- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
29 Mai 2012
Yn dod i rym
1 Mehefin 2012
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinidogion Cymru a Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Mehefin 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Mehefin 2012;
ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan Orchymyn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(2).
2. Ar y dyddiad trosglwyddo, mae'r eiddo a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ac unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw yn cael ei drosglwyddo oddi wrth Weinidogion Cymru i'r Ymddiriedolaeth.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo, mae'r eiddo a restrir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, ac unrhyw hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw yn cael eu trosglwyddo oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, i'r Ymddiriedolaeth.
4. Rhaid i'r Ymddiriedolaeth lynu wrth delerau unrhyw les a drosglwyddwyd iddi yn rhinwedd erthyglau 2 a 3.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mai 2012
Erthygl 2
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Eiddo | Deiliadaeth | Rhif Teitl |
Tŷ Bevan, 24-30 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd | lesddaliad | WA600597 |
Erthygle 3
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 |
---|---|---|---|
Bwrdd Iechyd Lleol | Eiddo | Deiliadaeth | Rhif Teitl (os yw'n gymwys) |
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan | 13 Stad Ddiwydiannol Court Road, Cwmbrân. | lesddaliad | Dim yn Gymwys |
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan | 14 Stad Ddiwydiannol Court Road, Cwmbrân. | lesddaliad | Dim yn Gymwys |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg | 16 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd. | lesddaliad | Dim yn Gymwys |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr | 17 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd. | lesddaliad | CYM272212 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Derbynfa, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM403072 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Llawr 8, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM218480 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Llawr 11, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM218480 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Ystafell Bost, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM306893 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Centurian Tavern, Llawr Gwaelod, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM274671 |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg | Llawr 7, Canolfan Oldway, Stryd y Berllan, Abertawe. | lesddaliad | CYM245479 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Llawr Gwaelod, Tŷ Cwmbrân, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. | lesddaliad | CYM250566 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Llawr 1, Tŷ Cwmbrân, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. | lesddaliad | CYM250409 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Llawr 6, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd. | lesddaliad | CYM269778 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Swyddfa a Storfeydd, Llawr Gwaelod, Tŷ Aberhonddu, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. | lesddaliad | CYM534914 |
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Swyddfa a Storfeydd, Llawr Gwaelod, Tŷ Aberhonddu, Stad Parc Mamheilad, Pont-y-pŵl. | lesddaliad | CYM534953 |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr | Alder House, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy. | lesddaliad | CYM340322 |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg | Denbigh Stores, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Ffordd y Rhyl, Dinbych. | rhydd-ddaliad | CYM312486 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r eiddo a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, ar 1 Mehefin 2012 (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo), oddi wrth Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (yr Ymddiriedolaeth).
Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r eiddo a restrir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, ar 1 Mehefin 2012 (a'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o'r eiddo hwnnw), oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, i'r Ymddiriedolaeth.
Mae erthygl 4 yn darparu bod rhaid i'r Ymddiriedolaeth lynu wrth delerau unrhyw lesoedd a drosglwyddwyd i'r Ymddiriedolaeth gan erthyglau 2 a 3.
O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826; O.S. 2002/442 (Cy.57); O.S. 2002/2199 (Cy.219); O.S. 2009/2059 (Cy. 178) ac O.S.2012/1262 (Cy.157).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: