- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi
28 Mawrth 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac
ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(2).
2. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—
(a)at swyddog safonau moesegol neu at y swyddog hwnnw yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(b)at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(c)at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
(ch)at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
(d)at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
4. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 2005 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
5. At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan—
(a)aelod o staff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”); neu
(b)berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo'r Ombwdsmon
mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.
6. Dirymir Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
Erthygl 2
Adran | Pwnc |
---|---|
Adran 60(1) | Cynnal ymchwiliadau |
Adran 61 | Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau |
Adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) | Ymchwiliadau: darpariaethau pellach |
Adran 63(3) Cyfyngiadau ar ddatgelu | gwybodaeth |
Erthygl 3
1. Mae adran 60(4) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel petai'r canlynol yn cael ei roi yn lle'r is-adran honno—
“(4) The Public Services Ombudsman for Wales—
(a)may not at any time conduct an investigation under section 69 in relation to a member or co-opted member (or former member or co-opted member) of a relevant authority if, within the period of five years ending with that time, the Public Services Ombudsman for Wales has been a member or an officer of the authority or a member of any committee, sub-committee, joint committee or joint sub-committee of the authority;
(b)may, where that Ombudsman is precluded from conducting an investigation by paragraph (a), authorise any person to conduct such an investigation in relation to that member or co-opted member (or former member or co-opted member), to the extent so authorised, under paragraph 13 of Schedule 1 to the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
2. Bydd adran 60(5) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—
(a)y geiriau “Where the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “An ethical standards officer who”;
(b)y geiriau “section 69, the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “section 59”;
(c)y canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (a)—
“(a)must disclose the nature of the interest to—
(i)where section 69(1)(a) applies—
(a)the person by whom the allegation is made; and
(b)the member or co-opted member (or former member or co-opted member) against whom the allegation is made;
(ii)where section 69(1)(b) applies, the member or co-opted member (or former member or co-opted member) concerned; and
(iii)the relevant authority concerned;”;
(ch)ym mharagraff (b), “; and” yn cael ei roi yn lle'r atalnod llawn; a
(d)ar ôl paragraff (b) y canlynol yn cael ei roi—
“(c)may authorise any person to conduct such an investigation in relation to that matter (to the extent so authorised) under paragraph 13 of Schedule 1 to the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
3. Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—
(a)y geiriau “the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “an ethical standards officer”; a
(b)y geiriau “or paragraph 3(2) of Schedule 4 or any breach falling within paragraph 3(3) of that Schedule” yn cael eu hepgor.
4. Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai—
(a)y geiriau “The Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “An ethical standards officer”;
(b)y geiriau “that Ombudsman” yn cael eu rhoi yn lle “such an officer”; ac
(c)ym mharagraff (a), y geiriau “the National Assembly for Wales or” yn cael eu rhoi ar ôl “the authority concerned and”.
5. Bydd adran 63(1) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—
(a)y geiriau “by the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “by ethical standards officers”;
(b)ym mharagraff (a), y geiriau “, the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu hepgor; ac
(c)ym mharagraff (f), y paragraff canlynol yn cael ei fewnosod—
“(g)the disclosure is for the purposes of an investigation or report of an investigation under Part 2 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
6. Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—
(a)y geiriau “The National Assembly for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “The Secretary of State”;
(b)y gair “Wales” yn cael ei roi yn lle “England”;
(c)y geiriau “the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “any ethical standards officer”; ac
(ch)y geiriau “his or (as the case may be)” yn cael eu hepgor.
Erthygl 4
1. Bydd adran 26(2) o Ddeddf 2005 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r paragraff canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl paragraff (j),—
“(k)for the purposes of an investigation and of any report to be made under section 69 of the Local Government Act 2000.”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, (fel y'i diwygiwyd) (“Deddf 2000”), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“Yr Ombwdsmon”). Mae'r ymchwiliadau hyn yn ymwneud ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru pan fo honiad wedi'i wneud fod aelod neu aelod cyfetholedig o'r fath wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad o'r fath.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cymhwyso adrannau 60 i 63 o Ddeddf 2000 ac adrannau 26 i 32 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“Deddf 2005”) i ymchwiliadau safonau. Mewn rhai achosion, cymhwysir darpariaethau yn yr adrannau hynny gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1); 61; 62(1) i (3), (5), (6) ac (8) i (11); a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno.
Mae erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(4) i (6), 62(4) a 63(1) a (2) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2.
Mae erthygl 4, drwy addasu'r darpariaethau yn adran 26 o Ddeddf 2005 (sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan yr Ombwdsmon), yn caniatáu i'r Ombwdsmon ddatgelu gwybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 at ddibenion ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000 (ac mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at hynny).
Yn rhinwedd erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau aelodau o staff yr Ombwdsmon, personau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon a phersonau sy'n cynorthwyo'r Ombwdsmon gydag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000.
Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001.
2000 p.22. Diwygir adran 70(2) gan baragraff 14(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac mae O.S. 2005/2800 (Cy.199) (C.116) yn cyfeirio at hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: