- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i'r amodau ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff(1) yw—
(a)na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (3) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol er mwyn diwallu'n foddhaol angen P am y gwasanaeth hwnnw; a
(b)rhaid i S —
(i)weithredu er budd gorau P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
(ii)darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol,
(iii)os yw S yn unigolyn a grybwyllir yn rheoliad 9(2)(c)(i) neu'n gorff corfforaethol neu gorff anghorfforedig o bersonau, cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno), neu wirio bod tystysgrif foddhaol o dan y Ddeddf honno wedi ei chael, mewn perthynas ag unrhyw berson y sicrheir ganddo wasanaeth y gwnaed taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
(iv)hysbysu'r awdurdod cyfrifol os bydd S yn credu, yn rhesymol, nad yw P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001, a
(v)defnyddio'r taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad mewn perthynas â hwy.
(3) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)priod neu bartner sifil P;
(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;
(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P–
(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
(ii)mab neu ferch,
(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
(iv)llysfab neu lysferch,
(v)brawd neu chwaer,
(vi)modryb neu ewythr, neu
(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c), sy'n byw ar yr un aelwyd â P; a
(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
(4) Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: