- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989(1);
ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw'r weithred o gyflawni swyddogaethau mabwysiadu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr “discharge by that authority of relevant adoption functions” yn adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
rhaid dehongli “rheolwr” (“manager”) yn unol â rheoliad 6;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol —
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth mabwysiadu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag awdurdodau lleol.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid ymddengys bwriad fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person boed am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
3.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan y canlynol —
(a)plant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;
(b)personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;
(c)personau sydd wedi'u mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn warcheidwaid;
(ch)pob person sydd yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau fod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, na pheidio â chydymffurfio â hi nac yn ei awdurdodi i wneud hynny.
4.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r canlynol —
(a)y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)pob darpar fabwysiadydd cymeradwy y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda hwy; ac
(c)pob plentyn (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth), y caniateir ei leoli neu sydd wedi'i leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.
5. Rhaid i bob awdurdod lleol —
(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant o dan sylw ac, os yw'n briodol, eu hadolygu; a
(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.
6.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r canlynol —
(a)enw'r person a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b)y dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn weithredol.
(2) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu oni bai —
(a)ei fod yn onest ac o gymeriad da;
(b)o roi sylw i faint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben —
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3.
8.—(1) Rhaid i'r rheolwr, o roi sylw —
(a)i faint yr awdurdod lleol a'i ddatganiad o ddiben; a
(b)i'r angen am ddiogelu a hybu lles y plant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,
reoli'r gwasanaeth mabwysiadu â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Rhaid i'r rheolwr ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan y rheolwr hwnnw y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y gwasanaeth mabwysiadu.
9. Os yw'r rheolwr wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru a Lloegr neu yn rhywle arall, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o ddyddiad a man y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y'i collfarnwyd ohono; ac
(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
10. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig —
(a)sydd wedi'i fwriadu i ddiogelu plant sydd wedi'u lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a
(b)sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.
11. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau, gan roi sylw—
(a)i faint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a
(b)i'r angen am ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant a allai gael eu lleoli neu sydd wedi'u lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,
fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
12.—(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud y canlynol —
(a)cyflogi person i weithio at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; neu
(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r awdurdod mewn swydd lle y gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, i'w mabwysiadu gan yr awdurdod.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu awdurdod oni bai —
(a)ei fod yn onest ac o gymeriad da;
(b)bod ganddo y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 3, ond nad yw'r dystysgrif wedi ei rhoi.
(5) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
13.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol —
(a)sicrhau bod bob penodiad parhaol sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a
(b)darparu disgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu —
(a)yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i werthuso'n briodol; a
(b)yn cael ei alluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
14.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn disgyblu sydd, yn benodol —
(a)yn darparu ar gyfer gwahardd dros dro cyflogai os bydd angen gwneud hynny o ystyried diogelwch neu les y plant y gellir eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu;
(b)yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi'i leoli gan yr awdurdod i'w fabwysiadu yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol —
(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;
(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)un o swyddogion yr heddlu;
(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
(d)swyddog o'r awdurdod lleol y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu yn ardal yr awdurdod hwnnw pan fydd hwnnw yn awdurdod gwahanol.
15. Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person a nodir yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, pan fydd y rheolwr yn bwriadu bod yn absennol neu pan fydd yn absennol o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl fel y digwydd) fod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.
16.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 a'u cadw'n gyfoes.
(2) Rhaid cadw'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio safle at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y safle yn addas ar gyfer cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau —
(a)bod yna drefniadau gwarchod digonol ar y safle, ac, yn benodol fod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a
(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, yn cael eu cadw ar safle'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.
18. Rhaid i bob awdurdod lleol
(a)sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw gŵyn, yn cynnwys manylion o'r ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau dilynol a gymerwyd a bod y cofnod yn cael ei gadw am o leiaf 3 mlynedd o'r dyddiad y'i gwneir; a
(b)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu iddo ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed mewn perthynas â'i gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol ac ynglŷn â'r camau a gymerwyd (os o gwbl) o ganlyniad i'r ymchwiliad.
19. Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 2 (1) mewnosodwch yn y man priodol —
““the 1976 Act” means the Adoption Act 1976(3)”;
“adoption service” means the discharge by a local authority of relevant adoption functions within the meaning of section 43(3)(a) of the Act and in relation to a local authority means the discharge by that authority of those functions”;
“voluntary adoption agency” means an adoption society within the meaning of the 1976 Act which is a voluntary organisation within the meaning of that Act; ”;
yn y diffiniad o “appropriate office”, ar ôl is-adran (e) mewnosodwch —
“(f)in relation to an adoption service —
(i)if an office has been specified under regulation 2(2) of the Local Authority Adoption Service and Miscellaneous Amendments (Wales) Regulations 2003, that office;
(ii)in any other case, any office of the National Assembly.”;
yn y diffiniad o “statement of purpose”, ar ôl is-adran (e) mewnosodwch —
“(f)in relation to a voluntary adoption agency, the written statement required to be compiled in accordance with regulation 3(1) of the Voluntary Adoption Agencies and Adoption Agencies (Miscellaneous Amendments) Regulations 2003;
(g)in relation to an adoption service means the written statement required to be compiled in accordance with regulation 3(1) of the Local Authority Adoption Service and Miscellaneous Amendments (Wales) Regulations 2003”.
20. Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 2 (1) mewnosodwch yn y mannau priodol —
““the 1976 Act” means the Adoption Act 1976(5)”
“new agency provider” means a person who carries on a voluntary adoption agency for the first time after 30th April 2003;
“small agency” means an agency which has a small principal office;”
“small principal office” means a principal office where at any one time no more than eight members of full time staff (or the part time equivalents or combination of full time and part time staff) are employed in the capacity of a social worker(6);
“small branch” means a branch of a voluntary adoption agency where at any time no more than eight members of full time staff (or the part time equivalents or combination of full time and part time staff) are employed in the capacity of a social worker;
yn y diffiniad o “agency” ychwanegwch ar y diwedd y geiriau “, a voluntary adoption agency where the agency’s principal office is in Wales or a local authority adoption service”;
yn y diffiniad o “existing undertaking” ychwanegwch “(e) a voluntary adoption agency that is approved immediately before 30th April 2003 under Part 1 of the 1976 Act”;”
(b)ar ôl rheoliad 3 (3) mewnosodwch y canlynol—
“(3A) In the case of an application for registration in respect of a voluntary adoption agency which has a small principal office the registration fee shall be £300.
(3B) In a case where an agency has a branch, or as the case may be, a small branch an additional sum of—
(i)£1,100 in respect of each branch; and
(ii)£300 in respect of each small branch.
(3C) Where an application for registration is made by a voluntary adoption agency that is an existing undertaking, no registration fee shall be payable.”
(c)Yn rheoliad 4 (1) —
(i)ar ôl “paragraph (2)” mewnosodwch “, (2A), (2B)”;
(ii)ar ôl rheoliad 4(2) mewnosodwch
“(2A) In the case of an application mentioned in paragraph (1) in respect of a small agency or a small branch the fee shall be £300.
(2B) In the case of an application for the estabishment of a new branch or small branch the fee shall be
(i)£1,100 in resepct of each proposed new branch; and
(ii)£300 in respect of each proposed new small branch.”
(ch)Yn rheoliad 4(3) ar ôl “the establishment” rhoddir “or agency”.
(d)Ar ôl rheoliad 12 (“Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services”) mewnosodwch —
12.—(1) Subject to paragraph (2) the annual fee in respect of a voluntary adoption agency is —
(a)£500; and
(b)in a case where an agency has a branch or as the case may be a small branch, an additional sum of
(i)£500 in respect of each branch; and
(ii)£250 in respect of each small branch.
(2) The annual fee in respect of a voluntary adoption agency which is a small agency is £250.
(3) The annual fee in respect of a voluntary adoption agency shall be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (4) (“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.
(4) The specified date is —
(a)in the case of an existing undertaking, on 30 April 2003, or on the date on which a certificate of registration is issued, whichever is the later;
(b)in the case of a new agency provider, the date on which a certificate of registration is issued.
13.—(1) The annual fee in respect of a local authority adoption service shall be £500.
(2) The annual fee shall be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (3) (“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.
(3) The specified date is —
(a)in the case of a local authority that is discharging relevant adoption functions on the date that these Regulations come into force on 30th April 2003; and
(b)in all other cases on the date on which such functions are first discharged.”
21. Diwygir Rheoliad 8A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(7) fel a ganlyn —
(a)ym mharagraffau (1) a (2), yn lle'r geiriau “over the age of 18” rhowch “aged 18 or over”;
(b)yn is-baragraff (2)(a) ar ôl y geiriau “specified offence” mewnosodwch y geiriau “committed at the age of 18 or over”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: