Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

9.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol gymryd y camau ym mharagraff (2) cyn y caiff fodloni ei hunan ei bod yn briodol gwneud taliad o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 i berson addas (“S”) er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4 (“P”).

(2Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol a phriodol, ymgynghori â'r canlynol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth—

(i)unrhyw un a enwir gan P fel rhywun i ymgynghori ag ef ynglŷn ag a ddylid gwneud taliad i S er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P, neu ynglŷn â materion o'r math hwnnw,

(ii)unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am P neu sydd â diddordeb yn lles P, a

(iii)unrhyw gynrychiolydd neu ladmerydd i P(1);

(b)i'r graddau y bo'n rhesymol ganfyddadwy, ystyried y canlynol—

(i)dymuniadau a theimladau P, ar y pryd ac yn y gorffennol (ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan P pan oedd galluedd ganddo, o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(2), i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol),

(ii)y credoau a'r gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad P pe bai ganddo alluedd o'r fath, a

(iii)y ffactorau eraill y byddai P yn debygol o'u hystyried pe gallai wneud hynny;

(c)cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(3)

(i)mewn perthynas ag S os yw S yn unigolyn ac nad yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff (3) nac yn gyfaill i P sy'n ymwneud â darparu gofal i P, a

(ii)os yw S yn gorff corfforaethol neu'n corff anghorfforedig o bersonau, mewn perthynas â'r unigolyn a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol, ar ran y corff hwnnw, am reoli taliadau uniongyrchol P o ddydd i ddydd,

a rhaid i'r cyfryw dystysgrif gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno(4)).

(3Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—

(a)priod neu bartner sifil P;

(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P—

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c); a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(4Pan fo'r awdurdod cyfrifol, ar ôl cymryd y camau ym mharagraff (2), wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a restrir ym mharagraff (5)—

(a)caiff awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol(5), wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 11 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) i S er mwyn i S sicrhau ar gyfer P ddarpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae P o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;

(b)caiff awdurdod cyfrifol, mewn achos pan fo amod mewn grym mewn perthynas â P, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu pan fo P yn glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, wneud, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P; ac

(c)ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, wneud taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P.

(5Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw—

(a)y gellir diwallu angen P am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol;

(b)bod S—

(i)wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas â hwy, yn gweithredu er budd bennaf P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(6), a

(ii)yn ymddangos yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo, ac

(c)ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, gwneud taliad uniongyrchol i S.

(1)

Gweler adran 57(5B) o Ddeddf 2001 a rheoliad 6 am y diffiniad o “representative”. Gweler adran 57(5C) o Ddeddf 2001 a rheoliad 7 am y diffiniad o “surrogate”.

(2)

2005 p.9. Gweler adran 1 o'r Ddeddf honno am yr egwyddorion allweddol sy'n gymwys i benderfyniadau a gweithredoedd a wneir o dan y Ddeddf honno, gan gynnwys rhagdybio galluedd. Gweler adran 2 o'r Ddeddf honno am y diffiniad o berson sydd heb alluedd.

(3)

1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15) a diwygiwyd hi gan baragraff 14 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), gan paragraff 149 o Atodlen 16 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan adrannau 79(1) a 80 of the Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) a chan O.S. 2009/203.

(5)

Gweler adran 57(1B) o Ddeddf 2001 Act am y diffiniad o “requisite consent”. Mewnosodwyd adran 57(1B) gan adran 146(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

(6)

2005 p.9. Gweler adran 4 o'r Ddeddf honno, ynglŷn ag egwyddor y budd pennaf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources