Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “aelod lleyg” (“lay member”) yr ystyr a roddir iddo gan baragraffau 1(4) a 2(4) o Atodlen 1;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau a ddisgrifir yn rheoliad 3;

[F1ystyr “Cod Derbyniadau Ysgol” (“School Admissions Code”) yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol a ddyroddir o dan adran 84(1);]

F2...

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

[F1ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(2);]

mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.(2)

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf 1998, oni ddywedir fel arall;

(b)athro neu athrawes yn cynnwys pennaeth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Cyfansoddiad panelau apêlLL+C

3.  Pan wneir trefniadau neu drefniadau ar y cyd gan —

(a)awdurdod addysg lleol o dan adran 94(1) neu (1A)(3);

(b)corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94(2) neu (2A)(4);

(c)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol, yn unol ag adran 94(3)(5);

(ch)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod, yn unol ag adran 94(4)(6);

(d)awdurdod addysg lleol o dan adran 95(2),

mae apêl i'w wneud i banel apêl a gyfansoddir yn unol â'r paragraff perthnasol yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleygLL+C

4.—(1Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.

(2Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.

(3Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod —

(a)nodi wrth eu henw, eu dosbarth, neu'u disgrifiad cyffredinol, yr ysgolion sy'n cael eu gwasanaethu gan y panelau apêl y mae'r hysbyseb yn cyfeirio atynt;

(b)cael ei rhoi mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r ysgolion a nodir yn yr hysbyseb;

(c)caniatáu cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.

(4Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Y weithdrefn apelioLL+C

5.  Rhaid gwneud unrhyw apêl o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3 yn unol ag Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

[F3Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998LL+C

6.(1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—

(a)unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a

(b)y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.

(2) Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.

(3) Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—

(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998.

(4) Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.

(5) Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

(a)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—

(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu

(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998;

(b)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu

(c)nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.

(6) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—

(a)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a

(b)unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.

(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

[F4Talu lwfansauLL+C

7.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.

(2) Caiff yr awdurdod lleol perthnasol dalu i aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) lwfansau ar gyfer—

(a)colled ariannol;

(b)teithio; ac

(c)cynhaliaeth.

(3) Mae’r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod ar y cyfraddau mwyaf diweddar a nodir ar gyfer taliadau i aelodau cynghorau cymuned a thref mewn adroddiad (“yr adroddiad”) gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau).

(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at ddyletswydd a gymeradwywyd i’w ddarllen fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

IndemnioLL+C

8.—(1Rhaid i'r awdurdod priodol indemnio aelodau unrhyw banel apêl a gyfansoddir at ddibenion y trefniadau a wnaed ganddo, fel a bennir yn rheoliad 3, yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol a dynnir gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gam a gymerir ganddynt yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.

(2Pan gyfansoddir un o'r panelau hynny gan —

(a)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol; neu

(b)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod,

mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o dan baragraff (1) yn rhwymedigaeth cyd ac unigol ar y cyrff sy'n gwneud y trefniadau ar y cyd oni bai bod trefniant blaenorol wedi'i gytuno fel arall yn ysgrifenedig rhwng y cyrff hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources