Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 3, 4 a 5

ATODLEN 1PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw—

(a)yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau o fewn ystyr “drug rehabilitation requirement”, fel y'i diffinnir gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(1), a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o'r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” yn adran 189 o'r Ddeddf honno;

(b) yn destun gofyniad triniaeth alcohol o fewn yr ystyr a roddir i “alcohol treatment requirement” fel y'i diffinnir gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn ystyr adran 177 o'r Ddeddf honno neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn ystyr adran 189 o'r Ddeddf honno;

(c)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991(2), Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997(3) yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy'n gwneud yn ofynnol bod y tramgwyddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol ynglŷn ag ymddygiad sy'n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;

(ch)o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(4) neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o'r Ddeddf honno;

(d)yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(5);

(dd)naill ai —

(i)

o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(6);

(ii)

yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o'r Ddeddf honno; neu

(iii)

yn destun gorchymyn talu'n ôl i'r gymuned yn yr ystyr a roddir i “community payback order” gan adran 227A o'r Ddeddf honno sy'n gosod gofynion o ran triniaeth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol; neu

(e)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989(7) neu o dan adran 1 neu 1AA o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993(8) ac yn ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth am ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Rheoliadau 8 a 9

ATODLEN 2DEDDFIADAU Y GELLIR GOSOD RHWYMEDIGAETH ODANYNT I DDERBYN GWSANAETHAU PERTHNASOL, Y CANIATEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL MEWN PERTHYNAS Å HWY

Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8(1)(a) a 9(4)(a) yw—

(a)Rhan 1 o Atodlen 1A i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylltra) 1964(9);

(b)adran 8, 17 neu 17B o Ddeddf 1983 neu adran 40(2) a ddarllenir ar y cyd ag adran 8 o'r Ddeddf honno(10);

(c)adran 57A o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(11) neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno;

(ch)adran 41, 53, 127, 179, 221 neu 224 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (yr Alban) 2003 neu adran 66 a ddarllenir ar y cyd ag adran 64 neu 65 o'r Ddeddf honno(12);

(d)adran 177 neu 189 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(13) i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n destun gofyniad triniaeth iechyd meddwl o fewn yr ystyr a roddir i “mental health treatment requirement” gan adran 207 o'r Ddeddf honno;

(dd)adran 41 neu 51 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(14);

(e)adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(15);

(f)adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(16);

(ff)adran 12 Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993(17);

(g)adran 37(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 i'r graddau y mae'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(18).

Rheoliad 20

ATODLEN 3DIRYMIADAU

Offeryn StatudolRhif yr Offeryn StatudolMaint y dirymiad
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 20042004/1748 (Cy.185)Yr holl Reoliadau
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003 (Darpariaethau Canlyniadol) 20052005/2078Paragraff 27 o Atodlen 2
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 20052005/3302 (Cy. 256)Paragraff 28 o'r Atodlen
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl 2007 (Diwygiadau Canlyniadol) 20082008/2828Erthygl 19
(1)

2003 p.44 (“Deddf 2003”). Diwygiwyd adran 209 gan baragraff 88 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p.4) a chan O.S. 2008/912. Diwygiwyd adran 177 gan baragraff 82 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 189 gan O.S. 2005/643.

(4)

2000 p.6. Diddymwyd adrannau 41 a 51, gydag arbedion, gan adran 37 o Ddeddf 2003.

(5)

Diddymwyd adran 52, gydag arbediad, gan Atodlen 37 i Ddeddf 2003.

(6)

1995 p.46. Diwygiwyd adran 228 gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997 (p.48), gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37), gan baragraff 122 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43), gan adrannau 42(11) a 89 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7) a chan O.S. 1998/2327, 2001/919, 2002/1149 (C.28), 2003/288 a 2008/912. Diwygiwyd adran 229 gan adran 49(4) o Ddeddf Achosion Troseddol etc. (Diwygio) (Yr Alban) 2007 (dsa 6). Mewnosodwyd adran 229A gan adrannau 12(2) a 24 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr etc. (Yr Alban) 2005 (dsa 14) a diwygiwyd hi gan O.S.A. 2006/48. Diwygiwyd adran 230 gan Atodlen 6 i Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 (dsa 4), gan adrannau 135, 331 a 333 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003 (dsa 13) a pharagraff 8 o Atodlen 4 a Rhan 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf honno a chan O.S.A. 2005/161 ac O.S. 2009/1182. Mewnosodwyd adran 234B gan adran 89 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a diwygiwyd hi gan O.S. 1998/2327. Mewnosodwyd adran 227A yn Neddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 gan adran 14 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13). Mae adran 227A(2)(g) ac (h) yn darparu ar gyfer gosod gofynion i dderbyn triniaeth ar gyfer cyffuriau ac alcohol, yn eu trefn.

(7)

Diddymwyd adrannau 22 a 26, gydag arbedion, gan Atodlen 7 i Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993 (p.9).

(8)

Diwygiwyd adran 1 gan baragraff 98 o Atodlen 8 i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, gan adran 1(2) o Ddeddf Hawliau Confensiwn (Cydymffurfio) (Yr Alban) 2001 (dsa 7) a chan adran 15(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr etc (Yr Alban) 2005 (dsa 14). Mewnosodwyd adran 1AA gan adran 15(3) of o'r Ddeddf honno.

(10)

1983 p.20 (diffinnir “Deddf 1983” yn rheoliad 2). Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12) (“Deddf 2007”). Diwygiwyd adran 17 gan adran 3(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) a chan adrannau 9(3) a 33(2) o Ddeddf 2007. Mewnosodwyd adran 17B gan adran 33(2) o Ddeddf 2007.

(11)

1995 p.46. Mewnosodwyd adran 57A gan adran 133 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adran 57A gan O.S.A. 2005/465. Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997 a chan O.S.A. 2005/465.

(12)

2003 dsa 13. Diwygiwyd adrannau 127 a 179 gan O.S.A. 2005/465.

(13)

2003 p.44. Diwygiwyd adran 207 gan O.S. 2009/1182.

(14)

Gweler y troednodyn ar baragraff (ch) o Atodlen 1.

(15)

Gweler y troednodyn ar baragraff (dd) o Atodlen 1.

(16)

Gweler y troednodyn ar baragraff (e) o Atodlen 1.

(17)

1993 p.9. Diddymwyd adran 12 gan Atodlen 5 i Ddeddf Dedfrydau o Garchar ac Arfau (Yr Alban) 2007 (dsa 17) o ddyddiad sydd i'w bennu.

(18)

1991 p.53. Diddymwyd adran 37 gydag arbedion gan Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources