- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
28 Tachwedd 2003
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Ebrill 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ar adolygiad a gyflawnwyd gan Gyngor Sir Powys ar y ffiniau rhwng cymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir yn Sir Powys ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdanynt;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004 sef y diwrnod penodedig (“appointed day”) at ddibenion y Rheoliadau, ond at y dibenion a nodir yn Rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Powys (Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir) 2003” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “Powys” (“Powys”) yw Sir Powys; ac
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).
3.—(1) Caiff y rhan o gymuned Llanbister sydd ym Mhowys ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
(2) Caiff y rhan o Bowys sydd yng nghymuned Abaty Cwm-hir ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
28 Tachwedd 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw:
(i)y bydd yr ardaloedd hynny yng nghymuned Llanbister ym Mhowys yng nghyffiniau gerllaw Fron a Sign (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys; a
(ii)y bydd ardal yng nghymuned Abaty Cwm-hir ym Mhowys yng nghyffiniau Porth, Porth Bungalow, Brynrhyg a Croft yr Onen (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn dod yn rhan o gymuned Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.
Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.
Yn rhinwedd Rheoliad 40 o Reoliadau 1976, dehonglir cyfeiriadau yng Ngorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 1998 at gymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwm-hir fel cyfeiriadau at y cymunedau hynny fel y'u newidir gan y Gorchymyn hwn.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan amryw offerynnau statudol. Nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: