- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992(1) (“cynllun 1992”) yn effeithiol mewn perthynas â pherson sy'n dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson —
(a)sy'n trosglwyddo i gyflogaeth awdurdod tân ac achub Cymreig o gyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub yn Lloegr neu'r Alban neu gyda Bwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon; a
(b)a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd gan yr awdurdod y mae'r person yn trosglwyddo o'i gyflogaeth.
(3) Pan fo person, ar unrhyw bryd yn y cyfnod sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn dod yn aelod o gynllun 1992 ar ôl dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig—
(a)ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(i)bydd effaith cynllun 1992 yn peidio mewn perthynas â'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a welir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn (trefniadau trosiannol); a
(ii)bydd darpariaethau Cynllun Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn effeithiol mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a oedd yn wasanaeth cyfrifadwy at ddibenion cynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy o dan Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).
(4) Mae Cynllun 1992 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod ohono neu yr oedd ganddo hawlogaeth i gael, neu yr oedd yn cael, dyfarndal odano.
O.S. 1992/129. Gwnaed y Cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (p.41). Diddymwyd Deddf 1947 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond cafodd y Cynllun ei ailenwi'n Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) a'i barhau mewn grym gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918) (Cy.257).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: