- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 8
1. Yn lle paragraff 1(1) rhoddir —
“1.—(1) Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 8(1) yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 5(3)(b).”
2. Ym mharagraff 1(3), yn lle'r geiriau “i beidio â derbyn disgybl yn ôl”, rhoddir “i wahardd y disgybl yn barhaol”.
3. Yn lle “rheoliad 7(1)” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “rheoliad 8(1)”.
4. Yn lle paragraff 2(7) rhoddir —
“(7) Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —
(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol neu bwyllgor rheoli (os oes un) yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw;
(b)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw neu unrhyw athro neu athrawes yn yr uned honno neu unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw swydd o'r fath yn y pum mlynedd flaenorol;
(c)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol, heblaw person a gyflogir fel pennaeth neu athro neu athrawes;
(ch)unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —
(i)yr awdurdod addysg lleol neu'r uned cyfeirio disgyblion, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu
(ii)y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath, y gellid yn rhesymol gymryd, a fyddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.”
5. Yn lle paragraff 10(2) rhoddir —
“(2) Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —
(a)i'r athro neu'r athrawes â gofal roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli neu ei chynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a
(b)i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, yn ychwanegol at y datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyflwyno i'r panel o dan is-baragraff (1), i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar.”.
6. Ym mharagraff 14(a) hepgorir “y corff llywodraethu”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: