladwriaeth o dan sylw yn Ardal Economaidd Ewrop..

10.  Yn rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau a waharddwyd) —

(a)ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (e) rhoddir yr is-baragraff canlynol —

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, gwastraff (p'un a fu, neu a yw i fod, yn destun prosesu pellach) a gafwyd drwy drin “dwr gwastraff trefol”, “dwr gwastraff domestig” neu “ddwr gwastraff diwydiannol” (fel y diffinnir “urban waste water”, “domestic waste water” a “industrial waste water” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff trefol) beth bynnag fo tarddiad y dwr gwastraff o dan sylw;; (8) a

(b)ar ôl paragraff (2) ychwanegir y paragraff canlynol —

(3) At ddibenion paragraff 1(d) uchod, dehonglir y term “dwr gwastraff” yn unol ag ail baragraff pwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 91/516/EEC yn sefydlu rhestr o gynhwysion y gwaherddir eu defnyddio mewn deunydd porthiant cyfansawdd..(9)

11.  Yn rheoliad 16(2) (rheoli lludw sy'n anhoddadwy mewn hydrochloric acid mewn porthiant cyfansawdd) —

(a)yn lle'r gair “gwerthu” rhoddir y geiriau “rhoi mewn cylchrediad”, a

(b)yn is-baragraff (a) ychwanegir y geiriau canlynol ar y diwedd “neu yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2697/2000 ynghylch awdurdodiadau dros dro ar gyfer ychwanegion mewn porthiant”. (10)

12.  Yn rheoliad 24(2), yn lle'r gair “rheoliadau” a hyd at y diwedd rhoddir y darpariaethau canlynol—

  • rheoliadau 9(1)(a) (mewn perthynas â rhoi mewn cylchrediad), (2) a (3), 10(1) i (4), (6), (6A) a (7), 13(3)(a), (c) a (d), (4), (6) and (7), 14(3), (4), (6), (7) a (9), 15(1), 17, 18(1) a 19(1)..

13.  Diddymir rheoliad 27(a), (c) a (d)(ii).

14.  Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau ynghylch eu defnyddio)—

(a)yn lle paragraff 3 rhoddir y paragraff canlynol —

3.(1) Subject to subparagraph (2) below, no material shall contain any added colourant named or described in columns 2 and 3 of Part II unless —

(a)the material is intended for a species or category of animal listed opposite the colourant in question in column 4 of that Part,

(b)taking into account any such colourant as is naturally present, the maximum content (if any) specified in relation thereto in column 5 of that Part is not exceeded; and

(c)the material complies with the conditions (if any) specified in relation thereto in column 6 of that Part

(2) Subparagraph (1) above shall not apply to any added colourant which is intended for use in accordance with Commission Regulation (EC) No. 2697/2000 concerning the provisional authorisations of additives in feedingstuffs.;

(b)yn lle'r troednodyn i Ran II o'r Tabl (lliwiau a ganiateir) rhoddir y troednodyn canlynol —

(2) Note also that certain colourants are permitted by virtue of Commission Regulation (EC) No. 2697/2000 as referred to in Part IX of this Table.,

(c)yn lle'r cofnodion yng ngholofnau 1 i 7 o Ran V o'r Tabl (elfennau hybrin) sy'n ymwneud â'r elfen “Copper-Cu”, rhoddir y darpariaethau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, ac

(ch)yn lle'r darpariaethau yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion odanynt) rhoddir y darpariaethau a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

15.  Yn Atodlen 4 (cynnwys y gosodiad statudol neu'r datganiad arall (ac eithrio ychwanegion a rhag-gymysgeddau nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn porthiant)) —

(a)yn lle paragraff 1 rhoddir y paragraff canlynol —

1.  The expression “in the case of any compound feeding stuff”, wherever it appears in this Schedule, shall be construed as referring to any compound feeding stuff which is sold or otherwise put into circulation.;

(b)ym mharagraff 2, yn is-baragraff (a)(iii)(bb), yn lle'r geiriau “(or by an appropriate extract from)” hyd at y diwedd rhoddir y geiriau “the words “EC additives””;

(c)ym mharagraff 7, yn lle is-baragraff (c)(ix) rhoddir y darpariaethau canlynol—

(ix)the name or business name, and the address or registered business address, of the person within the European Economic Area responsible for the particulars specified in this subparagraph, if the establishment referred to in paragraph (x) below is not responsible for them;

(x)where the establishment producing the feed material must be approved in accordance with Council Directive 90/667/EEC laying down the veterinary rules for the disposal and processing of animal waste, for its placing on the market and for the prevention of pathogens in feedstuffs of animal or fish origin, and amending Directive 90/425/EC; the name or business name, and the address or registered business address, of the establishment, the approval number, the batch reference number or any other particulars which ensure that the material can be traced.; (11)

(ch)ym mharagraff 9, yn lle is-baragraff (1)(a) rhoddir y paragraff canlynol —

(a)originated in a third country, and;

(d)ym mharagraff 14 —

(i)yn lle is-baragraff (1)(c) rhoddir y ddarpariaeth ganlynol —

(c)the approval or registration number allocated, in accordance with Article 5 or, as the case may be, 10, of the Establishments Directive, to the establishment which manufactured the compound feeding stuff; and;

(ii)ar ôl is-baragraff (1)(c) ychwanegir y ddarpariaeth ganlynol —

(d)the name or trade name and address or registered office of the person responsible for the accuracy of the particulars which, in accordance with this Schedule, are required in the case of compound feeding stuffs to be contained in the statutory statement or otherwise declared.;

(dd)ym mharagraff 16(2), ar ôl y geiriau “whole grain mix” ychwanegir y geiriau “which is sold or otherwise put into circulation”;

(e)ym mharagraff 17(2), ar ôl y geiriau “subparagraph (1) above,” ychwanegir y geiriau “which is sold or otherwise put into circulation,”;

(f)ym mharagraff 22 ychwanegir yr is-baragraffau canlynol ar y diwedd —

(d)the identification mark or trade mark of the person responsible for the particulars which, in accordance with this Schedule, are required or permitted in the case of compound feeding stuffs to be contained in the statutory statement or otherwise declared;

(e)the description or trade name of the feeding stuff;

(f)the price of the feeding stuff; and

(g)the country of origin or manufacture of the feeding stuff.;

(ff)ym mharagraff 23(1), ar ôl y geiriau “complementary feeding stuff which” ychwanegir y geiriau “is sold or otherwise put into circulation, and”;

(g)ym mharagraff 25(1), ar ôl y geiriau “other than pet animals,” ychwanegir y geiriau “which is sold or otherwise put into circulation,”; ac

(ng)ym mhob un o baragraffau 26(1) a 27(1), ar ôl y geiriau “feeding stuff intended for a particular nutritional purpose,” ychwanegir y geiriau “which is sold or otherwise put into circulation.”.

16.—(1Yn Atodlen 5, ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, yn lle'r gair “Community” rhoddir y geiriau “Economic Area”

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw is-baragraff 1(a)(iii), (e)(iv) ac (f)(v) yn Rhan I o Atodlen 5 ac is-baragraff 2(a)(iv) yn Rhan II o'r Atodlen honno.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999

17.  Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(12) fel a ganlyn mewn perthynas â Chymru —

(a)yn rheoliad 7(2) a (4), yn lle'r cyfeiriadau at “the Feeding Stuffs Regulations 1995” rhoddir cyfeiriadau at “the Feeding Stuffs Regulations (Wales) 2001 as amended by the Feeding Stuffs and Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”;

(b)yn lle rheoliad 9, rhoddir y darpariaethau canlynol:

Modification of section 67(8) of the Agriculture Act 1970

9.  In relation to Wales, section 67(8) of the Act shall (as specified in regulation 7) have effect as if, for the provisions of that subsection, there were substituted the following provisions:

(8) If the National Assembly for Wales is of the opinion that, in any area covered by an enforcement authority, the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001, (as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001), or section 73 or 73A of this Act, have been —

(a)insufficiently enforced or administered by the authority concerned, or

(b)enforced or administered by it without sufficient regard to the requirements of Council Directive 95/53/EC fixing the principles governing the organisation of official inspections in the field of animal nutrition, as amended by Council Directive 1999/20/EC,

it may appoint one or more inspectors to exercise the powers exercisable by inspectors appointed by the authority in question, and any expenses certified by it as having been incurred by it under this subsection shall be repaid to it on demand by that authority.(13); ac

(c)yn rheoliad 10, yn is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel y'i diwygiwyd gan y rheoliad hwnnw, yn lle'r cyfeiriadau at “the Feeding Stuffs Regulations 1995” rhoddir cyfeiriadau at “the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Hydref 2001

Regulation 14(c)

SCHEDULE 1PROVISIONS SUBSTITUTED FOR THE PROVISIONS IN PART V OF SCHEDULE 3 TO THE FEEDING STUFFS (WALES) REGULATIONS 2001 RELATING TO THE ELEMENT COPPER-Cu

E4Copper-Cu

Cupric acetate, monohydrate

Basic cupric carbonate, monohydrate

Cupric chloride, dihydrate

Cupric methionate

Cupric oxide

Cupric sulphate, pentahydrate

Cu(CH3.COO)2.H2O }

CuCO3.Cu(OH)2.H2O) }

CuCI2.2H2O }

Cu(C3H10NO2S)2 }

CuO }

CuSO4.5H2O }

Pigs for fattening:

— up to 16 weeks

— from 17th week to six months

— over six months

Breeding pigs:

Calves:

— milk replacers:

— other complete feeding stuffs:

Ovines:

Other species of animals:

175 (total)

100 (total)

35 (total)

35 (total)

30 (total)

50 (total)

15 (total)

35 (total)

Cupric sulphate, monohydrate

Cupric sulphate, pentahydrate

CuSO4.H2O }

CuSO4.5H2O

Pigs for fattening:

— up to 16 weeks

— from 17th week to six months

— over six months

Breeding pigs:

Ovines:

Other species of animals with the exception of calves:

175 (total)

100 (total)

35 (total)

35 (total)

15 (total)

35 (total)

Denatured skimmed milk powder and compound feeding stuffs manufactured from denatured skimmed milk powder:

  • Subject to the relevant provisions of Commission Regulations (EEC) No.368/77 and (EEC) No. 443/77.

  • Declaration of the amount of copper added, expressed as the element on the label or package or the container of denatured skimmed milk powder.

ATODLEN 2Rheoliad 14(d)Y DARPARIAETHAU A RODDIR YN LLE RHAN IX O'R TABL I ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001

PART IX EUROPEAN COMMUNITY REGULATIONS BY WHICH ADDITIVES ARE CONTROLLED(15)

  • Commission Regulation (EC) No. 2316/98 concerning authorisation of new additives and amending the conditions for authorisation of a number of additives already authorised in feedingstuffs(16).

  • Commission Regulation (EC) No. 1594/1999 amending the conditions for the authorisation of an additive in feedingstuffs(17).

  • Commission Regulation (EC) No. 2439/1999 on the conditions for authorisation of additives belonging to the group “binders, anti-caking agents and coagulants” in feedingstuffs(18)).

  • Commission Regulation (EC) No. 1353/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives, new additive uses and new preparations in feedingstuffs(19).

  • Commission Regulation (EC) No. 2437/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives in feedingstuffs(20)).

  • Commission Regulation (EC) No. 2697/2000 concerning the provisional authorisations of additives in feedingstuffs(21).

  • Commission Regulation (EC) No. 418/2001 concerning the authorisations of new additives and uses of additives in feedingstuffs(22).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 3 Tachwedd 2001, yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

2.  Mae'r Rheoliadau'n gweithredu —

(a)Penderfyniad y Comisiwn 2000/285/EC sy'n diwygio Penderfyniad 91/516/EC a sefydlodd restr o gynhwysion y gwaherddir eu defnyddio mewn porthiant (OJ Rhif L94, 14.4.2000, t. 43), a

(b)Cyfarwyddeb 2000/16/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 79/373/EC ynghylch marchnata porthiant cyfansawdd (OJ Rhif L105, 3.5.2000, t. 36), a

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC ynghylch cylchrededg deunyddiau porthiant (OJ Rhif 125, 23.5.1996, t.35).

3.  Mae'r Rheoliadau —

(a)yn diwygio mesurau ynghylch marchnata porthiant cyfansawdd a chylchredeg deunyddiau porthiant (rheoliad 6);

(b)yn diwygio mesurau ynghylch rheoli porthiant cyfansawdd er mwyn gwahardd defnyddio deunydd o brosesau trin gwastraff (rheoliad 10);

(c)yn ychwanegu'r tri Rheoliad Comisiwn newydd (sy'n gymwysadwy yn uniongyrchol) a bennir isod at y rhestr a geir yn Rhan IX o Atodlen 3 i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (rheoliad 14). Dyma Reoliadau newydd y Comisiwn —

(ch)yn gwneud mân ddiwygiadau teipograffyddol ac amryw o ddiwygiadau eraill i'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli.

4.  Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1970 p. 40; mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, p.68, Atodlen 4, paragraff 6, a diwygiwyd y Ddeddf gan Reoliadau Diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 1982 (O.S. 1982/980). Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”; diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

(3)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(5)

Fel y'i darllenir gydag adran 2(5) o Ddeddf Ardaloedd Economaidd Ewrop 1993 (p.51).

(7)

Diwygiwyd Adrannau 73 a 73A o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/343.

(8)

OJ Rhif L135, 30.5.1991, t.40.

(9)

OJ Rhif L281, 9.10.91, t.23. Fe'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/285/EC yn diwygio Penderfyniad 91/516/EEC a sefydlodd restr o gynhwysion y mae eu defnyddio wedi'i wahardd mewn porthiant cyfansawdd (OJ Rhif L94, 14.4.2000, t.43).

(10)

OJ Rhif L319, 16.12.2000, p. 1.

(11)

OJ Rhif L363, 27.12.90, t.51. Fe'i diwygiwyd ddiwethaf gan Ddeddf Derbyn 1994 (OJ Rhif C41, 29.8.94, t.155).

(12)

O.S. 1999/2325. Wedi'i addasu (mewn perthynas â Chymru a Lloegr) gan O.S. 2000/656 ac (mewn perthynas â Chymru) gan O.S. 2001/343.

(13)

OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17 yw'r cyfeirnod ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC. OJ Rhif L80, 25.3.99, t.20 yw'r cyfeirnod ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/20/EC.

(15)

Certain of the listed Regulations relate to categories of additive which also include additives controlled by the Additives Directive, and which are thus listed in the relevant Part of Parts I to VIII of the Table to this Schedule (e.g. the preservative formic acid is covered by Regulation (EC) No. 1594/1999 (above), whereas certain other preservatives are covered by Part VII of the Table).

(16)

OJ No. L289, 28.10.98, p.4.

(17)

OJ No. L188, 21.7.1999, p.35

(18)

OJ No. L297, 18.11.1999, p.8. The Annex to this Regulation is now replaced by the Annex to Regulation (EC) No. 739/2000 (OJ No. L87, 8.4.2000, p.14).

(19)

OJ No. L155, 28.6.2000, p.15. As regards the additives specified in Annexes III and IV of this Regulation, see now the corresponding entries in Regulation (EC) No. 2697/2000 above.

(20)

OJ No. L280, 4.11.2000, p.28.

(21)

OJ No. L319, 16.12.2000, p.1.

(22)

OJ No. L62, 2.3.2001, p.3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources