- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig (“S”) ddilyn y gweithdrefnau a bennir yn y rheoliad hwn os yw'n ymafael mewn unrhyw beth o dan reoliad 20(7), (8) neu (9).
(2) Rhaid i S roi i'r person y mae'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre yr ymafaelir yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig ynddi (“y fangre”), hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan—
(a)beth yr ymafaelodd S ynddo;
(b)pa bryd yr ymafaelodd S ynddo;
(c)ar ba sail yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer; ac
(ch)i ba gyfeiriad ac yn ystod pa gyfnod y gellir anfon hawliad am ddychwelyd yr eitem neu'r offer.
(3) Ond os yw'r fangre heb feddiannydd neu os yw'n ymddangos i S nad oes neb â gofal o'r fangre, rhaid i S osod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu wrth wrthrych amlwg ar y fangre, sy'n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2).
(4) Caiff person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig (gan gynnwys credydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol) hysbysu'r awdurdod gorfodi o unrhyw hawliad na ddylid bod wedi ymafael yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, gan ddatgan yn llawn y sail dros wneud yr hawliad.
(5) Rhaid anfon yr hawliad i'r cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad ymafael, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl yr ymafaeliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig.
(6) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), caiff yr awdurdod gorfodi gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial.
(7) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(b)cadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial, ond rhaid iddo hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad.
(8) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), caiff yr awdurdod gorfodi—
(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio; neu
(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio, yn datgan bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw a'r rheswm pam y mae'n cael ei chadw; neu
(b)dinistrio'r eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio o 28 diwrnod, os yw'n credu yn rhesymol bod yr eitem yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, ac—
(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl ei dinistrio, sy'n cychwyn ar y diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod); neu
(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddinistrio'r eitem, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod) yn datgan bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio.
(9) Ym mharagraff (8) ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n gwybod enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person hwnnw, neu (os gŵyr yr awdurdod enwau mwy nag un person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig) pob un o'r personau hynny; neu
(b)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi enw unrhyw berson sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person sy'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod â gofal o'r fangre.
(10) Yn achos unrhyw eitem a ddinistrir o dan baragraff (8)(b), caiff yr awdurdod gorfodi adennill y costau canlynol fel dyled oddi ar unrhyw berson a oedd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn union cyn ei dinistrio (ar wahân i gredydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem)—
(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r storfa lle'i cedwir;
(b)costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;
(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;
(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a
(d)costau dinistrio'r eitem.
(11) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad;
(b)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(c)o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, cychwyn achos (“achos rheoliad 21(11)(c)”) mewn llys ynadon, i geisio gorchymyn i'w awdurdodi i ddinistrio'r eitem.
(12) Mewn achos rheoliad 21(11)(c) caiff y llys ynadon—
(a)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig;
(b)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r eitem at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, am gyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny; neu
(c)gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n dychwelyd yr eitem at yr hawlydd, a gosod terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.
(13) Os yw llys ynadon, mewn achos rheoliad 21(11)(c) yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig, caiff y llys hefyd orchymyn bod yr hawlydd (ond nid hawlydd sydd yn gredydwr â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem) yn talu pa rai bynnag o'r costau canlynol a bennir gan y llys—
(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r man lle'i storir;
(b)costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;
(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;
(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a
(d)costau dinistrio'r eitem.
(14) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 20(9), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr offer cyfrifiadurol ymafaeledig o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad neu, os yw'n fyrrach, o fewn gweddill y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9); neu
(b)cychwyn achos mewn llys ynadon o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad oni fydd saith niwrnod neu lai yn weddill cyn diwedd y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9), am orchymyn yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, yn unol â'r gofynion a bennir yn rheoliad 20(9).
(15) Os yw llys ynadon, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddynt o dan reoliad 20(9), yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, caiff y llys osod amodau ynglŷn ag ar ba sail y ceir parhau i gadw'r offer, gan gynnwys pennu terfyn amser gyfer dychwelyd yr offer, sy'n fyrrach na'r cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9).
(16) Mae'r weithdrefn mewn llys ynadon o dan y rheoliad hwn ar ffurf achwyniad ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achosion.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: