Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(1);

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2);

  • “ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

  • ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw—

    (a)

    yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

    (i)

    gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990(3),

    (ii)

    gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr)(4), neu

    (iii)

    gwasanaeth y caiff yr awdurdod cyfrifol(5) ei ddarparu drwy arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 1989(6) (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill); neu

    (b)

    yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990;

  • mae i “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” (“chargeable service”) yr ystyr a bennir yn adran 13 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010(7);

  • ystyr “P” (“P”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4, sy'n dod o fewn is-adran (2)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001 ac is-adran (5A)(8) o'r adran honno neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol(9) ei fod yn dod o fewn yr is-adran honno;

  • ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu 5, sy'n dod o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(2) o Ddeddf 1989;

  • ystyr “S” (“S”) yw'r person addas y cyfeirir ato yn rheoliad 9(1);

  • mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8 neu 9.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr

3.  At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os—

(a)yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo;

(b)nad yw'n berson sy'n dod, neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol ei fod yn dod, o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac

(c)nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol

4.  At ddibenion adran 57(1A) o Ddeddf 2001 mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 17A(1) o Ddeddf 1989 – gwasanaethau plant

5.  At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person yn person o ddisgrifiad rhagnodedig os–

(a)yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo; a

(b)nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Personau a ragnodir fel cynrychiolwyr

6.  At ddibenion adran 57(5B) o Ddeddf 2001, rhagnodir person fel cynrychiolydd mewn perthynas â pherson arall—

(a)os yw'n ddirprwy a benodwyd ar gyfer y person arall hwnnw gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(10); neu

(b)os yw'n dderbyniwr atwrneiaeth arhosol, o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” gan adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, a grëwyd gan y person arall hwnnw.

Pwerau a ragnodir ar gyfer lladmeryddion

7.  At ddibenion adran 57(5C) o Ddeddf 2001 (sy'n darparu mai ystyr “lladmerydd” (“surrogate”), mewn perthynas â pherson, yw person a restrir yn y ddarpariaeth honno ac sydd â phwerau a gyfansoddir gan, neu sy'n cynnwys, pa bynnag bwerau y ceir eu rhagnodi), y pwerau a ragnodir yw pwerau mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch sicrhau darpariaeth o wasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990.

Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

8.—(1Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2)–

(a)caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person hwnnw, wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 10 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae'r person rhagnodedig o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;

(b)caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig y mae amod mewn grym mewn perthynas ag ef, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu sy'n glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(11), wneud taliadau uniongyrchol, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol; ac

(c)ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, wneud taliadau uniongyrchol er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod yr awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni—

(a)y gellir diwallu angen y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol; a

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth ar ei gyfer yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol.

Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

9.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol gymryd y camau ym mharagraff (2) cyn y caiff fodloni ei hunan ei bod yn briodol gwneud taliad o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 i berson addas (“S”) er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4 (“P”).

(2Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol a phriodol, ymgynghori â'r canlynol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth—

(i)unrhyw un a enwir gan P fel rhywun i ymgynghori ag ef ynglŷn ag a ddylid gwneud taliad i S er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P, neu ynglŷn â materion o'r math hwnnw,

(ii)unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am P neu sydd â diddordeb yn lles P, a

(iii)unrhyw gynrychiolydd neu ladmerydd i P(12);

(b)i'r graddau y bo'n rhesymol ganfyddadwy, ystyried y canlynol—

(i)dymuniadau a theimladau P, ar y pryd ac yn y gorffennol (ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan P pan oedd galluedd ganddo, o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(13), i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol),

(ii)y credoau a'r gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad P pe bai ganddo alluedd o'r fath, a

(iii)y ffactorau eraill y byddai P yn debygol o'u hystyried pe gallai wneud hynny;

(c)cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(14)

(i)mewn perthynas ag S os yw S yn unigolyn ac nad yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff (3) nac yn gyfaill i P sy'n ymwneud â darparu gofal i P, a

(ii)os yw S yn gorff corfforaethol neu'n corff anghorfforedig o bersonau, mewn perthynas â'r unigolyn a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol, ar ran y corff hwnnw, am reoli taliadau uniongyrchol P o ddydd i ddydd,

a rhaid i'r cyfryw dystysgrif gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno(15)).

(3Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—

(a)priod neu bartner sifil P;

(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P—

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c); a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(4Pan fo'r awdurdod cyfrifol, ar ôl cymryd y camau ym mharagraff (2), wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a restrir ym mharagraff (5)—

(a)caiff awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol(16), wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 11 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) i S er mwyn i S sicrhau ar gyfer P ddarpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae P o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;

(b)caiff awdurdod cyfrifol, mewn achos pan fo amod mewn grym mewn perthynas â P, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu pan fo P yn glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, wneud, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P; ac

(c)ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, wneud taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P.

(5Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw—

(a)y gellir diwallu angen P am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol;

(b)bod S—

(i)wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas â hwy, yn gweithredu er budd bennaf P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(17), a

(ii)yn ymddangos yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo, ac

(c)ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, gwneud taliad uniongyrchol i S.

Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), gwneir taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 fel taliad gros(18) oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y bydd yn cael ei wneud fel taliad net(19).

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd P, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).

(3Nid yw paragraffau (2), (5) ac (8) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd—

(a)yn dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3; a

(b)sydd, neu a fydd, yn sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano,

ond mae paragraff (4) yn cael effaith mewn perthynas â pherson o'r fath.

(4At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(5Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(6Pan wneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(7Caniateir gwneud y taliad ym mharagraff (1) i–

(a)y person rhagnodedig; neu

(b)person a enwebwyd gan y person rhagnodedig i gael y taliad ar ei ran.

(8At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd y person rhagnodedig.

Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid gwneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 fel taliad gros oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y bydd yn cael ei wneud fel taliad net.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).

(3Nid yw paragraffau (2), (5) a (6) yn gymwys i P os yw P yn berson—

(a)sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4; a

(b)os oes, neu os bydd, darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei sicrhau ar ei gyfer,

ond mae paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson o'r fath.

(4At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(5Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(6At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd P.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

12.—(1Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn darostyngedig i'r amod na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol—

(a)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(i) neu (ii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn diwallu'n foddhaol angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth hwnnw; neu

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn hyrwyddo lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)priod neu bartner sifil y person rhagnodedig;

(b)person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i'r person rhagnodedig–

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(3Nid yw paragraffau (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran17A(2)(c) o Ddeddf 1989.

(4Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.

(5Yn benodol, caiff yr y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) wneud yn ofynnol bod y talai—

(a)yn peidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol gan berson penodol; a

(b)yn darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

13.—(1Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i'r amodau ym mharagraff (2).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff(1) yw—

(a)na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (3) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol er mwyn diwallu'n foddhaol angen P am y gwasanaeth hwnnw; a

(b)rhaid i S —

(i)weithredu er budd gorau P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,

(ii)darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol,

(iii)os yw S yn unigolyn a grybwyllir yn rheoliad 9(2)(c)(i) neu'n gorff corfforaethol neu gorff anghorfforedig o bersonau, cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno), neu wirio bod tystysgrif foddhaol o dan y Ddeddf honno wedi ei chael, mewn perthynas ag unrhyw berson y sicrheir ganddo wasanaeth y gwnaed taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,

(iv)hysbysu'r awdurdod cyfrifol os bydd S yn credu, yn rhesymol, nad yw P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001, a

(v)defnyddio'r taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad mewn perthynas â hwy.

(3Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)priod neu bartner sifil P;

(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P–

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c), sy'n byw ar yr un aelwyd â P; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(4Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.

Y cyfnodau hwyaf o lety preswyl y caniateir eu sicrhau gan ddefnyddio taliad uniongyrchol

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol, ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3 neu 4, ar gyfer darparu llety preswyl i'r person hwnnw am gyfnod hwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis—

(a)ni fydd unrhyw gyfnod cyntaf o lety preswyl sy'n llai na 4 wythnos (cyfnod A) yn cael ei adio at gyfnod olynol (cyfnod B) ac eithrio pan fo'r cyfnod B yn cychwyn o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod A; a

(b)bydd unrhyw gyfnod mewn llety preswyl sy'n dilyn y cyfnod B yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad.

(3Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 5 ar gyfer darparu llety preswyl—

(a)am unrhyw gyfnod sengl sy'n hwy na 4 wythnos; a

(b)am unrhyw gyfnod o fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(4Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol ar gyfer darparu llety preswyl–

(a)pan fo person yn dod o fewn y disgrifiad o berson a ragnodir gan reoliad 3 neu 4; a

(b)pan fo'r person hwnnw'n cael, neu'n mynd i gael, taliad uniongyrchol, neu pan fo taliad uniongyrchol yn cael ei wneud neu'n mynd i gael ei wneud mewn perthynas â'r person hwnnw, at y diben o sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano.

Swyddogaethau dadleoledig a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol

15.—(1Ac eithrio fel a ddarperir gan baragraff (2), nid yw'r ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.

(2Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef, cyn belled ag y bo'n fodlon y diwellir yr angen sy'n ysgogi'r ddarpariaeth o wasanaeth—

(a) yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989, gan drefniadau'r talai ei hunan; neu

(b)yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gan y trefniadau a wneir gan S.

(3Ym mharagraffau (1) a (2), mae'r cyfeiriadau at y deddfiad perthnasol, mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaeth, yn gyfeiriadau at y deddfiad y byddid yn darparu'r gwasanaetho oddi tano, oni bai am y Rheoliadau hyn.

Ad-dalu taliadau uniongyrchol

16.—(1Caiff awdurdod cyfrifol a wnaeth daliad uniongyrchol wneud yn ofynnol bod y taliad neu ran o'r taliad yn cael ei ad-dalu, os bodlonir yr awdurdod—

(a)nad yw'r taliad uniongyrchol neu ran o'r taliad wedi ei ddefnyddio i sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef; neu

(b)na chydymffurfiwyd ag amod a wnaed o dan reoliad 12 neu 13.

(2Gellir adennill unrhyw swm sy'n agored i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod cyfrifol.

Adolygu

17.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r modd y gwneir taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001—

(a)o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf y gwneir y taliadau uniongyrchol;

(b)fesul cyfnod priodol o ddim mwy na deuddeng mis wedi hynny;

(c)pan fo'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan S neu gan unrhyw berson arall, nad y P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac

(ch)pan hysbysir ef gan unrhyw berson ynghylch pryderon—

(i)nad yw'r taliad uniongyrchol hwyrach wedi ei ddefnyddio i sicrhau'r ddarpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad ar eu cyfer, neu

(ii)a allai olygu na fyddai'r awdurdod wedi ei fodloni mwyach ynglŷn â'r materion a restrir yn rheoliad 9(5)(b) neu (c).

(2Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r arfer o wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan unrhyw berson, nad yw P yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf honno.

Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—

(a)os yw'r person yn peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu

(b)os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 8(2) yn peidio â chael ei fodloni.

(2Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o daliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 i berson rhagnodedig—

(a)os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd o dan reoliad 12 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001; neu

(b)os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, peidio â gwneud y taliadau uniongyrchol.

(3Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i berson sy'n peidio â bodloni rheoliad 3(b) ac a fyddai fel arall yn berson rhagnodedig–

(a)os bodlonir yr awdurdod yn rhesymol mai dros dro y bydd y person heb alluedd i gydsynio;

(b)os oes person arall, sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol, yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person cyntaf yn ystod cyfnod ei analluedd; ac

(c)os yw'r person y trefnwyd gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cydsynio i dderbyn tâl am y gwasanaeth gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).

Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

19.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001–

(a)os yw'r person y gwneir y taliadau mewn perthynas ag ef (“y buddiolwr”) (“the beneficiary”)—

(i)yn peidio â dod o fewn y disgrifiad o bersonau a ragnodir gan reoliad 4, neu

(ii)yn peidio â dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; neu

(b)os nad yw'r awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni mwyach ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir yn rheoliad 9(5).

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 os nad yw'r buddiolwr mwyach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001 neu os yw'r awdurdod cyfrifol yn credu, yn rhesymol, nad yw mwyach yn dod o fewn yr adran honno.

(3Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o'r taliadau uniongyrchol i S os peidir â chydymffurfio ag unrhyw amod a osodir o dan reoliad 13 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001.

(4Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 hyd yn oed pan fo'r buddiolwr yn peidio â dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001—

(a)os yw'r awdurdod yn rhesymol fodlon mai dros dro y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol; a

(b)os gwneir y taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r amod ychwanegol y bydd S yn caniatáu i'r buddiolwr reoli'r taliadau uniongyrchol ei hunan, yn ystod unrhyw gyfnod pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud y taliadau uniongyrchol ac y bydd yn alluog i reoli taliadau o'r fath.

(5Pan fo paragraff (2) yn gymwys ac awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, nad galluedd dros dro i gydsynio sydd gan y buddiolwr, rhaid i'r awdurdod, cyn terfynu taliadau o dan adran 57(1A), ymgynghori â'r buddiolwr ynglŷn ag a yw'r buddiolwr yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni chaniateir i daliadau a wneir o dan adran 57(1A) gael eu terfynu o dan baragraff (2) cyn bo taliadau uniongyrchol o dan 57(1) o Ddeddf 2001 yn cael eu gwneud os yw'r buddiolwr, yn unol â pharagraff (5), yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, ac—

(a)os yw'r yn berson rhagnodedig;

(b)os yw'n dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; ac

(c)os bodlonir yr amod yn rheoliad 8(2)(a) is met.

(7Nid oes dim ym mharagraff (6) sy'n effeithio ar ddisgresiwn yr awdurdod cyfrifol i beidio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, o dan reoliad 8(1)(a) neu (b).

Dirymu

20.  Dirymir yr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r rheoliadau hyn, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources