- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 3(1)
1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu.
2. Enw a chyfeiriad y rheolwr.
3. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.
4. Nifer y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.
5. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.
6. System sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.
7. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.
8. Crynodeb o'r weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 (1) a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990(2).
9. Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
Rheoliad 4(1)
1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben.
2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan fydd mabwysiadu wedi'i nodi fel y cynllun priodol ar gyfer plentyn.
3. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990.
4. Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael gafael ar wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i ddwyn cwyn neu i gyflwyno sylwadau o dan y gweithdrefnau cwyno y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.
5. Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
6. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru(3).
Rheoliad 7(2)(c) a 12(3)(ch)
1. Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai —
(a)os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(4), tystysgrif fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record troseddol a roddwyd o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997,
gan gynnwys, i'r graddau y mae Deddf yr Heddlu 1997 yn caniatáu hynny, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno(5)).
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.
4. Os yw berson wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
Rheoliad 16(1)
Cofnod ar gyfer pob person sy'n gweithio ar gyfer yr awdurdod gan gynnwys —
1. Enw llawn.
2. Rhyw.
3. Dyddiad geni.
4. Cyfeiriad cartref.
5. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.
6. Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.
7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod.
8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu'n cael ei gontractio bob wythnos i'r gwasanaeth.
9. Yr hyfforddiant y mae'r person yn ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a gyflwynwyd yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵ yn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.
1989 p.41. Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S.1991/894 fel y'u diwygiwyd gan O.S.1991/2033, O.S.1993/3069 ac O.S.2001/2874) yw'r rheoliadau cyfredol.
Gweler adran 72 o Ddeddf 2000.
1997 p.50. Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.
Mae adran 113(3A) a 115(6A) wedi'u mewnosod yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) ac wedi'i diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: