Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3246 (Cy.321)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

9 Ionawr 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4), a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) —

(a)

o ran disgybl a oedd yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw un o'i rieni;

(b)

o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;

(c)

o ran disgybl sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003(3).

(2Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.

Y Corff Cyfrifol

3.  At ddibenion adran 52(5) o Ddeddf 2002 rhagnodir yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal uned cyfeirio disgyblion(4) fel y corff cyfrifol mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o'r uned cyfeirio disgyblion honno.

Pŵer athro neu athrawes â gofal i wahardd disgyblion

4.  Ni chaiff athro neu athrawes â gofal arfer y pŵer o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.

Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol

5.—(1Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —

(a)cyfnod y gwaharddiad;

(b)y rhesymau dros y gwaharddiad;

(c)y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw; ac

(ch)drwy ba ddull y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu rhoi.

(2Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —

(a)yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(b)yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,

rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol yn ddi-oed o gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.

(3Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol neu'n penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed —

(a)cymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto; a

(b)yn ychwanegol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol o'r penderfyniad gan ddatgan y materion canlynol —

(i)y rhesymau dros y penderfyniad,

(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,

(iv)bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a

(v)y dyddiad olaf y ceir gwneud yr apêl.

(4Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) naill ai —

(a)drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu

(b)drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.

(5Ym mhob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraffau (2) neu (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid darparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.

Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

6.—(1Yn ystod pob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol —

(a)enw, oedran, rhyw a grŵp ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;

(b)a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(5), a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru(6)” a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002;

(c)a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(ch)cyfnod y gwaharddiad; a

(d)y rheswm dros y gwaharddiad.

(2Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(5) a 6(1).

Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig

7.—(1Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir awdurdod addysg lleol o dan reoliad 5(2) o waharddiad unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —

(a)yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phymtheg diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(b)yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.

(2Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r awdurdod addysg lleol —

(a)ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;

(b)ystyried unrhyw sylwadau ynghylch y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r awdurdod addysg lleol —

(i)gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 5(1)(c),

(ii)gan y disgybl sydd wedi'i wahardd yn unol â rheoliad 5(1)(c) os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a

(iii)gan yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion;

(c)caniatáu i bob un o'r canlynol, sef —

(i)y person perthnasol, a

(ii)y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a

(iii)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion,

fynd i gyfarfod â'r awdurdod addysg lleol a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac

(ch)ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.

(3Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol.

(4Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —

(a)rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r athro neu'r athrawes â gofal, a

(b)hysbysu'r person perthnasol o'i benderfyniad.

(5Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r uned cyfeirio disgyblion.

(6Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo hysbysu'r person perthnasol a'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.

(7Os digwydd y canlynol —

(a)bod yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd disgybl am gyfnod penodedig mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys iddo; a

(b)bod yr awdurdod addysg lleol yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â rheoliad 5(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,

rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —

(a)dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a

(b)dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu

(c)dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;

ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2).

(9Os gwaharddwyd disgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle y byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r awdurdod addysg lleol (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol ym mharagraff (8).

(10Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).

Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol

8.—(1Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr athro neu'r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod.

(2Mae'r Atodlen i Reoliadau 2003 yn effeithiol, gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr “panel apêl” yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd.

(3 Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl ddim ond oherwydd i unrhyw berson fethu cydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r penderfyniad o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 y mae'r apêl yn cael ei dwyn yn ei herbyn.

(4 Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol.

(5Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl —

(a)cadarnhau'r gwaharddiad;

(b)cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu

(c)penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Gwahardd disgyblion: canllawiau

9.  Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw swyddogaethau —

(a)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion,

(b)awdurdod addysg lleol, neu

(c)panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd,

o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.

(2Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dirymu

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003(7).

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) i effeithio ar gymhwysiad parhaol y Rheoliadau hynny yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003(8) (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2003

Rheoliad 8

YR ATODLENADDASIADAU I'R ATODLEN I REOLIADAU ADDYSG (GWAHARDD DISGYBLION AC APELAU) (YSGOLION A GYNHELIR) (CYMRU) 2003

1.  Yn lle paragraff 1(1) rhoddir —

1.(1) Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 8(1) yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 5(3)(b).

2.  Ym mharagraff 1(3), yn lle'r geiriau “i beidio â derbyn disgybl yn ôl”, rhoddir “i wahardd y disgybl yn barhaol”.

3.  Yn lle “rheoliad 7(1)” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “rheoliad 8(1)”.

4.  Yn lle paragraff 2(7) rhoddir —

(7) Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol neu bwyllgor rheoli (os oes un) yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw;

(b)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw neu unrhyw athro neu athrawes yn yr uned honno neu unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw swydd o'r fath yn y pum mlynedd flaenorol;

(c)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol, heblaw person a gyflogir fel pennaeth neu athro neu athrawes;

(ch)unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —

(i)yr awdurdod addysg lleol neu'r uned cyfeirio disgyblion, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu

(ii)y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,

o fath, y gellid yn rhesymol gymryd, a fyddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.

5.  Yn lle paragraff 10(2) rhoddir —

(2) Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —

(a)i'r athro neu'r athrawes â gofal roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli neu ei chynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a

(b)i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, yn ychwanegol at y datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyflwyno i'r panel o dan is-baragraff (1), i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar..

6.  Ym mharagraff 14(a) hepgorir “y corff llywodraethu”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi terfynau ar bwerau athrawon sydd â gofal unedau cyfeirio disgyblion i wahardd disgyblion o dan adran 52(2) o Ddeddf Addysg 2002, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol yn dilyn gwaharddiad o uned cyfeirio disgyblion.

Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno diffiniad newydd o “berson perthnasol” at ddibenion y Rheoliadau hyn ac yn darparu hefyd fod unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod yr amser cinio i'w gyfrif yn waharddiad am chwarter o ddiwrnod ysgol.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r awdurdod addysg lleol fel y corff cyfrifol o dan adran 52(3) o Ddeddf 2002 ar gyfer ystyried a ddylid derbyn y disgybl sydd wedi'i wahardd yn ôl i'r ysgol.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r person perthnasol o fanylion gwaharddiad. Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hefyd hysbysu'r awdurdod addysg lleol a yw'r gwaharddiad yn barhaol, a fydd yn golygu bod y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu a fydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau i'r disgybl hwnnw dros bum diwrnod mewn unrhyw dymor.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ynglŷn ag ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ei darparu i'r awdurdod addysg lleol ac ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd yn gofyn amdani.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod addysg lleol, os bydd y gwaharddiad yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu'n mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw dros 15 diwrnod mewn tymor, yn ystyried yr amgylchiadau, gwrando ar unrhyw sylwadau gan y person perthnasol, y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a'r athro neu'r athrawes â gofal, a phenderfynu a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i'r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad yr athro neu'r athrawes â gofal i wahardd disgybl yn barhaol. Nid yw methiant i ddilyn gofynion gweithdrefnol ynddo'i hun i arwain at benderfyniad i dderbyn yn ôl. Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol. Caiff y panel benderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i dderbyn disgybl yn ôl os yw'n ystyried nad yw'n ymarferol oherwydd amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill.

Mae Rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon â gofal, awdurdodau addysg lleol a phanelau apêl roi sylw i ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Atodlen yn rhagnodi cyfansoddiad y panelau apêl a'r gweithdrefnau ar eu cyfer drwy wneud addasiadau priodol i'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwaharddiadau ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003.

(1)

2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr “regulations a “prescribed”.

(2)

1992 p.53, a ddiwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(4)

Sefydlir a chynhelir unedau cyfeirio disgyblion o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

(6)

ISBN 0 7504 2757 4.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources