Search Legislation

Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(1).

Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000

2.  At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—

(a)at swyddog safonau moesegol neu at y swyddog hwnnw yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(b)at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(c)at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;

(ch)at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a

(d)at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau

3.  At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2005 gydag addasiadau

4.  At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 2005 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Y Gyfraith Ddifenwi

5.  At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan—

(a)aelod o staff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”); neu

(b)berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo'r Ombwdsmon

mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.

Dirymu

6.  Dirymir Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001(2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006

Back to top

Options/Help