Search Legislation

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 19 Awst 2002.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “amaethyddol” yr un ystyr ag “agricultural” yn Neddf Amaethyddiaeth 1947(1);

  • ystyr “caniatâd” (“consent”) yw caniatâd y mae ei angen o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—

    (a)

    Cyngor Cefn Gwlad Cymru(2);

    (b)

    Asiantaeth yr Amgylchedd(3); ac

    (c)

    unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, corff statudol neu sefydliad arall sydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw fuddiant yn y prosiect neu sy'n dal unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i'r prosiect;

  • ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—

    (a)

    sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan I o Atodlen 2 y mae'n rhesymol ei chael er mwyn asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect ac y mae'n rhesymol disgwyl i'r sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd eu casglu, gan gymeryd i ystyriaeth yn arbennig wybodaeth a dulliau cyfredol o asesu,

    (b)

    sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o Atodlen 2 fan lleiaf;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i addaswyd drwy'r Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

  • ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen fel rhan o'r datganiad amgylcheddol yn unol â rheoliad 10(1);

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);

  • ystyr “y Gyfarwyddeb EIA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(5));

  • ystyr “partïon â buddiant” (“interested parties”) yw'r personau hynny sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 15(5) eu bod am gyflwyno sylwadau mewn perthynas ag apêl;

  • ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5(4) neu y bernir ei fod wedi'i wneud ganddo o dan reoliad 5(8);

  • ystyr “prosiect” (“project”) yw—

    (a)

    gwneud gwaith adeiladu neu gyfarpar neu gynlluniau eraill; neu

    (b)

    unrhyw ymyriaethau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a'r tirlun;

    sy'n cynnwys y defnydd o dir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;

  • ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu (neu y bernir ei fod wedi penderfynu) ei fod yn debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd;

  • ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect lle mae'r tir perthnasol wedi'i leoli yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;

  • ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitat Regulations”) yw Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ac yn y blaen) 1994(6);

  • ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw'r safleoedd hynny a ddisgrifir ym mharagraffau (a), (b), a (d) o reoliad 10(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd; ac

  • ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw'r tir lle y mae'r prosiect i'w gyflawni arno neu, mewn perthynas â phrosiect sydd eisoes wedi'i gyflawni, y mae wedi'i gyflawni arNo.

(2Oni ddarperir fel arall, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb EIA neu yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna gwyllt yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Cyfarwyddebau priodol hynny.

(3Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i bob cais, hysbysiad, sylw, deisyfiad, cymeradwyaeth a chytundeb y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fod yn ysgrifenedig.

(5Bydd “yn ysgrifenedig” ym mharagraff (4) uchod, ac eithrio pan fydd yn gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 22 neu 24, yn cynnwys cyfathrebu'n electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7) ar yr amod na fydd hysbysiadau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi i unrhyw berson yn cael eu rhoi drwy gyfathrebu'n electronig ond os yw'r derbynnydd arfaethedig wedi defnyddio'r ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig wrth gyfathrebu â'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu os yw wedi mynegi fel arall fod y ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig yn gyfrwng i bersonau gyfathrebu ag ef.

(6Ceir anfon drwy'r post hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso'r Rheoliadau hyn

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob prosiect nad yw'n esempt o dan baragraffau (2) neu (3) isod.

(2Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn os yw:

(a)yn brosiect a ddisgrifir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Lloegr a Chymru) 1999(8);

(b)yn ddatblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Lloegr a Chymru) 1999(9) yn gymwys iddo; neu

(c)yn gyfystyr â chyflawni gwaith gwella gan gorff traenio o fewn ystyr “drainage body” yn Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Traeniad Tir) 1999(10)

(3Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo, yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb EIA, ei fod yn esempt rhag y Rheoliadau hyn.

(4Yn achos prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y bydd ganddo effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i'r graddau y sicrheir cydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â'r prosiect y bydd y pwer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt rhag y Rheoliadau hyn o dan baragraff (3) uchod yn arferadwy.

Y Gofyniad am Benderfyniad Sgrinio

4.  Ni chaiff neb ddechrau na chyflawni prosiect heb gael penderfyniad sgrinio yn gyntaf.

Y Weithdrefn Sgrinio

5.—(1Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio gael ei gyflwyno gyda'r canlynol—

(a)plan a fydd yn ddigonol i adnabod y tir perthnasol;

(b)disgrifiad cryno o natur, hyd a lled a diben y prosiect a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a

(c)unrhyw wybodaeth neu sylwadau y mae'r ceisydd yn dymuno eu darparu neu eu gwneud.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd am benderfyniad sgrinio ynghylch y dyddiad y cafodd y cais.

(3Os bydd y Cynulliad Cendlaethol o'r farn nad oes ganddo ddigon o wybodaeth i wneud y penderfyniad sgrinio caiff ofyn i'r ceisydd gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arno ei hangen.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn unol â'r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 1 a pharagraff (5) isod a yw prosiect yn debyg o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd.

(5Rhaid trin prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y bydd yn debyg o effeithio'n sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) ac nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â rheoli'r safle neu'n angenrheidiol ar gyfer ei reoli, fel prosiect sy'n debyg o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad sgrinio o fewn 35 diwrnod o'r dyddiad a hysbyswyd i'r ceisydd yn unol â pharagraff (2) uchod neu o fewn unrhyw gyfnod hwy a gytunwyd gyda'r ceisydd a gall ymgynghori ag unrhyw un o'r cyrff ymgynghori fel y gwêl yn dda cyn dod i benderfyniad sgrinio.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)hysbysu'r ceisydd ynghylch ei benderfyniad sgrinio a chyflwyno datganiad iddo sy'n rhoi'r rhesymau llawn dros y penderfyniad ;

(b)nodi'r penderfyniad sgrinio mewn cofrestr y bydd modd i'r cyhoedd ei gweld ar bob adeg resymol; ac

(c)hysbysu'r cyrff ymgynghori hynny, a fyddai yn ei farn ef, yn dymuno cael gwybod am y penderfyniad sgrinio, am y penderfyniad hwnnw.

(8Os bydd ceisydd, nad yw wedi cael ei hysbysu am benderfyniad sgrinio o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) uchod, yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw i hysbysu fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect perthnasol, bernir bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod y prosiect yn brosiect perthnasol ar y dyddiad y bydd y ceisydd yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol felly.

(9Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg wedi iddo benderfynu neu y bernir ei fod wedi penderfynu bod prosiect yn brosiect perthnasol o dan y rheoliad hwn, yn derbyn gwybodaeth neu sylwadau pellach sydd yn peri iddo benderfynu nad yw'r prosiect yn brosiect perthnasol, rhaid iddo roi gwybod am y penderfyniad hwnnw a chyflwyno datganiad yn nodi'r rhesymau llawn am y penderfyniad i'r ceisydd ac i'r cyrff ymgynghori sydd wedi'u hysbysu yn unol â pharagraff (7)(c) uchod a rhaid iddo nodi'r penderfyniad yn y gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff 7(b) uchod.

(10Os na fydd prosiect y mae'r penderfyniad sgrinio yn gysylltiedig ag ef wedi dechrau cyn pen tair blynedd o'r dyddiad pan gafodd y cesiydd ei hysbysu o'r dyddiad y bernir iddo gael ei benderfynu yn unol â pharagraff (8) uchod, neu unrhyw gyfnod hwy y gellid bod wedi cytuno arno gan y Cynulliad Cenedlaethol, daw'r penderfyniad sgrinio hwnnw i ben.

Yr angen am ganiatâd

6.  Ni chaiff neb ddechrau na chynnal prosiect heb dderbyn caniatâd yn gyntaf gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Barn ar y posibiliadau

7.—(1Ar ôl derbyn penderfyniad sgrinio a chyn gwneud cais am ganiatâd gall y ceisydd ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei farn ynghylch yr wybodaeth sydd i'w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn ar y posibiliadau”).

(2Os gofynnir am farn ar y posibiliadau rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r ceisydd ac unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori ag y gwêl yn dda cyn rhoi ei farn.

(3Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried nad ydyw wedi cael gwybodaeth ddigonol i roi barn ar y posibiliadau bydd yn hysbysu'r ceisydd am y materion hynny y mae'n ofynnol iddo gael gwybodaeth ychwanegol amdanynt o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais am y farn i'w law.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi barn ar y posibiliadau i'r ceisydd o fewn 35 diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais am y farn neu o'r dyddiad y daeth unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff (3) uchod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

Darparu gwybodaeth

8.—(1Rhaid i unrhyw gorff ymgynghori yr ymgynghorir â hwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7(2) neu sy'n cael cais am wybodaeth oddi wrth berson sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd benderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y maent yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer paratoi'r datganiad amgylcheddol ac, os oes, rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr ymgynghori neu'r dyddiad y daeth y cais i law, yn ôl fel y digwydd.

(2Caiff unrhyw gorff sy'n darparu gwybodaeth o dan baragraff (1) uchod godi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r gost o ddarparu'r wybodaeth berthnasol, ar y ceisydd.

(3Ni fydd paragraff (1) uchod yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddatgelu gwybodaeth y mae modd ei thrin fel gwybodaeth gyfrinachol neu y mae gofyn ei thrin felly o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992(11).

Y cais am ganiatâd

9.—(1Rhaid gwneud cais am ganiatâd (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol) i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r ceisydd am ganiatâd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol y nifer o gopïau o'r cais y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(3Pan fydd cais am ganiatâd yn unol â rheoliad 9(1) a (2) wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol rhaid iddo

(a)anfon copi o'r cais at unrhyw rai o'r cyrff ymgyghori hynny y gwêl yn dda gan eu hysbysu y gallant gyflwyno sylwadau o fewn 42 ddiwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd y cais iddynt; a

(b)at ddibenion sicrhau bod gan aelodau'r cyhoedd gyfle i gyflwyno sylwadau cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y cais, cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol:—

(i)yn datgan bod y cais wedi'i wneud;

(ii)yn nodi cyfeiriad lle gellir archwilio'r cais yn rhad ac am ddim a lle gall unrhyw un sy'n dymuno cael copi o'r cais (fe geir codi tâl rhesymol amdano) wneud hynny ar bob adeg resymol o fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad; a

(iii)yn datgan y bydd unrhyw berson sy'n dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer yn gwneud hynny yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfeiriad a nodir yn is-baragraff (ii) uchod o fewn 42 ddiwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.

Gwybodaeth ychwanegol

10.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 9(3), yn dod i'r farn y dylai'r datganiad amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd am yr wybodaeth (a nifer y copïau) angenrheidiol a rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r wybodaeth bellach at unrhyw rai o'r cyrff hynny y gwêl yn dda gan eu hysbysu y gallant wneud sylwadau o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol iddynt.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi mewn papur newydd sy'n cael ei gylchredeg yn ardal y tir perthnasol hysbysiad:—

(a)yn cyfeirio at y cais y mae'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn ymwneud â hi a'r dyddiad pan wnaed y cais hwnnw;

(b)yn datgan bod gwybodaeth bellach ar gael;

(c)yn nodi cyfeiriad lle gellir archwilio copïau o'r wybodaeth amgylcheddol bellach yn rhad ac am ddim a lle gall unrhyw un sy'n dymuno cael copïau o'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wneud hynny (am dâl rhesymol) ar bob adeg resymol o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad; ac

(ch)yn datgan y dylai unrhyw berson sydd am gyflwyno unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan baragraff (c) uchod, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn.

Gwladwriaethau AEE Eraill

11.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl i gais am ganiatâd ddod i law rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol fynd ati i ystyried a fyddai'r prosiect perthnasol yn debygol hefyd o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall ac, os yw o'r farn bod hynny'n debygol, neu lle bo Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debygol o effeithio'n sylweddol arni yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon i'r Wladwriaeth AEE honno:

(a)manylion natur a lleoliad y prosiect perthnasol ac unrhyw wybodaeth sydd ganddo ynghylch yr effaith debygol ar yr Aelod-wladwriaeth honno; a

(b)arwydd ynghylch a yw'n tybio y bydd caniatâd yn cael ei roi a natur unrhyw ganiatâd o'r fath,

a gofyn i'r Wladwriaeth AEE nodi o fewn amser rhesymol a yw'n dymuno cymryd rhan yn yr weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer.

(2Os bydd yr Wladwriaeth AEE yn nodi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r cais am ganiatâd (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol) ynghyd ag unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol a rhaid iddo roi gwybodaeth berthnasol iddi ynglŷn â'r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd—

(a)trefnu bod y manylion a'r wybodaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) uchod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol, i'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd o dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE y mae hyn yn debyg o effeithio'n sylweddol arni; a

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle, cyn bod caniatâd ar gyfer y prosiect yn cael ei roi, i anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn amser rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a roddwyd.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA—

(a)dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a'r mesurau a ragwelir y bydd rhaid eu cymryd i leihau neu ddileu effeithiau o'r fath; a

(b)ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod amser rhesymol ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori (gan gynnwys ystyried unrhyw farnau a ddaeth i law yn unol â pharagraff (3)(b) uchod).

(5Pan fydd gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael yn unol ag Erthyglau 7(1) a (2) o'r Gyfarwyddeb EIA (sy'n ymwneud â phrosiectau yn un Wladwriaeth AEE sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) i law'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo—

(a)trefnu i'r wybodaeth honno fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol, i'r cyrff ymgynghori hynny, ac i unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd, yn ei farn ef, yn debyg o fod â diddordeb yn y prosiect; a

(b)sirchau bod y cyrff ymgynghori a'r aelodau o'r cyhoedd y rhoddwyd gwybodaeth iddynt yn unol ag is-baragraff (a) uchod yn cael cyfle yn ystod y cyfnod y cytunwyd arno rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Wladwriaeth AEE berthnasol yn unol â pharagraff 6(b) isod, i anfon i'r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol, o fewn cyfnod rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA,—

(a)ymgynghori â Gwladwriaeth AEE y cafwyd gwybodaeth oddi wrthi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (5) uchod a honno'n wybodaeth sy'n ymwneud, ymysg pethau eraill, ag effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a'r mesurau y rhagwelir y bydd eu hangen i leihau neu ddileu effeithiau o'r fath; a

(b)ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE honno ar gyfnod rhesymol, cyn i ganiatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect, pan gaiff cyrff ymgynghori ac aelodau o'r cyhoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(b) uchod anfon eu barn i'r awdurdod cymwys yn yr Wladwriaeth AEE honno yn unol â'r paragraff hwnnw.

Prosiectau trawsffiniol

12.—(1 Yn achos prosiect trawsffiniol, os yw'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud pendefyniad sgrinio o dan reoliad 5(4), gan roi barn ar y posibiliadau o dan reoliad 7(4) neu roi neu wrthod rhoi caniatâd o dan reoliad 13(1).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos prosiect trawsffiniol lle mae'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yn Lloegr, bydd y prosiect hwnnw yn ddarostyngedig yn unig i'r rheoliadau cyfatebol sy'n berthnasol i'r prosiect yn Lloegr.

(3Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gytuno y gall cais mewn perthynas â phrosiect trawsffiniol y byddai'r Rheoliadau hyn fel arall yn berthnasol iddo yn ddarostyngedig i'r rheoliadau cyfatebol sy'n berthnasol i'r prosiect yn Lloegr yn unig.

(4Ni fydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â chais gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12(3) o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Lloegr) 2001(12).

Y penderfyniad i roi caniatâd

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pan ddaw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan reoliad 9(3) i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a ddylai roi caniatâd i'r prosiect ai peidio, yng ngoleuni'r datganiad amgylcheddol ac unrhyw sylwadau y mae wedi'u derbyn yn unol â pharagraff (3) o reoliad 9, paragraff (2) neu (3) o reoliad 10 ac, ynghylch prosiectau y mae rheoliad 11 yn gymwys iddynt, yng ngoleuni ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE berthnasol ac unrhyw farn sy'n dod i law yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad y daw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 9(3)(b) i ben;

(b)y dyddiad y daw'r cyfnod o 28 diwrnod ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol i ben, sef naill ai'r dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i unrhyw gyrff ymgynghori neu'r dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdano yn unol â rheoliad 10(3)n; ac

(c)y dyddiad y daw unrhyw gyfnod y cytunwyd arno rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Wladwriaeth AEE berthnasol yn unol â rheoliad 11(4)(b) i ben.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi caniatâd ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliad 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (a rhaid i hynny beidio â chynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau Cynefinoedd).

(4Bydd paragraffau (5) a (9) isod yn gymwys i benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a ddylai roi caniatâd ai peidio ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewopeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (sef prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hyn fel “y prosiect”.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8) isod, ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer prosiect oni bai ei fod wedi ystyried y goblygiadau i'r safle Ewropeaidd a'i fod yn fodlon na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle hwnnw.

(6Rhaid i'r ystyriaeth a roddir o dan baragraff (5) uchod gynnwys asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect i'r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle.

(7Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, gan nad oes unrhyw atebion eraill, fod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (8) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd), caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.

(8Pan fo math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth ar y safle Ewropeaidd, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) fod naill ai—

(a) yn rhesymau sy'n ymwneud â iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu

(b)yn rhesymau eraill sydd ym marn y Comisiwn Ewropeaidd yn achos y safle dan sylw yn rhesymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig.

(9Os yw caniatâd yn cael ei roi yn unol â pharagraff (7) ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (fel y caiff ei ddiffinio yn y Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.

(10Rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir yn unol â pharagraff (1) uchod fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (11) isod ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

(11Rhaid i bob caniatâd gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau i'r perwyl

(a)y daw'r caniatâd i ben os nad yw'r prosiect wedi dechrau (trwy gynnal gweithred o bwys) o fewn blwyddyn o'r dyddiad pan gafodd y caniatâd ei roi;

(b)os na chafodd y prosiect ei gwblhau (sydd, yn y rheoliad hwn, yn golygu bod y gwaith a ganiatawyd gan y caniatâd a roddwyd wedi'i wneud a'i gwblhau a bod pob newid yn nefnydd neu yn lefel y defnydd o'r tir perthnasol a ganiatawyd gan y caniatâd wedi'i roi ar waith) o fewn tair blynedd o'r dyddiad pan roddwyd y caniatâd, y daw'r caniatâd i ben ac fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud hi'n ofynnol i weithgareddau neu'r defnydd a wnaed yn unol â'r caniatâd i stopio hyd nes y bydd wedi rhoi caniatâd pellach yn unol â pharagraff (ch);

(c)mai dim ond fel y disgrifiwyd yn y cais am ganiatâd yr awdurdodir y prosiect gan y caniatâd, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â chais gan y ceisydd, a bydd angen caniatâd pellach yn unol â pharagraff (ch) os bydd unrhyw newid o bwys yn y gweithgareddau neu'r defnydd a awdurdodwyd.

(ch)y bydd ceisiadau am ganiatâd pellach o dan amodau ym mharagraffau (b) neu (c) uchod yn ddarostyngedig i unrhyw rai o ofynion y Rheoliadau hyn ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu gweld yn dda.

(12Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a fydd yn rhoi caniatâd ai peidio rhaid iddo—

(a)hysbysu'r ceisydd, y cyrff ymgynghori hynny yr anfonwyd copïau o'r cais am ganiatâd atynt yn unol â rheoliad 9(3)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi yn unol â pharagraff (4) o reoliad 11 ac unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd eu barn ymlaen i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad;

(b)hysbysu'r cyhoedd am y penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y mae'r tir perthnasol wedi'i leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y mae'n credu eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac

(c)sicrhau bod datganiad sy'n cynnwys y canlynol ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd:

(i)cynnwys y penderfyniad;

(ii)y rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a

(iii)disgrifiad, lle bo hynny'n berthnasol, o'r prif fesurau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol y prosiect.

(13Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect—

(a)sy'n cynnwys cyflawni gweithrediadau sy'n debyg o niweidio unrhyw rai o'r fflora, y ffawna neu'r nodweddion daearegol neu ffisiograffyddol y mae safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (fel y diffinnir “site of special scientific interest” gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(13)) o ddiddordeb arbennig o'u herwydd;

(b)y mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cynghori peidio â'i ganiatáu neu wedi cynghori mai dim ond o dan amodau penodol y dylid ei ganiatáu; ac

(c)nad yw penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn y cyngor yn is-baragraff (b) uchod mewn perthynas ag ef,

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru o'i benderfyniad, gan gynnwys datganiad o'r ffordd (os o gwbl) y mae wedi cymryd i ystyriaeth gyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a rhaid iddo osod amod ar y caniatâd i atal y prosiect rhag cael ei ddechrau cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.

Adolygiad o benderfyniadau a chaniatadau

14.—(1Mae Atodlen 3 yn gymwys—

(a)i unrhyw benderfyniad nad yw prosiect yn brosiect perthnasol a wnaed yn unol â rheoliad 5(4); a

(b)i unrhyw ganiatâd sy'n cael ei roi yn unol â rheoliad 13(1).

os, ar ôl dyddiad y penderfyniad neu roi caniatâd, y mae safle yn dod yn safle Ewropeaidd ac os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr rheoliad 13(11)(b)) y prosiect yn debygol o effeithio'n sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai'n uniongyrchol berthnasol neu'n angenrheidiol er mwyn rheoli'r safle.

Apelau (darpariaethau cyffredinol)

15.—(1Caiff y personau canlynol—

(a)person sydd wedi gwneud cais am benderfyniad sgrinio mewn perthynas â phrosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu ei fod yn brosiect perthnasol, neu y bernir ei fod wedi penderfynu hynny o dan reoliad 5(8);

(b)person sydd wedi gwneud cais am ganiatâd ar gyfer prosiect perthnasol y cafodd caniatâd ar ei gyfer ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio'r rhai a bennir yn rheoliad 13(11)); ac

(c)person y mae hysbysiad o benderfyniad wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3 neu y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff 5 o'r Atodlen honno,

drwy hysbysiad apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn y caniatâd neu'r penderfyniad (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “y penderfyniad perthnasol”) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i berson y mae paragraff (1) uchod yn berthnasol iddo gyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw ei hysbysu o'r penderfyniad perthnasol.

(3Rhaid i hysbysiad apêl gynnwys—

(a)disgrifiad o'r penderfyniad perthnasol;

(b)datganiad o'r rhesymau dros apelio; ac

(c)datganiad yn nodi a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu i'w thrin ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(4Cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol ar ôl i hysbysiad apêl ddod i law, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno copïau o'r hysbysiad i unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwêl yn dda, i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad perthnasol, ar unrhyw wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi yn unol â pharagraff (4) o reoliad 11 ac i unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd eu barn ymlaen i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw, ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo bod ganddo ddiddordeb penodol yng nghynnwys yr apêl.

(5Ni chaiff person y mae copi o hysbysiad apêl wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff (4) uchod gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r apêl oni bai ei fod yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn bwriadu gwneud hynny o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad pan gafodd copi o'r hysbysiad ei gyflwyno iddo.

(6Cyn penderfynu apêl rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu, os yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a fydd y gwrandawiad ar ffurf ymchwiliad lleol ac, os nad yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a gaiff yr apêl ei benderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig, gwandawiad neu ymchwiliad lleol ac yn y naill achos neu'r llall rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd am ei benderfyniad ac unrhyw bersonau sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (5) eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau felly.

(7Wrth benderfynu'r apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chaiff ymdrin â'r apêl yn yr un modd â phetai'n benderfyniad tro cyntaf.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi person i arfer ar ei ran, gyda thaliad neu hebddo, ei swyddogaethau o benderfynu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd i Atodlen (4) effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.

(9Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(14)(ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 17 isod yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau yno at y Gweinidog ac at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

(10Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(15) (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 17 isod fel y mae'n gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honNo.

(11Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu reoliad 16 neu 17 isod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.

(12Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyd-fynd ag unrhyw sylwadau, datganiadau neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 16 neu 17 isod.

Penderfynu ar apelau drwy sylwadau ysgrifenedig

16.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2O fewn 42 ddiwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r apelydd fod yr apêl i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig rhaid i'r apelydd gyflwyno unrhyw sylwadau pellach i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'r apelydd am iddynt gael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol neu rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod am ddibynnu ar yr wybodaeth y mae eisoes wedi'i chyflwyno a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol naill ai anfon copïau o unrhyw sylwadau pellach a wnaed gan yr apelydd at y partïon sydd â buddiant neu rhaid eu hysbysu nad oes bwriad gan yr apelydd i gyflwyno sylwadau pellach yn ôl fel y digwydd.

(3Rhaid i unrhyw un o'r partïon â diddordeb sydd am gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r apêl, o fewn 28 diwrnod ar ôl i sylwadau pellach a wnaed gan yr apelydd gael eu cyflwyno iddynt neu hysbysiad nad yw'r apelydd am wneud sylwadau pellach, yn ôl fel y digwydd, gyflwyno'r sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r sylwadau a gyflwynwyd iddo at yr apelydd ac at y partïon eraill sydd â diddordeb.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i'r apelydd a'r partïon eraill sydd â diddordeb gyfnod amser ar gyfer ymateb i'r sylwadau a wnaed yn unol â pharagraff (3) uchod, a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn llai na 14 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd y sylwadau hynny iddynt.

(5Heb fod yn gynt na'r dyddiad y daw y cyfnod a bennir ym mharagraff (4) uchod i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r person sy'n cael ei benodi i benderfynu'r apêl, yn ôl fel y digwydd, benderfynu ar yr apêl a rhaid iddo roi gwybod am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto i'r apelydd ac i'r partïon sydd â diddordeb.

Penderfynu ar apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol

17.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol.

(2O fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad cyflwyno hysbysiad i'r apelydd bod yr apêl i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid i'r apelydd gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn cynnwys manylion llawn am achos yr apelydd a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiad a'r dogfennau at y partïon sydd â diddordeb.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 42 ddiwrnod o rybudd i'r apelydd a'r partïon sydd â diddordeb am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac o enw'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (ac, fel y bo'n gymwys, i benderfynu ar yr apêl) a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi, o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr apêl neu'r gwrandawiad lleol, unrhyw rybudd i'r cyhoedd y gwêl yn dda.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer cynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddo roi unrhyw rybudd y gwêl yn dda am unrhyw amrywiad o'r fath.

(5Rhaid i unrhyw rai o'r partïon â diddordeb sy'n dymuno cael eu clywed yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, o fewn 28 diwrnod o gyflwyno datganiad yr apelydd iddynt yn unol â pharagraff (2) uchod, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno ymddangos ac fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson sydd wedi ei hysbysu felly gyflwyno datganiad iddo yn cynnwys manylion eu hachos ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau y maent yn dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (heblaw am y rhai y mae'r apelydd wedi mynegi ei fod yn dymuno cyfeirio atynt) o fewn 28 diwrnod o'i gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno'r datganiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiadau hynny at yr apelydd ac at y partïon eraill sydd â diddordeb.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r apelydd neu unrhyw berson arall sydd wedi darparu datganiad yn unol â pharagraff (5) uchod ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddo am y materion a gynhwyswyd yn y datganiad a rhaid iddo anfon copi o'r wybodaeth honno at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd â diddordeb yn ôl fel y digwydd.

(7Cyn i wrandawiad neu ymchwiliad lleol gael ei gynnal rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd a'r partïon sydd â didordeb mewn perthynas â'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ar gael i'w harchwilio gan unrhyw berson sy'n gwneud cais am hynny.

(8Y personau y mae hawl ganddynt i gael eu clywed mewn gwrandawiad yw—

(a)yr apelydd;

(b)y partïon sydd â diddordeb; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad yn caniatáu iddo gael ei glywed.

(9Rhaid i berson y mae ganddo hawl i ymddangos mewn ymchwiliad ac sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad trwy ddarllen proflen dystiolaeth anfon copi o'r broflen dystiolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r broflen a'r crynodeb at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd a diddordeb yn ôl fel y digwydd.

(10Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai eu bod wedi cael eu penodi i benderfynu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys eu casgliadau a'u hargymhellion neu eu rhesymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

(11Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anghytuno â'r person sy'n gwneud yr adroddiad yn unol â pharagraff (10) uchod ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad y daeth y person hwnnw iddo, neu sy'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn berthnasol i'r casgliad hwnnw, neu os yw'n cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd ac oherwydd hynny y mae'n barod i anghytuno ag argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad, rhaid iddo beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf roi cyfle i unrhyw berson a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gael cyfle i wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir ganddo.

(12Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r person a benodwyd i benderfynu ar yr apêl, yn ôl fel y digwydd, hysbysu'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon copi o unrhyw adroddiad a wneir yn unol â pharagraff (10) uchod, at yr apelydd, at y partïon sydd â diddordeb ac at unrhyw berson arall a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac a ofynnodd am gael ei hysbysu am y penderfyniad.

Cais i'r llys gan berson a dramgwyddwyd

18.—(1Ar ôl cael cais gan unrhyw berson sydd wedi'i dramgwyddo gan benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw prosiect yn brosiect perthnasol neu gan benderfyniad i roi caniatâd ar gyfer prosiect perthnasol, caiff yr Uchel Lys wneud gorchymyn i ddiddymu'r penderfyniad os yw'n fodlon nad yw'r penderfyniad o fewn pwerau rheoliad 5(4) neu 13(1), yn ôl fel y digwydd, neu fod buddiannau'r person a wnaeth gais i'r llys wedi cael eu rhagfarnu'n sylweddol oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i gais i'r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn gael ei wneud o fewn 42 ddiwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r penderfyniad yn unol â rheoliad 5(7)(b) neu 13(12)(b).

(3Gall yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra'n disgwyl penderfyniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu gan bennu unrhyw amodau y gwêl yn dda.

Tramgwydd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn

19.  Bydd unrhyw berson sy'n dechrau neu'n cyflawni prosiect heb sicrhau yn gyntaf naill ai benderfyniad nad yw'r prosiect yn brosiect perthnasol neu benderfyniad yn rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect yn unol â'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i amod

20.  Bydd unrhyw berson sy'n cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i unrhyw un o amodau'r caniatâd a roddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth ffug ayb

21.—(1Bydd unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—

(a)yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad ffug neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol;

(b)gyda'r bwriad o dwyllo, yn defnyddio unrhyw ddogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

(c)gyda'r bwriad i dwyllo, yn cadw unrhyw wybodaeth berthnasol yn ôl,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop

22.—(1Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod tramgwydd wedi'i chyflawni o dan reoliad 19, 20 neu 21 uchod a'i fod yn ystyried bod natur y niwed posibl i'r amgylchedd gan unrhyw weithgaredd y mae'r tramgwydd yn ymwneud ag ef yn golygu y dylai'r gweithgaredd ddod i ben ar unwaith, caiff gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “hysbysiad stop”) yn gwahardd pob gweithgaredd o'r fath neu unrhyw ran ohoNo.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo fod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol neu ei fod yncymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu hysbysiad stop yn ei ôl ar unrhyw adeg (heb ragfarnu ei bwerau i gyflwyno un arall) drwy gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddynt.

(4Ni ddaw hysbysiad stop yn weithredol yn gynharach na'r amser a'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid i hynny, ac eithrio mewn argyfwng, beidio â bod yn llai na 24 awr ar ôl ei gyflwyNo.

(5Daw hysbysiad stop i ben os cyflwynir hysbysiad tynnu yn ôl yn unol â pharagraff (3); os yw'r Cynulliad Cenedlaethol (neu berson a benodir ganddo i benderfynu apêl) yn rhoi caniatâd ar gyfer y gweithgaredd a waharddwyd; neu os yw'r Cynulliad Cenedlaethol (neu berson a benodir ganddo i benderfynu ar apêl) yn penderfynu nad yw'r gweithgaredd a waharddwyd yn brosiect perthnasol.

Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop

23.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddynt yn euog o dramgwydd.

(2Gellir dwyn cyhuddiad am unrhyw dramgwydd o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw ddiwrnod neu gyfnod amser hwy a gellir cael person yn euog o ail dramgwydd neu dramgwydd dilynol o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod amser yn dilyn y gollfarn flaenorol am dramgwydd o'r fath.

(3Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at fynd yn groes i hysbysiad stop yn golygu achosi neu ganiatáu hynny.

(4Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.

(5Mewn achos am dramgwydd o dan y rheoliad hwn bydd yn amddiffyniad i'r sawl sy'n cael ei gyhuddo i brofi—

(a)na chafodd yr hysbysiad stop ei gyflwyno iddynt, a

(b)nad oeddent yn gwybod, ac nad oedd hi'n rhesymol i ddisgwyl iddynt fod wedi gwybod, am ei fodolaeth.

Adfer

24.—(1Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod tramgwydd wedi'i gyflawni o dan reoliad 19, 20 neu 21 caiff gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r dramgwydd hysbysiad (“hysbysiad adfer”) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r person hwnnw adfer, er boddhad y Cynulliad Cenedlaethol, y tir perthnasol i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i'r prosiect ddechrau gan bennu o fewn pa gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith adfer.

(2Os nad oes modd dyfarnu yn rhesymol gywir beth oedd cyflwr y tir cyn i'r prosiect ddechrau neu os nad oes modd adfer y tir i'r un cyflwr ag yr oedd ynddo cyn i'r prosiect ddechrau, bydd yr hysbysiad adfer yn gosod y gofynion i adfer y tir, sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol (ar ôl ymgynghori ag unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwêl yn dda), yn rhesymol o dan yr amgylchiadau .

(3Caiff person y mae hysbysiad o dan baragraff (1) uchod wedi'i gyflwyno iddo, o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, apelio i'r Llys Ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:—

(a)nad yw'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad o fewn pwerau'r rheoliad hwn;

(b)bod anffurfioldeb sylweddol, nam neu wall wedi bod yn, neu mewn perthynas â'r hysbysiad; neu

(c)bod unrhyw un o ofynion yr hysbysiad yn afresymol.

(4Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y bydd yn gwneud ei gwyn, adneuo gyda chlerc yr ynadon hysbysiad apêl sy'n nodi ei enw a'i gyfeiriad a'r seiliau dros wneud yr apêl a chyflwyno copi o'r hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(5Caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadiau ar gyfer cynnal achos, gan gynnwys —

(a)yr amserlen ar gyfer yr achos;

(b)cyflwyno tystiolaeth; ac

(c)trefn yr areithiau.

(6Mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(16) yn gymwys i'r achos;

(7Pan wneir apêl yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd effaith i'r hysbysiad adfer nes y bydd yr apêl wedi'i phenderfynu yn derfynol neu wedi cael ei gollwng.

(8Gall unrhyw barti i achos Llys Ynadon lle gwneir penderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Uchel Lys.

(9Os bydd unrhyw berson, heb esgus rhesymol, yn methu cydymffufio ag unrhyw un o ofynion yr hysbysiad adfer a gyflwynwyd o dan baragraff (1) uchod, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu—

(a)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; a

(b)os bydd y methiant yn parhau ar ôl y gollfarn, i ddirwy arall heb fod yn uwch nag un rhan o ugain o'r uchafswm sydd ar gael ar gyfer y sylwedd ytramgwydd am bob diwrnod y parheir felly â'r methiant .

Pwerau mynediad a phwerau diofyn

25.—(1Gall unrhyw berson a awdurdodir yn briodol yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol gael mynd ar unrhyw dir a'i archwilio, ar adeg resymol, er mwyn—

(a)canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan reoliad 19, 20, 21, 23, neu 24 ar y tir hwnnw neu mewn perthynas ag ef;

(b)cyflwyno hysbysiad adfer o dan reoliad 24 neu hysbysiad stop o dan reoliad 22 mewn perthynas â'r tir hwnnw; neu

(c)arfer unrhyw swyddogaethau o dan Atodlen 3,

os oes seiliau rhesymol dros fynd arno at y diben dan sylw.

(2Caiff unrhyw berson a awdurdodir yn briodol ac yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae ganddo seiliau rhesymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 21, fynd i mewn i unrhyw safle, ac eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, a hwnnw'n safle, neu y mae gan y person hwnnw le rhesymol i gredu ei fod yn safle, sydd wedi'i feddiannu, neu sydd ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd sy'n cael ei amau.

(3Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol o dan hysbysiad adfer neu o dan hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 3 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad—

(a)caiff unrhyw berson a awdurdodir yn briodol ac yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, fynd, ar unrhyw adeg resymol, ar y tir y mae'r hysbysiad adfer yn ymwneud ag ef a chymryd y mesurau hynny, a

(b)adennill oddi wrth y person sy'n gyfrifol am y diffyg y treuliau a ddaeth i'w ran wrth wneud hynny.

(4Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodir o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle, ddangos tystiolaeth o'u hawdurdod cyn mynd yNo.

(5Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol gyda hwy.

(6Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu safle y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod wedi mynd arno, neu sydd a'r tir neu'r safle hwnnw yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bŵ er a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.

(7Bydd unrhyw berson sy'n mynd ati'n fwriadol i rwystro neu atal unrhyw berson sy'n arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sy'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â chais sy'n cael ei wneud o dan baragraff (6) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cyflwyno hysbysiadau

26.—(1Caiff unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael ei rhoi, ei hanfon , neu ei chyflwyno naill ai—

(a)drwy ei thraddodi i'r person y mae i'w rhoi , i'w hanfon neu i'w chyflwyno iddo; neu

(b)drwy ei gadael ym mhreswylfa arferol y person hwnnw neu yn ei breswylfa hysbys ddiwethaf neu, os oes cyfeiriad cyflwyno wedi'i roi gan y person hwnnw, yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(c)drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfa arferol neu ei breswylfa hysbys ddiwethaf neu, os oes cyfeiriad cyflwyno wedi'i roi gan y person hwnnw, yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(ch)yn achos cwmni neu gorff corfforedig, drwy ei thraddodi i'w hysgrifennydd neu i'w clerc yn eu swyddfa gofrestredig neu eu prif swyddfa neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig at yr ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa honNo.

(2Os yw hysbysiad neu ddogfen i'w rhoi, neu i'w hanfon, neu i'w chyflwyno i unrhyw berson fel un sydd â buddiant yn y safle neu os yw'n ofynnol neu os awdurdodwyd rhoi, neu anfon, neu gyflwyno yr hysbysiad neu'r ddogfen i berchennog neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw'n ymarferol darganfod ar ôl ymchwiliad rhesymol enw a chyfeiriad y person y dylid ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno iddo, neu os nad yw'r safle wedi'i feddiannu, gellir rhoi, anfon neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person sydd o dan sylw yn y disgrifiad o “berchennog” neu “feddiannydd” y safle (gan eu henwi) ac—

(a)drwy ei thraddodi i ryw berson ar y safle; neu

(b)os nad oes unrhyw berson ar y safle y gellir ei thraddodi iddo, drwy ei roi, neu roi copi ohoni, yn sownd wrth ryw ran amlwg o'r safle.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Awst 2002

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources