Search Legislation

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 5(4)

ATODLEN 1Y MEINI PRAWF AR GYFER Y PENDERFYNIAD SGRINIO

Nodweddion y prosiectau

1.  Nodweddion y prosiectau, o ystyried yn benodol—

(a)maint y prosiect;

(b)sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol;

(ch)y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;

(d)llygredd a niwsans; ac

(dd)y perygl o ddamweiniau, o ystyried yn benodol y sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.

Lleoliad y prosiect

2.  Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, o ystyried yn benodol—

(a)y defnydd presennol o'r tir;

(b)digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal; ac

(c)gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, o roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—

(i)gwlyptiroedd;

(ii)parthau arfordirol;

(iii)ardaloedd mynyddig a fforestydd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau cenedlaethol;

(v)ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);

(vi)ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn unrhyw ddeddfwriaeth y Cymunedau;

(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth; a

(viii)tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.

Yr effaith bosibl

3.  Effeithiau arwyddocaol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a bennwyd o dan 1 a 2 uchod, o ystyried yn benodol—

(a)hyd a lled yr effaith (ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);

(b)yr effaith ar Wladwriaethau AEE eraill;

(c)graddfa a chymhlethdod yr effaith;

(ch)tebygolrwydd yr effaith; a

(d)hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2GWYBODETH I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIADAU AMGYLCHEDDOL

RHAN I

1.  Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu neu gyfnodau rhoi ar waith a chyfnodau gweithredol eraill ;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a nifer y deunyddiau a ddefnyddir ;

(c)amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (llygredd dŵ r, aer a phridd, sŵ n, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, ayb) sy'n deillio o gynnal y prosiect arfaethedig.

2.  Amlinelliad o'r prif opsiynau eraill a astudiwyd gan y sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd a syniad o'r prif resymau dros y dewis a wnaed gan y ceisydd, gan gymeryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

3.  Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵ r, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyng-berthynas rhwng y ffactorau uchod.

4.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byr-dymor, tymor-canolig a hir-dymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o:

(a)bodolaeth y prosiect;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol; a

(c)allyriad llygrwyr, creu niwsans a dileu gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd am ganiatâd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.

5.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

6.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.

7.  Awgrym yngl 246 yn ag unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd technegol) a wynebodd y ceisydd am ganiatâd wrth gasglu'r wybodaeth angenrheidiol.

RHAN II

1.  Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys gwybodaeth am safle, cynllun a maint y prosiect.

2.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir y bydd eu hangen er mwyn osgoi, lleihau ac, o bosibl, unioni effeithiau andwyol sylweddol.

3.  Y data angenrheidiol i adnabod ac i asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.

4.  Amlinelliad o'r prif opsiynau eraill a astudiwyd gan y ceisydd am ganiatâd a syniad o'r prif resymau am ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

5.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.

Rheoliad 14

ATODLEN 3ADOLYGIAD O BENDERFYNIADAU A CHANIATADAU

1.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud asesiad priodol o'r goblygiadau i'r safle Ewropeaidd a fydd gan y prosiect sy'n cael ei ganiatáu gan y penderfyniad neu'r caniatâd yng ngoleuni amcanion cadwraeth y safle hwnnw at y diben o benderfynu a fydd y prosiect yn cael effaith andwyol ar integriti'r safle.

2.  At ddibenion yr asesiad :—

(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â diddordeb yn y tir perthnasol i ddarparu unrhyw wybodaeth y mae'n credu'n rhesymol fod angen amdani;

(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a chymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt o fewn unrhyw amser rhesymol y mae'n ei bennu; ac

(c)caiff y Cynulliad Cenedlaethol , os yw o'r farn bod hynny'n briodol, ymgynghori ag aelodau o'r cyhoedd.

3.  Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn yr asesiad, yn cael ei fodloni na fydd y prosiect a gafodd ei ganiatáu drwy'r penderfyniad neu'r caniatâd yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd, ac nad yw paragraff (7) o reoliad 13 yn gymwys, rhaid iddo, yn achos penderfyniad, ddiddymu'r penderfyniad hwnnw ac, yn achos caniatâd, naill ai diddymu'r caniatâd hwnnw neu wneud unrhyw addasiadau i'r caniatâd y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd a rhaid iddo hysbysu ei benderfyniad i bob person sy'n ymddangos iddo fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol.

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5 isod, ni chaiff diddymu neu addasu penderfyniad neu ganiatâd y mae gwaith wedi'i ddechrau neu wedi'i gwblhau yn unol ag ef effeithio ar y gwaith hynny sydd eisoes wedi'i wneud.

5.  Os, pan fydd prosiect sy'n ddarostyngedig i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3 uchod wedi dechrau, y mae hi'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod angen diogelu integriti safle Ewropeaidd, drwy roi hysbysiad caiff ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am wneud y gwaith hwnnw neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol i wneud unrhyw waith adfer sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau a bydd hawl gan unrhyw berson sy'n gwneud gwaith i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, wrth wneud hawliad yn unol â pharagraff 8 isod, i adennill iawndal oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo yn y cyswllt hwnnw.

6.  Bydd rheoliad 15 yn gymwys i benderfyniad a wnaed yn unol â pharagraff 3 uchod ac i hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 uchod.

7.  Os, yn dilyn penderfyniad o dan baragraff 3 uchod, y mae person wedi tynnu gwariant wrth wneud gwaith sydd bellach yn ddi-fudd oherwydd y diddymiad neu'r addasiad neu os yw fel arall wedi dioddef colled neu ddifrod y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r diddymiad neu'r addasiad, bydd hawl ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8 isod.

8.  Rhaid cyflwyno hawliad am iawndal sydd i'w dalu o dan baragraff 5 neu 7 uchod i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwe wythnos o hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef a rhaid i unrhyw dystiolaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano gael ei darparu gydag ef.

9.  Gellir cyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5 neu 7 uchod at y Tribiwnlys Tiroedd(1) o fewn chwe blynedd o ddyddiad hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef.

Rheoliad 15(8)

ATODLEN 4DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU APELIADOL

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “person a benodwyd” yw person a benodwyd o dan reoliad 15(8) ac ystyr “penodiad” yw penodiad o dan y rheoliad hwnnw.

2.  Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a)gall ymwneud ag unrhyw apêl neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad a bennir felly;

(b)gall ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person a benodwyd naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau o'r fath a bennir yn y penodiad; ac

(c)gall, drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r person a benodwyd, gael ei ddiddymu ar unrhyw adeg gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater nad yw wedi cael ei benderfynu gan y person a benodwyd cyn yr amser hwnnw.

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, rhaid bod gan berson a benodwyd, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater y mae eu penodiad yn ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (7), (10), (11) a (12) o reoliad 15.

4.—(1Bydd darpariaethau'r paragraff hwn, yn hytrach na rheoliad 15(6), yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu gan berson a benodwyd.

(2Os bydd yr apelydd yn mynegi ei fod yn dymuno ymddangos gerbron y person a benodwyd ac i gael ei glywed ganddo , rhaid i'r person a benodwyd roi cyfle i'r apelydd ymddangos a chael ei glywed.

(3P'un a yw apelydd wedi gofyn am gyfle i ymddangos gerbron ac i gael ei glywed ai peidio—

(a)caiff y person a benodwyd gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn perthynas â'r apêl neu'r mater, a

(b)rhaid iddo gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad â'r apêl neu'r mater, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.

(4Os yw'r naill neu'r llall o is-baragraffau (2) neu (3) uchod yn gymwys, rhaid i'r person a benodwyd hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau eraill sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod am wneud sylwadau yn unol â rheoliad 15(5) fod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, yn ôl fel y digwydd, i'w gynnal.

(5Pan fydd person a benodwyd yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn rhinwedd yr Atodlen hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi aseswr i eistedd gyda'r person a benodwyd yn yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ac i'w gynghori ar unrhyw fater sy'n codi, er mai'r person a benodwyd a fydd yn penderfynu'r apêl neu'r mater.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 15(9), rhaid i gostau ymchwiliad lleol a gynhaliwyd o dan yr Atodlen hon gael eu had-dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

5.—(1Pan gaiff penodiad y person a benodwyd ei ddiddymu o dan baragraff 2(c) mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, oni bai ei fod yn bwriadu penderfynu'r apêl neu'r mater ei hun, benodi person arall o dan reoliad 15(8) i benderfynu ar yr apêl neu'r mater yn ei le .

(2Pan gaiff penodiad newydd o'r fath ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn perthynas ag ef, gael ei dechrau o'r newydd.

(3Ni fydd dim yn is-baragraff (2) yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i wneud sylwadau o'r newydd neu addasu unrhyw sylwadau a wnaed eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.

6.—(1Rhaid ymdrin ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud wneud gan berson a benodwyd wrth, arfer, neu'n honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Ni fydd is-baragraff (1) uchod yn gymwys—

(a)at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r person a benodwyd ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu

(b)at ddibenion unrhyw achos troseddol a gafodd ei ddwyn mewn perthynas ag unrhyw beth a gafodd ei wneud neu na chafodd ei wneud fel y crybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw.

(1)

Gweler adran 1 o Ddeddf Tribiwnlysoedd Tiroedd 1949 (p.42).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources