Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CCYFANSODDIAD PANELAU APÊL

Trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleolLL+C

1.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan awdurdod addysg lleol o blith—

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod neu o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu neu gan y cyrff llywodraethu, heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg ag, unrhyw gysylltiad â —

(i)yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii)unrhyw berson o fewn paragraff (b)

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).

(9Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.

(10Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(11Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau a wnaed gan gorff llywodraethuLL+C

2.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(b), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan gorff llywodraethu o blith —

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r corff llywodraethu penodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu unrhyw brofiad mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r corff llywodraethu benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu unrhyw aelod o'r corff llywodraethu;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg gysylltiad â —

(i) yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii) unrhyw berson o fewn paragraff (b),

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig, â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraff (7)(c).

(9Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(10Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethuLL+C

3.—(1Pan fydd trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(c), mae paragraff 2 o'r Atodlen hon yn gymwys fel petai —

(a)(ac eithrio yn is-baragraff (7)) unrhyw gyfeiriad at y corff llywodraethu yn gyfeiriad at gyrff llywodraethu y ddwy ysgol neu'r ysgolion i gyd; a

(b)yn is-baragraff (7), unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at unrhyw un o'r cyrff llywodraethu hynny neu at unrhyw un o'r ysgolion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethuLL+C

4.  Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(ch), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â'r trefniadau hynny fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod addysg lleol ac y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) ond fel petai yn is-baragraff (7) unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r trefniadau yn ymwneud â hi neu unrhyw ysgol o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Apelau gan gyrff llywodraethu o dan adran 95LL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn effeithiol fel y bydd yn effeithiol pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a).

(2Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl o dan adran 95(2) os bu i unrhyw raddau â rhan mewn ystyried o'r blaen a ddylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn yn ôl ai peidio i unrhyw ysgol y gwaharddwyd ef yn barhaol ohoni ar unrhyw adeg, neu mewn unrhyw apêl blaenorol sy'n ymwneud â'r plentyn o dan adran 95(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+C[F1Y Weithdrefn Apelio

Apelau a wneir yn unol ag adran 94LL+C

1.(1) Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch); ac ystyr “penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth” yw penderfyniad—

    (a)

    a wneir mewn perthynas â hoff ddewis sydd wedi'i fynegi yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1) ynghylch lle dylid darparu addysg i blentyn; neu

    (b)

    sy'n gwrthod caniatâd i blentyn i fynd i chweched dosbarth yr ysgol y mae'r plentyn wedi'i dderbyn iddi.

(2) Rhaid i fanylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys yr wybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer pa gorff neu gyrff bynnag sy'n gyfrifol am y trefniadau hynny, gael eu rhoi mewn unrhyw ddogfen sy'n cynnwys hysbysiad i rieni am—

(a)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn eu plentyn i ysgol y mae'r rhieni wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86(1); neu

(b)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'w plentyn.

(3) Yn achos penderfyniad ynghylch addysg chweched dosbarth, rhaid anfon at y plentyn a rhieni'r plentyn hysbysiadau sy'n cynnwys y canlynol—

(a)hysbysiad o—

(i)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(za), (b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn y plentyn i ysgol y mae'r plentyn neu unrhyw un o rieni'r plentyn wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86A(1);

(ii)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu ynddi i'r plentyn; neu

(iii)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1A) neu (2A) ac sy'n gwrthod caniatâd i blentyn sydd eisoes wedi'i dderbyn i ysgol i fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno;

(b)manylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys gwybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod priodol; ac

(c)pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, datganiad sy'n esbonio bod rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.

(4) Pan fo plentyn ac unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwneud apelau ar wahân mewn cysylltiad â'r un ysgol, rhaid i'r apelau gael eu gwrando gyda'i gilydd.

(5) Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

(6) Rhaid i banel apêl roi cyfle i'r apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.

(7) Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 yn cyfarwyddo fel arall; ond—

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r [F2awdurdod addysg lleol] fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;

(b)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1 (neu yn unol â pharagraff 2 fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno); ac

(c)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn gwrandawiad o apêl at y dibenion canlynol—

(i)hyfforddiant; neu

(ii)arfarnu perfformiad y clercod neu aelodau o'r panel apêl.

(8) At ddibenion is-baragraff (7), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin—

(a)yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen honno os yw'n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir; a

(b)yn apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os yw'n ymwneud ag ysgol sylfaen neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(9) Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(10) Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i'r canlynol—

(a)yr apelydd a'r [F2awdurdod addysg lleol] ;

(b)yn achos apêl sy'n cael ei gwrando ar y cyd ag apêl arall yn unol â pharagraff 1(4), yr apelydd yn yr apêl arall; ac

(c)yn achos apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1, (neu yn unol â'r paragraff hwnnw fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno), i'r corff llywodraethu a wnaeth y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn neu'r corff llywodraethu yr apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a wnaed ar ei ran.

(11) At ddibenion is-baragraff (10), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(12) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (11), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan yr awdurdod priodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998LL+C

2.—(1Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).

(2Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr [F2awdurdod addysg lleol] neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —

(a)y penderfyniad hwnnw; a

(b)hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).

(3Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).

(4Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

(5Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).

(6Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —

(a)i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;

(b)i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac

(c)i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.

(7Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a

(b)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.

(8Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.

(9Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(10Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—

(a)yn ysgrifenedig i'r [F2awdurdod addysg lleol] a'r corff llywodraethu; a

(b)erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr [F2awdurdod addysg lleol] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources